Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION ARALL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr E. Dole a J. Tremlett

 

Ar ddiwedd y cyfarfod, rhoddodd y Cynghorydd M Stephens y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd Gweithredol yngl?n â'r gwaith a oedd yn cael ei wneud gan y Cyngor a chyrff cyhoeddus eraill y Sir o ran paratoi ar gyfer achosion o goronafeirws yn y Sir. Dywedodd y byddai'r Cyngor yn dilyn cyngor a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn diweddaru ei wefan yn rheolaidd gydag unrhyw gyngor newydd a dderbynnir a bod aelodau a swyddogion yr awdurdod, ynghyd â'r cyhoedd, yn cael eu hannog i wirio'r wefan yn rheolaidd am wybodaeth newydd ac i dilyn cyngor hylendid iechyd cyhoeddus.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 24AIN CHWEFROR, 2019 pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol oedd wedi ei gynnal ar 24 Chwefror, 2020, gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 197 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2019, o ran blwyddyn ariannol 2019/2020.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £2,750k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod, a oedd £1m yn llai na'r hyn a adroddwyd yn flaenorol, ac y byddai gorwariant o £4,055k ar lefel adrannol. Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant o £480k i ddiwedd y flwyddyn.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol fod y pwysau mwyaf sylweddol o fewn y gyllideb Gwasanaethau Addysg a Phlant a oedd yn rhagweld gorwariant cyffredinol o £3.937m ar ddiwedd y flwyddyn yn cynnwys gorwariant adrannol o £737k a gorwariant cyllideb ysgolion dirprwyedig o £3.2m. O ganlyniad, roedd angen i'r adran roi sylw beirniadol i'r sefyllfa.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol er bod y canlyniadau a ragwelir ar hyn o bryd hyd at 31 Rhagfyr, 2019 a oedd yn cyflwyno her sylweddol i'r Awdurdod, a fyddai, pe bai'n parhau i'r flwyddyn ariannol nesaf ar lefel anghynaladwy. Roedd angen cydnabod hefyd y byddai'r awdurdod yn debygol o weld gwariant ychwanegol o ganlyniad i'r achosion o goronafirws. Sicrhawyd y Bwrdd bod strwythurau priodol wedi'u sefydlu i gofnodi gwariant ychwanegol ac roedd cynllunio ar y gweill i sicrhau bod gan yr awdurdod yr arian angenrheidiol ar gael ar gyfer gwariant priodol. Roedd y swyddogion hefyd yn cysylltu â Llywodraeth Cymru i sicrhau y gallai'r awdurdod ddefnyddio unrhyw gyllid y gallai fod ar gael maes o law.

 

Yn sgil y rhagolwg presennol o orwariant sylweddol posibl ar lefel adrannol, roedd yr adroddiad yn argymell y dylai Prif Swyddogion a Phenaethiaid Gwasanaeth barhau i adolygu eu sefyllfa gyllidebol yn feirniadol a gweithredu camau lliniaru priodol i ddarparu eu gwasanaethau o fewn y cyllidebau a ddyrannwyd iddynt fel mater o frys.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

6.1 bod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw yn cael ei dderbyn;

6.2  bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn parhau i adolygu eu sefyllfaoedd cyllidebol yn feirniadol ac yn cymryd y camau lliniaru priodol ac angenrheidiol i ddarparu eu gwasanaethau yn unol â'r cyllidebau a ddyrannwyd iddynt fel mater o frys.

 

 

7.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2019-20 pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran sefyllfa derfynol y gyllideb ar gyfer rhaglen gyfalaf 2019/20 ar 31 Rhagfyr 2019.

 

Nodwyd bod gwariant net o £58,900k yn cael ei rhagweld o gymharu â chyllideb net weithredol o £60,454k gan roi £1,554k o amrywiant. Roedd y gyllideb net wedi'i hailbroffilio gan £2.020 miliwn o 2019/20 i'r blynyddoedd sydd i ddod er mwyn ystyried y wybodaeth a ddiweddarwyd yn y proffil gwariant. Roedd llithriad y gyllideb o 2018/19 hefyd wedi'i gynnwys o fewn y ffigurau a atodwyd i'r adroddiad.

 

Yn ogystal, nododd y Bwrdd Gweithredol fod ymarfer ailbroffilio o ran y Gyllideb Addysg a Gwasanaethau Plant yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i adlewyrchu cynnydd y cynlluniau o fewn y rhaglen gyfalaf 5 mlynedd sy'n rhan o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y rhaglen gyfalaf.

 

 

8.

ERW I'R DYFODOL pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch sefyllfa Sir Gaerfyrddin a'i ymateb i'r arfarniad opsiynau a luniwyd ar drefniadau ERW yn y dyfodol.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn nodi cefndir sefydlu ERW, heriau, ysgogwyr dros newid, materion cyllido yn y dyfodol a'r rhesymau pam yr oedd ôl troed Consortia arall yn cael ei ystyried. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi'r pedwar opsiwn canlynol, fel y'i nodwyd yn Atodiad 1 ynghyd â'u manteision a'u hanfanteision, a oedd i'w cyflwyno i Erw i'w hystyried:-

 

·         Opsiwn 1 - Cynnal y sefyllfa bresennol

·         Opsiwn 2 - Symud i fodel yn seiliedig ar y Fargen Ddinesig a Phartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru

·         Opsiwn 3 -  Ôl traed Dyfed Powys (Cynnig Ceredigion) a Gorllewin Morgannwg;

·         Opsiwn 4 - Gweithredu gwelliannau ysgol fel cynghorau unigol (gallai'r cynghorau hynny sydd am barhau i gydweithio wneud hynny).

 

Tynnwyd sylw'r Bwrdd Gweithredol at y 4 argymhelliad a nodwyd yn yr adroddiad ac at awgrym y dylid diwygio argymhelliad 1 i gael gwared ar y cyfeiriad ‘cytuno’ a chynnwys ‘ystyried’ yn ei le. Pe bai'n cael ei gymeradwyo, byddai'r argymhelliad yna'n dweud “Gofynnir i'r Bwrdd Gweithredol ystyried ôl troed Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yn amodol ar ddarpariaethau'r cytundeb cyfreithiol. Ystyriwyd bod y gwelliant hwnnw'n angenrheidiol er mwyn peidio ag ymrwymo'r Cyngor i unrhyw ôl troed newydd ar hyn o bryd ac a fyddai'n amlwg yn cysylltu ag argymhelliad 4.

 

Ar ôl ystyried pob un o’r pedwar opsiwn, roedd y Bwrdd Gweithredol yn teimlo mai Opsiwn 2 oedd yr ôl troed a ffafrir ar gyfer Sir Gaerfyrddin, ac y byddai’n fanteisiol pe bai awdurdodau cyfansoddol eraill ERW yn cytuno â’r opsiwn hwnnw er mwyn iddyn osgoi gorfod cyhoeddi ‘Llythyrau Tynnu’n Ôl’.

 

PENDERFYNWYD:

 

8.1

Bod Opsiwn 2 yn cael ei ystyried fel yr opsiwn a ffafrir i Sir Gaerfyrddin yn amodol ar ddarpariaethau'r Cytundeb Cyfreithiol,

8.2

Bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyhoeddi Rhybudd i dynnu'n ôl o ERW, pe na chytunir ar dynnu'n ôl yn unfrydol, yn amodol ar ddarpariaethau'r Cytundeb Cyfreithiol;

8.3

Cytuno ar gyfnod pontio o flwyddyn hyd at 2020/21 yn amodol ar ddarpariaethau'r Cytundeb Cyfreithiol.

8.4

Bod y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant, mewn cydweithrediad â'r Arweinydd a'r Prif Swyddog Gweithredol yn datblygu'r model a ffafrir ac yn canfod effaith unrhyw newidiadau (gan gynnwys newidiadau cyfreithiol, Adnoddau Dynnol ac ariannol), yn amodol ar ddarpariaethau'r Cytundeb Cyfreithiol.

 

 

9.

CARTREFI YN ORSAFOEDD PWER pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i achos busnes rhanbarthol 'Cartrefi yn Orsafoedd P?er' Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n cael ei arwain gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot (a amgaeir yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn), ac awdurdodi ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Swyddfa Rheoli Portffolio yn unol â Chynllun Gweithredu'r Fargen Ddinesig er mwyn cymeradwyo cyllid y Fargen Ddinesig.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol mai nod y rhaglen oedd hwyluso mabwysiadu mesurau effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau newydd a chartrefi ôl-osod ledled y Sir, er mwyn dangos hyfwedd a buddion o ran cartrefi sy'n effeithlon o ran ynni a phrif ffrydio'r cysyniad yn sector cyhoeddus a'r sector preifat.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

9.1

Cymeradwyo achos busnes 'Cartrefi yn Orsafoedd P?er' fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad ac yn awdurdodi ei gyflwyno'n ffurfiol i'r Swyddfa Rheoli Portffolio yn unol â Chynllun Gweithredu'r Fargen Ddinesig er mwyn cymeradwyo cyllid y Fargen Ddinesig;

9.2

Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd ac Aelodau perthnasol o'r Bwrdd Gweithredol, gymeradwyo unrhyw newidiadau i'r achos busnes yn dilyn cymeradwyaeth yng ngoleuni unrhyw newidiadau y gofynnir amdanynt o bosib gan Gyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe;

9.3

Awdurdodi'r Pennaeth Adfywio, mewn ymgynghoriad â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, yr Arweinydd ac Aelodau perthnasol o'r Bwrdd Gweithredol, i ffurfio unrhyw gytundebau grant neu ddogfennau cysylltiedig a allai fod yn angenrheidiol i gael cyllid oddi wrth Lywodraeth y DU/Llywodraeth Cymru neu Gorff Atebol Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

 

10.

GRWP CYDWEITHREDU PARC HOWARD pdf eicon PDF 407 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ar aelodaeth a chefndir Gr?p Cydweithredu Parc Howard rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli. Gofynnwyd i'r Bwrdd ffurfioli'r trefniadau aelodaeth a llywodraethu ar gyfer y Gr?p.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

10.1

Cymeradwyo y Cylch Gorchwyl ar gyfer Gr?p Cydweithredu Parc Howard;

10.2

Bod Aelodau'r Cyngor Sir a benodwyd i gynrychioli'r Cyngor ar Gr?p Cydweithio Parc Howard fel a ganlyn:-

 

Y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths

Y Cynghorydd Hazel Evans

Y Cynghorydd Giles Morgan

Y Cynghorydd John Jenkins

10.3

Bod yr aelodau dirprwyol ar gyfer cynrychiolaeth y Cyngor a Gr?p Cydweithio Parc Howard yn cael eu dewis o blith yr aelodau sy'n weddill o'r Bwrdd Gweithredol.

 

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau