Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Jenkins  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

P.M.Hughes

10.         10 - Ardrethi Busnes - Cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr a Manwerthu 2019/20

Buddiannau yn y fasnach fanwerthu.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 4YDD O CHWEFROR 2019 pdf eicon PDF 330 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2019 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

PENTREF LLESIANT A GWYDDOR BYWYD LLANELLI pdf eicon PDF 573 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau yn ymwneud â Phentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli a'r sefyllfa bresennol. Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol o'u penderfyniad ar 3 Rhagfyr 2018 i ofyn bod adolygiad cyfreithiol annibynnol yn cael ei gynnal ynghylch trefniadau Llywodraethu a Chaffael Cyhoeddus y prosiect, i gymeradwyo'r achos busnes, ac iddo gael ei anfon ymlaen at Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, a bod dulliau darparu eraill yn cael eu hystyried. Roedd yr adroddiadau a atodwyd dan sylw yn ganlyniad i'r Adolygiad ynghylch Llywodraethu a Chaffael Cyhoeddus ac adolygiad o'r prosiect y gofynnodd y Cyngor amdano gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Roedd y Bwrdd Gweithredol yn falch bod yr adroddiadau yn nodi bod y trefniadau a'r prosesau priodol wedi cael eu dilyn a bod y Cyngor wedi gweithredu'n unol â'r rheoliadau. Mynegwyd pryderon ynghylch yr agweddau negyddol at y prosiect, ond roedd y Bwrdd Gweithredol yn obeithiol y byddai cyhoeddi'r ddau adroddiad yn helpu rhywfaint i leddfu hyn.

 

Nodwyd bod y prosiect yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ac y dylid ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

1.        Bod y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu cynllun busnes 5 achos y Fargen Ddinesig ar gyfer y Pentref yn cael ei derbyn.

2.        Bod canfyddiadau'r adolygiad cyfreithiol annibynnol a gynhaliwyd ynghylch prosesau caffael a llywodraethu'r prosiect, cyn ac ar ôl y Cytundeb Cydweithio, yn cael eu derbyn.

3.        Bod canfyddiadau Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru a oedd yn asesu'r ffordd yr oedd yr Awdurdod wedi rheoli'r broses, risg a llywodraethu ac o ran diogelu arian cyhoeddus, yn cael eu derbyn.

4.        Bod y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiadau sy'n cael eu cynnal ynghylch Rhaglen ehangach y Fargen Ddinesig, sef yr adolygiadau mewnol ar draws yr awdurdodau a'r Cyd-adolygiad Llywodraeth, yn cael ei derbyn.

5.        Bod y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith cynllunio busnes a datblygu dylunio arbenigol a gomisiynwyd i ddatblygu cam un y Pentref, yn cael ei derbyn.

6.        Yn dilyn penderfyniad y Bwrdd Gweithredol, bod Cynllun Busnes y 5 Achos Llawn yn cael ei ailgyflwyno'n ffurfiol i Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig.

7.        Bod y canfyddiadau cyfreithiol a chanfyddiadau Swyddfa  Archwilio Cymru yn cael eu rhannu â:

           Holl Aelodau’r Cyngor

         Arweinwyr Awdurdodau Lleol Cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig

8.        Bod y Prif Weithredwr, drwy ymgynghori â'r Arweinydd, ynghyd â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud y canlynol:

           Symud y trafodaethau yn eu blaenau er mwyn cytuno ar gytundebau partneriaeth addas a'u cwblhau i sicrhau bod y prosiect yn cael ei roi ar waith mewn modd cadarn a bod ei ganlyniadau disgwyliedig yn cael eu cyflawnia pharhau i weithio gyda'r cyfreithwyr allanol presennol i ddarparu'r cyngor cyfreithiol gofynnol

           Ailystyried y cais 5 achos yn unol â chasgliadau'r uchod a'i gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol unwaith eto i'w gymeradwyo

           Yn dilyn cymeradwyaeth y Bwrdd Gweithredol, ailgyflwyno'r achos busnes i Gyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig

 

 

7.

ADRODDIAD TERFYNOL 2017/18 GRŴP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 268 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad terfynol Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd. Yn dilyn cais gan Aelodau'r Bwrdd Gweithredol i gynnwys gwybodaeth ychwanegol, cytunodd y Cadeirydd i gyflwyno'r adroddiad yn ôl i'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen. Roedd yr adroddiad diwygiedig yn rhoi rhagor o eglurhad a gwybodaeth ynghylch chwyn anfrodorol ymledol, draenio, torri ymylon ffyrdd yn hwyr, monitro'r camau a gymerwyd o ran argymhellion yn ogystal ag Atodiadau C, D ac E fel y cyflwynwyd yn yr adroddiad.

 

Diolchodd y Bwrdd Gweithredol i'r Pwyllgor, y Swyddogion a'r Cadeirydd am eu gwaith ar yr adroddiad. Atodwyd Nodyn Cyngor a Chanllawiau i Dirfeddianwyr i'r adroddiad. Roedd y Bwrdd Gweithredol yn croesawu'r dogfennau ac yn cefnogi'r bwriad i ddosbarthu'r dogfennau i gynghorau tref a chymuned.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL GYMERADWYO ADRODDIAD TERFYNOL 2017/18 GR?P GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU – DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD A'R ARGYMHELLION YNDDO

8.

EIN DULL O RAN CYNNWYS TENANTIAID pdf eicon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu'r weledigaeth ar gyfer cynnwys tenantiaid. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai y byddai'r cynllun yn hybu cynnwys tenantiaid iau ac yn datblygu dull newydd o gynnwys tenantiaid wrth herio ein ffordd o ddarparu gwasanaethau. Byddai hefyd yn ei gwneud yn haws i ragor o denantiaid gymryd rhan.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL GYMERADWYO'R ADRODDIAD

 

 

9.

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A DEDDF (CYMRU) LLES 2014 - POLISI A DIWYGIADAU GWEITHDREFN I GODI TÂL AM WASANAETHAU I OEDOLION pdf eicon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad sy'n nodi'r polisi diwygiedig, gan gyfuno'r polisïau blaenorol a'r polisi interim a fabwysiadwyd yn 2016.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

1.        Bydd Sir Gaerfyrddin yn dal i godi tâl am leoliadau mewn cartref gofal ar wahân i'r lleoliadau hynny sydd wedi eu heithrio gan y Ddeddf.  Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl am yr holl leoliadau mewn cartref gofal o ddiwrnod cyntaf y lleoliad.

2.        Bydd y tâl yn seiliedig ar adennill cost y lleoliad yn llawn, oni bai bod y preswylydd yn cael ei asesu'n ariannol yn unol â'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau, y côd a'r polisi lleol i dalu llai na'r gost lawn. Yn yr achos hwnnw codir y tâl asesedig ar y preswylydd yn unol â'i allu i dalu. 

3.       Bydd y gost fesul noson ar gyfer pob lleoliad tymor byr (gan gynnwys gofal seibiant) yn seiliedig ar adennill cost y lleoliad yn llawn. Yn achos lleoliadau mewn cartref gofal Awdurdod Lleol y tâl a godir fydd y tâl safonol. Yn achos lleoliadau mewn cartref gofal yn y sector annibynnol y tâl a godir fydd y swm dan gontract. Byddai defnyddwyr gwasanaeth yn talu hyd at y mwyafswm a bennir gan Lywodraeth Cymru yr wythnos, a byddai nifer fawr yn talu llawer llai neu'n derbyn y gwasanaeth am ddim, yn dibynnu ar yr asesiad ariannol. (£80 yw'r mwyafswm a bennwyd ar gyfer 2018-19)

4.        Bod y rheolau asesu lleoliadau dibreswyl yn cael eu rhoi ar waith mewn perthynas ag arosiadau yr aseswyd ar y dechrau nad ydynt yn fwy nag wyth wythnos ar unrhyw achlysur ac nad yw'n berthnasol i leoliadau dros dro na lleoliadau parhaol.

5.        Codir tâl am arhosiad tymor byr sy'n fwy nag wyth wythnos ar unrhyw achlysur fel petai'r preswylydd yno dros dro neu'n barhaol, fel sy'n briodol, o ddiwrnod cyntaf y 9fed wythnos ac yn unol â'r diffiniadau yn y Ddeddf, y Rheoliadau a'r Côd.

6.        Bydd Sir Gaerfyrddin yn codi tâl o ddiwrnod cyntaf y gwasanaeth ar gyfer pob gwasanaeth y codir tâl amdano.Bydd hyn yn berthnasol i leoliadau a gwasanaethau dibreswyl mewn cartref gofal.

7.        Bod y dewis o lety a gynigir i ddefnyddiwr gwasanaeth yn seiliedig ar ddau gartref gofal o'r un math unrhyw le yn y Sir ac nad yw'n gyfyngedig yn ddaearyddol oni bai bod anghenion daearyddol penodol wedi eu cynnwys yn y cynllun gofal a chymorth.

8.        Os bydd defnyddiwr gwasanaeth, yr aseswyd na fydd yn talu cost lawn y lleoliad, yn dewis llety sy'n ddrutach na'r dewisiadau a gynigiwyd adeg y lleoliad bydd y gost ychwanegol yn cael ei chyfrifo o'r cyfraddau uchaf a godir gan y ddau gartref gofal a gynigiwyd.

9.        Os bydd defnyddiwr gwasanaeth yn gallu talu cost lawn eu lleoliad, yn unol â'r ddeddfwriaeth, gall ddewis unrhyw gartref gofal a bydd yn rhaid iddo dalu cost lawn eu lleoliad.

10.      Nad yw Sir Gaerfyrddin yn codi tâl ar ddefnyddiwr gwasanaeth am ofal a chymorth asesedig os darperir hynny i'r defnyddiwr gwasanaeth mewn lleoliad addysgol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

CYFRADDAU BUSNES – CYNLLUN RHYDDHAD AR DRETHI'R STRYD FAWR 2019/20 pdf eicon PDF 279 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd P.M. Hughes wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y Siambr)

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr a Manwerthu a gynigiwyd. Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau drosolwg o Gynllun Rhyddhad Trosiannol Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd i liniaru effaith ailbrisio'r ardrethi annomestig cenedlaethol. Roedd y Cynllun Rhyddhad Trosiannol yn cyfyngu unrhyw gynnydd y mae trethdalwyr mewn safleoedd bach yn ei wynebu drwy gyflwyno'r cynnydd fesul cam dros 3 blynedd ariannol gan ddod i ben yn 2019/20. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymestyn y cynllun i 2019-20. Mae awdurdodau yn gallu dewis mabwysiadu'r cynllun hwn, a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru ar yr amod bod y rhyddhad yn cael ei roi'n unol â'r canllawiau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL FABWYSIADU CYNLLUN RHYDDHAD ARDRETHI Y STRYD FAWR A MANWERTHU 2019/20

 

 

11.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI’R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2018 I RHAGFYR 31AIN 2018 pdf eicon PDF 198 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2018/19 (a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 21 Chwefror, 2018 – gweler Cofnod 10), cafodd y Bwrdd Gweithredol y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gweithgareddau o ran Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod o 1 Ebrill 2018 hyd at 31 Rhagfyr 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL DDERBYN YR ADRODDIAD

12.

ADRODDIAD POLISI CANOLFANNAU AILGYLCHU GWASTRAFF Y CARTREF pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am bolisïau newydd arfaethedig mewn perthynas â chyfyngiadau gwastraff yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Roedd yr adroddiad yn gwneud newidiadau a fydd yn sicrhau bod targedau ailgylchu yn cael eu cyrraedd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd y bydd y newidiadau arfaethedig yn helpu i liniaru'r tri phrif ffactor sy'n effeithio ar y perfformiad ailgylchu cyffredinol a nodwyd yn yr adroddiad, sef Gwastraff Masnachol, Gwastraff o siroedd cyfagos, a gwastraff ailgylchadwy nad yw'n cael ei wahanu.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

           Lleihau'r oriau agor 1 awr bob dydd o 1 Ebrill 2019 ymlaen

           Gwahardd gwastraff masnachol o 1 Ebrill 2019 ymlaen

           Cyflwyno gwiriadau preswyliaeth yn raddol o 1 Ebrill 2019 ymlaen

           Cyflwyno system hawlenni o 3 Mehefin 2019 ymlaen (gweler Atodiad A yn ymwneud â mathau o gerbydau).

           Cyflwyno proses didoli bagiau du o 1 Hydref 2019 ymlaen.

 

 

13.

CYFLWYNO'R RHAGLEN CREDYD CYNHWYSOL LAWN YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad ynghylch y Rhaglen Credyd Cynhwysol a gyflwynwyd yn Sir Gaerfyrddin ar 12 Rhagfyr 2019. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod tua 200 o denantiaid yn derbyn Credyd Cynhwysol. Ar hyn o bryd nid oedd unrhyw broblemau sylweddol ond gallai hyn newid wrth i'r broses gyflwyno barhau. Dywedwyd bod cynnydd amlwg yn y defnydd o fanciau bwyd wedi'i nodi mewn ardaloedd eraill lle mae Credyd Cynhwysol wedi'i gyflwyno ac mae'r Awdurdod yn parhau i weithio gyda banciau bwyd lleol a nifer o bartneriaid eraill i'w cynorthwyo yn ystod y broses gyflwyno. Cydnabuwyd bod cryn dipyn o gydweithio cyn cyflwyno Credyd Cynhwysol i leihau effaith negyddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL NODI'R ADRODDIAD.

 

 

14.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

15.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R

MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH

EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4

O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I

DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL

(MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS

BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN

PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER

HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y

CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

16.

TIR DATBLYGU PRESWYL, GORLLEWIN CROSS HANDS

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 15 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd byddai datgelu cynnwys yr adroddiad hwn yn anfantais faterol i'r awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai cael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.

 

Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth fanwl am dir datblygiad preswyl yng Ngorllewin Cross Hands.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo’r argymhelliad, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau