Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L.M. Stephens.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 20FED IONAWR, 2020 pdf eicon PDF 328 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2020, gan eu bod yn gywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

CWM ENVIRONMENTAL LTD GOFYNIAD CYLLID BENTHYCIADAU pdf eicon PDF 468 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gais a gafwyd gan CWM Environmental Ltd (is-gwmni dan berchnogaeth lwyr yr awdurdod) am fenthyciad o £800k gan yr awdurdod i ariannu'r gost ar gyfer y canlynol:

 

1.    Adleoli ei swyddfeydd presennol o Heol Allt-y-cnap, Tre Ioan i'w safle yn Nant-y-caws;

2.    ildio prydles swyddfeydd Allt-y-cnap - sydd yn dod i ben ym mis Mai, 2020;

3.    Caffael rhydd-ddaliad 58 erw ychwanegol o dir yn union wrth ymyl safle Nant-y-caws, er mwyn sicrhau'r tir ar gyfer datblygiad y cwmni yn y dyfodol.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd am delerau'r benthyciad arfaethedig, fel y manylir arno yn yr adroddiad, a gefnogwyd gan Fwrdd Cyfarwyddwyr y cwmni a Bwrdd y Cyfranddalwyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL Y DYLID ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn cytuno i roi benthyciad i CWM Environmental Ltd yn amodol ar y telerau canlynol:

1.

Cyfanswm y benthyciad i fod yn y swm o £800k;

2.

Bydd hyd y trefniant benthyca yn 10 mlynedd mewn perthynas â'r gost o gaffael y tir a 5 mlynedd ar gyfer y gost sy'n gysylltiedig ag adeiladau;

3.

Codi llog o 1% yn uwch na'r gyfradd a bennwyd gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus am 10 mlynedd a 5 mlynedd yn y drefn honno gan adlewyrchu'r diogelwch a fydd ar gael i'r Cyngor;

4.

Y cyfleuster cyllido i'w weithredu fel trefniant tynnu i lawr - arian i'w ddefnyddio pan fo angen yn unig;

5.

Dirprwyo’r broses o gymeradwyo’r cyllid i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ar y cyd â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, a bydd hyn yn cael ei weinyddu fel a ganlyn:-

a)    Rhyddhau cyllid dim ond:

i)             Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan Fwrdd y Cwmni a Gr?p Cyfranddalwyr CWM Environmental Ltd;

ii)            Pan fydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn fodlon y darperir ar gyfer ad-daliadau'r benthyciad yng Nghynllun Busnes y Cwmni a'u bod yn fforddiadwy

b)   Bydd yr elfennau terfynol ynghylch y cytundeb benthyciad manwl yn cael eu dirprwyo i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol

 

7.

AILDDATBLYGU ORIEL MYRDDIN pdf eicon PDF 866 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion i ailddatblygu Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin i gael ei ariannu ar y cyd gyda chymorth cynnig grant amodol o £1m gan Gyngor Celfyddydau Cymru ynghyd â mewnbwn cyfalaf gan y Cyngor Sir, gyda'r gost wirioneddol yn dibynnu ar yr opsiwn ailddatblygu a ddewisir. Cyflwynwyd y pedwar opsiwn canlynol i'r Bwrdd eu hystyried:-

1.    Symud ymlaen gyda chynllun cam 3 presennol RIBA, yr opsiwn a ffefrir – cyfraniad cyllid cyfalaf y Cyngor o £ 890k;

2.    Cyd-leoli gyda Hwb Caerfyrddin yn yr adeilad presennol - cyfraniad cyllid cyfalaf y Cyngor o £ 890k;

3.    Cyd-leoli gyda Hwb Caerfyrddin ar Heol y Brenin trwy brynu/prydlesu adeiladau cyfagos i ddarparu'r gofod gofynnol - cyfraniad cyllid cyfalaf y Cyngor o £1.640m;

4.    Cynnal y sefyllfa bresennol – cyllid o £100k gan y Cyngor i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol, pe bai'n bwriadu cymeradwyo'r cynigion ailddatblygu ar gyfer yr Oriel, byddai'r gymeradwyaeth honno yn amodol ar y Cyngor yn dyrannu cyllid i'r cynllun yn ei gyfarfod cyllideb i'w gynnal ar 3 Mawrth 2020.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylai'r Cyngor fwrw ymlaen ag ailddatblygu Oriel Myrddin ar sail Opsiwn 1, ar yr amod bod y Cyngor yn dyrannu cyllid i'r cynllun yn ei gyfarfod cyllideb i'w gynnal ar y 3 Mawrth 2020.

8.

CYNLLUN CARBON SERO-NET pdf eicon PDF 487 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol bod y Cyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror, 2019, wedi mabwysiadu'r Hysbysiad o Gynnig canlynol sef:

 

1.    Datgan Argyfwng Hinsawdd,

2.    ymrwymo i ddod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030,

3.    datblygu cynllun clir ar gyfer bod yn awdurdod carbon sero-net o fewn 12 mis,

4.    galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu'r cymorth ac adnoddau angenrheidiol er mwyn ein galluogi i leihau carbon yn effeithiol,

5.    gweithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddatblygu cyfleoedd cyffrous i gyflawni arbedion carbon,

6.    cydweithio ag arbenigwyr o'r sector preifat a'r trydydd sector i ddatblygu atebion arloesol i ddod yn awdurdod carbon sero-net.

 

Yn unol â phenderfyniad y Cyngor, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi llwybr tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol fod Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, yn ei gyfarfod ar 15Tachwedd 2019, wedi argymell i'r Bwrdd Gweithredol gymeradwyo'r cynllun.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

8.1

bod y Cynllun Carbon Sero-net sy'n amlinellu llwybr tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030 yn cael ei fabwysiadu,

8.2

rhoi awdurdod dirprwyedig i Swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Cynllun Carbon Sero-net.

 

9.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYMERADWYAETH I WEITHREDU CYNIGION FFEDERASIWN (DAN ARWEINIAD YR AWDURDOD LLEOL) pdf eicon PDF 334 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gyflwyno proses ar gyfer penderfynu ar gynigion i ffedereiddio ysgolion. (Cynigion a arweinir gan yr Awdurdod Lleol) ac, yn benodol, dirprwyo'r penderfyniad hwnnw i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd bod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020, wedi argymell y dylai'r Bwrdd Gweithredol ymgymryd â'r penderfyniad ar y cynigion ffedereiddio ac nid yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid dirprwyo'r gymeradwyaeth ar gyfer gweithredu'r Cynigion i Ffedereiddio Ysgolion (dan arweiniad yr Awdurdod Lleol) i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant.

10.

CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL (DRAFFT) pdf eicon PDF 270 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cynllun Cydraddoldeb Strategol Drafft y Cyngor 2020-24, a gynhyrchwyd yn unol â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 a oedd yn cynnwys Dyletswydd Sector Cyhoeddus newydd, gan ddisodli'r dyletswyddau ar wahân o ran hil, anableddau a chydraddoldeb rhwng y rhywiau.  Nodwyd bod Dyletswydd Gyffredinol y Ddeddf yn cynnwys y nodweddion gwarchodedig a nodir isod, gyda'r nod o sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus a'r rhai sy'n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus yn ystyried sut y gallent gyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas decach drwy hyrwyddo cydraddoldeb a pherthynas dda yn eu gweithgareddau pob dydd:-

·         Oed

·         Anabledd

·         Ailbennu rhywedd

·         Priodas a phartneriaeth sifil

·         Beichiogrwydd a mamolaeth

·         Hil

·         Crefydd neu Gred

·         Rhyw

·         Cyfeiriadedd rhywiol

 

Roedd y Ddyletswydd Gyffredinol yn gydnaws â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyda chydraddoldeb a chydlyniant yn amlwg fel dau o'r saith nod llesiant.

 

Nododd y Bwrdd fod y cynllun wedi'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR EI FOD YN:

 

10.1

Cymeradwyo'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol (Drafft) ar gyfer ei weithredu o Ebrill 2020;

10.2

Cytuno i'r Amcanion Ansawdd Strategol (Drafft) a datblygu cynllun gweithredu manwl i ategu'r amcanion hynny;

10.3

Cytuno i ymgysylltu ymhellach â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol mewn dau ddigwyddiad a gynhelir gan Fforwm Cydraddoldeb Sir Gaerfyrddin, sy'n dwyn ynghyd sefydliadau ac unigolion sy'n cynrychioli'r grwpiau gwarchodedig

 

11.

PANEL YMGYNGHOROL ADOLYGU CLUDIANT I'R YSGOL pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2020, ei fod wedi cytuno i sefydlu Panel Ymgynghorol Cludiant i’r Ysgol sy'n cynnwys yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd ynghyd â 6 aelod ar sail drawsbleidiol. Yn unol â'r penderfyniad hwnnw, bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad ar Gylch Gorchwyl arfaethedig y Panel ynghyd â'r aelodaeth arfaethedig fel a ganlyn, a enwebwyd gan grwpiau gwleidyddol y Cyngor:-

 

Gr?p Plaid Cymru (3)

Y Cynghorwyr Mansel Charles, Ann Davies, Ken Howell.

 

Gr?p Llafur (1)

Cynghorydd Dot Jones

 

Y Gr?p Annibynnol (1l)

Y Cynghorydd Irfon Jones

 

Y Gr?p Annibynnol Newydd (1)

Y Cynghorydd Louvain Roberts

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd D Cundy, yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 11, at aelodaeth drawsbleidiol y Panel Ymgynghorol ar Gludiant Ysgol a gofynnodd a ddylai gynnwys 2 aelod o bob gr?p gwleidyddol a bod y cyfarfodydd yn cael eu gwe-ddarlledu yn ysbryd gonestrwydd, a bod yn agored a thryloyw.

 

Atgoffodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd y Bwrdd am y newid yn neddfwriaeth y llywodraeth a oedd wedi arwain at y sefyllfa bresennol. Cadarnhaodd fod aelodau arfaethedig y Panel Ymgynghorol yn drawsbleidiol, gyda chynrychiolwyr o bob un o bleidiau gwleidyddol y Cyngor. Er nad oedd cyfarfodydd y Panel Ymgynghorol yn gyfarfodydd cyhoeddus, ac nid oedd unrhyw gynlluniau i'w gwe-ddarlledu, byddai argymhellion y Panel yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol, ac mae cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol yn cael eu gwe-ddarlledu

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cymeradwyo'r Cylch Gorchwyl ac aelodaeth y Panel Ymgynghorol ar Gludiant Ysgol ar draws y pleidiau.

12.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau