Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Cefin Campbell a Jane Tremlett.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

Emlyn Dole

5 CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: Y GRONFA CYLLID A DARGEDIR A CHRONFA'R DEGWM

·         Cais y TFF/18/05:

Mae ei ?yr yn mynychu Ysgol Pontyberem;

·         Cais WCF/18/07:

Mae'r Cynghorydd Dole yn Weinidog rhan-amser Capel Annibynnol Caersalem

 

 

3.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

4.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: Y GRONFA CYLLID A DARGEDIR A CHRONFA'R DEGWM pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd E. Dole, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y Siambr tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod.)

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cyllid a Dargedir a Chronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Y Gronfa Cyllid a Dargedir

Ymgeisydd                                                                                      Dyfarniad

Cyngor Cymuned Pontyberem, Pontyberem                        £20,000.00

      

Cronfa'r Degwm

 

Ymgeisydd                                                                                      Dyfarniad

Capel Annibynnol Caersalem, Pontyberem                  £2181.25

 

6.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fusnes brys.

 

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI Fod YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. 

 

8.

ACHOS BUSNES YR EGIN

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 7 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig a geir yn yr adroddiad, sy'n cynnwys manylion ynghylch y cyllid sy'n debygol o fod ar gael, a gallai ddatgelu'r wybodaeth honno cyn caffael contractwr ar gyfer Cam 2 y gwaith adeiladu amharu ar safbwynt y caffaelwr.

 

Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth allweddol am Achos Busnes Yr Egin. Roedd Achos Busnes Llawn manwl a dogfennau atodol ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol, yn dilyn cwblhau Cam 1 y prosiect yn llwyddiannus, fod y gwaith ar gyfer Cam 2 i fod i ddechrau ym mis Rhagfyr 2018, a rhagwelir y byddai wedi'i gwblhau ac yn cael ei ddefnyddio erbyn mis Mawrth 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1.         Cyflwyno Achos Busnes Llawn Yr Ergin i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a i'w gymeradwyo;

 

8.2.         Bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, reoli'r ddarpariaeth ariannol, yn cynnwys benthyca, fel y bo'r angen.

 

9.

ACHOS BUSNES PENTREF GWYDDOR BYWYD A LLESIANT LLANELLI

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 7 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan fod yr adroddiad yn cynnwys yr achos busnes a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i'w gymeradwyo ac mae'n cynnwys amcan o'r costau dangosol, a gallai datgelu'r costau dangosol cyn caffael contractwr y gwaith adeiladu amharu ar safbwynt y caffaelwr.

 

Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth allweddol am Achos Busnes Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli. Roedd yr Achos Busnes Llawn a dogfennau ategol ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Er bod y Bwrdd Gweithredol yn fodlon bod y Cynllun Busnes 5 Achos yn gadarn ac yn barod i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'w gymeradwyo, roedd aelodau'n ymwybodol o'r digwyddiadau a'r adroddiadau diweddar yn y wasg. Felly, ystyriwyd ei fod yn angenrheidiol i adolygu'r prosiect a cheisio sicrwydd pellach gan Swyddogion, gan gynnwys barn gyfreithiol arbenigol allanol, er mwyn dangos bod yr holl brosesau priodol wedi cael eu dilyn a bod arian cyhoeddus yn cael ei ddiogelu'n llawn.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol mai bwriad y Cytundeb Cydweithio â Phrifysgol Abertawe a Sterling Health Security Holdings yn y bôn oedd cwblhau Cytundeb Datblygu er mwyn bwrw ati â'r Cynllun.  Gan nad oedd y Cytundeb Datblygu hwn wedi'i gwblhau, nid oes gan y Cyngor ymrwymiad cyfreithiol rhwymol nac atebolrwydd eto.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd swyddogion ei fod yn hollol ymarferol i ystyried dull arall o gyflawni'r Cynllun. Eglurwyd y byddai Sefydliad Gwyddor Bywyd yn cael ei adeiladu ar gyfer Prifysgol Abertawe, byddai cyfleusterau iechyd yn cael eu hadeiladu ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda a byddai cyfleusterau hamdden yn cael eu hadeiladu ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin. Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol y byddai Cyngor Sir Caerfyrddin yn gallu adeiladu'r rhain heb unrhyw bartneriaid datblygu. Yn ogystal, roedd swyddogion yn hyderus y gallai'r Cyngor Sir sicrhau'r elfennau allweddol eraill a chael cyllid preifat ei hun os byddai angen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1.        Cymeradwyo, mewn egwyddor, cyflwyno Achos Busnes Llawn Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli yn ffurfiol i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i'w gymeradwyo;

 

9.2.        Bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, mewn ymgynghoriad â'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, reoli'r ddarpariaeth ariannol, yn cynnwys benthyca, fel y bo'r angen;

 

9.3.        Cyn cymryd unrhyw gamau pellach, cyfarwyddo swyddogion i roi sicrwydd bod yr holl brosesau cyfreithiol priodol wedi cael eu dilyn ac adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol yn unol â hynny;  

9.4.        Gofyn i swyddogion ystyried dulliau darparu eraill er mwyn sicrhau y gellir cwblhau'r buddsoddiad pwysig iawn hwn, y mae angen mawr amdano yn Llanelli.

 

10.

HEN SAFLE GRILLO, PORTH TYWYN

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 7 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai cael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.

 

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ar hen safle Grillo ym Mhorth Tywyn ynghyd â dogfennau ategol. Ar hyn o bryd, mae'r safle mewn dwylo preifat, yn 7.34 erw ac yn ffinio â thir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn amlygu y byddai datblygu'r safle yn cefnogi dyheadau adfywio'r Cyngor ar gyfer Porth Tywyn ac yn cyflawni Prif Gynllun Porth Tywyn. 

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol, heb ymyrraeth gan y Cyngor, y byddai'n annhebygol y byddai'r safle hwn yn cael ei gyflwyno ar gyfer ei ddatblygu yn y dyfodol agos. Yn ogystal, byddai'r datblygiad yn darparu tai y mae angen mawr amdanynt mewn ardal lle mae galw mawr, a byddai elfen fasnachol y datblygiad yn creu cyfleoedd cyflogaeth newydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

10.1.   Cymeradwyo caffael hen safle Grillo, Porth Tywyn, ar sail Dewis 3, fel y nodwyd yn yr adroddiad;

 

10.2.   Darparu cyllid drwy'r Gronfa Ddatblygu (£1.5m) a'r Gronfa Datblygiadau Mawr(£500k) ar sail yr egwyddor buddsoddi er mwyn arbed.

 

11.

LÔN JACKSON CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o danseilio hyfywedd y datblygiad arfaethedig.

 

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ar ddatblygiad masnachol diwygiedig yn Lôn Jackson, Caerfyrddin.

 

Nodwyd bod cynnig y Datblygwr yn unol â gweledigaeth y Cyngor Sir ar gyfer yr ardal a byddai'n cyd-fynd â nodau'r prif gynllun canol tref, sydd â chefnogaeth Fforwm Tref Caerfyrddin.

 

Penderfynwyd yn unfrydol fwrw ati â'r datblygiad yn Lôn Jackson ar sail Dewis 3, fel y nodwyd yn yr adroddiad

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau