Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i ddisgyblion o Sir Gaerfyrddin a oedd wedi cael llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd yn ddiweddar.
|
|||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|||||
COFNODION Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol oedd wedi eu cynnal ar 7 a 13 Ionawr, 2019 gan eu bod yn gywir.
|
|||||
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||
STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018-23 - DIWEDDARIAD MEHEFIN 2019 PDF 864 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 7 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 4 Mehefin 2018, rhoddwyd ystyriaeth i ddiweddariad Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 yn dilyn adolygu'r Amcanion Llesiant. Bernid ei fod yn arfer da i sicrhau bod y Strategaeth wedi'i diweddaru er mwyn sicrhau bod adnoddau wedi'u dyrannu i flaenoriaethau. Yn ogystal, roedd yr Awdurdod dan rwymedigaeth gyfreithiol i gyhoeddi ei Amcanion Gwella ac adolygu'r Amcanion Llesiant yn flynyddol. Bu i'r Aelodau ganmol cynllun a chynnwys y ddogfen.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR: 6.1 ailgadarnhau'r Strategaeth Gorfforaethol a fabwysiadwyd ym mis Mehefin 2018; 6.2 cadw'r un set o Amcanion Llesiant ar gyfer 2019/20 yn amodol ar rai mân gywiriadau.
|
|||||
YMESTYN GORCHYMYN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS (GORCHMYNION C?N SIR GAERFYRDDIN) PDF 310 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd adroddiad yn manylu ar gynnig i ymestyn Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus 2016 [Gorchmynion C?n Sir Gaerfyrddin] presennol ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Daeth y gorchymyn gwreiddiol i rym ar 1 Gorffennaf 2016 am gyfnod o 3 blynedd ac roedd y cyfnod hwnnw yn dod i ben. Y farn oedd bod angen ymestyn y gorchymyn neu fel arall ni fyddai'r rheolaethau presennol yn berthnasol mwyach ar ôl 1 Gorffennaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 7.1 bod hyd Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (Rheolaethau C?n) Cyngor Sir Caerfyrddin 2016 yn cael ei ymestyn am gyfnod pellach o 3 blynedd o 1 Gorffennaf 2019 ymlaen; 7.2 bod y Cyngor yn gwneud Gorchymyn Ymestyn i weithredu'r estyniad uchod ac yn cymeradwyo Gorchymyn 2016 â geiriad addas er mwyn adlewyrchu'r ffaith fod hyd Gorchymyn 2016 wedi cael ei ymestyn.
|
|||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR PDF 541 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa'r gyllideb fel yr oedd ar 28 Chwefror 2019. Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai tanwariant diwedd blwyddyn o £1,118k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £855k ar lefel adrannol. Rhagwelwyd bod y cyfrif Refeniw Tai yn unol â'r targed ar gyfer 2018/19.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad ynghylch monitro'r gyllideb yn cael ei dderbyn.
|
|||||
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2018-19 PDF 321 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ynghylch gwariant y rhaglen gyfalaf mewn perthynas â chyllideb 2018/19, fel yr oedd ar 28 Chwefror 2019. Yn adrannol rhagwelwyd gwariant net o £49.318m o gymharu â chyllideb net weithredol o £55.993m gan roi £-6.675k o amrywiant.
|
|||||
UNRHYW FATER ARALL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o ran materion brys.
|
|||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|||||
PENTREF LLESIANT A GWYDDOR BYWYD LLANELLI Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 11 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig a geir yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys gwybodaeth ariannol yn ymwneud â gwasanaethau dylunio cam 3 RIBA a fydd yn cael eu darparu. Er y byddai'r budd i'r cyhoedd fel rheol yn ffafrio tryloywder a diffuantrwydd, roedd y budd i'r cyhoedd o gadw cyfrinachedd yn drech yn yr achos hwn er mwyn diogelu buddiannau masnachol y darparwr yn y farchnad ehangach, ynghyd â buddiannau'r Awdurdod at ddibenion ceisio rhagor o wasanaethau dylunio.
Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd a'r amserlen gyflawni yn y dyfodol ar gyfer Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli, ac yn nodi'r angen i gomisiynu rhagor o waith datblygu dyluniad ar gyfer y Fargen Ddinesig ac elfennau hamdden Chyngor Sir Caerfyrddin o ran y Pentref er mwyn cynnal y rhaglen. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL 12.1nodi dibyniaethau'r prosiect a goblygiadau'r llinell amser o ran senarios gwahanol i gyllido'r gwaith o gyflawni cam un y Pentref. Bydd cam un yn cynnwys y Fargen Ddinesig ac elfennau hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin; 12.2cydnabod cerrig milltir y broses a'r gofynion comisiynu ar gyfer y senarios gwahanol a'r effaith ar ddyddiadau cwblhau; 12.3cytuno i symud ymlaen i gam 3 RIBA fesul cam. Y cynnig yw rhannu'r gwaith hwn yn gamau ar wahân gyda'r elfen gyntaf yn costio £600,000. Bydd y gwaith yn mireinio ymhellach y lle, y swyddogaeth a'r dyluniad manwl sy'n gysylltiedig ag ymrwymiad partneriaid ym maes iechyd a'r byd academaidd. Bydd adroddiad dilynol yn cael ei lunio yn sgil cwblhau'r elfen gyntaf hon yn llwyddiannus i geisio cymeradwyaeth i gwblhau gwaith cam 3 RIBA; 12.4 cymeradwyo'r gwariant o £600,000 ar gam 1 gwaith dylunio cam 3 RIBA a chymeradwyo'r cyllid drwy'r Gronfa Wrth Gefn a glustnodwyd ar gyfer y Fargen Ddinesig.
Mr. Mark James C.B.E., Prif Weithredwr Dywedodd y Cadeirydd mai hwn oedd y cyfarfod olaf o'r Bwrdd Gweithredol y byddai Mr. Mark James yn bresennol ynddo ac ar ran yr Aelodau, diolchodd i Mr. James am ei holl arweiniad a dymunodd yn dda iddo i'r dyfodol. Diolchodd Mr. James i'r aelodau am eu dymuniadau da.
|