Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Matthew Hughes
Rhif | eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi’r Cynghorydd A.P. Cooper yn Gadeirydd y cyfarfod. |
||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr I.W. Davies, W.J. Lemon, D.W.H. Richards, K.P. Thomas, W.G. Thomas a J.E. Williams. |
||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
||||||||||||||||
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD No declerations were received. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau. |
||||||||||||||||
CWESTIYNAU CYHOEDDUS Cofnodion: Ni chafwyd dim cwestiynau gan y cyhoedd. |
||||||||||||||||
CYNNAL CLUDIANT I’R YSGOL/COLEG AR GYFER DISGYBLION ÔL-16 PDF 326 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Cynghorydd D.J.R. Bartlett wedi datgan buddiant sef ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Dyffryn Aman.
Roedd y Cynghorydd C.A. Campbell wedi datgan buddiant sef bod ganddo ddau o blant mewn addysg uwchradd a allai barhau mewn addysg ôl-16.
Roedd y Cynghorydd A. James wedi datgan buddiant sef bod ganddo blant mewn addysg amser llawn.
Roedd Mr. S. Pearson wedi datgan buddiant sef bod ganddo blant mewn addysg amser llawn.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a fanylai ar gynnig i godi tâl am gludiant i'r ysgol/coleg ar gyfer disgyblion ôl-16. Cyflwynwyd yr adroddiad i aelodau'r ddau Bwyllgor Craffu er mwyn iddynt roi sylwadau, fel rhan o'r broses ymgynghori ffurfiol.
Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg wrth y Pwyllgor fod y Cyngor Sir, yn ei gyfarfod ar 24ain Chwefror 2015, wedi cymeradwyo strategaeth tair blynedd y gyllideb, a bod rhan o hynny'n cynnwys cytundeb "i barhau â'r Gwasanaeth Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol/Coleg gan fynd ati i godi tâl, a fyddai'n cael ei gyflwyno'n raddol dros nifer o flynyddoedd", yn amodol ar "eithrio unrhyw blant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim yn ogystal ag eithrio'r plant sy'n ddisgyblion yn ysgol Pantycelyn ar hyn o bryd”.
Hefyd atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg fod cludiant ôl-16 yn wasanaeth anstatudol a bod y Cyngor hyd yma wedi dewis defnyddio disgresiwn a darparu gwasanaeth. Fodd bynnag, oherwydd yr her ariannol sylweddol a wynebai'r Awdurdod ar hyn o bryd a hyd y gellir rhagweld yn y dyfodol, roedd y cynnig hwn wedi cael ei lunio er mwyn cynnal gwasanaeth cludiant ôl-16, yn dilyn trafodaethau â'r prif bartneriaid.
Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:
Cyfeiriwyd at drafodaethau mewn cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ym Mehefin 2015 pryd y rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod trafodaethau'n cael eu cynnal gydag ysgolion a Choleg Sir Gâr a gofynnwyd pa gynnydd a wnaethpwyd. Hefyd gofynnwyd am eglurhad mewn perthynas â'r cymhorthdal a ddarperir i'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg wrth y Pwyllgor fod swyddogion wedi ceisio, trwy gydol y trafodaethau, i gynnal y gwasanaeth. Roedd y Coleg hefyd yn wynebu pwysau ariannol ac er bod y swyddogion wedi ceisio cael rhagor o gyfraniadau, nid oedd hynny'n bosibl. Fodd bynnag, roedd y Coleg wedi ymrwymo i gynnal ei gyfraniad presennol sef tua £700,000 i gefnogi'r gwasanaeth. £477,000 oedd effaith net cymhorthdal yr Awdurdod.
Yn ateb i gwestiwn ynghylch y penderfyniad a wnaed gan y Cyngor Sir yn Chwefror 2015, ail-gadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg y byddai unrhyw ddisgyblion a oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim yn cael eu heithrio rhag y tâl ac y byddai'r holl blant sy'n ddisgyblion yng Nghampws Pantycelyn o Ysgol Bro Dinefwr ar hyn o bryd, yn cael eu heithrio hefyd. Fodd bynnag, yn achos plant ysgol gynradd yn ardal Llanymddyfri a fyddai'n symud i Ysgol Bro Dinefwr yn y dyfodol, ni fyddent hwy'n cael eu heithrio petaent yn dymuno parhau mewn addysg ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |