Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, A.D.T Speake a P. M. Hughes [yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd].
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
CYNLLUN CYFLAWNI GWASANAETH 2017/18 GWASANAETHAU DIOGELU'R AMGYLCHEDD PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad oedd yn cynnwys Cynllun Cyflawni Gwasanaethau 2017/18 Gwasanaethau Diogelu'r Amgylchedd . Roedd y Cynllun yn cynnwys amlinelliad o nodau ac amcanion gwasanaeth y Cyngor gan ddarparu dolenni cyswllt i'r amcanion a'r cynlluniau corfforaethol.
Roedd y Cynllun yn nodi cwmpas a gofynion Gwasanaethau Diogelu'r Amgylchedd ac yn cynnwys dadansoddiad o'r adnoddau, gan gynnwys costau staffio, gwaith gweinyddol, nwyddau a gwasanaethau, hyfforddiant ac ati, ynghyd â chymariaethau rhwng y blynyddoedd ariannol.
Noddodd y Pwyllgor ei bod yn ofynnol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fod yr Adain Diogelu'r Amgylchedd yn llunio Cynllun Cyflawni Gwasanaethau blynyddol.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
Mewn perthynas â cheisiadau o ran y Gwasanaeth Safonau, Diogelwch a Hylendid Bwyd, gofynnwyd pam roedd nifer y ceisiadau wedi cynyddu'n sylweddol ers 2009/10. Dywedodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd wrth y Pwyllgor mai'r prif reswm dros y cynnydd oedd gwella ac uno'r broses gofnodi.
Mewn perthynas â'r rhan o'r adroddiad ynghylch Rheoli ac Ymchwilio i Achosion o Glefydau Heintus sy'n gysylltiedig â Bwyd, holwyd sut y caiff y potensial o glefydau yn lledaenu ei reoli mewn perthynas â Llwybr Dyffryn Tywi. Eglurodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd er bod defnyddwyr y llwybr yn cael eu hannog i gadw at y llwybr a chadw c?n ar dennyn, y byddai'r adran yn gweithio'n agos gydag amrywiol asiantaethau i fonitro a lleihau unrhyw risgiau posibl o ledaenu clefydau heintus. Ychwanegodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod risg bosibl materion bioddiogelwch wedi cael ei hystyried fel rhan o'r broses gynllunio ac er y canfuwyd bod y risg i bioddiogelwch yn fach iawn, roedd mesurau lliniaru fel gridiau gwartheg wedi cael eu cynnwys.
Mewn perthynas â gosod microsglodion mewn c?n a chamau gorfodi, cyfeiriwyd at ddiffyg cyllid ychwanegol a fyddai wedi cael ei ddefnyddio i roi'r ddeddfwriaeth ar waith, a oedd wedi arwain at gynnydd yn y galw ar y swyddogion. Mynegwyd pryder ynghylch argraff y cyhoedd o'r wybodaeth hon. Pwysleisiodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd er bod y cyllid wedi dod i ben fod y gwaith gorfodi yn dal i gael ei wneud ond ei fod yn fwy seiliedig ar wybodaeth.
Gofynnwyd a allai'r Cyngor orfodi perchnogion c?n newydd i ddiweddaru gwybodaeth y microsglodyn ar ôl newid perchenogaeth. Dywedodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd y byddai'n cyfeirio at y ddeddfwriaeth bresennol ac yn rhoi gwybod i'r Aelodau.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y mesurau ansawdd aer yn Llandeilo, dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod cyllid wedi'i ddyrannu i Lywodraeth Cymru i gyflawni'r cynllun i adeiladu ffordd osgoi. Fodd bynnag, roedd newidiadau i ddeddfwriaeth yn golygu y byddai angen ail-wneud cam 2 y Broses Arfarnu Trafnidiaeth er mwyn sicrhau bod yr ymyrraeth iawn yn cael ei rhoi ar waith.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cynllun Cyflawni Gwasanaethau 2017/18 Gwasanaethau Diogelu'r Amgylchedd.
|
|
Y DIWEDDARAF YNGHYLCH Y RHAGLEN FUDDSODDI O RAN PRIFFYRDD, TROEDFFYRDD A DIOGELWCH FFYRDD PDF 124 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru ynghylch y Rhaglen Fuddsoddi o ran Priffyrdd, Throedffyrdd a Diogelwch Ffyrdd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau mewn perthynas â diogelwch ffyrdd a seilwaith cysylltiedig.
Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am yr agweddau canlynol:-
· Cynllun Trafnidiaeth Lleol / Cronfa Trafnidiaeth Leol · Llwybrau Diogel yn y Gymuned · Y Ddeddf Teithio Llesol a Rhwymedigaethau'r Awdurdod Lleol · Rhaglen Gwella Diogelwch Ffyrdd a Gwella Troedffyrdd · Grant Diogelwch Ffyrdd Lleol (Cyfalaf) · Rhaglen Rheoli Traffig ac Atal Damweiniau
Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o'r cyllid ar gyfer cynlluniau yn ymwneud â diogelwch ffyrdd a chynlluniau seilwaith eraill yn 2017/18 a'r rhaglen wedi'i blaenoriaethu ar gyfer diogelwch ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch canlyniadau'r ymgynghori ynghylch y llwybr beicio, dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod Cynllun Gweithredu Teithio Llesol o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 oedd yn pwysleisio pwysigrwydd ymgynghori'n effeithiol wrth ddatblygu'r llwybr presennol a mapiau rhwydwaith integredig a'i fod yn cynnwys blaenoriaethau tymor byr, canolig a hir. Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai'n anfon dolen i'r Cynllun Gweithredu Teithio Llesol ymlaen at yr Aelodau er gwybodaeth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y Rhaglen Fuddsoddi o ran Priffyrdd, Throedffyrdd a Diogelwch Ffyrdd.
|
|
ADOLYGU'R PROSIECT NEWID I OLEUADAU LED PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ynghylch y camau gweithredu a'r cynnydd o ran y rhaglen newid i oleuadau LED.
Nododd yr Aelodau fod yr adroddiad yn rhoi manylion ynghylch y camau gweithredu a'r arbedion sydd wedi eu cyflawni wrth agosáu at ddiwedd ail gam y rhaglen.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch gweithio gyda chynghorau cymuned, dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod nifer o gynghorau cymuned nad oeddent yn rhan o'r cynllun presennol. Fodd bynnag, roedd darn o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i ddatblygu pecyn er mwyn trafod ymhellach â'r Cynghorau Cymuned.
Gofynnwyd cwestiwn arall ynghylch cost y goleuadau i gynghorau cymuned. Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai ad-daliadau yn cael eu haddasu a'u codi yn unol â hynny.
Nodwyd bod pryder ymhlith trigolion y gymuned ynghylch gwahanol liw y goleuadau a gofynnwyd wedyn a oedd amserlen benodol ar gyfer cwblhau'r gwaith. Eglurodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod problem wedi dod i'r amlwg yn ystod y 6 mis diwethaf ynghylch lampau sodiwm ond cyn gynted ag y bydd rhagor o wybodaeth ar gael byddai'n rhoi honno i'r Aelodau. Yn y cyfamser byddai'n cael amserlen benodol gan y tîm.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y Prosiect Newid i Oleuadau LED.
|
|
LLWYBR DYFFRYN TYWI - GWARIANT PDF 536 KB Cofnodion: Ar ôl ystyried mater a gyfeiriwyd gan y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau, roedd y Pwyllgor wedi gofyn yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2018 [gweler cofnod 11] am gael adroddiad oedd yn rhoi manylion am y gwariant ar Lwybr Dyffryn Tywi er mwyn i'r Pwyllgor archwilio'r gwariant hwnnw.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch Llwybr Dyffryn Tywi – Gwariant oedd yn rhoi gwybodaeth fanwl i'r Aelodau gan gynnwys:-
· Cyflwyniad i'r prosiect a'i gefndir · Y gwariant hyd yn hyn · Proffil gwariant gan gynnwys dadansoddiad o'r cyllid hyd yn hyn · Proffil Cyllido yn y Dyfodol · Manteision yn y dyfodol
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y dyddiad cwblhau, dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd, yn unol â'r Flaenraglen Waith, y rhagwelwyd mai dyddiad cwblhau'r prosiect fyddai diwedd Mawrth 2019.
Gofynnwyd cwestiwn ynghylch defnydd cynhwysol y llwybr a sut y byddai'n darparu ar gyfer marchogion a defnyddwyr cadeiriau olwyn. Eglurodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y tîm yn cysylltu â Chymdeithas Ceffylau Prydain ar hyn o bryd ac yn ymgysylltu ag amrywiaeth o grwpiau pobl anabl er mwyn sicrhau bod y dyheadau yn cyd-fynd o ran sut y gall y llwybr ddarparu ar gyfer gwahanol grwpiau defnyddwyr orau.
Dywedwyd nad oedd yr adroddiad wedi cynnwys yr agweddau ariannol yn ymwneud â chynnal a chadw'r llwybr yn y dyfodol. Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai'r gwaith cynnal a chadw yn cael ei ystyried fel rhan o'r prosiect ac y byddai'n cael ei gynnwys fel rhan o'r gwariant cyfalaf.
Mewn ymateb i sylw ynghylch trafod â'r ffermwyr, dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod darnau o dir wedi eu caffael ar ochr orllewinol y llwybr a bod peth tir ar ochr ddwyreiniol y llwybr yn mynd drwy'r broses gynllunio ar hyn o bryd.
Awgrymwyd y byddai'n fuddiol i'r Pwyllgor gael cyflwyniad ynghylch Llwybr Dyffryn Tywi. Cytunodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth i roi cyflwyniad i'r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-
8.1 Llwybr Dyffryn Tywi – Derbyn yr adroddiad ynghylch gwariant; 8.2 trefnu i'r Pwyllgor gael cyflwyniad ynghylch Llwybr Dyffryn Tywi.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 70 KB Cofnodion: Nododd yr Aelodau fod newid wedi bod, ers y cyfarfod ar 15 Ionawr, 2018, i'r rhestr o'r eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 2 Mawrth 2018, oherwydd bod adroddiadau wedi eu cynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod ychwanegol hwn.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhestr ddiwygiedig o eitemau ar gyfer y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 2 Mawrth 2018 a rhoddwyd y cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am wybodaeth i'w chynnwys yn yr adroddiadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr ddiwygiedig o eitemau a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 2 Mawrth 2018.
|