Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Gareth Lewis, Swyddfa Archwilio Cymru, i'r cyfarfod gan ddweud wrth y Pwyllgor fod Mr Lewis yn bresennol fel sylwedydd.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mr Richard Waters hefyd i'r cyfarfod a'i longyfarch ar gael ei benodi'n Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A.D.T.

Speake a D. Thomas.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

K.V. Broom

5 – Adroddiad Blynyddol Iechyd yr Amgylchedd a'r Gwasanaethau Trwyddedu 2016/17;

8 – Gr?p Gorchwyl a Gorffen Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd 2017/2018 – Dogfen Cynllunio a Chwmpasu

Ei g?r yn gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru

A. James

8 – Gr?p Gorchwyl a Gorffen Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd 2017/2018 – Dogfen Cynllunio a Chwmpasu

Yn berchen ar dir y mae llwybr troed cyhoeddus yn ei groesi

K.V. Broom

8 – Gr?p Gorchwyl a Gorffen Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd 2017/2018 – Dogfen Cynllunio a Chwmpasu

Yn berchen ar dir y mae llwybr troed cyhoeddus yn ei groesi

B.D.J.Phillips

8 – Gr?p Gorchwyl a Gorffen Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd 2017/2018 – Dogfen Cynllunio a Chwmpasu

Yn berchen ar dir y mae llwybr troed cyhoeddus yn ei groesi

J.A. Davies

8 – Gr?p Gorchwyl a Gorffen Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd 2017/2018 – Dogfen Cynllunio a Chwmpasu

Yn berchen ar dir y mae llwybr troed cyhoeddus yn ei groesi

 

 

3.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD YR AMGYLCHEDD A'R GWASANAETHAU TRWYDDEDU 2016/17 pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad blynyddol a oedd yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu. Roedd y gwasanaeth yn cwmpasu diogelwch bwyd, clefydau trosglwyddadwy, iechyd a diogelwch, trwyddedu, llygredd (gan gynnwys aer, tir a s?n), niwsans (gan gynnwys s?n, arogleuon, mwg ac ati), cyngor ynghylch rheoli plâu a gwasanaethau wardeiniaid c?n. Gwaith statudol oedd hwn yn bennaf a dangosai'r galwadau oedd ar y gwasanaeth a'r heriau a wynebwyd yn 2016/17.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Gofynnwyd a oedd unrhyw gyllid wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru er mwyn talu costau'r cyfrifoldebau ychwanegol oedd wedi'u pennu i'r Cyngor. Dywedodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd wrth y Pwyllgor nad oedd y Cyngor yn cael unrhyw gyllid, ond bod timau'n ymdopi drwy adolygu a newid y ffordd roeddent yn gweithio er mwyn cyrraedd disgwyliadau.

 

Gofynnwyd pam fod nifer fawr o achosion o campylobacter yn 2016/17, a beth oedd yn cael ei wneud i leihau nifer yr achosion yn y dyfodol. Eglurodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd fod nifer yr achosion yn 2016/17 wedi gostwng o'r uchafbwynt yn 2014/15 ac efallai mai'r achos dros hyn oedd ymgyrchoedd i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran rhoi gwybod am salwch ac wrth i'r ymgyrchoedd leihau, fod nifer yr achosion y rhoddwyd gwybod amdanynt wedi aros yr un peth. Hysbyswyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd am y gwaith fyddai'n digwydd er mwyn atal achosion o campylobacter.  Byddai hyn yn cael ei wneud drwy weithio gyda thîm y wasg a'r cyfryngau i addysgu'r cyhoedd ynghylch sut oedd cadw cig amrwd yn ddiogel, ac, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig, cadw'r twrci a'i goginio mewn modd diogel. At hynny, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod dau dîm yn gweithio ym maes diogelwch bwyd, un yn y gwasanaethau Safonau Masnach a'r llall yng ngwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, a bod y ddau dîm yn cael cryn effaith ar ddiogelu'r cyhoedd.

 

Gofynnwyd pa mor gadarn oedd y data a gasglwyd ynghylch clefydau heintus. Dywedodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod y wybodaeth genedlaethol wedi cael ei darparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a byddai'r tîm yn craffu arni i nodi unrhyw dueddiadau ac i weld a oedd unrhyw gysylltiadau cyffredin y byddai angen eu cwestiynu ymhellach.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y sefyllfa bresennol o ran samplu pysgod cregyn, hysbyswyd y Pwyllgor gan Reolwr Diogelu'r Amgylchedd fod cais wedi'i wneud i'r swyddogion, yn ystod 2016-17, gynyddu'r samplu/monitro oedd yn digwydd yn y Tair Afon. Roedd hyn o ganlyniad i'r cynnig gan Lywodraeth Cymru i agor y gwelyau at ddibenion casglu masnachol. Fodd bynnag, gan nad oedd yr adran yn cael ei digolledu am y cynnydd mewn gweithgarwch, roedd niferoedd ac amlder y samplu yn llai na'r cais gwreiddiol drwy wybodaeth, profiad, a chyd-drafod gan swyddogion i sicrhau bod rhaglen resymol, a roddai gynrychiolaeth deg.  At hynny, rhoddwyd gwybod i'r Aelodau, ers cynnig Llywodraeth Cymru, mai'r penderfyniad oedd peidio ag agor y gwelyau at ddibenion casglu pysgod cregyn masnachol.

 

O ran ymholiad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

HIERARCHAETH AR GYFER Y RHWYDWAITH PRIFFYRDD pdf eicon PDF 95 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y bwriad i gyflwyno hierarchaeth weithredol ar gyfer buddsoddi yn y seilwaith priffyrdd.  Byddai'r hierarchaeth yn cefnogi Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd cyffredinol sy'n blaenoriaethu buddsoddi yn y seilwaith priffyrdd drwy ddull seiliedig ar risgiau yn unol â'r Codau Ymarfer Cenedlaethol newydd sydd wedi eu diweddaru - "Seilwaith Priffyrdd sy'n cael ei Reoli'n Dda."

 

Nododd y Pwyllgor fod y rhwydwaith priffyrdd yn cynnwys dros 3,500 o gilometrau o ffordd gerbydau a hwylusai symud nwyddau a phobl yn ddiogel. Gan fod adnoddau'n lleihau a thraffig yn cynyddu, roedd blaenoriaethu lle roedd adnoddau i'w gwario yn bwysig i helpu'r awdurdod i leihau risg, bodloni ei rwymedigaethau statudol a defnyddio adnoddau sy'n lleihau yn effeithiol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig diffinio hierarchaeth rhwydwaith yn seiliedig ar swyddogaeth y ffordd gerbydau/darn o'r ffordd gerbydau fel y nodwyd yn nhabl 1 yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi y byddai cyflwyno hierarchaeth rhwydwaith priffyrdd yn tanategu ac yn rhoi bod i welliannau o ran rheoli, blaenoriaethu a lefelau gwasanaeth ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd a buddsoddi mewn seilwaith, ac yn cefnogi canlyniadau allweddol y Cyngor a ddeilliai o Strategaeth Gorfforaethol 2015/2020. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn nodi y byddai hierarchaeth y rhwydwaith yn cyfrannu tuag at saith nod cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy ddatblygu ffyrdd newydd o weithio.

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

Soniwyd bod mwy o gilometrau o briffyrdd yn Sir Gaerfyrddin na'r un sir arall yng Nghymru heblaw am un, ac mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth er bod y setliad refeniw yn rhoi ystyriaeth briodol i faint y rhwydwaith yn y sir, fod y setliad refeniw wedi lleihau'n sylweddol dros nifer o flynyddoedd.

 

Yn dilyn ymholiad ar sut roedd diogelwch ffyrdd mewn ardaloedd gwledig yn cael ei flaenoriaethu, dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth, gan fod pen draw i'r gyllideb, fod y gwaith o gynnal a chadw ffyrdd gwledig yn cael ei flaenoriaethu er mwyn sicrhau bod y briffordd yn cael ei chadw mewn cyflwr diogel.

 

Gofynnwyd a oedd y gyllideb Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn ffurfio rhan o'r un gyllideb â phriffyrdd. Eglurodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod y gyllideb ar gyfer Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar wahân i'r un ar gyfer priffyrdd. At hynny, roedd adolygiad ar waith ar hyn o bryd o ran Hawliau Tramwy Cyhoeddus lle roedd model blaenoriaethu tebyg ar gyfer cynnal a chadw a chyllid grant yn cael ei ystyried.

 

Cafwyd ymholiad mewn perthynas â'r traul ychwanegol ar ffyrdd a phontydd gwledig a achoswyd gan gerbydau cludiant coedwigaeth. Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Priffyrdd i'r Pwyllgor fod Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth 3 blynedd wedi cael ei gytuno a'i lofnodi'n ddiweddar gyda'r Comisiwn Coedwigaeth ac awdurdodau lleol eraill i hyrwyddo llwybrau cludo mewn rhai coedwigoedd, a fyddai'n lleihau effaith cerbydau cludiant coedwigaeth ar ffyrdd bach lleol.

 

O ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r 5 ffordd o weithio, gofynnwyd a oedd yr effaith ar newid  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2017/18 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf fel yr oeddent ar 31 Awst 2017, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2017/18.  Roedd yr adroddiad yn rhoi i'r aelodau wybodaeth am fonitro'r gyllideb ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd, a'r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol. I grynhoi, roedd y gyllideb refeniw ar gyfer y gwasanaethau o fewn maes gorchwyl Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn rhagweld gorwariant o £127k.  Roedd y prif amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf yn dangos gwariant net rhagweladwy o £10,733 o gymharu â chyllideb net weithredol o £10,901 gan roi amrywiant o £-168k. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

 

8.

GRWP GORCHWYL A GORFFEN - DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD 2017/18 DOGFEN GYNLLUNIO A CHWMPASU pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Cadeirydd fod Aelodau'r Pwyllgor, hyd yn hyn, wedi ystyried nifer o awgrymiadau ac wedi cytuno ar destun y prosiect ar gyfer y Gr?p Gorchwyl a Gorffen -"adolygu'r ddarpariaeth o ran cynnal a chadw perthi ac ymylon wrth briffyrdd”.  Ar ran y Cadeirydd, cyflwynodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd y ddogfen cynllunio a chwmpasu a oedd yn cynnwys nodau a chwmpas y prosiect.

 

Nododd y Pwyllgor fod penderfyniad wedi'i wneud wrth lunio'r ddogfen Gwmpasu y byddai cwmpas y prosiect yn rhy eang pe bai llwybrau troed a beicio yn cael eu cynnwys. At hynny, roedd Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd yn gwneud darn o waith ar hyn o bryd a oedd yn cynnwys cynnal a chadw llwybrau troed a llwybrau beicio, a byddai'r Pwyllgor yn cael gwybodaeth am hyn maes o law. Dywedodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd y gallai'r Pwyllgor ffurfio gr?p Gorchwyl a Gorffen ychwanegol i ystyried cynnal a chadw llwybrau beicio a llwybrau troed yn ddiweddarach os dymunai.

 

Hefyd, nododd y Pwyllgor yr amserlen ar gyfer cwblhau a oedd yn cynnwys pedwar cyfarfod Gr?p Gorchwyl a Gorffen gyda golwg ar gyflwyno adroddiad terfynol i'r Pwyllgor ym mis Mai 2018.

 

Er mwyn ffurfio Gr?p Gorchwyl a Gorffen gwleidyddol gytbwys, gofynnodd y Cadeirydd am hyd at 6 enwebiad gan y Pwyllgor.

 

Felly

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

8.1       derbyn Dogfen Gwmpasu y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

 

8.2       cymeradwyo nodau'r prosiect a chwmpas y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

 

8.3       bod yr aelodaeth o'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen fel a ganlyn:-

 

·         Y Cynghorydd Alun Davies

·         Y Cynghorydd Jeanette Gilasbey

·         Y Cynghorydd Dorian Philips

·         Y Cynghorydd Penny Edwards

·         Y Cynghorydd John James

·         Y Cynghorydd Andrew James

 

 

9.

EGLURHAD AM BEIDIO A CHYFLWYDNO ADDRODIAD CRAFFU pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor nad oedd Adroddiad Blynyddol Cymunedau Teg a Diogel 2016/17 nac Adroddiad Canmoliaeth a Chwynion Hanner Blwyddyn 2017 wedi eu cyflwyno.

 

Penderfynwyd nodi'r adroddiadau craffu nad oeddent wedi eu cyflwyno.

 

 

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau ar gyfer y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 11 Rhagfyr 2017 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am wybodaeth i'w chynnwys yn yr adroddiadau.

 

Cyfeiriwyd at gyfarfod diwethaf Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2017 gan ymateb i'r wybodaeth a ddarparwyd i'r Cynghorwyr ynghylch yr ymholiadau a godwyd yng Nghofnod 7 a 9. Gofynnwyd am i adroddiad manylach am y Defnydd o Ynni gan y Cyngor gael ei roi gerbron y Pwyllgor ym mis Ionawr 2018 er ystyriaeth.

 

Nododd yr aelodau Blaengynllun Gwaith Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a Blaengynllun Gwaith y Bwrdd Gweithredol, a oedd wedi'u hatodi.

 

 PENDERFYNWYD:

 

10.1    derbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol;

 

10.2     nodi Blaengynllun Gwaith diwygiedig Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd;

 

10.3     nodi Blaengynllun Gwaith y Bwrdd Gweithredol;

 

10.4    cyflwyno adroddiad am y defnydd o ynni gan y Cyngor i'r Pwyllgor ym mis Ionawr 2018 er ystyriaeth.

 

 

11.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 2AIL HYFRED 2017 pdf eicon PDF 258 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2017 yn gofnod cywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau