Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Speake, J.S. Phillips a H.A.L. Evans (Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd)

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

T. Higgins

7

Preswylydd yn Heol Pen-y-garn

 

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau wedi dod i law.

 

4.

PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19 pdf eicon PDF 368 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ar ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2018/19, a oedd wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor Sir. Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar y rhaglen waith a'r materion allweddol yr oedd y Pwyllgor wedi eu hystyried. Hefyd roedd yr adroddiad yn manylu ar y sesiynau datblygu i'r Aelodau, yn ogystal â'u presenoldeb yng nghyfarfodydd y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

5.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CWARTER 1 - 1AF EBRILL I'R 30AIN O FEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Perfformiad ynghylch Amcanion Llesiant 2019/20 y Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer Chwarter 1. Roedd yr adroddiad yn cynnwys camau gweithredu a mesurau mewn perthynas â'r Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2018-2023 i gyflawni'r Amcanion Llesiant ar gyfer 2019/20 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

Nodwyd bod saith o blith y 64 o gamau gweithredu a mesurau o fewn yr adroddiad wedi cael eu symud ymlaen hyd at ddwy flynedd heb unrhyw eglurhad. Gofynnodd yr aelodau sut roedd penderfyniadau i symud targedau'n cael eu gwneud ac a oedd y penderfyniad wedi cael ei wneud gan y Bwrdd Gweithredol. Rhoddodd yr Uwch-swyddog Rheoli Perfformiad wybod bod rhai camau gweithredu wedi cael eu hadolygu yn unol â'r Strategaeth Gorfforaethol. Yn ogystal, mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch y diffyg sylw roedd yr adroddiad yn ei roi i rai targedau, gan nodi bod targedau mewn perthynas â gwastraff yn ymddangos yn benodol iawn, ond roedd y targedau a bennwyd i leihau'r defnydd o ynni yn ymddangos yn amhendant mewn cymhariaeth. Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol oedd yn bresennol wybod y byddai'n sôn am y pryderon i'r Bwrdd Gweithredol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch strategaethau ardaloedd penodol mewn perthynas â Cham Gweithredu 10486, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Gwastraff wybod i'r Aelodau nad oedd dadansoddiad o bob ardal ar gael ond gellid rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynlluniau at y dyfodol mewn ardaloedd lleol.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at Gam Gweithredu 14088 a oedd yn cyfeirio'n rhannol at g?n yn baeddu, a rhoddwyd gwybod iddynt fod y mater yn dal i gael ei adolygu. Nododd y Cadeirydd fod y pwyllgor wedi cytuno i gynnal cyfarfod i drafod rheoliadau arfaethedig mewn perthynas â Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, a hynny yn ei gyfarfod ym mis Mai (Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, 17 Mai 2019, Cofnod 6.3). Byddai c?n yn baeddu/mesurau rheoli yn cael eu hystyried yn y cyfarfod hwnnw. Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol oedd yn bresennol wybod y byddai'n fodlon mynychu'r cyfarfod.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch Cam 14093 mewn perthynas â'r rhaglen Buddsoddi er mwyn Arbed, a oedd yn cynnig benthyciadau i Gynghorau Tref a Chymuned i newid lampau stryd i olau Deuodau Allyrru Golau (LED), rhoddodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth wybod mai rhwng Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Sir oed y benthyciad ac yna byddai cytundeb benthyg ar wahân yn cael ei greu rhwng y Cyngor Sir a'r Cyngor Cymuned perthnasol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth ynghylch lleoliad y 26 o bwyntiau gwefru newydd y cyfeiriwyd atynt yng Ngham 13270. Roedd yr Aelodau'n awyddus i weld y pwyntiau gwefru hyn yn cael eu gosod mewn mannau gwledig fel y nodir yn y targed. Rhoddodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth wybod bod grant o £220,000 gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i osod 26 o bwyntiau gwefru cyhoeddus ledled y sir, yn bennaf mewn trefi a phentrefi lle y mae meysydd parcio. Nodwyd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20 pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb Gyfalaf a'r Gyllideb Refeniw dyddiedig 30 Mehefin mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2019/20. Nododd yr adroddiad fod Gwasanaethau o fewn maes gorchwyl Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn rhagweld gorwariant o £508,000.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y tangyflawniad o £82,000 o ran incwm o Les Anifeiliaid. Rhoddodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel wybod bod hyn yn debygol oherwydd bod hen ddilysiadau ariannol wedi cael eu defnyddio wrth osod y gyllideb. Dywedodd hefyd y byddai dilysiadau yn y dyfodol yn fwy realistig.

 

Mewn ymateb i gais am eglurhad ynghylch a oedd y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd yn agos at ei gyllido ei hun, rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod llai na'r disgwyl yn defnyddio'r gwasanaeth ac y byddai amcanestyniadau'n cael eu gohirio tan flwyddyn pedwar neu flwyddyn pump.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad

 

 

7.

ADRODDIAD DATGANIAD BLYNYDDOL 2019: Y CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Datganiad Blynyddol 2019 y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

Wrth nodi bod Sir Gaerfyrddin yn safle 21 o'r 22 o awdurdodau yng Nghymru oedd â phrif ffyrdd (A) mewn cyflwr gwael, gofynnodd yr Aelodau a oedd hyn yn bryder mawr. Dywedodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y graff perfformiad ar dudalen 82 yn yr adroddiad yn rhoi amcan diddorol o'n perfformiad mewn perthynas ag awdurdodau lleol eraill, fodd bynnag nid oedd yn ystyried y gwariant fesul milltir. Yn dilyn yr ateb a gafwyd gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am ddulliau newydd neu amgen o atgyweirio tyllau yn y ffyrdd. Rhoddodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth wybod bod gan yr adran ddiddordeb mewn dulliau amgen bob amser, ond pwysleisiodd mai hirbarhad, ffrithiant yr arwyneb a diogelu rhag y tywydd oedd y prif ofynion ar gyfer unrhyw driniaeth. Tynnodd yr Aelodau sylw at broblemau'n ymwneud â thyllau yn y ffyrdd yn lleol, a rhoddwyd gwybod iddynt y byddai aelodau unigol y tu allan i broses y pwyllgor yn rhoi sylw i'r rhain. 

 

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar i'r Aelodau ynghylch y trefniadau i newid rôl y Rheolwr Traffig a Diogelwch Ffyrdd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 323 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhestr o eitemau ar gyfer y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 15 Tachwedd 2019 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am wybodaeth i'w chynnwys yn yr adroddiadau.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at seminar diweddar ynghylch Gwywiad Ynn a gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â'r mater hwn. Mynegwyd pryderon penodol ynghylch y gost o drin y clefyd ffyngaidd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

9.1    dderbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol;

9.2    bod Adroddiad Blynyddol Materion Defnyddwyr a Busnes yn cael ei ddosbarthu y tu allan i broses y pwyllgorau;

9.3    ddosbarthu'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Gwywiad Ynn i'r Aelodau y tu allan i broses y pwyllgorau.

 

 

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5 GORFFENNAF 2019 pdf eicon PDF 283 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf, 2019 yn gofnod cywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau