Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr W.J. Lemon, K.P. Thomas ac W.G. Thomas. 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

 

Cllr. D.E. Williams

 

 

8. Adroddiad Monitro ynghylch Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2015/16

 

 

Perchennog cyfreithiol Troadau Cystanog (ar y B4300, Capel Dewi)

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau.

4.

CWESTIYNAU CYHOEDDUS

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 210 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYDnodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ddydd Iau, 12fed Tachwedd 2015.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL 2014/15 pdf eicon PDF 297 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawyd y Cynghorydd P.A. Palmer (Cadeirydd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol) a'r Prif Arolygydd C. Templeton (Heddlu Dyfed-Powys) i'r cyfarfod gan y Cadeirydd.

 

Cafodd adroddiad blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gaerfyrddin, a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gyswllt â'r Heddlu, Diogelwch Cymunedol, Cyfiawnder Cymdeithasol/Troseddau ac Anrhefn (a oedd hefyd yn Gadeirydd y Bartneriaeth), ei roi gerbron y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn rhoi sylw i'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â throseddau ac anhrefn yn ystod 2014/15 a'r newyddion diweddaraf gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a'r gwasanaeth Prawf. Hefyd roedd yn rhoi sylw i'r prif feysydd lle roedd gweithio mewn partneriaeth ac i flaenoriaethau presennol y grwpiau gweithredu amlasiantaeth a oedd yn gyrru'r agenda diogelwch cymunedol yn ei blaen.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at risgiau diogelwch mewn dyfrffyrdd mewndirol ac o'u cwmpas a gofynnwyd pwy oedd yn gyfrifol dros arwain ynghylch materion o'r fath gan nad oedd gan yr RNLI ddigon o weithwyr i gyflawni'r gwaith hwn. Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau wrth y Pwyllgor ei bod wedi cynnal cyfarfod yn ddiweddar â gr?p newydd yng Nghaerfyrddin (Partneriaeth Diogelwch D?r Sir Gaerfyrddin) a bod y mater i'w drafod yng nghyfarfod nesaf y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Roedd y materion yr oedd angen mynd i'r afael â nhw yn cynnwys egluro pa sefydliad oedd yn gyfrifol dros gynnal a chadw offer diogelwch megis bwiau achub. Sicrhaodd hi'r Pwyllgor y byddai'r sefydliadau amrywiol yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â hyn a'i bod hi'n barod rhoi diweddariad mewn cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Yn ateb i gwestiwn ynghylch faint o ddata o gamerâu Teledu Cylch Cyfyng a ddefnyddiwyd i ddatrys troseddau, dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol wrth y Pwyllgor fod y wybodaeth hon yn cael ei chynnwys o'r blaen yn yr adroddiad blynyddol. Fodd bynnag, o Fehefin 2015 ymlaen, nid oedd ystadegau'n cael eu coladu bellach gan fod y monitro byw wedi dod i ben.

 

Gofynnwyd a fyddai modd defnyddio gwirfoddolwyr i fonitro camerâu Teledu Cylch Cyfyng yn fyw o'u cartrefi nhw.Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol fod yn rhaid i weithredwyr gydymffurfio â gofynion y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) a Diogelu Data ac y byddai'n amhriodol i wirfoddolwyr sydd heb eu hyfforddi wylio delweddau byw o'r cyhoedd.   Fodd bynnag, roedd trafodaethau ar waith gyda chynrychiolwyr yr Heddlu ynghylch y modd y gallai'r camerâu gael eu defnyddio yn y dyfodol a'r defnydd gorau ohonynt.

 

Gofynnwyd cwestiwn ynghylch ymgyrch ‘#PaulsPledge’ a gofynnwyd am eglurhad o ran pa gefnogaeth roedd Paul Pugh yn ei gael gan y Bartneriaeth. Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol wrth y Pwyllgor fod Heddlu Dyfed-Powys yn arwain ynghylch yr ymgyrch hon a bod yr Awdurdod yn rhoi costau teithio i Mr. Pugh pan fyddai'n hyrwyddo'i ymgyrch mewn digwyddiadau ledled y sir. Hefyd roedd elusennau eraill yn cefnogi gwaith Mr. Pugh.

 

Croesawyd y gostyngiad yn y rhan fwyaf o'r categorïau troseddau ond  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM YR YMWELIADAU Â'R GWASANAETHAU CAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU pdf eicon PDF 333 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried diweddariad ynghylch yr ymweliadau a wnaed gan Aelodau'r Bwrdd Gweithredol, oedd â chyfrifoldeb dros gamddefnyddio sylweddau ac iechyd a gofal cymdeithasol, â darparwyr gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Cynhaliwyd yr ymweliadau mewn ymateb i argymhelliad gan Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor, yn dilyn ei adolygiad o'r Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yn ystod 2013/14. 

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Awgrymwyd mai'r unigolion hynny oedd heb ofyn am gymorth oedd y rhai a achosai'r aflonyddwch pennaf mewn cymunedau. Canmolwyd y Cyngor am ddefnyddio deddfwriaeth newydd yn ddiweddar i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus mewn eiddo ym Mhen-y-groes drwy gyhoeddi Hysbysiad Cau i ddiogelu tenantiaid a phreswylwyr oedd yn byw ger yr eiddo. Cytunodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau ei bod yn bwysig dangos na fyddai ymddygiad gwrthgymdeithasol annerbyniol yn cael ei ganiatáu ond hefyd dylid atgoffa unigolion bod cymorth fel yr hyn a ddarperir gan y gwasanaethau trin camddefnyddio sylweddau ar gael.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid gwahodd Cadeirydd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a gyflawnodd yr adolygiad o'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau i ddod gyda'r Aelodau perthnasol o'r Bwrdd Gweithredol ar ymweliadau yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor â'r cynnig hwn.

 

 PENDERFYNWYD:

 

7.1       Bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn

 

7.2       Bod Cadeirydd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen (yn ystod yr Adolygiad o'r Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau) yn dod gyda'r Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol ar ymweliadau yn y dyfodol.

 

 

8.

ADRODDIAD MONITRO'R CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2015/16 pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cyng. D.E. Williams wedi datgan buddiant gan ei fod ef yn berchennog cyfreithiol Troadau Cystanog (ar y B4300, Capel Dewi).

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiadau Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Tîm Diogelwch Cymunedol, fel yr oeddynt ar 30ain Mehefin 2015, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2015/16. Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Yn ateb i gwestiwn am statws presennol trosglwyddo cyfleusterau cyhoeddus, nododd Cyfrifydd y Gr?p fod yr amrywiad o £44,000 yn ymwneud â'r costau oedd yn parhau fel rhan o'r rhaglen dreigl dair blynedd o drosglwyddiadau.

 

Cyfeiriwyd at yr amrywiad o £50,000 yn y gwasanaeth Dylunio Sifil a gofynnwyd am eglurhad ynghylch ffynhonnell yr incwm. Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p wrth y Pwyllgor fod yr incwm yn dod o gleientiaid mewnol ac allanol a bod adolygiad o'r cyfraddau'r awr a'r cynhyrchiant yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i geisio gwneud iawn am y diffyg posibl mewn incwm. Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor fod Timau Dylunio Priffyrdd a Ffyrdd nad ydynt yn Briffyrdd yn uno ar hyn o bryd. Y Cyfarwyddwr blaenorol oedd wedi cynnig hyn ac roedd yr ailstrwythuro'n digwydd er mwyn cronni sgiliau a gwybodaeth, bod yn llai dibynnol ar ymgynghorwyr allanol ac ymdrin â chynnydd a gostyngiad yn y galw.

 

Yn ateb i sylwadau pellach ynghylch creu incwm a'r costau oedd yn gysylltiedig â swyddi gwag, cytunodd Cyfarwyddwr Dros Dro yr Amgylchedd fod gwaith y Gwasanaeth Dylunio yn gyfle i greu incwm i'r Awdurdod. Un enghraifft o hyn oedd y gwaith oedd yn digwydd gyda sefydliadau allanol yn y sector cyhoeddus i reoli fframweithiau contractwyr rhanbarthol. Roedd y costau oedd yn gysylltiedig â swyddi gwag yn dangos fod pob swydd yn y gwasanaeth hwn yn creu incwm i'r Awdurdod a bod cyflogi staff yn risg pan fyddai'r galw am waith yn gostwng. Dyma reswm arall pam roedd yr Awdurdod Lleol yn gweithio gyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, a thrwy hynny'n sicrhau bod rhaglenni gwaith yn y dyfodol yn cael eu cynllunio'n well. 

 

Gofynnwyd pam roedd amrywiad o £393,000 yng nghyllideb y Gwasanaethau Eiddo oherwydd targed incwm nad oedd modd ei gyflawni, a hithau'n hysbys y byddai gwaith Safon Tai Sir Gaerfyrddin yn gostwng yn y pen draw wrth i'r prosiect gael ei gwblhau. Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p a Chyfarwyddwr Dros Dro yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor fod y Gwasanaeth yn ystyried amrywiol arbedion effeithiolrwydd a bod uwch swyddogion yn edrych ar y mater hwn gan ei fod yn fater a oedd wedi cael ei gydnabod ers cryn amser a bellach roedd pethau wedi mynd i'r pen.

 

Gofynnwyd a fyddai cronfeydd a glustnodwyd (corfforaethol neu adrannol) yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â'r amrywiad diwedd blwyddyn a ragwelir sef £379,000. Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p wrth y Pwyllgor fod cronfeydd adrannol a phenodol y gellid eu defnyddio i dalu'r gorwariant ond bod yr ymarfer monitro diweddaraf  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYNO ADRODDIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 150 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhesymau dros beidio â chyflwyno'r adroddiad ynghylch Effaith Safonau Masnach Awdurdod Lleol mewn Cyfnod Heriol, adroddiad yr Adolygiad o Oleuadau Stryd yn ogystal ag Adroddiad Blynyddol 2014/15 y Gwasanaethau Diogelu.

10.

DERBYN A LLOFNODI COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR YR 26AIN O FEHEFIN 2015 pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd D.C. Evans i'r cofnodion gael eu newid er mwyn iddynt ddangos ei fod ef yn bresennol yn y cyfarfod diwethaf.

 

PENDERFYNWYDllofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26ain Mehefin 2015 yn gofnod cywir, yn amodol ar gynnwys y newid uchod.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau