Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Roedd ymddiheuriadau am absenoldeb wedi dod i law gan y Cynghorwyr A. James, A.D.T. Speake a P.M. Hughes [yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd].

 

O ran Eitem 5 ar yr Agenda, sef Adroddiad Blynyddol y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel 2016/17, cyhoeddodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn ymddiheuriadau gan y Prif Arolygydd Steve Thomas, Is-gadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

K.V. Broom

7 - Cynllun Busnes Adrannol Adran yr Amgylchedd 2018/19 - 2021

Mae ei g?r yn gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

5.

Y GRWP CYMUNEDAU TEG A DIOGEL ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016/17 pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel 2016-17 a gyflwynwyd i'r Pwyllgor gan y Cynghorydd Cefin Campbell, Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel.  Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybod i'r Aelodau am y cynnydd a oedd wedi'i wneud gan y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel a'i ragflaenydd, sef y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, i fynd i'r afael â throseddau ac anhrefn yn 2016/17.  Roedd yr adroddiad hefyd yn adolygu'r cynnydd a oedd wedi'i wneud o ran y Strategaeth Gymunedol Integredig.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y gr?p yn ymfalchïo mewn creu cysylltiadau cryf â phartneriaid a chydweithio i sicrhau bod cymunedau yn lleoedd diogel i fyw ynddynt.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr adroddiad yn cynnwys cyfraniadau gan ddau o 'Awdurdodau Cyfrifol' y gr?p sy'n bartneriaid statudol, sef y Gwasanaeth Tân ac Achub a sefydliadau Prawf.  Yn ogystal, mae trefniadau llywodraethu ar gyfer y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel wedi'u hymgorffori yn strwythur y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Dywedodd Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel wrth y Pwyllgor y gellid priodoli'r cynnydd mewn lefelau troseddu i'r gwelliannau diweddar i brosesau riportio yr Heddlu.  Pwysleisiwyd i'r Pwyllgor fod ardal Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i fod yn un o'r lleoedd mwyaf diogel i fyw sydd â’r lefelau troseddu isaf yng Nghymru a Lloegr. 

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Mewn ymateb i gwestiwn dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol nad oedd y trydydd sector yn cael ei gynrychioli ar y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel ar hyn o bryd, ond bod y gr?p yn cynnal cysylltiadau cryf â darparwyr trydydd sector megis Cymorth i Fenywod ac Age Concern Cymru sy'n cael eu cynrychioli ar nifer o grwpiau y mae'r Gr?p Cymunedau Teg a Diogel yn eu harwain. Yng ngoleuni hyn, mynegodd Aelodau bryder y dylid cynnwys sefydliadau trydydd sector yn y gr?p.  Cytunodd Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel a dywedodd y byddai'n trafod y mater hwn ymhellach â'r Rheolwr Diogelwch Cymunedol.

 

Cafwyd ymholiad ynghylch y cynnydd yn nifer yr achosion o ddwyn cerbydau tir garw (ATV).  Dywedodd Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel y gellid priodoli'r cynnydd i'r datblygiadau diweddar o ran y modd y mae'r Heddlu yn cofnodi troseddau.  Cydnabuwyd bod llu o achosion o ddwyn cerbydau tir garw yn ddiweddar a dywedodd Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel y byddai ymchwil yn cael ei gwneud a byddai gwybodaeth yn cael ei hanfon ymlaen at yr Aelodau.

 

 

 

 

Mewn ymateb i sylw ynghylch yr angen i gyfarfodydd PACT (yr Heddlu a Chymunedau Gyda'i Gilydd) gydweithio mwy, dywedodd Cadeirydd y Gr?p Cymunedau Teg a Diogel fod adolygiad o strwythur y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) i fod i gael ei gynnal yn gynnar yn 2018 a fyddai'n gyfle i'r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ystyried cyfarfodydd PACT er mwyn rhoi llais cryfach i gymunedau.

 

Gan gyfeirio at dudalen 13 yr adroddiad, gwnaed sylw ynghylch y 29 o hysbysiadau cosb benodedig a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2018/19 TAN 2020/21 pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2018/19 - 2020/21 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 27 Tachwedd 2017.  Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2018/2019, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2019/20 a 2020/2021. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Hydref 2017.

 

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i wybodaeth fanwl am y gyllideb a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad fel a ganlyn:

 

·       Atodiad A –  Strategaeth ar gyfer y Gyllideb Gorfforaethol 2018/19 - 2020/21;

·       Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer Gwasanaethau'r Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd (dim un ar gyfer y Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol);

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o Bwysau Twf ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd (dim un ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol);

·       Atodiad B – Y rhannau o'r gyllideb sy'n ymwneud â Gwasanaethau'r Amgylchedd, Diogelu'r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol;

·       Atodiad C –  Crynhoad Taliadau ar gyfer Gwasanaethau'r Amgylchedd, Diogelu'r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, er bod y setliad dros dro o -0.5% a gyhoeddwyd yn llawer gwell na'r hyn a ragwelwyd, sef -2%, roedd yn dal i olygu ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod nodi arbedion effeithlonrwydd o £8.544m ar gyfer 2018/19 o gymharu â'r swm cychwynnol o £12.527m a byddai'n dal i gael effaith negyddol ar adnoddau'r Cyngor.

 

O ran Adran yr Amgylchedd, nododd y Pwyllgor fod gorwariant o £533k o fewn perfformiad 2017/18, ar sail gwaith monitro ym mis Awst 2017. Pwysleisiodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol mai peidio â chyrraedd targedau o ran incwm meysydd parcio a gostyngiad mewn incwm yn sgil ceisiadau cynllunio oedd yn gyfrifol yn bennaf am y gorwariant.  Yn ogystal, nododd y Pwyllgor wrth bennu cyllideb y flwyddyn ariannol bresennol, o gyfanswm o £2.515m a ddyrannwyd i wasanaethau, fod swm o £1.027m wedi'i ddyrannu i'r Amgylchedd, a bod dadansoddiad manwl o'r rhannau o'r gyllideb ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad B.

 

Gan grynhoi, byddai'r cynigion ar gyfer y gyllideb yn darparu'r £25.6 miliwn o arbedion a nodwyd. Ar ben hynny, roedd y cynigion ar gyfer y gyllideb yn golygu cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.12% a bod symudiad o 1% mewn lefelau'r Dreth Gyngor yn cyfateb i +/-£820k.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gan gyfeirio at y Rhannau o'r Gyllideb (Atodiad B yr adroddiad), cafwyd cwestiwn ynghylch y Cynllun Trwyddedu Symud Anifeiliaid a'r posibilrwydd o ddyblygu gwaith rhwng yr Awdurdod Lleol ac asiantaethau megis Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), yn enwedig ers cyflwyno Tagiau Electronig.  Roedd Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd yn cydnabod y posibilrwydd o ddyblygu gwaith a bod hyn yn faes lle gellid gwneud gwelliannau ar y cyd â nifer o asiantaethau. 

 

Mewn ymateb i sylw ynghylch rheoli plâu dywedodd Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd wrth y Pwyllgor ers i'r gwasanaeth rheoli plâu ddod i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2018/19 - 2021 pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Broom wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Adrannol Drafft Adran yr Amgylchedd 2018/19 - 2021 a oedd yn amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer yr adran a sut yr oedd yr adran wedi cefnogi pum ffordd o weithio a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys detholiad o'r agweddau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd gan gynnwys yr elfennau canlynol:-

 

  • Trafnidiaeth a Pheirianneg
  • Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff
  • Gwella Busnes

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at y Perfformiad Allweddol ar dudalen 5 o'r adroddiad.  Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch canran y gwastraff trefol a anfonir i safleoedd tirlenwi nad oedd yn cyrraedd y targed, sef canlyniad o 15% yn erbyn targed o 10%, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod Sir Gaerfyrddin, hyd yn oed gyda'r ffigur perfformiad o 15%, yn dal i gyrraedd ei tharged statudol ar gyfer dargyfeirio o safleoedd tirlenwi gan gydnabod bod y targed o 10% yn uchelgeisiol, o ystyried bod anawsterau ar draws y diwydiant ar gyfer gwaredu gwastraff gweddilliol. Roedd gwastraff gweddilliol yn cynnwys yr holl wastraff trefol na ellid ei ailgylchu.  Yn ogystal, er mwyn cyrraedd y targedau yn y dyfodol a gwella canlyniadau, roedd trafodaethau yn cael eu cynnal ar hyn o bryd i gael mannau gwastraff gweddilliol newydd.

 

Gan gyfeirio at dudalen 33 yr adroddiad, sef Absenoldeb Salwch, gofynnwyd a oedd y lefel uchel o absenoldeb salwch a nodwyd yn destun pryder.  Dywedodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai'r adran yn canolbwyntio ar y mater hwn ac yn derbyn adroddiadau monitro rheolaidd.  Cydnabuwyd yn gyffredinol y gofynnir i awdurdodau lleol 'wneud mwy â llai' a fyddai, yn anochel, yn cael effaith niweidiol ar adnoddau.  Roedd rheolwyr yn cydweithio'n agos ag Adnoddau Dynol ar hyn o bryd i helpu i wella llesiant staff.

 

PENDERFYNWYD derbyn Cynllun Busnes Adrannol Drafft Adran yr Amgylchedd 2018/19-2021.

 

 

8.

CYNLLUN BUSNES DRAFFT ADRANNOL ADRAN CYMUNEDAU 2018/19 - 2021 pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Adrannol yr Adran Cymunedau 2018/19 - 2021
 a oedd yn rhoi trosolwg cynhwysfawr i'r Aelodau ar gynnydd yr Adran Cymunedau.   Nodwyd, er bod y cynllun yn cwmpasu holl flaenoriaethau'r Adran, mai rôl y Pwyllgor oedd craffu ar elfennau Diogelu'r Cyhoedd a nodwyd ar dudalennau 24 a 25 o'r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn Cynllun Busnes Adrannol yr Adran Cymunedau 2018/19 – 2021  

 

 

9.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2018/19 - 2021 pdf eicon PDF 210 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad ar Gynllun Busnes Adrannol y Prif Weithredwr 2018/19 - 2021.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys detholiad o'r agweddau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd o ran Diogelwch Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD derbyn Cynllun Busnes Adrannol y Prif Weithredwr 2018/19 – 2021.  

 

 

10.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 65 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor nad oedd yr adroddiad ar Ymgynghori ynghylch Cyllideb Gyfalaf 5 Mlynedd wedi'i gyflwyno a fyddai'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiad craffu nad oedd wedi'i gyflwyno.

 

 

11.

EITEMAU A GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau ar gyfer y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 15 Ionawr 2018 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am wybodaeth i'w chynnwys yn yr adroddiadau.

 

Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr adroddiad ynghylch gwastraff gwyrdd.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai'r adroddiad yn rhoi trosolwg o dymor cyntaf gweithredu'r cynllun gwastraff gwyrdd/gardd, a oedd yn seiliedig ar system casglu biniau. Nid oedd unrhyw fath arall o gynhwysydd yn cael ei gynnig, ac eithrio mewn achosion lle na fyddai biniau'n addas o safbwynt gweithredol.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai'r adroddiad ynghylch Gwastraff Gwyrdd a oedd i'w gyflwyno ym mis Ionawr yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau am y cynigion ar gyfer y tymor nesaf.

 

Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff nad oedd bagiau gwastraff gwyrdd yn cael eu dosbarthu bellach ac na fyddent yn cael eu hailgyflwyno.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau