Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, T. Higgins a D. Phillips.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
Y PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD YMWELIAD SAFLE - CYFLWYNIAD PDF 84 KB Cofnodion: Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Wynn Morgan, Rheolwr-gyfarwyddwr a Sean Gallagher, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cwm Environmental.
Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad a oedd yn rhoi trosolwg o ymweliad safle y Pwyllgor ar 9 Mawrth 2018 i'r ddarpariaeth ailgylchu gwastraff yn Cwm Environmental a'r fflyd cynnal a chadw'r gaeaf yn Ystâd Ddiwydiannol Cillefwr, Tre Ioan. Rhoddodd yr ymweliad safle gyfle i Aelodau'r Pwyllgor weld y safle ailgylchu a'r fflyd gaeaf ar waith a chyfle i siarad â gweithwyr.
Rhoddodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth wybodaeth am y ddarpariaeth a'r fflyd cynnal a chadw yn ystod y gaeaf a oedd yn cynnwys:
· Cyflenwadau halen · Y Goblygiadau Ariannol · Fflyd Graeanu ac Offer Graeanu
Darparodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff wybodaeth am y ddarpariaeth ailgylchu gwastraff yn Cwm Environmental yn Nant-y-caws, Caerfyrddin. Darparwyd gwybodaeth weithredol i'r Pwyllgor am waith y safle o ran derbyn a phrosesu bagiau glas ailgylchu, gwastraff gweddilliol (gwastraff bagiau du) a chyfleusterau compostio. Yn ogystal, rhoddwyd esboniad i'r Pwyllgor o'r cyfleusterau a ddarperir gan y ganolfan ailgylchu gwastraff cartref a'r gwasanaethau eraill y mae Cwm Environmental yn eu darparu.
Dywedodd Rheolwr-gyfarwyddwr Cwm Environmental fod y farchnad rheoli gwastraff wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac er bod y farchnad yn dal yn anrhagweladwy, byddai'r cwmni yn parhau i reoli, monitro ac adolygu sefyllfaoedd byd-eang ac os yw'n briodol, chwilio am drefniadau prosesu eraill, yn dibynnu ar yr amgylchiadau a'r farchnad ar y pryd.
Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch costau gwastraff, dywedodd Rheolwr-gyfarwyddwr Cwm Environmental fod y trefniadau ar gyfer cludo gwastraff tirlenwi i Copenhagen ar gyfer cyfnod cyfyngedig yn unig a bellach wedi dod i ben. Nodwyd bod y cwmni bellach yn defnyddio mannau gwastraff yn Sweden a Chaerdydd.
· Yn dilyn cau Canolfan Ailgylchu Llangadog a gwaredu'r banciau ailgylchu gwydr, gofynnwyd am eglurhad ynghylch y weithdrefn gywir ar gyfer gwaredu gwydr. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff wrth y Pwyllgor y symudwyd y banciau ailgylchu gwydr o'r safle yn Llangadog ar gais trigolion lleol, oherwydd y s?n a ddaw o'r lleoliad pan yr oedd gwydr yn cael ei waredu a dywedodd fod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i chwilio am ateb arall ar gyfer y safle. Eglurwyd ymhellach na ddylid gosod gwydr mewn bagiau ailgylchu glas a dylid cael gwared ar wydr yn briodol, mewn banc ailgylchu gwydr.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwyr o Cwm Environmental am ddod i'r cyfarfod ac i'r swyddogion am eu cyflwyniadau.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad terfynol y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a luniwyd ar 17 Tachwedd 2017, i ymchwilio i'r ddarpariaeth o ran cynnal a chadw perthi ac ymylon priffyrdd. Lluniwyd yr argymhellion a oedd yn yr adroddiad gan y Gr?p ar ôl ystyried yr ystod o dystiolaeth oedd dan sylw mewn cyfres o gyfarfodydd oedd wedi eu cynnal rhwng Ionawr 2018 ac Ebrill 2018.
Cyflwynodd aelodau'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen bob un o'r argymhellion i'r Pwyllgor.
Rhoddodd y Swyddogion ddrafft cynnar o'r daflen 'Tirfeddianwyr Cyfagos a'r Briffordd Gyhoeddus' i'r Pwyllgor, a gyfeiriwyd ato yn argymhelliad 2 yr adroddiad, a oedd yn dangos sut y byddai rolau a chyfrifoldebau'r awdurdod priffyrdd a thirfeddianwyr cyfagos yn cael eu cyflwyno.
Codwyd y cwestiynau canlynol gan y Pwyllgor wrth ystyried yr adroddiad:
· Dywedwyd nad oedd y borfa o amgylch yr Ystad Ddiwydiannol yn Cross Hands yn cael ei thorri'n ddigon aml. Felly, o ran yr adroddiad, gofynnwyd am ragor o wybodaeth am y gwahaniaeth rhwng ardaloedd trefol a gwledig. Esboniodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod ardaloedd trefol a gwledig fel arfer yn cael eu dynodi, o ran y priffyrdd, gan newid yn y terfyn cyflymder. Bydd ardaloedd trefol fel arfer â therfyn cyflymder 30mya neu weithiau 40mya, o'u cymharu â ffyrdd gwledig lle mae'r terfyn cyflymder cenedlaethol fel arfer ar waith ac mae'r terfynau cyflymder hyn yn adlewyrchu newid o ardal drefol i ardal wledig. Yn ogystal, byddai'r daflen honno yn cynnwys rhagor o wybodaeth am rolau a chyfrifoldebau'r Cyngor Sir a'r tirfeddianwyr cyfagos dros berthi, draeniau ac ymylon y priffyrdd. Ychwanegodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod Ystad Ddiwydiannol Cross Hands yn cynnwys cymysgedd o ffyrdd ac y byddai darn o ffordd newydd dan gyfrifoldeb yr Awdurdod yn fuan, ac yn dod yn rhan o'r rhaglen torri gwair.
·
Dywedwyd nad oedd
yr adroddiad wedi cynnwys effaith weledol y pyrth i'r trefi a fu'n
eitem o bwys yn y blynyddoedd blaenorol. Cytunodd y Rheolwr
Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod pyrth i'r trefi yn nodwedd allweddol
a byddai argymhelliad 5 yr adroddiad yn rhoi mwy o hyblygrwydd i'r
Cyngor, o ran gwaith cynnal a chadw'r pyrth, i gydweithio â
Chynghorau Tref a Chymuned er mwyn cynnal a chadw'r pyrth.
Ychwanegodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd er bod gwaith torri porfa
amwynder yn cael ei gydnabod yn yr adroddiad, nid oedd y
ddarpariaeth hon yn rhan o waith y gr?p gorchwyl a gorffen a gellid
ei ystyried yn fater ar wahân yn y dyfodol.
·
Cyfeiriwyd at y daflen
ddrafft, a gafodd ei ganmol. Gofynnwyd a ellid darparu'r daflen
derfynol i Gynghorau Tref a Chymuned. Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd
a Thrafnidiaeth wrth y Pwyllgor y byddai'r daflen yn parhau i gael
ei datblygu drwy ymgynghori ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr
(Cymru), Undeb Amaethwyr Cymru a Chymdeithas Tirfeniaddwyr Cefn
Gwlad, ac ar ôl cymeradwyo'r daflen, byddai'n cael ei
dosbarthu yn eang gan gynnwys i Gynghorau Tref a
Chymuned. · Mewn ymateb i ymholiad ynghylch draeniau, eglurodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth y rhagdybir fel arfer mai tirfeddianwyr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|
PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD AR GYFER 2018/19 - BLAENRAGLEN WAITH PDF 155 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'w Blaenraglen Waith am 2018/19.
Nododd yr aelodau fod y rhaglen yn ddogfen hyblyg y gellid ei haddasu i gynnwys eitemau agenda a chyfarfodydd ychwanegol yn ystod blwyddyn y cyngor.
PENDERFYNWYD bod Blaenraglen Waith Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd am 2018/19 yn cael ei chymeradwyo.
|
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 68 KB Cofnodion: Nododd y Pwyllgor nad oedd y wybodaeth ddiweddaraf am Safonau Masnach Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi'i chyflwyno na chwaith Adroddiad Blynyddol Canmoliaeth a Chwynion 17/18, a ohiriwyd i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 29 Mehefin 2018.
Penderfynwyd nodi'r adroddiad craffu nad oedd wedi'i gyflwyno.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 72 KB Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau ar gyfer y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 29 Mehefin 2018 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am wybodaeth i'w chynnwys yn yr adroddiadau.
PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar ddydd Gwener, 29 Tachwedd, 2018.
|