Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd T. Higgins.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
“Adolygu'r ddarpariaeth cynnal a chadw Perthi ac Ymylon Priffyrdd” Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diwygiedig y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a luniwyd ar 17 Tachwedd 2017,sef ymchwilio i'r ddarpariaeth o ran cynnal a chadw perthi ac ymylon priffyrdd.
Nododd y Pwyllgor fod y Gr?p Gorchwyl a Gorffen wedi cyflwyno adroddiad terfynol i'r Pwyllgor ar 18 Mai 2018 lle penderfynwyd cyfeirio'r adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol i'w ystyried. Fodd bynnag, yn unol â'r Cyfansoddiad - Rhan 4.5 - Rheolau Gweithdrefn Craffu, yn dilyn trafodaeth anffurfiol yr Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol, cytunodd Cadeirydd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen i gyfeirio'r sylwadau a gyflwynwyd at y Gr?p Gorchwyl a Gorffen i'w hystyried ymhellach.
Yn ogystal, mewn ymateb i fater a gyfeiriwyd gan y Cyngor ar 12 Medi 2018 (gweler cofnod 8.3) roedd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn dilyn ymchwil ychwanegol wedi cynnwys adran ynghylch ymylon a dorrir yn hwyr ac yn dilyn hynny wedi cynnwys argymhelliad ychwanegol (2c).
Lluniodd y Gr?p yr argymhellion sydd yn yr adroddiad ar ôl ystyried yr ystod o dystiolaeth oedd dan sylw mewn cyfres o gyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr 2018 a mis Tachwedd 2018.
Cyflwynodd aelodau'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen bob un o'r argymhellion i'r Pwyllgor.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys yr atodiadau canlynol:
· Map o ardaloedd criwiau Sir Cyngor Sir Caerfyrddin · Canllawiau ar gyfer Contractwyr - Rheoli Ymylon Ffyrdd er Diogelwch ac er budd Bioamrywiaeth · Taflen – Tirfeddianwyr Cyfagos a'r Briffordd Gyhoeddus · Canllawiau Amgylcheddol ar gyfer Cynghorau Cymuned wrth reoli eich tir
Holodd y Pwyllgor ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a'i gyfeirio at sylw'r Bwrdd Gweithredol i'w hystyried.
|
|
TORRI PORFA - AMWYNDERAU PDF 128 KB Cofnodion: Gofynnodd y Pwyllgor, yn ei gyfarfod ar 29 Mehefin 2018, i gael cyflwyniad ar y ddarpariaeth bresennol o ran torri porfa amwynderau. Mewn ymateb i'r cais hwn, cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth a'r Rheolwr Tiroedd a Glanhau a roddodd wybodaeth am y canlynol:
Rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn cwestiynau yn dilyn y cyflwyniad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r cyflwyniad ar dorri porfa amwynderau.
|
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM YR ARDALOEDD RHEOLI ANSAWDD AER PRESENNOL YN SIR GAERFYRDDIN PDF 187 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer presennol yn Sir Gaerfyrddin. Atgoffwyd yr Aelodau fod Deddf yr Amgylchedd 1995 yn datgan bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a rheoli'r ansawdd aer yn eu hardal.
Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth fanwl i'r Pwyllgor am lefelau NO2 yn enwedig yn nhref Llandeilo ac ardaloedd Caerfyrddin a Llanelli yn ystod 2016, 2017 a 2018.
Atodwyd Cynllun Gweithredu ar gyfer Rheoli Ansawdd Aer pob ardal i'r adroddiad a oedd yn nodi mesurau penodol i'w hystyried er mwyn gwella'r ansawdd aer. Yn dilyn cyfnod ymgynghori cyhoeddus ffurfiol o wyth wythnos, roedd y sylwadau a gafwyd wedi cael eu cynnwys yn adroddiad 'Cynllun Gweithredu Caerfyrddin a Llanelli'
Nododd yr adroddiad fod y camau gweithredu yn parhau i gael eu gweithredu fel y nodwyd ar gam 2 y cynllun gweithredu, a bod lefelau NO2 yn parhau i gael eu monitro, fodd bynnag, roedd yr adroddiad yn cydnabod mai'r unig opsiwn hyfyw tymor hir tebygol a fyddai'n sicrhau gwelliant parhaol a phendant i'r aer yn Llandeilo fyddai darparu ffordd osgoi.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:
· Yn dilyn sylwadau yn ddiweddar gan y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth a fynegodd yn gyhoeddus ei fod yn gwrthwynebu ffordd osgoi Llandeilo, cyfeiriwyd at farwolaeth merch 9 blwydd oed yn 2013, a fu farw o anawsterau anadlu yn ymwneud ag asthma. Roedd hyn, ynghyd â'r newyddion diweddar am y cyswllt tebyg rhwng derbyniadau i'r ysbyty a chynnydd mewn llygredd aer a bod teulu'r ferch wedi cael caniatâd yn ddiweddar i gyflwyno cais o'r newydd am gwest i'w marwolaeth, yn bryderon sylweddol i'r Pwyllgor.
Cynigwyd felly bod y Pwyllgor Craffu yn ysgrifennu at y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth i fynegi pryderon y Pwyllgor. Cynigiwyd ymhellach anfon copi o'r llythyr at y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AC.
Rhoddodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ddiweddariad llafar ar y sefyllfa bresennol yngl?n â ffordd osgoi Llandeilo. Roedd y Cyngor wedi bod yn rhagweithiol wrth lobïo Llywodraeth Cymru i symud y cynllun ymlaen. Roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod £50m o'r neilltu ac roedd ar hyn o bryd yn aros am gwblhau ail gam arfarniad y cynllun yn unol â phroses Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG). Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr ansawdd aer ar Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, cadarnhaodd y Pen-ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd fod yr ardal yn cael ei monitro.
|
|
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiadau Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf fel yr oeddynt ar 31 Hydref 2018, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19. Roedd yr adroddiad yn rhoi i'r aelodau wybodaeth am fonitro'r gyllideb ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd, a'r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol. Yn gyffredinol, rhagwelir y bydd y gwasanaethau Amgylchedd, Diogelu'r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol ym mynd y tu hwnt i'r gyllideb a gymeradwywyd o £511k.
Roedd y prif amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf yn dangos gwariant net rhagweladwy o £16,717 o gymharu â chyllideb net weithredol o £16,820 gan roi amrywiant o £-103k.
Atodwyd Adroddiad Monitro Arbedion a oedd yn cynnwys cynigion 'cyrraedd y targed' a 'heb gyrraedd y targed' o ran arbedion rheoli.
Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 73 KB Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 22 Chwefror 2019.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 22 Chwefror 2019.
|
|
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 16 TACHWEDD 2018 PDF 247 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2018 gan eu bod yn gywir.
|