Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, S.J.G Gilasbey,

T. Higgins, A. James, S. Phillips, B.D.J. Phillips ac A.D.T. Speake.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Nid oedd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

5.

CYFLYNWIAD YNGHYLCH PROSIECT LLWYBR DYFFRYN TYWI pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor, gyflwyniad ar y prosiect Llwybr Dyffryn Tywi yn dilyn cais y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 12 Chwefror 2018 [cyfeirir yng nghofnod 8].

 

Roedd cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth i'r Pwyllgor ac yn dangos yr agweddau allweddol ar y prosiect gan gynnwys:-

 

·         Cefndir ac amcanion allweddol y prosiect;

·         Y llwybr arfaethedig;

·         Y manteision economaidd i'r rhanbarth;

·         Manteision iechyd cysylltiedig;

·         Effaith ar ddiogelwch ar y ffyrdd;

·         Y manteision a gyflawnwyd mewn cynlluniau tebyg.

 

Yn ogystal, rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor weld fideo 'golwg o'r awyr' ar gyfer hyrwyddo Llwybr Dyffryn Tywi.

 

Codwyd y cwestiynau canlynol ar ddiwedd y cyflwyniad:-

 

·         Gofynnwyd a fyddai'r arian a oedd yn cael ei wario ar Lwybr Dyffryn Tywi yn cael effaith niweidiol ar y llwybrau beicio eraill yn y Sir?  Eglurodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod dwy ffynhonnell ariannu ar hyn o bryd a bod yr arian ar gyfer Llwybr Dyffryn Tywi yn dod yn bennaf o ffynonellau allanol a oedd wedi cael eu neilltuo a heb eu cynnwys yn y gronfa Teithio Llesol.

 

·         Dywedwyd er bod datblygiad Llwybr Dyffryn Tywi yn cael ei groesawu a bod y manteision yn cael eu cydnabod, gofynnwyd a oedd modd i'r swyddogion ddarparu rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd ar gyfer y fasnach adeiladu lleol.  Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd oherwydd cwmpas a maint y cynllun cyfan, bod elfennau adeiladu helaeth yn gysylltiedig â'r gwaith a fydd yn darparu cyfleoedd cyflogaeth. Roedd trefniadau contract fframwaith ar waith a oedd yn cynnwys cyflenwyr lleol.  At hynny, cadarnhaodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd hefyd fod y trefniadau fframwaith yn cynnwys rhwymedigaeth ar gontractwyr i ddarparu buddion cymunedol.

·         Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y costau fesul cilomedr o'r llwybr, nododd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd na fyddai'n gallu rhoi gwybodaeth fanwl am y costau fesul cilomedr hyd nes i'r trafodaethau ynghylch y tir gael eu cwblhau.   Fodd bynnag, byddai cyfanswm cost y cynllun oddeutu £5-8m.

 

·         Mynegwyd pryder na fyddai beicwyr yn defnyddio'r llwybr ar daith cylch ac o bosibl yn defnyddio'r A40 fel rhan o'u taith.   Gofynnwyd pa fesurau oedd yn cael eu rhoi ar waith i annog beicwyr i gadw at y llwybr.  Cadarnhaodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd y byddai llawer o atyniadau i'w gweld wrth ddilyn y llwybr er mwyn annog defnyddwyr i barhau ar y llwybr diogel.

 

 

·         O ran dyddiad cwblhau Llwybr Dyffryn Tywi, dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd yr amcangyfrifir mai Awst 2020 oedd y dyddiad cwblhau.

 

·         Yn dilyn ymholiad, cadarnhaodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd y byddai'r cynllun, drwy gyfrwng y strategaeth feicio, yn ceisio gweithio'n agos gyda llwybrau beicio eraill ledled Sir Gaerfyrddin, er mwyn cyflwyno a hyrwyddo'r brand , 'Sir Gaerfyrddin, canolbwynt beicio Cymru’.

 

·         Yn dilyn ymholiad a godwyd o ran y cynnydd yn y gwrthwynebiadau lleol, esboniodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod Sustrans wedi ceisio datblygu'r llwybr rai blynyddoedd yn ôl a bod gwrthwynebiadau wedi dod i law yn ystod y cyfnod ymgynghori cynnar.  Fodd bynnag, ym mis Tachwedd 2015, roedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiadau Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf fel yr oeddynt ar 28 Chwefror, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2017/18.  Roedd yr adroddiad yn rhoi i'r aelodau wybodaeth am fonitro'r gyllideb ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd, a'r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol. 

 

I grynhoi, roedd y gyllideb refeniw ar gyfer y gwasanaethau o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn rhagweld gorwariant o £307k. 

 

Roedd y prif amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf yn dangos gwariant net rhagweladwy o £8,493k o gymharu â chyllideb net weithredol o £11,592k gan roi amrywiant o £-3,099k.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at Atodiad B, a gofynnwyd ynghylch y swyddi gwag yn y gwasanaeth cymorth busnes.  Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod y swyddi gwag wedi dod i law o ganlyniad i ad-drefnu diweddar yn y gwasanaeth ac y byddai unigolion yn cael eu penodi i'r cyn hir.

 

·         Gofynnwyd ynghylch y swyddi gwag yn yr adran Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Dywedodd y Rheolwr Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod Swyddog Mynediad Cefn Gwlad wedi cael ei benodi'n ddiweddar.  Dywedodd hefyd fod adolygiad ehangach o Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar waith ar hyn o bryd ond bod hynny ar fin dod i ben.

 

·         Cyfeiriwyd at Atodiad B – Casgliad Gwastraff Gwyrdd. Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y rhagwelir y byddai'r cynllun Casglu Gwastraff Gwyrdd mewn sefyllfa i dalu am ei hun, 'hunangynhaliol' ymhen 3-4 blynedd.  Fodd bynnag, byddai'r amserlen a'r gallu i fod yn hunangynhaliol yn dibynnu ar nifer y cwsmeriaid fyddai'n defnyddio'r cynllun.

 

·         Gofynnwyd hefyd ynghylch y cwsmeriaid sy'n defnyddio'r cynllun ac sy'n cael anawsterau yn codi pethau a/neu broblemau mynediad.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y cydnabyddir nad oedd y ddarpariaeth bresennol, o ran y defnydd o sachau hesian yn ateb delfrydol y gellid ei roi ar waith yn gyffredinol, a'i fod yn fater o Iechyd a Diogelwch o ran gweithwyr yn codi'r sachau trwm hyn.  Roedd yr Adran Iechyd a Diogelwch ar y cyd â swyddogion yn y broses o gytuno ar ateb ymarferol a diogel.  Yn sgil hyn, dywedwyd y byddai cwsmeriaid oedrannus hefyd yn cael anhawster gyda'r sachau hesian trwm.  Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai adolygiad o'r agwedd hon ar y gwasanaeth yn debygol o gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mai 2018.  Er mwyn helpu preswylwyr i reoli'r broses o ddosbarthu gwastraff, atgoffodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd y Pwyllgor fod biniau compost hefyd ar gael i'r cyhoedd am ffi o £12.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

7.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD AMCANION LLESIANT 2017/18 - CWARTER 3 pdf eicon PDF 179 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yng nghynllun cyflawni Amcanion Llesiant 2017/18 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2017.

 

Rhoddwyd sylw i'r ymholiadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at fethu cyrraedd y targed a oedd yn ymwneud â chanran y gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi.  Gofynnwyd a oedd unrhyw le i storio gwastraff, petai sefyllfa debyg yn digwydd eto? Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff yr anawsterau o ran storio 'gwastraff du' ac ychydig iawn o gyfleusterau storio oedd gan Sir Gaerfyrddin.  Fodd bynnag, roedd atebion tymor hir ar hyn o bryd yn cael eu hystyried gyda'n partner Cwm Environmental.

 

·         Gofynnwyd hefyd ynghylch dyfodol y gwasanaethau bysiau.  Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd er bod y cyllid wedi bod yn gostwng roedd yr Adran wedi mynd ar drywydd cyfleoedd cyllid allanol. Er enghraifft, datblygwyd gwasanaethau Traws Cymru a Bwcabus drwy gyllid allanol. Byddai'r Adran yn parhau i fanteisio ar gyfleoedd ariannu allanol.

·         Yn gyffredinol, ledled Cymru, roedd y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn gostwng ond roedd cynlluniau tebyg i Bwcabus yn mynd yn groes i'r duedd honno. Fodd bynnag petai llai o bobl yn defnyddio gwasanaethau rhwydwaith ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus byddai gwasanaethu mewn perygl.

 

·         Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol ynghylch cynlluniau i ymestyn y gwasanaeth Bwcabus i ardaloedd eraill,  esboniodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod gwasanaeth Bwcabus wedi cael ei ariannu yn wreiddiol am 3 blynedd gan Grant Ewropeaidd.  Erbyn hyn roedd y prosiect wedi cyrraedd naw mlynedd oherwydd ei lwyddiant, ac roedd y prosiect yn ddiweddar wedi cael ei ymestyn i Sir Benfro.  Bydd yr Awdurdod yn parhau i ymchwilio i opsiynau gwahanol er mwyn cynnal y gwasanaeth.  Byddai ehangu'r gwasanaeth yn cael ei ystyried ymhellach petai cyfleoedd ariannu yn codi.

 

·         Gofynnwyd am eglurhad o ran y diffiniad o 'stryd' yn y mesur perfformiad a nodwyd ar dudalen 32 o'r adroddiad 'canran y strydoedd sy'n cael eu glanhau’.  Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod y lefelau glendid gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o strydoedd wedi'u hamlinellu mewn canllaw a grëwyd gan Cadwch Gymru'n Daclus. 

 

·         Mewn ymateb i sylw a godwyd ynghylch y swm uchel o sbwriel sy'n deillio o siopau bwyd cyflym, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod y tîm strategaeth ar hyn o bryd yn gweithio gyda siopau bwyd cyflym ledled Sir Gaerfyrddin er mwyn ceisio rheoli'r broblem sbwriel yn well.  Ychwanegodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd mai'r DU oedd yn meddu ar y gyfradd uchaf o bobl sy'n bwyta ac yfed ar droed. Yn ogystal â'r mesurau gorfodi presennol, nodwyd y gallai mynd ati i addysgu'r cyhoedd am effaith sbwriel ar gefn gwlad fod yn fuddiol.


 

·         Mynegwyd bod Cynghorau Tref/Cymuned yn ffurfio grwpiau casglu sbwriel.  Er mwyn arwain drwy esiampl, awgrymwyd bod y Pwyllgor yn trefnu diwrnod casglu sbwriel.  Cytunodd y Pwyllgor y byddai hyn yn fuddiol a byddai'n ystyried a chytuno ar leoliad cyn diwedd mis Mehefin 2018.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

STRATEGAETH BARCIO SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y Strategaeth Barcio a oedd wedi cael ei hadolygu a'i datblygu yn sgil yr adolygiad o'r sefyllfa barcio a gyflawnwyd gan Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu.

 

Nododd y Pwyllgor mai nod y Strategaeth Barcio oedd sicrhau bod newidiadau yn y dyfodol i'r ddarpariaeth barcio yn flaengar ac yn gefnogol i sefyllfa economaidd a bywiogrwydd yr ardaloedd amrywiol yn Sir Gaerfyrddin a bod gan ganol y trefi gymysgedd gytbwys o ddulliau trafnidiaeth i leihau risg o dagfeydd gyda sgil-effeithiau ar ansawdd aer.

 

Roedd yr adroddiad am gael sylwadau gan y Pwyllgor Craffu cyn i'r Bwrdd Gweithredol roi ystyriaeth bellach iddo.

 

Rhoddwyd sylw i'r ymholiadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Gofynnwyd, os oedd unrhyw gynigion i fynd i'r afael â'r lefelau uchel o alw am leoedd parcio yn Rhydaman?  Nododd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ganlyniadau dadansoddiad o'r data ar gyfer y cyfnodau brig o weithgarwch yn ystod mis Awst a mis Rhagfyr 2016.  Mae'r gweithgarwch wedi newid ers hynny ac mae'r data yn dangos bod y lefelau parcio presennol yn ddigonol.

 

·         Mewn ymateb i ymholiad ynghylch parcio cartrefi modur, roedd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd yn cydnabod fod hwn yn sector twf a fyddai'n cael ei ystyried ymhellach yn y dyfodol.  Yn dilyn ymholiad pellach, cadarnhawyd y gall cartrefi modur ddefnyddio'r meysydd parcio ar hyn o bryd ond byddai angen talu am y lleoedd parcio oedd yn cael eu defnyddio, petai cartref modur yn parcio ar draws dau leoliad parcio, byddai angen talu am y ddau.

 

·         Dywedwyd nad oedd y cyhoedd yn ymwybodol pa ddiwrnodau oedd y rhai parcio ceir am ddim.  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd mai'r Cynghorau Tref oedd yn pennu'r diwrnodau parcio am ddim a gofynnir i bob Cyngor Tref roi cyhoeddusrwydd ynghylch hyn.

 

·         Cyfeiriwyd at y graffiau Galw a Chapasiti mewn perthynas â Llanelli a nodir ar dudalennau 7 ac 8 yr adroddiad.  Dywedwyd bod y galw am leoedd parcio yn ymddangos yn isel a heb ddefnydd digonol a gallai'r lleoedd parcio arhosiad byr fod yn rhatach. Cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd bod capasiti ym meysydd parcio Llanelli, a'i bod yn ofynnol codi tâl ar gyfer arhosiad byr yng nghanol y trefi er mwyn rhoi blaenoriaeth i siopwyr ac nid cymudwyr. Cadarnhaodd fod gwerthiant tocynnau parcio yn eithaf cyson o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol.

 

·         Mewn perthynas â gosod peiriannau talu â cherdyn, cafwyd sylw yn annog y Cyngor i ddarparu opsiynau talu a fyddai'n cynnwys taliadau 'digyffwrdd' cyn gynted â phosibl. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd mai'r bwriad oedd disodli'r peiriannau tocynnau presennol gyda thaliadau cerdyn dros â Wi-Fi ac roedd hyn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.

 

·         Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd y byddai angen i'r arian ar gyfer y peiriannau cerdyn fod ar gael a'i bod yn ofynnol cyflwyno cais am arian cyfalaf.  Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y gwarged refeniw o'r meysydd parcio yn cael ei ddefnyddio i gynnal gwasanaethau priffyrdd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

FERSIWN DDRAFFT O STRATEGAETH GORFFORAETHOL NEWYDD 2018-23 pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau fersiwn ddrafft o'r Strategaeth Gorfforaethol newydd 2018-23. Byddai drafft newydd y Strategaeth Gorfforaethol yn disodli'r un presennol a gyhoeddwyd yn 2015 a bydd yn cyfuno'r cynlluniau canlynol i un ddogfen:-

 

-  Strategaeth Gorfforaethol 2015-20;

-  yr Amcanion Gwella, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol 2009;

-  yr Amcanion Llesiant yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) 2015;

-  Prosiectau allweddol Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin a

   Rhaglenni ar gyfer y 5 mlynedd nesaf, fel y nodir yn "Symud Ymlaen

yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf”.

 

Nododd y Pwyllgor y byddai'r un set o Amcanion Llesiant ar gyfer 2018/19 yn cael eu cadw ynghyd ag un ychwanegol ar 'Adeiladu Gwell Cyngor a Gwneud Gwell Defnydd o Adnoddau’.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr amcanion llesiant a oedd yn berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd fel a ganlyn:-

 

Amcan Llesiant

Camau Gweithredu

(Cyfeirnod)

Mesurau

(Cyfeirnod)

8 – Byw'n dda - helpu pobl i fyw bywydau iach

 

Cyfeirnod A –

Bwyta ac anadlu'n iach

 

A1, A2, A3, A4 ac A7;

 

Cyfeirnod B –

Gweithgarwch Corfforol

 

B4 a B5

 

9 – Byw'n dda/Heneiddio'n dda – cefnogi cysylltiadau da gyda ffrindiau, teulu a chymunedau mwy diogel

Cyfeirnod B –

Byddwn yn hyrwyddo ac yn datblygu cysylltiadau cryf ar gyfer pobl, lleoedd a sefydliadau

B1 a B2

Cyfeirnod C –

Byddwn yn clustnodi'r cryfderau a'r adnoddau mewn cymunedau sy'n gallu cyfrannu at hyrwyddo a chefnogi iechyd a llesiant cymdogion

C4

Cyfeirnod D –

Gyda'n partneriaid byddwn yn parhau i gefnogi Cymunedau mwy Diogel

Yr holl Fesurau, D1 – D11

12 – Amgylchedd Iach a Diogel – edrych ar ôl yr amgylchedd yn awr ac yn y dyfodol

Cyfeirnod A –

Mynd i'r afael â gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Yr holl fesurau, A1 – A12

Cyfeirnod B –

Rydym yn monitro cyflawniad Blaen-gynllun CCC ar gyfer Deddf yr Amgylchedd

B1

Cyfeirnod C –

Byddwn yn parhau i weithredu a hyrwyddo cynnydd yn y defnydd o ynni adnewyddadwy

Yr holl fesurau, C1-C3

Cyfeirnod D –

Byddwn yn amddiffyn ein hamgylchedd a'n heiddo drwy ddarparu ein Cynllun Rheoli Llifogydd a Gwastraff; ac yn amddiffyn a rheoli ein harfordir drwy gyflawni Cynllun Rheoli'r Draethlin

D1

Cyfeiriad E –

Byddwn yn gweithredu camau o'r 'Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff', er mwyn bod yn genedl sy'n ailgylchu llawer erbyn 2025 ac yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.

Yr holl fesurau, E1-E12

13 – Amgylchedd iach a diogel – Gwella isadeiledd a chysylltedd priffyrdd a thrafnidiaeth

Cyfeirnod A-

Byddwn yn datblygu'r seilwaith priffyrdd i gyflawni blaenoriaethau ein Cynllun Adfywio

Yr holl fesurau A1 – 16

Cyfeirnod B –

Byddwn yn parhau i integreiddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn llwyddiannus

B1 a B2

Cyfeirnod C –

Byddwn yn ail-ddylunio ein rhwydwaith cludiant ysgol er mwyn cefnogi'r Rhaglen Moderneiddio Addysg

C1

Cyfeirnod D –

Byddwn yn parhau i gefnogi trafnidiaeth gymunedol

D1

Cyfeiriad E –

Byddwn yn cyflawni ein hamcanion a bennwyd gennym yn ein Strategaeth Diogelwch Ffyrdd

Yr holl fesurau E1  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad yn cynnwys manylion am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r camau, ceisiadau, neu atgyfeiriadau a gododd o gyfarfodydd ers 2 Hydref 2017.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

11.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 18 Mai, 2018.

 

 

12.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y

12.1

15FED IONAWR 2018 pdf eicon PDF 316 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYDllofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 15 Ionawr, 2018 gan eu bod yn gywir.

 

 

12.2

12FED CHWEFROR 2018 pdf eicon PDF 187 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYDllofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 12 Chwefror, 2018 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau