Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen ext 4030 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, A. James a

J. James.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2019/20 TAN 2021/22 pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2019/20 - 2021/22 (Atodiad A) a oedd wedi'i chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 19 Tachwedd 2018.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019/2020, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020/2021 a 2021/2022. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 9 Hydref 2018.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol er bod y setliad dros dro a gyhoeddwyd yn cynrychioli gostyngiad o 0.3% ar gyfartaledd ledled Cymru ar setliad 18/19, mae'r effaith ar Sir Gaerfyrddin, ar ôl ystyried ffactorau megis talu cost y dyfarniad cyflog athrawon a chymhwysedd o ran prydau ysgol am ddim, yn ostyngiad o 0.5%, sy'n cyfateb i £1.873m.

 

Gan grynhoi, byddai'r cynigion ar gyfer y gyllideb yn darparu'r £28 o arbedion a nodwyd dros gyfnod y cynllun. At hynny, roedd cynigion y gyllideb yn tybio cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.89% ar gyfer 2019/20.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol hefyd yn dilyn cyhoeddi cynigion cyllideb y Cyngor ar gyfer ymgynghori, fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £13m yn ychwanegol i ychwanegu at y Grant Cynnal Refeniw Cymru ar gyfer 2019/20. Er bod manylion penodol am y cyhoeddiad eto i ddod i law, amcangyfrifwyd y byddai effaith hyn ar Sir Gaerfyrddin yn golygu gostyngiad yn y cyllid i 0.2% dros gyfnod setliad 18/19. Yn ogystal, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi grant ychwanegol o £7.5m ledled Cymru i ariannu dyfarniad cyflog yr athrawon yn rhannol;

 

Nododd y Pwyllgor mai peidio â chyrraedd targedau o ran incwm meysydd parcio a gostyngiad mewn incwm yn sgil ceisiadau cynllunio oedd yn gyfrifol yn bennaf am orwariant Adran yr Amgylchedd a'r amcanestyniad presennol ynghylch y Canlyniadau Refeniw ar gyfer 2018/19.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·         Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd;

·         Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer Gwasanaethau'r Amgylchedd;

·         Atodiad B – Y rhannau o'r gyllideb sy'n ymwneud â Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd, yr Amgylchedd a Diogelwch Cymunedol;

·         Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd.


Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at arbedion effeithlonrwydd y Cyngor mewn perthynas â'r Priffyrdd - Ysgubo Ffyrdd Gwledig yn Atodiad A(i).  Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr effaith o ran diogelwch yn sgil peidio â gwneud y gwaith a gynllunnir i ysgubo ffyrdd gwledig, dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd er mai'r cynnig oedd peidio â gwneud gwaith ysgubo ad hoc a’r gwaith a gynllunnir, y byddai'r adran yn ymateb i argyfyngau yn ôl y galw, o bosibl drwy gyflogi contractwyr.  Y bwriad oedd y byddai arbedion yn cael eu cyflawni yn sgil lleihau'r gwasanaeth yn rhannol, er enghraifft gellir cysylltu atodiadau ysgubo mecanyddol â JCBs am gost gymharol isel wrth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CANLLAW DYLUNIO PRIFFYRDD SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn atodiad i'r Canllaw Dylunio Priffyrdd diwygiedig.  Roedd y canllaw wedi'i lunio gyda'r nod o ddarparu arweiniad i ddatblygwyr, dylunwyr a gweithwyr proffesiynol eraill wrth baratoi seilwaith trafnidiaeth ac ymyriadau cysylltiedig mewn perthynas ag ystod eang o ddatblygiadau yn Sir Gaerfyrddin. 

 

Byddai'r Canllaw Dylunio Priffyrdd yn cymryd lle'r Canllaw Dylunio Priffyrdd presennol a grëwyd ym 1997.  Nododd y Pwyllgor mai prif nod y Canllaw Dylunio Priffyrdd oedd annog datblygwyr i greu dyluniadau Priffyrdd a fyddai'n cynnwys cymeriad nodedig yn yr amgylchedd adeiledig a'r dirwedd, wrth ddefnyddio safonau dylunio a fyddai'n sicrhau darpariaeth ddiogel a chynaliadwy ar gyfer yr holl ddefnyddwyr.

 

Yn ogystal, mae'r Canllaw yn pennu disgwyliadau'r Awdurdod o ran dyluniad seilwaith priffyrdd ar gyfer datblygiadau yn y Sir fel a ganlyn:

 

1.    Nodau ac Amcanion y Canllaw Dylunio

2.    Y Broses Gynllunio

3.    Y Cyd-destun o ran Polisi

4.    Y Broses Ddylunio

5.    Safonau Dylunio

6.    Adeiladu, Cynnal a Chadw a Chytundebau Statudol

 

Byddai'r Canllaw Dylunio Priffyrdd yn cael ei ddefnyddio fel dogfen bolisi allweddol i'r swyddogion Cydgysylltu Cynllunio Priffyrdd a'r Awdurdod Cynllunio Lleol gyfeirio ati wrth asesu ceisiadau cynllunio a gwneud penderfyniadau yn eu cylch.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

Cyfeiriwyd at dudalen 47 y Canllaw Dylunio Priffyrdd. Mewn perthynas â'r ffyrdd a fabwysiadwyd, gofynnwyd am ragor o eglurdeb ynghylch y cytundeb adran 278.  Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd nad oedd rhai o'r ffyrdd ar ddatblygiadau tai newydd yn cael eu mabwysiadu gan yr Awdurdod Lleol oherwydd na chydymffurfir â'r safonau gofynnol ar gyfer mabwysiadu a bennir yn y Canllaw Dylunio Priffyrdd.  Yn ogystal, ar hyn o bryd nid oedd pwerau cyfreithiol ar waith i'w gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr godi safonau'r ffyrdd i gyrraedd y safon ofynnol.

 

Hefyd, dywedwyd bod y ddarpariaeth o ran parcio ar ddatblygiadau tai newydd yn annigonol yn aml.  Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod canllawiau yn Safonau Parcio Cymru 2014 gan Gymdeithas Syrfewyr Sirol (CSS) Cymru yn ceisio lleihau tarfu ac yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy drwy beidio â darparu gormod.  Efallai y bydd mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol diwygiedig yn mynd i'r afael â'r problemau hyn yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i bryder a godwyd ynghylch y gwaith cynnal a chadw parhaus ar briffyrdd nas mabwysiadwyd ac a allai'r Cyngor wneud unrhyw beth i wella amserlen y datblygwyr, dywedodd y Rheolwr Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd nad oedd y Cyngor yn gallu cael dylanwad ar y datblygwyr.  Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd y byddai perchennog yr eiddo yn gallu gofyn i'w gyfreithiwr am ragor o fanylion ar ôl proses drosglwyddo.

 

Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod y Canllaw Dylunio Priffyrdd yn cydnabod bod pwysigrwydd cynnal a chadw'r priffyrdd yn elfen allweddol ar sicrhau diogelwch a llesiant pobl Sir Gaerfyrddin a bod priffyrdd sydd mewn cyflwr gwael yn gallu lleihau ansawdd a hwylustod teithio bob dydd.  Felly, wrth ddylunio datblygiadau dylid rhagdybio y byddent yn cael eu mabwysiadu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ac felly dylai'r holl strydoedd gydymffurfio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2019/20 - 2022 pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Adrannol Drafft Adran yr Amgylchedd 2019/20 - 2022 a oedd yn amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer yr adran a sut yr oedd yr adran wedi cefnogi pum ffordd o weithio a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2022.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys detholiad o'r agweddau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd gan gynnwys yr elfennau canlynol:-

 

  • Priffyrdd a Thrafnidiaeth
  • Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff
  • Gwella Busnes

 

Trafodwyd y mater canlynol wrth ystyried y cynllun:

 

Cyfeiriwyd at y cynnydd sylweddol yng nghanran y gwastraff trefol a anfonir i safleoedd tirlenwi o 4.73% yn 2016/17 i 20.29% yn 2017/18. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Gwastraff fod y contract llosgi â CWM Environmental wedi dod i ben ac roedd proses gaffael yn cael ei chynnal ar hyn o bryd, gyda'r nod o ddod o hyd i ateb hirdymor.  Eglurwyd bod y Grantiau Tirlenwi a weinyddwyd gan y contractwr yn flaenorol bellach yn cael eu gweinyddu gan Awdurdod Cyllid Cymru fel rhan o gynllun cenedlaethol.

 

PENDERFYNWYD bod Cynllun Busnes Adran yr Amgylchedd 2019/20-2022 yn cael ei dderbyn.

 

 

7.

CYNLLUN BUSNES DRAFFT ADRANNOL ADRAN CYMUNEDAU 2019/20 - 2022 pdf eicon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Adrannol yr Adran Cymunedau 2019/20 – 2021/2022 a oedd yn rhoi trosolwg cynhwysfawr i'r Aelodau ar gynnydd yr Adran Cymunedau.
  Nodwyd, er bod y cynllun yn cwmpasu holl flaenoriaethau'r Adran, mai rôl y Pwyllgor oedd craffu ar elfennau Diogelu'r Cyhoedd a nodwyd ar dudalen 25 o'r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn Cynllun Busnes Adrannol yr Adran Cymunedau 2019/20-2022.

 

 

8.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2019/2022 pdf eicon PDF 191 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad ar Gynllun Busnes Adrannol y Prif Weithredwr 2019/20 – 2021/22.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys detholiad o'r agweddau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd o ran Diogelwch Cymunedol.

 

Mewn ymateb i sylw a gafwyd ynghylch targed 2018/19 o ran y troseddau a gofnodwyd, dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol fod newidiadau diweddar i'r ffordd y mae troseddau'n cael eu cofnodi wedi achosi cynnydd yn y troseddau a gofnodir o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gan ei gwneud yn anodd i darged heriol gael ei nodi. Fodd bynnag, rhoddwyd sicrwydd bod yr holl ffigurau o ran troseddau'n cael eu monitro'n agos ac yr eir i'r afael â'r pryderon, yn aml mewn partneriaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cynllun Busnes Adrannol y Prif Weithredwr 2019/20 - 2021/2022.

 

 

 

 

9.

GWASANAETHAU MATERION BUSNES A DEFNYDDWYR ADRODDIAD BLYNYDDOL 2017/18 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Materion Defnyddwyr a Busnes ar gyfer 2017/18.  Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth i'r aelodau yn ogystal ag ystadegau ynghylch y gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth yn 2017/18.

 

Nododd y Pwyllgor fod y Gwasanaeth yn cynnwys Safonau Masnach, Trwyddedu a Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

·         Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch rhestr o grefftwyr y gellir ymddiried ynddynt, dywedodd y Rheolwr Materion Defnyddwyr a Busnes y byddai'r Cyngor yn lansio cynllun 'Prynu â Hyder' a fyddai'n darparu rhestr ar gyfer pobl Sir Gaerfyrddin sy'n nodi'r busnesau lleol sydd wedi ymrwymo i fasnachu teg, er mwyn cydnabod busnesau yn Sir Gaerfyrddin sy'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth yn ogystal â rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr.  Byddai rhagor o wybodaeth am y cynllun yn cael ei chyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor Craffu yn y dyfodol.

 

·         Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch Arolygwyr Diogelwch Bwyd allanol, cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod Arolygwyr Diogelwch Bwyd wedi cael eu contractio yn ystod y flwyddyn i wneud gwaith mewn ardaloedd wrth i'r adran gynnal adolygiad ac felly nid oedd yn ateb hirdymor. 

 

Mynegodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ei ddiolch yn ddiffuant i'r timau yn yr Adain Materion Defnyddwyr a Busnes am eu hymrwymiad a'u gwaith caled dros y flwyddyn, yn enwedig yn ystod y broses ailstrwythuro.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Materion Defnyddwyr a Busnes ar gyfer 2017/18.

 

 

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf a oedd wedi cael ei drefnu ar gyfer 14 Ionawr 2019. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno ar restr o'r eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor ar 14 Ionawr 2019.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau