Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.


 

 

5.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM WASANAETHAU SAFONAU MASNACH YNG NGHYMRU pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf iddynt ynghylch sefyllfa bresennol y Safonau Masnach Cenedlaethol, Gwaith (Rhanbarthol) Cymru a Safonau Masnach Lleol.

 

Eglurodd y Rheolwr Materion Defnyddwyr a Busnes fod y Tîm Safonau Masnach yn gweithredu mewn modd rhagweithiol ac adweithiol a bod y tîm fel arfer yn rhoi blaenoriaeth i weithgareddau oedd yn seiliedig ar faterion cenedlaethol a lleol. Roedd atal, ymyrryd ac arloesi'n allweddol er mwyn lleihau'r risg o broblemau'n digwydd dro ar ôl tro a diogelu'r defnyddwyr.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, er mwyn gallu darparu gwasanaeth mwy effeithlon, fod yr ymweliadau rheolaidd â chwmnïau wedi cael eu cwtogi er mwyn gallu canolbwyntio ar y cwmnïau hynny oedd yn debygol o droseddu ac y byddai'r ymweliadau'n cael eu cynnal ar sail y wybodaeth a dderbynnir.

 

Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad. 

 

  • O ran yr ystod amrywiol o oedran yr effeithir arnynt gan broblemau, gofynnwyd a oedd ffyrdd gwahanol y gellid eu defnyddio i gyrraedd ystod oedran ehangach, yn enwedig yr ifanc a'r henoed. Nododd y Rheolwr Materion Defnyddwyr a Busnes fod gwaith wedi cael ei wneud mewn ysgolion i godi ymwybyddiaeth, megis ymarfer cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer plant ysgol. Hefyd, roedd gwaith ymgysylltu â'r fforwm 50+ yn parhau, sy'n rhoi gwybod i'r aelodau am y gwasanaethau a ddarperir gan y Safonau Masnach. Yn ogystal, drwy ymddiriedaeth a hyder, roedd yr adran Safonau Masnach wedi datblygu partneriaeth lwyddiannus â'r Banciau, a oedd wedi arwain at ganlyniad llwyddiannus mewn nifer o achosion.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol i'r Rheolwr Materion Defnyddwyr a Busnes ac i'r tîm am eu gwaith arbennig a gofynnodd yn benodol am i'r tîm gael gwybod ei fod yn ddiolchgar.

 

 

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW A CHYLLIDEB GYFALAF 2017/18 pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad diwedd blwyddyn ynghylch Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf fel yr oedd ar 31 Mawrth 2018, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2017/18. 

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi i'r aelodau wybodaeth am fonitro'r gyllideb ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd, a'r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol.  I grynhoi, roedd y gyllideb refeniw ar gyfer y gwasanaethau o fewn maes gorchwyl Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn rhagweld tanwariant o £113k. 

 

Roedd y prif amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf yn dangos gwariant net rhagweladwy o £8,107 o gymharu â chyllideb net weithredol o £11,987 gan roi amrywiant o £-3,880.


 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

  • Gofynnwyd pam roedd tanwariant yn gysylltiedig â nifer o gategorïau o dan Briffyrdd a Thrafnidiaeth? Nododd Cyfrifydd y Gr?p fod ymarfer ad-drefnu ar waith ar hyn o bryd. Ychwanegodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod Peiriannydd Cynorthwyol – Adeiladwaith yn cael ei recriwtio ar hyn o bryd a bod Swyddog Mynediad i Gefn Gwlad wedi cael ei benodi'n ddiweddar. Mewn ymateb i ymholiad pellach, eglurodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai gwaith recriwtio yn cael ei wneud ar sail 'haen wrth haen' a'r gobaith oedd y byddai haen Rheolwyr y Gwasanaeth ar waith yn y 3 mis nesaf.

  • O ran Llwybr Dyffryn Tywi, gofynnwyd a oedd cost derfynol y Llwybr ar gael? Nododd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd ei bod yn anodd rhoi cost derfynol ar y cam hwn oherwydd bod nifer o agweddau'n anhysbys hyd yn hyn megis cost y tir a'r costau lliniaru. Fodd bynnag, rhoddwyd sicrwydd bod cyfanswm y gost yn cynnwys y tir a'r gwaith lliniaru.

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch costau cynnal a chadw'r llwybr, nododd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd nad oedd y model cynnal a chadw wedi cael ei gwblhau eto. 

Mewn ymateb i ymholiad pellach, nododd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod cynnydd y cynllun yn cael ei gyfyngu gan argaeledd tir, a bod hyn yn ei dro yn pennu'r drefn y gallai pob rhan o'r llwybr gael ei hadeiladu.

 

  • Gofynnwyd beth oedd y sefyllfa o ran eiddo sydd wedi cael eu dibrisio o ganlyniad i Ffordd Gyswllt Cross Hands ac a oedd unrhyw wybodaeth wedi dod i law ynghylch iawndal? Bu i Reolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd egluro Deddf Iawndal Tir 1974 sy'n nodi'r broses ar gyfer hawliadau. Fodd bynnag, petai unrhyw faterion yn codi yn ystod y cam adeiladu, byddai'r Adran Priffyrdd yn gallu helpu.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch y galw ychwanegol am Hebryngwyr Croesfannau Ysgol, eglurodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn faes oedd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac y ceisir cyngor ar lefel cenedlaethol.

  • Gofynnwyd pam roedd gostyngiad wedi bod yn ansawdd gwaith torri a chlirio amwynderau wrth gyrraedd trefi a phentrefi. Fel enghraifft, gofynnwyd pam roedd y porth i Dref Caerfyrddin wedi cael ei adael yn anniben oherwydd gwaith cynnal  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2017/18 pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2017/18 a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nodwyd bod yr adroddiad yn darparu:-

 

­   Trosolwg o berfformiad 2017/18,

­   Adroddiadau cynnydd dwy dudalen o hyd ar gyfer pob un o'r 15 o Amcanion Llesiant,

­   Dolen i olrhain cynnydd pob cam gweithredu penodol a tharged a rhoddwyd i bob amcan Llesiant,

­   Yn yr atodiadau, roedd gwybodaeth ynghylch perfformiad Data all-dro (Medi) a Chanlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru (Mehefin) a fyddai'n cael eu diweddaru pan fyddai canlyniadau ar gael. 

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Cyfeiriwyd at amcan llesiant 8 – Bwyta ac yn anadlu'n iach. O ran yr ymgais genedlaethol i leihau diodydd sy'n llawn siwgr ac ar y cyd â'r ymdrechion byd-eang i ddileu deunyddiau plastig untro, gofynnwyd beth oedd y Canolfannau Hamdden ar draws Sir Gaerfyrddin yn ei wneud i helpu â'r ymdrechion hyn?  Nododd Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod cynnig arlwyo newydd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd ac y byddai'n cael ei roi ar waith ym mhob Canolfan Hamdden yn Sir Gaerfyrddin.

Yn sgil yr uchod ac yng ngoleuni penderfyniad y Cyngor i leihau'r defnydd o blastig untro lle bynnag y bo modd, gofynnwyd am i'r materion hyn gael eu hystyried wrth lunio'r cynnig arlwyo newydd.

 

  • Mewn perthynas â'r ymrwymiad i fonitro ansawdd aer (nitrogen deuocsid) ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr â'r Sir, gofynnwyd a fyddai modd darparu canlyniadau amser real drwy ffyrdd o gyfathrebu yn syth, er enghraifft negeseuon testun. Roedd y dull hwn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer y rheiny sy'n tanysgrifio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am lefelau uchel o UV a phaill. Nododd Pennaeth Dros Dro Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel, er bod y Pwyllgor yn cael diweddariad blynyddol ynghylch y gwaith monitro ansawdd aer sy'n cael ei wneud yng Nghaerfyrddin a Llandeilo, byddai'n ystyried darparu rhagor o wybodaeth amser real am ansawdd aer a'i chynnwys yn yr adroddiad diweddaru.


 

  • Gofynnwyd ynghylch y Gymraeg a pha brosesau oedd ar waith gan y Cyngor i recriwtio siaradwyr Cymraeg. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff, yn achos pob proffil swydd, fod safon y Gymraeg sydd ei hangen yn cael ei nodi a'i hadolygu gan y tîm Polisi ac Adnoddau. Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r broses yn ei chyfanrwydd, awgrymwyd bod amlinelliad o'r broses ynghyd â'r lefelau o ran rhuglder yn cael eu hanfon at aelodau'r Pwyllgor mewn neges e-bost.

  • Mewn ymateb i sylw ynghylch cysylltiadau rhwng y Cynllun Datblygu Lleol a'r sector preifat er mwyn annog defnydd o'r Gymraeg mewn busnesau, eglurodd y Pennaeth Cynllunio fod gwaith parhaus yn cael ei wneud gyda Chyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Ceredigion a'r sector preifat ar hyn o bryd i geisio, gyda'i gilydd, ddod o hyd i ddull cyffredin ar draws Cymru.

  • Cyfeiriwyd at Amcan Llesiant 12, Amgylchedd Iach a Diogel – gofalu am yr amgylchedd yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

STRATEGAETH FEICIO SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 457 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Strategaeth Feicio Sir Gaerfyrddin a oedd yn rhoi arweiniad strategol clir oedd yn cefnogi dyheadau'r Cyngor i fod yn arweinydd cenedlaethol o ran darparu digwyddiadau a datblygiadau seilwaith beicio. Roedd y Strategaeth hefyd wedi helpu i gyflawni nifer o amcanion a nodwyd yn Neddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, Strategaeth Feicio Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac roedd hefyd yn gysylltiedig â'r cynllun 5 mlynedd – Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin.

 

Roedd y Strategaeth yn canolbwyntio ar 3 brif thema:

 

·         Isadeiledd;

·         Digwyddiadau ac uchelgeisiau i ddenu digwyddiadau;

·         Llwybrau a mentrau.

Cafodd y Strategaeth ei datblygu yn dilyn cyfnod o ymgynghori cynhwysfawr â rhanddeiliaid allweddol a'r cyhoedd.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

  • Cyfeiriwyd at y map oedd yn arddangos y rhwydwaith beicio yn Sir Gaerfyrddin. Gofynnwyd a fyddai darpariaeth feicio rhwng Cross Hands a Dyffryn Aman gan fod hwn yn parhau i fod yn fwlch yn y rhwydwaith. Nododd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd y byddai datblygu'r ardal hon yn cael ei ystyried yn y tymor canolig.

  • Yn dilyn sylw ynghylch y cynlluniau ar gyfer llwybr beicio rhwng Hendy-gwyn ar Daf a Llanboidy a enwir yn llwybr y Cardi Bach, nad oedd wedi cael ei wireddu, nododd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd mai Llwybr Dyffryn Tywi oedd dan sylw ar hyn o bryd a bod cynlluniau o'r fath yn cael sylw gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal, eglurwyd bod canran sylweddol o'r llwybr yn rhyngwynebu ag Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA), a oedd wedi bod yn rhan o'r trafodaethau ynghyd â Chyngor Sir Penfro.

  • O ran y Cynllun Beicio i'r Gwaith sydd ar gael i staff, gofynnwyd a oedd ffigurau ar gael ar gyfer nifer y staff oedd wedi dewis bod yn rhan o'r cynllun a faint sydd yn beicio i'r gwaith ar hyn o bryd. Nododd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd nad oedd yn ymwybodol bod unrhyw ddata wedi cael ei gasglu, ond roedd yn faes a allai gael ei ystyried er mwyn darparu rhagor o dystiolaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin fel hwb beicio Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Strategaeth Feicio Sir Gaerfyrddin.


 

 

9.

Y DIWEDDARAF AM Y CYNNYDD A WNAED WRTH GYFLWYNO BLAEN-GYNLLUN DEDDF YR AMGYLCHEDD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad diweddaru ynghylch y cynnydd o ran gweithredu Blaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2017. Roedd yr adroddiad a ddarparwyd yn ychwanegol at gyhoeddi Blaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd, yn barod ar gyfer cynorthwyo â'r gwaith o adrodd i Lywodraeth Cymru yn 2019, pan fydd yn ofynnol i gyrff cyhoeddus adrodd ar sut y maent wedi cyflawni'r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y modd roedd cynnydd wedi cael ei wneud o ran y 35 o gamau gweithredu a nodwyd ym Mlaengynllun Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin 2017. 

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Mynegwyd pryderon cryf ynghylch faint o waith oedd heb gael ei wneud a oedd yn cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad fel perfformiad oedd heb gadw at y targed, ynghyd â diweddariadau oedd heb gael eu hadrodd. Eglurodd y Pennaeth Cynllunio fod yr holl gamau gweithredu wedi cael eu hanfon at y Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol pan oeddent wedi cael eu llunio, ond roedd rhai wedi anwybyddu'r rownd gyntaf o adrodd, ac o ganlyniad ni adroddwyd ynghylch rhai o'r camau gweithredu ym mis Mawrth 2018. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor, er gwaetha'r diffyg o ran adrodd, fod cynnydd wedi cael ei wneud o ran cyflawni gwaith.

·         Dywedwyd bod y diweddariad hwn yn cael ei groesawu a'i bod yn braf nodi bod y Cyngor yn croesawu cynlluniau newydd megis 'Cymoni eich Cymuned' ac yn gweithio ar y cyd â Chynghorau Tref a Chymuned ac mewn partneriaeth â nhw.

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle hwn i atgoffa'r Pwyllgor, fel y cytunwyd, y byddai trefniadau'n cael eu gwneud ym mis Medi 2018, i Aelodau o'r Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd gymryd rhan mewn digwyddiad codi sbwriel a chael cyfle i drafod materion â swyddogion gorfodi ar yr un pryd.

 

PENDERFYNWYD bod yr Adroddiad Diweddaru am y cynnydd a wnaed wrth gyflwyno Blaengynllun Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei dderbyn.

 

 

10.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor nad oedd Adroddiad Blynyddol ar Ganmoliaeth a Chwynion 2017/18 na'r Cynllun Cyflawni Gwasanaeth – Gwasanaethau Diogelu'r Amgylchedd wedi cael eu cyflwyno. Roedd y ddau adroddiad wedi cael eu gohirio gan Swyddogion tan y cyfarfod nesaf fyddai'n cael ei gynnal ar 1 Hydref 2018.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiadau craffu nad oeddent wedi eu cyflwyno.


 

 

 

11.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitemau i'r Pwyllgor ar gyfer y cyfarfod nesaf oedd wedi cael ei drefnu ar 1 Hydref 2018. Hefyd nododd y Pwyllgor Flaengynllun Gwaith Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd diwygiedig ar gyfer 2018/19.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor ei fod yn ddiweddar wedi cael dau Awgrym ar gyfer Pynciau i'w trafod gan y Pwyllgor Craffu, ac roedd y ddau wedi cael eu hanfon mewn neges e-bost at aelodau'r Pwyllgor cyn y cyfarfod. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r awgrymiadau fel a ganlyn:-

 

1)   Yr Awgrym ar gyfer Pwnc i'w drafod gan y Pwyllgor Craffu a wnaed gan Gyngor Tref Llanelli –
Ymchwilio i'r problemau mewn perthynas â'r pla o glêr diweddar yn Llanelli.

 

Yng ngoleuni'r pla o glêr yn Llanelli yn ddiweddar, gofynnodd y Pwyllgor am gael adroddiad ar y prosesau rheoli a'r trefniadau ymateb ar gyfer delio â digwyddiadau tebyg yn ymwneud â phlâu.

 

2)   Yr Awgrym ar gyfer Pwnc i'w drafod gan y Pwyllgor Craffu a wnaed gan Gyngor Cymuned Myddfai –
Y defnydd anghyfreithlon o Hawliau Tramwy Cyhoeddus a Llwybrau Ceffylau gan nifer ormodol o feiciau oddi ar y ffordd a cherbydau 4x4.

 

Er y byddai materion sy'n gysylltiedig â'r defnydd anghyfreithlon o Hawliau Tramwy Cyhoeddus fel arfer yn fater ar gyfer yr Heddlu, roedd y Pwyllgor yn cydnabod mewn rhai achosion y byddai costau cynnal a chadw yn cael eu priodoli i'r Cyngor ar ôl digwyddiadau o'r fath a gofynnodd y Pwyllgor am gael adroddiad yn amlinellu'r ffyrdd y gallai'r Cyngor helpu i reoli'r materion a hynny drwy ddull o atal.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

11.1    dderbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol;

11.2    derbyn y Flaenraglen Waith ddiwygiedig;

11.3    cynnwys yr adroddiadau ychwanegol y gofynnwyd amdanynt ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu ar gyfer Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ar 1 Hydref, 2018.

 

 

12.

DERBYN COFNODION CYFARFOD AR Y CYD Y PWYLLGORAU CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD A GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD, A GYNHALIWYD AR 21 MAI 2018 pdf eicon PDF 189 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod y Cyd-bwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Mai, 2018.


 

 

13.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR:-

13.1

20 EBRILL 2018 pdf eicon PDF 295 KB

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 20 Ebrill, 2018 yn gofnod cywir.

 

 

13.2

18 MAI 2018 pdf eicon PDF 187 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 18 Mai, 2018 yn gofnod cywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau