Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Thomas.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Cynghorwyr

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

A. James;

A. Davies;

T. Evans;

J.A. Davies;

B.D.J.Phillips

4 – Rheoli Traffig Modur ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Yn berchen ar dir y mae hawl dramwy gyhoeddus yn ei groesi.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

RHEOLI TRAFFIG MODUR AR HAWLIAU TRAMWY CYHOEDDUS pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(SYLWER: Roedd y Cynghorwyr A. James, A. Davies, T. Evans, J.A. Davies a B.D.J. Phillips wedi datgan buddiant personol yn yr eitem agenda hon ond bu iddynt aros yn eu seddau tra rhoddwyd ystyriaeth i'r eitem hon.)

 

Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin, 2018, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i awgrym gan Gyngor Cymuned Myddfai o ran Pwnc Trafod i'r Pwyllgor Craffu (gweler Cofnod 11) lle derbyniodd y Pwyllgor yr awgrym a gofyn am i adroddiad gael ei gyflwyno i'w ystyried.

 

Yn unol â'r argymhelliad hwnnw, daeth adroddiad i law'r Pwyllgor am Reoli Traffig Modur ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus, a oedd yn amlinellu sut mae tîm Mynediad i Gefn Gwlad y Cyngor yn rheoli ar hyn o bryd y defnydd gan Gerbydau Modur o rwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Sir.

 

Nododd y Pwyllgor y gwnaed cais am yr awgrym gan Gyngor Cymuned Myddfai yn dilyn adroddiadau rheolaidd am ddefnydd anghyfreithlon o lwybrau troed a llwybrau ceffylau gan feiciau modur a cherbydau 4x4 yn ardal Myddfai.  Roedd y Cyngor Cymuned wedi rhagweld y gallai dulliau o fonitro a rheoli'r broblem ddeillio o adolygu'r mater.

 

Roedd yr adroddiad yn amlygu'r broblem o ddefnydd anghyfreithlon o'r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn y sir gan gerbydau modur a'r camau a gymerwyd gan yr Awdurdod er mwyn atal hynny.

 

Codwyd yr ymholiadau canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

·    Gofynnwyd pwy fyddai'n atebol pe bai damwain ar Hawl Dramwy Gyhoeddus?  Eglurodd y Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad, yn achos Cilffyrdd sydd ar agor i unrhyw Draffig, mai'r Awdurdod fyddai'n atebol petai prawf mai diffyg o ran yr wyneb oedd achos y ddamwain. Fodd bynnag yn achos Llwybrau Ceffylau a Llwybrau Troed, yn aml rhennir cyfrifoldeb dros yr wyneb gan fod yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus hyn yn aml yn dilyn traciau fferm presennol. Dan yr amgylchiadau hyn byddai'r hawliad cychwynnol fel arfer yn dod i law'r Awdurdod, a fyddai wedyn, yn dibynnu ar achos y ddamwain, yn ei gyfeirio i'r tirfeddiannwr er mwyn i yswiriant atebolrwydd cyhoeddus roi sylw iddo.

·    Mewn ymateb i ymholiad ynghylch lled cyfreithiol Hawl Dramwy Cyhoeddus, dywedodd y Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad fod lled Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn cael ei gofnodi o bryd i'w gilydd yn y Datganiad Diffiniol, gan roi cofnod cyfreithiol o led Hawliau Tramwy Cyhoeddus unigol. Fodd bynnag, nid felly y mae yn aml iawn. Os nad oes unrhyw gofnod cyfreithiol ar gael, nodir y lled ffisegol arferol ac fe'i defnyddir i ddiffinio lled y llwybr. Os nad oes unrhyw ffiniau ffisegol neu nodweddion yn bodoli i ddiffinio lled arferol, mae'r holl gofnodion ysgrifenedig a mapiau sydd ar gael yn cael eu hadolygu er mwyn gweld beth yw lled cyfreithiol Hawl Dramwy Gyhoeddus.

 

·    Gofynnwyd a allai ffermwyr wneud cais am gau Hawl Dramwy Gyhoeddus dros dro yn ystod y tymor wyna? Eglurodd y Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad nad oes unrhyw ddarpariaeth o dan y ddeddfwriaeth sydd ar gael i gau Hawliau Tramwy Cyhoeddus at ddibenion wyna. Fel arfer, byddai'r ffermwyr yn rheoli'r cyfnod wyna drwy ddefnyddio ffensys ac  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD ADRODDIAD BLYNYDDOL 2017/18 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ar ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2017/18, a oedd wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor Sir. Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar y rhaglen waith a'r materion allweddol yr oedd y Pwyllgor wedi eu hystyried.  Hefyd roedd yr adroddiad yn manylu ar y sesiynau datblygu i'r Aelodau, yn ogystal â'u presenoldeb yng nghyfarfodydd y Pwyllgor.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y byddai'r adroddiad terfynol yn cynnwys teyrnged i Is-gadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd Alun Davies, a fu farw'n gynharach eleni yn dilyn salwch. Roedd cyfraniad Alun at y pwyllgor yn un gwerthfawr a byddai pawb yn teimlo colled ar ei ôl.

 

Achubodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i'r Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, a'r Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd, am eu cefnogaeth gydol y flwyddyn.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd ei bod yn gwerthfawrogi ymroddiad a gwaith caled pob aelod o'r Pwyllgor, a oedd yn amlwg drwy gydol yr adroddiad blynyddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

 

6.

CYNLLUN CYFLAWNI GWASANAETH 2018/19 - ADAIN DIOGELU'R AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn cynnwys Cynllun Cyflawni Gwasanaethau Diogelu'r Amgylchedd 2018/19. Roedd y Cynllun yn amlinellu nodau ac amcanion gwasanaeth y Cyngor gan ddarparu dolenni cyswllt i'r amcanion a'r cynlluniau corfforaethol.  Ynghlwm wrth yr adroddiad oedd Crynodeb Gweithredol o'r cynllun.

 

Roedd y Cynllun yn cynnwys cwmpas a gofynion Gwasanaethau Diogelu'r Amgylchedd ac yn dangos y gofynion a'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth a sut yr eid i'r afael â'r rhain mewn modd cadarnhaol yn 2018/19.

 

Nododd y Pwyllgor ei bod yn ofynnol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i'r Adain Diogelu'r Amgylchedd lunio Cynllun Cyflawni Gwasanaethau blynyddol.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·    Mewn ymateb i ymholiad a wnaed mewn perthynas â monitro safleoedd sydd wedi llwyddo i gael sgôr 5 seren, eglurodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod y broses fonitro bresennol yn ei gwneud yn ofynnol i bob busnes â sgôr hylendid o 5 seren  gwblhau holiadur bob 3 blynedd gan fod y rhain yn safleoedd risg isel. Yn ogystal, gallai safleoedd risg isel gael archwiliad yn dilyn cwyn neu unrhyw reswm arall a allai olygu bod angen ail ymweliad.


 

·    Cyfeiriwyd at y rhaglen archwiliad sgoriau bwyd ar gyfer 2017/18 ar dudalen 13 y cynllun. Gwnaethpwyd cais am esboniad o'r categorïau A-E yn y tabl.  Eglurodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod safleoedd sy'n gorfod cael archwiliadau diogelwch bwyd yn destun asesiadau risg, a bod y categori asesiad risg yn y tabl yn dangos pa mor aml maent yn cael archwiliad a pha lefel. Eglurwyd bod categori A yn cynnwys busnesau â'r sgôr hylendid bwyd isaf, yr oedd yn rhaid ymweld â nhw bob 6 mis, ac mai dim ond bob 3 blynedd yr oedd angen  ymweld â rhai Categori E sef y sgôr hylendid bwyd uchaf.

 

·    Cyfeiriwyd at y cynnydd yn nifer yr adroddiadau o dipio anghyfreithlon, fel y dangosir yn y graff ar dudalen 28 y cynllun.  Gofynnwyd ai cau canolfannau ailgylchu oedd y rheswm dros hyn, gan achosi cynnydd mewn cwynion cyhoeddus. Eglurodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd mai achosion o dipio anghyfreithlon ar dir preifat yn unig oedd nifer y cwynion a gofnodwyd yn y graff. Yn ogystal, er nad oedd unrhyw dystiolaeth ar hyn o bryd i awgrymu bod cau canolfannau ailgylchu yn cyd-daro â'r cynnydd, byddai hyn yn cael ei fonitro wrth i ragor o dystiolaeth gael ei chasglu.

 

·    Cyfeiriwyd at yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer a nodwyd ar dudalen 23 y cynllun. Gofynnwyd ai gweithio gyda chydgysylltwyr Eco-ysgolion lleol mewn Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer oedd y dull gorau o gynyddu ymwybyddiaeth o ansawdd aer gwael. Eglurodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd mai'r bwriad oedd gweithio tuag at addysgu plant; rhywbeth a fyddai yn ei dro yn addysgu'r rhieni. Roedd mentrau eraill ar waith yn cynnwys cysylltiadau â'r elusen 'Walkstreets', y gelid codi arian ar ei chyfer drwy ddefnyddio ap ffôn symudol a system sgorio pwyntiau. Roedd y drefn hon ar waith yn ysgol gynradd Tre Ioan.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd mai'r gobaith oedd gwella ansawdd aer ar gyfer y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cyllideb Cyfalaf a Refeniw dyddiedig 31 Awst mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.  Roedd yr adroddiad yn rhoi i'r aelodau wybodaeth am fonitro'r gyllideb ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd, a'r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol. 

 

I grynhoi, roedd y gyllideb refeniw ar gyfer y gwasanaethau o fewn maes gorchwyl Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn rhagweld gorwariant o £307k. 

 

Roedd y prif amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf yn dangos gwariant

net rhagweladwy o £16,368 o gymharu â chyllideb net weithredol o

£16,470 gan roi amrywiant o £-102k.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

·    Cyfeiriwyd at yr amrywiant a ragwelwyd ar gyfer meysydd parcio a'r sylw: ‘targedau incwm anghyraeddadwy gan fod y targed incwm yn cynyddu bob blwyddyn ond nid yw'r ffioedd parcio wedi cael eu cynyddu.’  Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd nad oedd y ffioedd parcio ceir wedi cynyddu ers 4 blynedd. Dywedwyd ei bod yn anodd deall y rhesymeg dros gynyddu'r targedau incwm pan nad oedd y taliadau parcio ceir wedi cael eu cynyddu.

 

·    Mewn ymateb i ymholiad yn ymwneud â chymhellion parcio am ddim, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod y £180k a gafwyd gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi'r Cyngor i gynnal cyfnod prawf o barcio am ddim yn ystod adegau tawel ar ddiwrnodau penodol, mewn ymgais i newid patrwm yr ymwelwyr arferol o ddydd i ddydd. Yn ogystal, y gobaith oedd y byddai'r cymhelliant i barcio am ddim yn annog mwy o bobl i siopa yn yr ardal. Byddai adolygiad yn cael ei gynnal yn dilyn cwblhau'r cyfnod prawf ddiwedd mis Ionawr 2019.

 

Gofynnwyd sut oedd y cymhellion parcio am ddim yn cael eu hyrwyddo?  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd y byddai'r hyrwyddo hwnnw yn cynnwys datganiadau rheolaidd i'r wasg drwy gydol y cyfnod prawf, hysbysebu mewn papurau newyddion, hysbysiadau mewn meysydd parcio a gwybodaeth ar wefan y Cyngor a'r cyfryngau cymdeithasol. Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn annog yr holl Gynghorwyr i helpu i roi cyhoeddusrwydd i barcio am ddim drwy rannu cyfryngau cymdeithasol y Cyngor a hyrwyddo ar lafar.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

8.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad yn cynnwys manylion am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r camau, ceisiadau, neu atgyfeiriadau a gododd o gyfarfodydd ers 18 Mai 2018.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.


 

 

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf a oedd wedi cael ei drefnu ar gyfer 10 Rhagfyr 2018. 

 

Cyfeiriwyd at waith diweddar yr adolygiad Gorchwyl a Gorffen ar gynnal a chadw priffyrdd, perthi ac ymylon ffyrdd. O ystyried yr hyn a ddysgwyd o ran cadwraeth a bioamrywiaeth, barnwyd y byddai seminar ar gadwraeth a bioamrywiaeth yn fuddiol i bob aelod.

 

Pwysleisiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd, fel yr Hyrwyddwr Bioamrywiaeth, bwysigrwydd cadwraeth a bioamrywiaeth, gan gytuno y byddai seminar i aelodau yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1  derbyn y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod o'r Pwyllgor ar 10 Rhagfyr;

 

9.2  trefnu seminar ar gyfer yr aelodau ar gadwraeth a bioamrywiaeth.

 

 

10.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 1 HYFRED 2018 pdf eicon PDF 242 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 1 Hydref, 2018 yn gofnod cywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau