Agenda a Chofnodion

Bwrdd Gweithredol
Dydd Llun, 1af Gorffennaf, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

E. Dole

7 – Parc Sglefrio Riot

Aelod o Gyngor Cymuned Llannon

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 3 MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 3 Mehefin 2019 yn gofnod cywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau. Fodd bynnag, yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 11.1, roedd y Cynghorydd D.M. Cundy wedi cyflwyno cwestiwn drwy e-bost yn gofyn am ganiatâd i ofyn ei gwestiwn mewn perthynas ag eitem 6 ar yr agenda yn ei absenoldeb.

 

 

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

6.

GRŴP GORCHWYL MATERION GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN: ADRODDIAD AC ARGYMHELLION pdf eicon PDF 419 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 11.1, gofynnodd yr Arweinydd, yn absenoldeb y Cynghorydd Deryk Cundy, y cwestiwn canlynol ar ei ran:-

 

“Yn gyntaf hoffwn i ganmol Gr?p Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin ar adroddiad arbennig a si?r o fod yr un mwyaf manwl o'i fath ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

Mae nifer o argymhellion ardderchog ynddo ac mae'r 55 argymhelliad a gymerir ar y cyd yn rhagorol o ran eu cwmpas, ehangder a dyheadau.

 

Yr unig bryder sydd gennyf yw'r ansicrwydd presennol ynghylch y nifer sy'n manteisio ar Gredyd Cynhwysol, adolygiadau PIP ac wrth gwrs Brexit a'r effaith y bydd y newidiadau hyn yn ei chael ar yr economi ehangach a chyllid penodol ar gyfer y gwahanol brosiectau.

Mae angen i ni baratoi'n ariannol ar gyfer y tymor byr i ganolig (Y Cyfnod Pontio) a bod yn ofalus sut y byddwn yn gweithredu'r argymhellion a sut rydym yn eu blaenoriaethu. 

 

Heb gyllid digonol, ni ellir darparu nifer os nad y rhan fwyaf o'r prosiectau a fyddai'n gam mawr yn ôl.

 

Ymddengys i mi ei bod yn hanfodol ein bod yn rhoi cyllid mewn lle yn lle'r cyllid hwnnw yr ydym ar fin ei golli, gan gynnwys CAP, LEADER, Taliadau Uniongyrchol a'r Gronfa Mentrau Gwledig, hynny yw heb y gostyngiad cyson mewn Cymorth Budd-dal dros Gredyd Cynhwysol a PIP sy'n taro'r Gwariant Gwledig ac a fydd o ganlyniad yn cael effaith ar adwerthu lleol o bob math.

 

Fy nghwestiwn i yw:

 

Drwy wneud hyn, sut fyddech chi'n blaenoriaethu cyllid a chamau gweithredu a phryd - er enghraifft:

 

·         Argymhelliad 39 - Cysylltu â Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllun newydd yn lle CAP a'r cyllid o ran Cynhyrchu a Meithrin a pharhad Taliadau Uniongyrchol hyd nes y deallir effeithiau llawn Brexit,

·         Argymhelliad 12 – Creu daliadau bach a'i ehangu i gynnwys ffermydd sy'n methu a ariennir gennym ni,

·         Argymhelliad 34 ynghylch y prosesu lleol ar unwaith i ddiogelu ein sector cynhyrchu a dosbarthu llaeth,

·         Argymhelliad 47 - Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy,

·         Argymhelliad 54 – trafodaethau parhaus gyda'r holl randdeiliaid

 

…gan fod angen i ni weithredu nawr……”

 

Nododd yr Arweinydd wrth y Bwrdd Gweithredol y byddai'r Cynghorydd Cundy yn cael ymateb ysgrifenedig.

 

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad ynghylch Gr?p Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin a oedd, yn dilyn adolygiad ynghylch y materion allweddol a oedd yn wynebu cymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin wrth symud ymlaen, yn cynnwys nifer o argymhellion.

 

Cadeiriwyd y Gr?p Gorchwyl trawsbleidiol a sefydlwyd ym mis Medi 2017 gan y Cynghorydd Cefin Campbell ac roedd yn cynnwys tri chynrychiolydd o bob gr?p gwleidyddol.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar yr argymhellion canlynol ac yn adrodd ar un ar ddeg maes dylanwad y gallai'r Cyngor effeithio arnynt o ran cymunedau gwledig y Sir fel a ganlyn:

 

·         Datblygu economaidd

·         Cynllunio a thai

·         Addysg a sgiliau

·         Band eang a sgiliau digidol

·         Twristiaeth

·         Trafnidiaeth a phriffyrdd

·         Amaethyddiaeth a bwyd

·         Cydnerthu cymunedol, mynediad i wasanaethau a'r trydydd sector

·         Ynni adnewyddadwy

·         Amgylchedd a gwastraff

·         Y Ffordd Ymlaen.

 

Nododd yr adroddiad fod tystiolaeth  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

PARC SGLEFRIO ‘RIOT’ pdf eicon PDF 563 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Gadawodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Emlyn Dole, a oedd wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, Siambr y Cyngor ac ni wnaeth gymryd rhan yn ystyried a phleidleisio ar yr eitem. Yn absenoldeb yr Arweinydd, cymerodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Stephens, le'r Cadeirydd ar gyfer yr eitem hon.]

 

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn esbonio bod Pwyllgor Parc Sglefrio Riot y Sir wrthi'n llunio ceisiadau am gyllid ar gyfer datblygu Parc Sglefrio.  Ceisiodd yr adroddiad gymeradwyaeth i neilltuo arian tuag at ddatblygu parc sglefrio ar gyfer y Sir a fyddai'n helpu i sicrhau arian o ffynonellau eraill.

 

Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y byddai'r Parc Sglefrio yn darparu cyfleuster yr oedd ei angen yn fawr ar bob oedran, gr?p a gallu.  Yn ogystal, roedd Pwyllgor Parc Sglefrio Riot yn awyddus i hyrwyddo diwylliant sglefrfyrddio yn Sir Gaerfyrddin fel modd o hybu llesiant i bobl ifanc yn yr ardal. Yn ogystal, nodwyd bod ymchwil yn dangos bod Parciau Sglefrio yn lleihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ogystal â chael manteision sylweddol o ran iechyd corfforol a meddyliol.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol mai'r gost ddangosol ar gyfer datblygu'r Parc Sglefrio oedd £500,000 ac y byddai'r prosiect yn cael ei reoli gan Gyngor Cymuned Llannon mewn partneriaeth â Phwyllgor Parc Sglefrio Riot.  Roedd cynllun busnes manwl, yn cynnwys dyluniadau a chostau, yn cael ei ddatblygu ac roedd ceisiadau am arian cyfatebol yn cael eu gwneud gan amrywiaeth o raglenni ariannu a oedd yn cynnwys Rhaglen Pobl a Lleoedd y Loteri Genedlaethol.

 

Cynigiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y dylai'r Bwrdd Gweithredol gefnogi'r prosiect drwy ymrwymo i ddarparu arian cyfatebol o hyd at £250k tuag at gost Prosiect y Parc Sglefrio, a fyddai'n helpu i sicrhau arian grant arall.  Yn ogystal, bydd ymrwymiad y cyfraniad ariannol gan yr Awdurdod yn destun adolygiad o'r cynllun busnes terfynol a chadarnhad bod y pecyn ariannu llawn tuag at y gost wedi'i sicrhau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1     Ymrwymo i ddarparu arian cyfatebol gwerth hyd at £250k tuag at gost Prosiect y Parc Sglefrio, a fydd yn helpu i sicrhau arian grant arall;

 

7.2    Byddai ymrwymiad y cyfraniad ariannol gan yr Awdurdod, yn destun adolygiad o'r cynllun busnes terfynol a chadarnhad bod y pecyn ariannu llawn tuag at y gost wedi'i sicrhau.

 

 

8.

ADOLYGIAD LLYWODRAETHU A GWYTNWCH YMDDIRIEDOLAETH ORIEL MYRDDIN pdf eicon PDF 572 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Noder: Dychwelodd y Cynghorydd Emlyn Dole ac ailgychwyn cadeirio'r cyfarfod.]

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch Adolygiad o Lywodraethu Ymddiriedaeth  Oriel Myrddin.  Comisiynwyd adolygiad Llywodraethu a Chydnerthedd er mwyn cynnig ffordd ymlaen ac yn gyfochrog ag uchelgais yr ymddiriedolaeth i ailddatblygu'r Oriel.

 

Darparodd yr adroddiad wybodaeth fanwl am ganlyniadau'r adolygiad fel a ganlyn:-

­   Cefndir

­   Pwrpas

­   Llywodraethu a phontio

­   Cydnerthedd 

­   Prosiect cyfalaf

­   Argymhellion

 

Comisiynwyd Adolygiad Llywodraethu a Chydnerthedd o Ymddiriedolaeth Oriel Myrddin a'i gynlluniau ar gyfer ailddatblygu yn ystod 2018 gyda'r bwriad o egluro rolau a chyfrifoldebau'r rhanddeiliaid a llywio strwythurau i gefnogi cynllun ailddatblygiad cyfalaf.  Roedd map ffordd llywodraethu wedi'i ddatblygu a oedd yn olrhain taith yr Ymddiriedolaeth drwy'r cyfnod pontio lle'r oedd gan Gyngor Sir Caerfyrddin rôl allweddol i'w chwarae.

 

Er bod yr Ymddiriedolaeth wedi cyflwyno ceisiadau i Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin am arian cyfalaf i helpu i gefnogi ailddatblygu'r oriel, byddai'r cais i Gyngor Sir Caerfyrddin yn destun adroddiad yn y dyfodol.  Yn ogystal, byddai newidiadau yn y strwythur llywodraethu yn angenrheidiol p'un ai y byddai'r prosiect ailddatblygiad cyfalaf yn cael ei gefnogi ai peidio.

 

Er mwyn cydymffurfio â'r amgylchedd cyfreithiol a rheoleiddiol yr oedd yr Ymddiriedolaeth yn gweithredu ynddo, roedd yr adroddiad yn cynnwys argymhelliad y byddai angen "daduno" Ymddiriedolaeth Oriel Myrddin a Chyngor Sir Caerfyrddin.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol mai'r opsiynau ar gyfer y Cyngor oedd naill ai cefnogi'r Ymddiriedolaeth i wella, heb fuddsoddiad cyfalaf neu gefnogi'r Ymddiriedolaeth i wella a buddsoddi yn y cynllun cyfalaf. Byddai potensial y cynllun cyfalaf yn destun adroddiad ar wahân.  Gan y byddai angen trafod cyfres o gytundebau gyda'r Ymddiriedolaeth, awgrymwyd y dylid dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cymunedau, gan ymgynghori â'r Aelod Arweiniol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, i fwrw ymlaen â'r cytundebau hynny ac i ddiffinio natur y berthynas drwy gydol y cyfnod pontio a thu hwnt.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1 bod natur y berthynas ag Ymddiriedolaeth Oriel Myrddin yn y dyfodol yn cael ei nodi;

 

8.2 i ddirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cymunedau, mewn ymgynghoriad â'r aelod arweiniol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, i gytuno ar y trefniadau rheoli rhwng yr Ymddiriedolaeth a Chyngor Sir Caerfyrddin dros gyfnod o newid.

 

 

9.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o ran materion brys.

 

 

10.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

11.

PROSIECT CAM 1 RE:FIT CYMRU (EFFEITHLONRWYDD YNNI)

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig a geir yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif yn ymwneud â Phrosiect Cam 1 Re:fit Cymru (Effeithlonrwydd Ynni).Er y byddai'r prawf budd i'r cyhoedd fel rheol yn ffafrio tryloywder a diffuantrwydd, roedd y budd i'r cyhoedd o gadw cyfrinachedd yn drech yn yr achos hwn er mwyn diogelu buddiannau masnachol y darparwr mewn perthynas â'i gystadleuwyr masnachol drwy roi gwybodaeth sensitif a chyfrinachol i'r cyhoedd.

 

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am y model Re:fit a oedd yn cynnig arbedion carbon ac ariannol yn ymwneud ag ynni yn adeiladau annomestig y Cyngor.  Roedd yr adroddiad yn nodi telerau ar gyfer cytundeb a fyddai'n datblygu contract perfformiad ynni i ddarparu arbedion effeithlonrwydd ynni yn nifer o adeiladau annomestig y Cyngor.

 

Nodwyd bod Re:fit yn fodel sefydlog a oedd yn darparu arbedion sicr drwy gontractau perfformiad ynni.  Cynllun sy'n cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru yw Re:fit Cymru gyda'r nod o gyflymu gwelliannau o ran effeithlonrwydd ynni ym mhob adeilad sector cyhoeddus yng Nghymru. Gellid cynnwys mesurau arbed ynni megis uwchraddio goleuadau sy'n effeithlon o ran ynni, uwchraddio boeleri, inswleiddio ffabrig ynghyd â thechnolegau ynni adnewyddadwy o fewn prosiectau Re:fit Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

11.1      Bod Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith yn llofnodi'r Contract yn ôl y Gofyn i ymgysylltu â darparwr gwasanaeth ffafredig y Cyngor i ddarparu ei brosiect Cam 1 Re:fit Cymru;

11.2      Derbyn cynnig Rhaglen Cyllid Cymru/Salix o fenthyciad di-log; a

 

11.3      Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, drwy ymgynghori â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, i gymeradwyo'r Contract Gwaith er mwyn sicrhau bod y gwaith yn gallu dechrau yn yr hydref, 2019.