Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd C.A. Campbell.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

E. Dole

10.         11 - Gwared Tir â Risgiau Cysylltiedig

Ei eiddo yn ffinio ag un o'r safleoedd a nodwyd.

 

 

 

 

3.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

5.

SAFONAU LLYFRGELLOEDD CYHOEDDUS CYMRU 2017-2020 pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad ynghylch Asesiad Blynyddol Gwasanaethau Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin 2017/18, a luniwyd yn unol â gofynion Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, a osododd ddyletswydd statudol ar yr holl Awdurdodau Llyfrgelloedd Cyhoeddus i 'ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithiol' ac ar Weinidogion Cymru i 'oruchwylio a hyrwyddo'r gwaith o wella' gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru.

 

Yn unol â'r gofynion hyn, roedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau ei hasesiad o Wasanaeth Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2017/18. 

 

Roedd yn braf gweld bod Sir Gaerfyrddin yn bodloni pob un o'r 12 o hawliau craidd yn llawn, ac o'r deg dangosydd ansawdd oedd â thargedau, roedd Sir Gaerfyrddin wedi cyflawni naw yn llawn ac un yn rhannol. 

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

 

 

6.

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I NEWID NATUR Y DDARPARIAETH YN YSGOL RHYS PRITCHARD pdf eicon PDF 184 KB

Dogfennau ychwanegol:

7.

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I NEWID NATUR Y DDARPARIAETH YN YSGOL Y DDWYLAN, YSGOL GRIFFITH JONES, YSGOL LLANGYNNWR AC YSGOL LLYS HYWEL pdf eicon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd gynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel.

 

Er mwyn gwireddu'r weledigaeth ar gyfer Sir Gâr ddwyieithog, fel y nodwyd yng Nghynlluniau Strategol Llywodraeth Cymru a Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin, bydd angen i'r Awdurdod sicrhau twf sylweddol mewn addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cynyddu nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

Er mwyn gallu cynyddu'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, un o amcanion yr Awdurdod yw cynorthwyo ein hysgolion dwy ffrwd a thrawsnewidiol i ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.  Cynigwyd felly, i newid natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel i gyfrwng y Gymraeg gyda'r dewis o gyfrwng iaith yn cael ei gyflwyno yng Nghyfnod Allweddol 2, o 1 Medi 2020 ymlaen.

 

Bydd y cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynnig yn dechrau ar 20 Mai 2019 ac yn dod i ben ar 30 Mehefin 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1 bod y cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel, fel y manylir arno yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo;

7.2.     bod swyddogion yn cychwyn ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y cynnig yn ystod tymor yr haf 2019;

7.3. bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol i'w ystyried ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori statudol.

 

8.

BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad yn rhoi manylion am ganfyddiadau a goblygiadau'r adolygiadau diweddar a gynhaliwyd mewn perthynas â Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

 

Ym mis Rhagfyr 2018 cyhoeddodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru y byddai adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal ynghylch Bargen Ddinesig Bae Abertawe.  Yn ogystal, penderfynodd Cyd-bwyllgor Bae Abertawe, yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2018, y byddai adolygiad mewnol i drefniadau llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe hefyd yn cael ei gynnal ochr yn ochr ag Adolygiad Annibynnol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Cytunwyd y byddai Cyngor Sir Penfro yn arwain yr Adolygiad Mewnol, ac yn cael ei gefnogi gan Uwch-archwilydd a enwebwyd o Gynghorau Sir Caerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

 

Roedd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi ystyried a derbyn yn ffurfiol ganfyddiadau adolygiadau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a'r Cyd-bwyllgor Mewnol yn ei gyfarfod ar 26 Mawrth, 2019. Roedd Bwrdd y Rhaglen wedi cael y dasg o ddatblygu cynllun gweithredu i symud yr argymhellion yn eu blaenau ac adrodd yn ôl i'r Cyd-bwyllgor nesaf a oedd i'w gynnal ar 28 Mai 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1 bod Adolygiad Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac Adolygiad Cyd-bwyllgor Bae Abertawe yn cael eu derbyn;

8.2    parhau i adolygu cynnydd mewn perthynas â Bargen Ddinesig Bae Abertawe;

8.3   dirprwyo i'r Arweinydd, ar y cyd â'r Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151, yr awdurdod i gytuno ar newidiadau, lle ystyrir bo hynny'n briodol, i Gytundeb y Cyd-bwyllgor yn unol ag argymhellion yr adolygiadau.     Ni fyddai'r newidiadau yn berthnasol i unrhyw newid perthnasol i rwymedigaethau cyfreithiol ac ariannol y Cyngor o dan Gytundeb y Cyd-bwyllgor, oherwydd caiff materion o'r fath eu cadw i'r aelodau benderfynu yn eu cylch.

 

9.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

10.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

 

11.

GWAREDU TIR Â RISGIAU CYSYLLTIEDIG - EITHRIEDIG

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL,  yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat, gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd byddai datgelu cynnwys yr adroddiad hwn yn gwanhau sefyllfa'r Awdurdod mewn trafodaethau â darpar brynwyr ac o bosibl yn arwain at lai o dderbyniadau cyfalaf i gyllid cyhoeddus nag a fyddai'n digwydd fel arall.  Felly roedd budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu cynnwys yr adroddiad.

 

[NODER: Roedd y Cynghorydd E. Dole wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar y cynigion oedd wedi dod i law am safleoedd diangen sydd â risgiau posibl a chostau cynnal a chadw uchel sy'n gysylltiedig â defnyddiau blaenorol a phresennol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y 9 safle a nodwyd yn cael eu gwerthu yn unol â'r argymhellion fel y manylir yn yr adroddiad.

 

 

12.

TIR DATBLYGU, TROSTRE, LLANELLI - EITHRIEDIG

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd byddai datgelu cynnwys yr adroddiad hwn yn anfantais faterol i'r Awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydyddpartïon, a gallai cael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus. Felly roedd budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu cynnwys yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad yn manylu ar gynigion a oedd wedi dod i law am 3 llain o dir datblygu yn Nhrostre. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

12.1    bod llain 1 yn cael ei waredu yn unol ag opsiwn D, fel y manylir arno yn yr adroddiad;

12.2    parhau i farchnata lleiniau 2 a 3.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau