Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 7fed Mai, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas.  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 1AF EBRILL 2019 pdf eicon PDF 211 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2019 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018 - 2033 FERSIWN DDRAFFT O'R STRATEGAETH CYN-ADNEUO A FFEFRIR pdf eicon PDF 348 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad arFersiwn Ddrafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir ar Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 a luniwyd mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr, 2018 i ddechrau ar y gwaith o baratoi cynllun diwygiedig a oedd yn cynrychioli carreg filltir bwysig i’r Cyngor o ran cyflawni ei gyfrifoldebau statudol i baratoi cynllun cyfredol ar gyfer y Sir (ac eithrio'r ardal sy'n dod o fewn awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog)

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys 344 o sylwadau a ddaeth i law mewn ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng 12 Rhagfyr, 2018 a'r 8 Chwefror, 2018. Roedd y sylwadau hynny, ynghyd ag ymatebion ac argymhellion y swyddogion a chefndir y strategaeth a ffefrir, wedi’u cynnwys yn yr atodiadau canlynol i'r adroddiad:-

 

·         Atodiad 1 – Fersiwn Ddrafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir – Cefndir;

·         Atodiad 2 – Strategaeth a Ffefrir – Crynodeb o'r Sylwadau a'r Ymatebion -Argymhellion;

·         Atodiad 3 – Arfarniad Cynaliadwyedd/Adroddiad Cychwynnol yr Asesiad Amgylcheddol Strategol – sylwadau a ddaeth i law;

·         Atodiad 4 – Adroddiad Sgrinio yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd – sylwadau a ddaeth i law;

·         Atodiad 5 – Arfarniad Cynaliadwyedd/Adroddiad Cwmpasu'r Asesiad Amgylcheddol Strategol – sylwadau a ddaeth i law

 

Tynnwyd sylw'r Bwrdd Gweithredol at sylwadau Llywodraeth Cymru lle cyfeiriwyd at y ffaith bod yn rhaid i'r Cyngor sicrhau bod y Cynllun yn rhoi sylw i'r Llawlyfr Drafft (Argraffiad 3) Pennod 5: Paratoi CDLl (Materion Craidd) a oedd yn manylu ar y materion allweddol y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt. Er nad oedd y Llawlyfr Drafft wedi dod i law eto, rhoddwyd sicrwydd i’r Bwrdd y byddai'r elfennau perthnasol yn cael sylw yn y Cynllun. Nodwyd hefyd y bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu  - Cymunedau yr wythnos honno, ac y byddai unrhyw argymhellion/canfyddiadau yn cael eu cyflwyno'n uniongyrchol i'r Cyngor ar 15 Mai.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR :-

 

6.1

 bod y sylwadau a ddaeth i law o ran y Fersiwn Ddrafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir  yn cael eu nodi a bod yr argymhellion yn cael eu cadarnhau

6.2

bod y sylwadau ddaeth i law o ran yr Arfarniad Cynaliadwyedd/Adroddiad Cychwynnol yr Asesiad Amgylcheddol Strategol, Adroddiad Sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ac Adroddiad Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu nodi a’r argymhellion yn cael eu cadarnhau

6.3

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion gyflawni'r canlynol:-

·            newid y Strategaeth a Ffefrir yng ngoleuni'r argymhellion sy'n deillio o broses yr Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol, yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a'r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg fel rhan o’r paratoadau ar gyfer y Fersiwn Adneuol o'r Cynllun Datblygu Lleol;

·            gwneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol ansylweddol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Cytundeb Cyflawni.

 

 

7.

CAIS I’R GRONFA DDATBLYGU pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi cais a gyflwynwyd gan yr Adran Cymunedau i Gronfa Ddatblygu'r Cyngor i gael cymorth ariannol i ddarparu Cwrs Golff Bach ar ffurf thema ym Mharc Gwledig Pen-bre, sy’n gyfanswm o £150k, i'w ad-dalu dros gyfnod o bedair blynedd.

 

Rhoddodd yr adroddiad ddiweddariad ar y Gronfa Ddatblygu a nododd fod swm o £164k ar gael ar unwaith i'w ddyrannu ar gyfer cynlluniau newydd, a gofynnwyd hefyd i'r Bwrdd ystyried gohirio'r ad-daliad tan 2021/22 o'r trosglwyddiad blaenorol o £500K i'r Gronfa Ddatblygu o'r Gronfa wrth Gefn a glustnodwyd ar gyfer Yswiriant yn 2016/17, er mwyn sicrhau bod arian ychwanegol ar gael ar gyfer ceisiadau diweddar.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1

Cymeradwyo swm o £150k ar gyfer Cwrs Golff Bach newydd ar ffurf thema ym Mharc Gwledig Pen-bre er mwyn cynhyrchu rhagor o incwm;

7.2

Bod yr ad-daliad ar gyfer y cynllun yn para dros gyfnod o bedair blynedd;

7.3

Bod yr ad-daliadau i'r Gronfa wrth Gefn a glustnodwyd ar gyfer Yswiriant o'r Gronfa Ddatblygu yn cael eu gohirio hyd 2021/22.

 

 

8.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o ran materion brys.

 

9.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R

MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH

EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4

O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I

DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL

(MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS

BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN

PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER

HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y

CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

10.

CONTRACTAU TAITH PRYDAIN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 9 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ariannol fanwl yn ymwneud â chontractau Taith Prydain.Er y byddai'r cyhoedd o blaid tryloywder a bod yn agored, roedd hyn yn cael ei wrthbwyso gan brawf budd y cyhoedd o ran cynnal cyfrinachedd oherwydd yr angen i ddiogelu elfennau ariannol y Cyngor pe bai'n gwneud cais am unrhyw ddigwyddiadau pellach o'r fath.

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gontractau arfaethedig i'r awdurdod gynnal cymalau Taith Prydain yn y dyfodol yn Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr argymhellion yn yr adroddiad i'r awdurdod ymrwymo i gontractau i gynnal cymalau Taith Prydain yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu cymeradwyo.