Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION ERAILL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G.Davies.

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i longyfarch Côr Merched Sir Gâr ar ei gyflawniad rhagorol sef dod yn ail wrth gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Côr y Flwyddyn Eurovision 2017 yn Arena Riga yn Latfia.

 

Hefyd roedd yr Arweinydd yn dymuno diolch i bawb oedd yn gysylltiedig â sicrhau bod presenoldeb Cyngor Sir Caerfyrddin yn Sioe Frenhinol Cymru yn llwyddiant. 

 

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 26AIN MEHEFIN 2017 pdf eicon PDF 285 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 26 Mehefin, 2017, gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

4.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS I'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS - YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS YR AMGYLCHEDD

Mae Llywodraeth Cymru drwy ei hasiant, sef Asiant Cefnffyrdd De Cymru, yn ceisio cyflwyno llinellau melyn dwbl / dim aros mewn pentrefi a chymunedau ar hyd yr A483T o Bont Abraham i Landeilo. Mae'r cyfyngiadau hyn ym mhentrefi T?-croes, Llandybïe a Ffair-fach yn cael eu rhoi ar waith heb ymgynghori'n briodol â'r trigolion. Yn ôl pob golwg, unig nod y cyfyngiadau hyn yw cyflawni mantra'r gefnffordd "ni chaiff dim rwystro llif y traffig". I bob pwrpas mae'r cyfyngiadau hyn yn atal preswylwyr rhag parcio y tu allan i'w cartrefi ac yn y rhan fwyaf o achosion nid oes dewis arall ganddynt. Y cwestiwn yr wyf am ei ofyn ichi, Gynghorydd Evans, yw beth mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei wneud i gynrychioli barn trigolion y cymunedau hyn a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r cynlluniau hurt hyn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Gweithredol y Cwestiwn â Rhybudd canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd E.G. Thomas i'r Cynghorydd H. Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd:-

 

“Mae Llywodraeth Cymru drwy ei hasiant, sef Asiant Cefnffyrdd De Cymru, yn ceisio cyflwyno llinellau melyn dwbl / dim aros mewn pentrefi a chymunedau ar hyd yr A483T o Bont Abraham i Landeilo. Mae'r cyfyngiadau hyn ym mhentrefi T?-croes, Llandybïe a Ffair-fach yn cael eu rhoi ar waith heb ymgynghori'n briodol â'r trigolion. Yn ôl pob golwg, unig nod y cyfyngiadau hyn yw cyflawni mantra'r gefnffordd "ni chaiff dim rwystro llif y traffig". I bob pwrpas mae'r cyfyngiadau hyn yn atal preswylwyr rhag parcio y tu allan i'w cartrefi ac yn y rhan fwyaf o achosion nid oes dewis arall ganddynt. Y cwestiwn yr wyf am ei ofyn ichi, Gynghorydd Evans, yw beth mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei wneud i gynrychioli barn trigolion y cymunedau hyn a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r cynlluniau hurt hyn.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd:-

 

“Mae cwmni W.S. Atkins wedi'i gyflogi'n Beirianwyr Ymgynghorol i baratoi cynigion ar gyfer cyfyngiadau parcio ar gefnffordd yr A483 yn Nh?-croes, Llandybïe a Ffair-fach.  Ysgrifennodd y Peirianwyr Ymgynghorol yn uniongyrchol at yr Aelodau lleol ar 20 Mehefin 2017.  Yn dilyn sylwadau'r Aelodau lleol, ysgrifennodd y Pennaeth Trafnidiaeth at W.S Atkins ar 25 a 27 Mehefin, 2017 i nodi pryderon yr Aelodau lleol ynghylch y cynigion a'r diffyg ymgynghori â'r Cyngor Sir fel yr awdurdod priffyrdd lleol.

 

Mae'r cwmni wedi cadarnhau bod hon yn broses ymgynghori anffurfiol, a dywedodd os bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu symud ymlaen â'r cynigion y byddai rhagor o gyfleoedd i chi, yr Aelodau lleol, i ni, yr Awdurdod Priffyrdd a hefyd i'r cyhoedd ymateb. 

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cadarnhad i Mr Adam Price, AC, y byddai barn leol o bwys mawr yn y broses benderfynu, petai'n cyrraedd y cam hwnnw.”

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

6.

CYNLLUN STRATEGOL AMGUEDDFEYDD SIR GAERFYRDDIN 2017-2022 pdf eicon PDF 541 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch Cynllun Strategol Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin 2017–2022 a ategwyd gan gyflwyniad. Roedd y Cynllun yn rhoi gweledigaeth ar gyfer rhaglen gwella amgueddfeydd uchelgeisiol ac roedd wedi nodi pum amcan allweddol i wireddu'r weledigaeth o gael gwasanaeth rhagorol erbyn 2022.

 

Roedd y Strategaeth wedi nodi nifer o heriau sylweddol y byddai angen i Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin roi sylw iddynt er mwyn cyflawni nodau Strategol Corfforaethol y Cyngor.  Yn ogystal, roedd y Cynllun newydd wedi cydnabod awydd i sicrhau gwelliannau sylweddol ar draws y gwasanaeth amgueddfeydd o ran diogelu casgliadau, cyfleusterau a'r gweithgareddau yn ymwneud â chwsmeriaid. 

 

Dywedodd y Pennaeth Hamdden wrth yr Aelodau fod cyllid gwerth dros £1 miliwn wedi cael ei ddyfarnu i Ymddiriedolaeth Porth Tywi ac y byddai hynny'n mynd tuag at wella'r gerddi a'r amgueddfa yn Abergwili.

 

 

 

 

Codwyd pryder ynghylch lefel y buddsoddiad sydd ei angen i gyflawni'r Strategaeth hyd at 2022, o ran materion ariannol a staff.  Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth at yr adroddiad gan ddyfynnu "byddai goblygiadau ariannol datblygiadau yn cael sylw ar wahân fel rhan o broses rheoli prosiectau cymeradwy y Cyngor. Fodd bynnag, mae llawer o'r datblygiadau arfaethedig yn y cynllun hwn yn gysylltiedig â chyllid allanol.  Er nad yw Achredu Amgueddfeydd bob amser yn hanfodol ar gyfer cyllid allanol, ni fydd rhai o'r prif gyllidwyr yn y sector hwn (Llywodraeth Cymru a'i chyrff cyswllt) yn ystyried ceisiadau gan amgueddfeydd awdurdod lleol mawr sy'n methu â chyrraedd y safon Achredu.  Mae'r Cynllun Strategol hwn yn gysylltiedig â chais Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin am Achredu Amgueddfeydd.” 

 

Ychwanegodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth y byddai'r Awdurdod yn cyflwyno ceisiadau am gyllid allanol sy'n cynnwys Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.  Hefyd byddai nifer o geisiadau am gyfalaf mewnol yn cael eu hystyried fel rhan o'r broses pennu cyllideb yn ddiweddarach eleni.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

6.1   cael a chymeradwyo Cynllun Strategol Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin 2017-2022;

 

6.2 bod swyddogion arweiniol yn cwrdd ag aelodau perthnasol i adolygu datblygiadau yn ymwneud â:
Parc Howard; Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, Abergwili;  Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli ac Amgueddfa Cyflymder Pentywyn.

 

7.

CYNLLUN BUDDSODDI - GWEITHIO YSTWYTH pdf eicon PDF 457 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd bod yr adroddiad uchod wedi cael ei dynnu oddi ar yr agenda i'w ystyried yn ystod y cyfarfod heddiw, ac ar ôl ystyried y mater ymhellach y byddai'n cael ei ystyried yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio trafod y Cynllun Buddsoddi - Gweithio Ystwyth er mwyn ei ystyried ymhellach.

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI’R TRYSORLYS A’R DANGOSYDD DARBODAETH 2016-2017 pdf eicon PDF 398 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol bod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror 2016 (gweler Cofnod 9), wedi mabwysiadu Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2016/17. Yn unol â'r polisi hwnnw, cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys a oedd yn amlinellu gweithgareddau Rheoli Trysorlys yr Awdurdod yn ystod 2016/17 ac yn crynhoi'r gweithgareddau oedd wedi digwydd yn ystod 2016/17 o dan y penawdau canlynol: Buddsoddiadau; Benthyca; Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys; Dangosyddion Darbodaeth; Prydlesu ac Aildrefnu.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn derbyn Adroddiad Blynyddol 2016-17 ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys.


 

 

 

9.

ADRODDIAD Y RHAGLEN BAROD AM WAITH 2015-17 pdf eicon PDF 271 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Rhaglen Barod am Waith 2015-17 a oedd yn rhoi cynigion i sicrhau cyllid am ddwy flynedd arall ar ôl llwyddiant parhaus y rhaglen.

 

Nododd y Bwrdd fod y prosiect wedi bod ar waith ers bron 6 blynedd a'i fod wedi cael llwyddiant cynyddol flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth i dros 90% o'r prentisiaid sicrhau cyflogaeth barhaol neu waith y tu allan i'r Awdurdod.  Yn ogystal, roedd y rhaglen yn cynnwys cysylltiadau cryf â Strategaeth Gorfforaethol bresennol yr Awdurdod a byddai'n rhan annatod o gefnogi'r canlyniadau o dan  agenda Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol.

 

Er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus y rhaglen cynigiodd yr adroddiad sicrhau cyllid am ddwy flynedd arall a bod lefel bresennol y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer prentisiaid (lefel 2 a 3) yn cael ei hadolygu, er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn cadw recriwtiaid drwy gydol eu prentisiaeth. Yn ogystal, byddai'r cynnig i ddod yn ganolfan achrededig yn golygu bod yr Awdurdod mewn sefyllfa gref o ran cydweithredu rhanbarthol drwy gynnig y Rhaglen Barod am Waith i awdurdodau lleol cyfagos, a sicrhau ffrwd incwm.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL;

 

9.1   Cael a chytuno ar y cynnig ar gyfer ymestyn y Rhaglen Barod am Waith gan ddefnyddio'r cyllid presennol ac ychwanegu £505,214 er mwyn sicrhau datblygiad y prosiect yn ystod y ddwy flynedd nesaf ;

 

9.2 Drwy gynllunio'r gweithlu, mapio'r anghenion o ran sgiliau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a nodi meysydd lle mae'r galw o ran recriwtio yn y dyfodol a dyrannu adnoddau i gefnogi'r cyfleoedd hyn;

 

9.3 Gweithio'n agos gyda chynlluniau gweithlu'r adrannau i hwyluso datblygiad aml-lefel ymhlith gweithwyr presennol drwy gael cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru;

 

9.4 Datblygu pobl yn barhaus i sicrhau bod ein gweithlu yn fedrus iawn a'i fod yn cael cymorth yn ystod gyrfa gynnar gweithwyr yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, gan fanteisio i'r eithaf ar ffrydiau cyllido posibl;

 

9.5 Cynyddu cyflog prentis i £12k y flwyddyn; gallai'r model wedi'i gostio olygu cyflogi llai o staff ond mae'n golygu defnyddio'r buddsoddiad yn fwy effeithiol;

 

9.6 Gweithredu strategaeth recriwtio gynhwysfawr i gynnwys ymgyrch farchnata drwy'r cyfryngau cymdeithasol;

 

9.7 Sicrhau bod y prosiect yn gynaliadwy drwy gefnogi cyllid ar gyfer swydd Cydgysylltydd Dysgu Seiliedig ar Waith;

 

9.8 Ymchwilio i gyfleoedd i ehangu'n rhanbarthol gyda golwg ar gynnig y Rhaglen Barod am Waith i awdurdodau lleol cyfagos, gan leihau costau a rhoi cyfleoedd i gydweithio.

 

 

10.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2016/17 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 602 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Monitro Blynyddol 2016/17 ynghylch Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, a luniwyd yn unol â darpariaethau Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol 2005.

 

Nodwyd bod yn rhaid cyflwyno'r adroddiad hwn i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2017.

 

Gofynnwyd a ellid ymgynghori'n ffurfiol â chynghorwyr lleol er mwyn iddynt gyfrannu at yr Adroddiad Monitro Blynyddol.  Dywedodd y Dirprwy Arweinydd nad oedd yn ofynnol ymgynghori ynghylch yr Adroddiad Monitro Blynyddol, ond bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar 20 Gorffennaf 2017 a byddai'r adroddiad ar gael ar y wefan ar gyfer sylwadau.  Yn ogystal, mewn perthynas â'r adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol, hysbyswyd yr Aelodau y byddai ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal a fyddai'n cael ei gefnogi gan Gr?p Ymgynghorol.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL Y CANLYNOL I'R CYNGOR:

 

10.1   Cael a derbyn cynnwys yr ail Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, y mae angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2017;

10.2   Cychwyn arolwg llawn neu rannol CDLl Sir Gaerfyrddin yn gynnar:

10.2.1   Ystyried a mynd i'r afael â'r diffyg tir sydd ar gael ar gyfer tai ac ystyried yr ymyriadau angenrheidiol;

10.2.2   Paratoi rhagor o dystiolaeth ar oblygiadau a chywirdeb amcanestyniadau  aelwydydd a phoblogaeth is-genedlaethol 2014 a'u hystyried yng ngoleuni'r adolygiad;

10.2.3   Ystyried dosbarthu a chyflenwi tai a llwyddiant, neu fel arall, y strategaeth, neu ei helfennau o ran bodloni gofynion tai a nodwyd;

10.3   Cynhyrchu adroddiad adolygu gan nodi ac esbonio hyd a lled unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i'r Cynllun;

10.4   Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb yr Adroddiad Monitro Blynyddol.

 

11.

ARDOLL SEILWAITH CYMUNEDOL SIR GAERFYRDDIN DIWEDDARIAD AC ADRODDIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 695 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd hyd yn hyn mewn perthynas â chyflwyno Ardoll Seilwaith Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin.  Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am natur ddatganoledig yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yng Nghymru a'i dyfodol mewn cyd-destun cenedlaethol a oedd yn cynnwys yr adolygiad annibynnol diweddar o'r Ardoll Seilwaith Cymunedol a gomisiynwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.  Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r newidiadau posibl ar y gweill a'r goblygiadau dilynol.

 

Gofynnwyd a ellid rhoi sicrwydd er mwyn sicrhau y gofynnir am farn Cynghorwyr Sir mewn modd rhagweithiol, a hynny cyn cytuno ar bwyslais yr arian Adran 106 rhwng y Cyngor Sir a'r datblygwr, drwy ychwanegu hyn at y broses ar gyfer y dyfodol.  Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y gallai Aelodau gydgysylltu â'r swyddog achos unigol yn ystod y broses ceisiadau cynllunio i ofyn a oedd unrhyw gyfleoedd ar gyfer arian Adran 106.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

11.1       Bod y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ardoll Seilwaith Cymunedol Sir Gaerfyrddin a'r Adroddiad Cynnydd yn cael eu derbyn;

11.2       Bod y sefyllfa bresennol mewn perthynas â dyfodol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol mewn cyd-destun cenedlaethol a chyd-destun Cymreig yn cael ei nodi;

11.3       Bod cynnydd o ran paratoi Ardoll Seilwaith Cymunedol Sir Gaerfyrddin yn cael ei atal am y tro hyd nes y ceid canlyniadau ystyriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol, yn sgil Deddf Cymru 2017;

11.4       Bod adroddiad arall yn cael ei gyflwyno pan geir syniad clir ynghylch dyfodol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol, unrhyw newidiadau i reoliadau'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, neu gynigion am dariff newydd yn ei lle;

11.5       Bod y cynnydd hyd yn hyd yn cael ei nodi a bod y sylwadau sydd wedi dod i law yn cael eu defnyddio i lywio unrhyw waith ar yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yn y dyfodol neu ar unrhyw beth a ddaw yn ei lle.

 

 

12.

PWERAU GORFODI TROSEDD TRAFFIG SYMUDOL pdf eicon PDF 659 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad ynghylch Pwerau Gorfodi Trosedd Traffig Symudol a oedd yn rhoi gwybodaeth am gael pwerau ychwanegol a fyddai'n ategu'r pwerau gorfodi rheolau parcio presennol ac a fyddai'n darparu rhagor o adnoddau i helpu i symud pobl a nwyddau, cadw safleoedd ysgol yn fwy diogel a sicrhau bod traffig yn parhau i symud yn gyffredinol.  Roedd yr adroddiad yn nodi ardaloedd yng Nghaerfyrddin a oedd yn peri pryder penodol o ran diogelwch cerddwyr a symud traffig yn hwylus, y gall yr heddlu yn unig gymryd camau gorfodi yn eu cylch ar hyn o bryd. 

 

Nodwyd, yn amodol ar gael caniatâd, fod Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013 yn galluogi Awdurdodau Lleol i fod yn gyfrifol am gymryd camau gorfodi mewn perthynas â lonydd bysiau a rhai tramgwyddau traffig symudol. Byddai camau gorfodi yn cael eu cymryd mewn perthynas â throseddau o'r fath drwy ddefnyddio dyfeisiau camera cymeradwy.  Mae'n rhaid i'r Cyngor Sir wneud cais i Lywodraeth Cymru i ofyn am ganiatâd i ddefnyddio'r pwerau statudol a fyddai'n cwmpasu'r ardaloedd a nodwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

12.1      bod yr adroddiad ynghylch Pwerau Gorfodi Trosedd Traffig Symudol yn cael ei dderbyn;

12.2      Gwneud cais i Lywodraeth Cynulliad Cymru am greu Gorchymyn i ddynodi strydoedd penodol yn Sir Gaerfyrddin yn ‘Ardal Gorfodi Sifil’ ar gyfer tramgwyddau traffig symudol a lonydd bysiau.

12.3      Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd fwrw ati â'r mesurau angenrheidiol i weithredu'r cynigion a nodwyd yn yr adroddiad hwn. 

 

12.4      Cydgysylltu â PATROL-UK, y corff statudol sy'n darparu'r gwasanaeth dyfarnu annibynnol, i benderfynu a oes angen unrhyw addasiadau i'r trefniadau contractiol presennol ac i roi unrhyw newidiadau o'r fath ar waith. Mae hyn yr un mor berthnasol i gyrff statudol eraill megis yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) a'r Ganolfan Gorfodi Rheolau Traffig. 

12.5      Cymeradwyo'r cynigion ar gyfer ariannu'r costau sefydlu drwy'r Gronfa Ddatblygu fel y nodwyd yn y Goblygiadau Ariannol.

12.6      Cyfarwyddwr yr Amgylchedd i ymchwilio i ddichonoldeb defnyddio dyfeisiau camera sefydlog yn hytrach na dyfeisiau camera ar gerbydau.

 

13.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH PERFFORMIAD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2016/17 pdf eicon PDF 390 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2016/17 a oedd yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr i'r Aelodau am berfformiad Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin.  Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi'r cynnydd a wnaed yn y meysydd a nodwyd ar gyfer gwella yn adroddiad y flwyddyn flaenorol ac yn tynnu sylw at y meysydd hynny sydd i'w datblygu yn y flwyddyn gyfredol. 

 

Diolchodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol am ei arweiniad dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn dilyn y gwerthusiad o'r gwasanaethau gan AGGCC dyfynnodd, "Mae'r Awdurdod Lleol yn parhau i elwa ar arweinyddiaeth gref ar draws y gwasanaethau oedolion a phlant, gyda sefydlogrwydd da a chymorth effeithiol ar gyfer ei weithlu".

 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol er bod yr adroddiad hwn yn adroddiad swyddogaeth Gwasanaethau Cymdeithasol, ei fod hefyd yn berthnasol i'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Plant.  Roedd y gwaith gan y Gwasanaethau Plant wedi cyfrannu at ostyngiad yn y lefel o ymyrraeth statudol mewn teuluoedd.  Yn sgil y gwaith hwn roedd llai o blant wedi derbyn gofal gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin o gymharu â'r blynyddoedd blaenorol ac roedd mwy o deuluoedd wedi cael eu cefnogi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn cael ac yn derbyn Adroddiad Blynyddol Drafft Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2016/17.

 

 

14.

Y RHAGOLYGON O RAN CYLLIDEB REFENIW 2018/19 TAN 2020/21 pdf eicon PDF 400 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar y rhagolygon ariannol presennol ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y model ariannol presennol ar gyfer y tair blynedd ariannol nesaf.  Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r cynigion o ran paratoi'r gyllideb am y tair blynedd 2018/19 i 2020/21.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig at adran Goblygiadau yr adroddiad gan ddweud ei fod o'r farn y dylid cynnwys ac ymgorffori'r Iaith Gymraeg yn un o'r grwpiau nodweddion yn yr adran Polisi, Troseddau ac Anhrefn a Chydraddoldebau, yn hytrach na'i nodi ar ei phen ei hun.  Cytunwyd i wneud y newid hwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

14.1Bod y rhagolygon cychwynnol o ran y gyllideb a'r heriau ariannol sylweddol sydd ynghlwm â nhw yn cael eu nodi;

14.2Cymeradwyo'r dull a gynigiwyd o ran clustnodi'r arbedion angenrheidiol;

14.3Cymeradwyo'r dull a gynigiwyd o ran ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

 

15.

INTEGREIDDIO GWASANAETHAU A CHRONFEYDD AR Y CYD pdf eicon PDF 416 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch Integreiddio Gwasanaethau a Chronfeydd ar y Cyd a oedd wedi'i baratoi ar sail ranbarthol i'w ddefnyddio o fewn strwythurau llywodraethu'r sefydliadau perthnasol megis y Bwrdd Iechyd a'r cynghorau perthnasol yn ardal Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru.  O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae gan gynghorau a byrddau iechyd rwymedigaeth statudol i sefydlu a chynnal trefniadau cronfeydd ar y cyd mewn perthynas â:

 

·         Cyflawni eu swyddogaethau cartrefi gofal (erbyn 6 Ebrill 2018)

·         Cyflawni eu swyddogaethau cymorth i deuluoedd

·         Swyddogaethau penodol sy'n cael eu cyflawni ar y cyd mewn ymateb i Asesiadau Poblogaeth, lle ystyrir bod trefniadau o'r fath yn briodol

 

Nododd yr Aelodau y trefniadau rhanbarthol a oedd ar waith i helpu sefydliadau i gyflawni eu rhwymedigaethau o dan Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â darpariaethau cronfeydd ar y cyd.

 

Dywedwyd ei bod yn ymddangos bod Awdurdodau Lleol Ceredigion a Sir Benfro yn cyfrannu llai o arian na Sir Gaerfyrddin at y cronfeydd ar y cyd ac nad oedd dim sôn, yn yr adroddiad, am unrhyw gyfraniad o ran Hywel Dda. 

 

Gofynnwyd beth fyddai cyfanswm blynyddol y cronfeydd ar y cyd a beth fyddai'r effaith mewn perthynas â chartrefi gofal fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cyfanswm y cronfeydd ar y cyd a'r effaith ar gartrefi gofal, fel y nodwyd yn yr adroddiad, pwysleisiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd fod y ffigurau yn yr adroddiad yn rhai dangosol.  Ychwanegodd fod terfyn amser statudol ar gyfer sefydlu trefniadau cronfeydd ar y cyd rhwng gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd ar gyfer cartrefi gofal i oedolion, sef 6 Ebrill 2018, a bod gwaith manwl yn cael ei wneud ar hyn o bryd i nodi'r cyfanswm dan sylw, a allai amrywio yn unol â'r diffiniadau o gartrefi gofal a ddefnyddir. 

 

 

Yn ogystal, prin oedd yr arweiniad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â hyd a lled cyllideb o'r fath ac felly byddai cynigion manwl ar y symiau i'w cyfuno, ynghyd â'r trefniadau llywodraethu arfaethedig, yn cael eu llunio.

 

PENDERFYNWYD:

 

15.1       Cael yr adroddiad ynghylch Integreiddio Gwasanaethau a Chronfeydd ar y Cyd a nodi bod y trefniadau rhanbarthol o dan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru wedi cael eu rhoi ar waith er mwyn symud ymlaen mewn perthynas â'r gwaith yn ymwneud ag integreiddio gwasanaethau a chronfeydd ar y cyd;

15.2       Bod terfyn amser statudol ar gyfer sefydlu trefniadau cronfeydd ar y cyd rhwng gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd ar gyfer cartrefi gofal i oedolion, sef 6 Ebrill 2018;

 

15.3       Bod Sir Gaerfyrddin yn 'arweinydd' yn y rhanbarth drwy gamu ymlaen â'r gwaith o integreiddio amrywiaeth ehangach o wasanaethau.  Y meddylfryd presennol yw rhoi blaenoriaeth i gwblhau gwaith integreiddio sydd eisoes wedi'i ddatblygu mewn perthynas â threfniadau gofal tymor byr;

 

15.4       Bod cyfleoedd eraill ar gyfer datblygu integreiddio gwasanaethau ymhellach yn cael eu hystyried ar sail ranbarthol.

 

 

16.

AELODAETH PANELAU YMGYNGHOROL Y BWRDD GWEITHREDOL A CHYRFF ALLANOL pdf eicon PDF 249 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a fyddai'n cymeradwyo aelodaeth Panelau Ymgynghorol y Bwrdd Gweithredol a Chyrff Allanol fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn amodol ar benderfynu ar y penodiadau canlynol y cyflwynwyd mwy nag un enwebiad ar eu cyfer:-

 

·         Cynghrair y Cymunedau Diwydiannol – Rhanbarth Cymru

·         Plas Llanelly

·         Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru

 

Nododd yr Aelodau newid i aelodaeth y Panel Gwella Ysgolion, sef bod y Cynghorydd Darren Price yn cymryd lle'r Cynghorydd Ann Davies.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod aelodau'n cael eu penodi i wasanaethu ar gyrff allanol yn unol â'r hyn y manylwyd arno yn yr atodlen a ddosbarthwyd yn amodol ar y canlynol:

·         Y Cynghorydd S. Allen i wasanaethu ar Gynghrair y Cymunedau Diwydiannol - Rhanbarth Cymru;

·         Yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, sef y Cynghorydd D. Jenkins, i wasanaethu ar banel ymgynghorol Plas Llanelly;

·         Y Cynghorydd A. Davies i wasanaethu ar Gonsortiwm Awdurdodau Lleol Cymru

 

17.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i’w hysteyried.

 

18.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

19.

NEUADD SIROL, CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 18 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno.

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn ceisio penderfyniad ynghylch defnyddio'r eiddo yn y dyfodol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD symud ymlaen o ran y diddordeb presennol gan y sector preifat, yn ogystal â cheisio sicrhau bod treftadaeth ac agwedd ddiwylliannol yr adeilad yn cael eu cynnal.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau