Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr E. Dole a J. Tremlett.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION - 2 MAI, 2017 pdf eicon PDF 316 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 2 Mai 2017 gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

POLISI GORFODI CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 266 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar Safonau Gwasanaethau a Pholisi Gorfodi'r Awdurdod a goladwyd o ganlyniad i'r ymgynghori corfforaethol o fewn yr Adrannau perthnasol ac aethpwyd ati i gael cymeradwyaeth i ymgynghori'n eang drwy gyfrwng y wefan gorfforaethol. Nodwyd bod angen i'r adran ar gyfer 'Penodiadau' sydd wedi'i chynnwys yn y 'Safonau Gwasanaeth' gael ei diwygio i adlewyrchu'r ffaith fod y Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid yn gweithredu system apwyntiadau yn dilyn dirwyn  y cynllun 'peilot' i ben.

Gofynnodd y Cynghorydd D. Cundy ynghylch y datblygiadau tai newydd lle rhoddwyd contractau i brynwyr tai, gallai'r contractau hyn fod yn destun "Gorfodi Amodol" gan y Cyngor. Cyfeiriodd yn benodol at achosion lle'r oedd gerddi perchnogion tai wedi dioddef llifogydd. Ymatebodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd y byddai'n rhaid i'r cyngor ddibynnu ar bwerau statudol perthnasol a bod angen i bob darpar brynwr fod yn ofalus ynghylch hyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1 bod y testun yn yr adran 'Penodiadau' o 'SAFONAU GWASANAETHAU CYNGOR SIR CAERFYRDDIN' yn cael ei newid i ddarllen fel a ganlyn:

 

‘Mae pob un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid yn gweithredu system apwyntiadau.  Y nod yw gwella profiad y cwsmer a gwella'r modd y darperir gwasanaethau. Nawr gallwch drefnu apwyntiad yn unrhyw un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli ar ddyddiad ac amser sy'n gyfleus i chi.

Os ydych yn dymuno trefnu apwyntiad neu drafod unrhyw fater sy'n ymwneud â'r Cyngor yna ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 01267 234567.  Mae modd i chi drefnu a rheoli eich apwyntiadau ar-lein;

6.2 cychwyn ar y broses ymgynghori ynghylch y Polisi Gorfodi Corfforaethol gyda rhanddeiliaid priodol am gyfnod o 6 wythnos;

6.3  bod y sylwadau a ddaeth i law yn ystod y broses ymgynghori yn cael eu hystyried gyda'r bwriad o fabwysiadu'r Polisi Gorfodi Corfforaethol.

 

7.

PENODI SWYDDOG PRIODOL pdf eicon PDF 276 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch penodi Swyddogion Priodol o'r Awdurdod Iechyd (Iechyd Cyhoeddus Cymru) at ddibenion Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008) a Rheoliadau a wnaed yn unol â Deddf 1984.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

7.1      bod yr Awdurdod yn penodi'r ymgynghorwyr canlynol o'r Awdurdod Iechyd yn Swyddogion Priodol at ddibenion deddfwriaeth Diogelu Iechyd:-

 

Mrs Heather Lewis  Ymgynghorydd Diogelu Iechyd;

Mr Sion Lingard                                Ymgynghorydd Diogelu Iechyd;

Dr. Christopher Johnson     Ymgynghorydd Diogelu Iechyd

Dr. Rhianwen Stiff    Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy;

Dr. Brendan Mason Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy;

Dr. Gwen Lowe                     Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy;

Dr. Graham Brown   Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy;

Dr. Meirion Evans                         Epidemiolegydd Ymgynghorol;

Dr.Christopher Williams               Epidemiolegydd ymgynghorol ;

Dr.Giri Shakar                               Ymgynghorydd Proffesiynol  Arweiniol ar gyfer Diogelu Iechyd.

 

 

 

7.2       bod y penodiadau'n dod i rym ar unwaith a'u bod yn parhau hyd nes:-

            - y bydd y Cyngor wedi diddymu'r penodiad neu,

- y bydd y swyddog wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o 3 mis i'r Cyngor ynghylch y bwriad i ymddiswyddo neu,

- y bydd cyflogaeth y swyddog â'r awdurdod iechyd wedi dod i ben.

 

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 488 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad monitro ynghylch y gyllideb refeniw a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol diwedd blwyddyn y flwyddyn ariannol 2016/17.

 

Yr oedd y ffigurau alldro terfynol yn dangos bod gorwariant o £1,093k ar lefel adrannol am y flwyddyn.  Roedd hyn wedi'i wrthbwyso gan danwariant o £5,286k ar gostau cyfalaf ac roedd yr alldro a oedd yn deillio o hynny yn golygu bod yr Awdurdod yn rhagweld trosglwyddo £523k i'w gronfeydd cyffredinol.  Roedd y Cyfrif Refeniw Tai wedi dychwelyd tanwariant o £2k.

 

Wrth ymateb i sylw, derbyniodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant, bod y costau newydd o ran Ymddeoliad Cynnar Gwirfoddol a dileu swyddi mewn ysgolion yn uchel ond dywedodd fod y mater yn cael ei drafod ar sail sir gyfan.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr adroddiad ynghylch monitro'r gyllideb yn cael ei dderbyn.

 

9.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2016-17. pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad diweddaru a oedd yn manylu ar y sefyllfa gyllidebol derfynol mewn perthynas â rhaglen gyfalaf 2016/17, fel yr oedd ar 31 Mawrth, 2017. Roedd y gwariant net gwirioneddol o £42,071k o'i gymharu â chyllideb net weithredol o £69,921k yn rhoi amrywiad o £27,850k. Byddai hyn yn cael ei gynnwys yn y blynyddoedd sydd i ddod wrth i gynlluniau gael eu hailbroffilio, oherwydd roedd angen y gyllideb er mwyn sicrhau bod cynlluniau'n cael eu cwblhau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y rhaglen gyfalaf.

 

10.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM DROSGLWYDDO ASEDAU CYMUNEDOL PARCIAU, LLEOEDD CHWARAE A LLECYNNAU AMWYNDER pdf eicon PDF 553 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Yn dilyn y penderfyniad a wnaed gan y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr, 2014 (gweler cofnod 11) o ran trosglwyddo asedau sef parciau, lleoedd chwarae a mannau amwynder, bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a roddai'r diweddaraf ynghylch y cynnydd a wnaed mewn perthynas â throsglwyddo asedau cymunedol gan gynnwys manylion trosglwyddiadau sydd wedi digwydd hyd yma, a'r ffordd ymlaen posibl.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D Cundy, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau nad oedd Parc Howard, Llanelli, bellach ar y rhestr trosglwyddo asedau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

10.1       nodi statws presennol yr amrywiol drosglwyddiadau i Gynghorau Cymuned a sefydliadau chwaraeon;

 

10.2       bod asedau nad ydynt wedi derbyn Mynegiant o Ddiddordeb [EOI] yn destun ymgynghoriad gydag amrywiol randdeiliaid ar ddyfodol yr asedau perthnasol;

 

10.3       er mwyn hyrwyddo'r broses drosglwyddo yn y flwyddyn olaf sy'n arwain at y dyddiad cau, sef 31Mawrth 2018, bydd pob parti â diddordeb (asedau yn y categorïau 'B' a 'C' yn yr adroddiad) yn cael grant o ddwywaith y gost cynnal a chadw flynyddol, heb ystyried y rhesymau dros unrhyw oedi hyd yn hyn, ac i adlewyrchu'r consesiwn a wneir ac i annog cwblhau'r trosglwyddiadau sy'n weddill yn gynnar, bydd y Grant Cynnal a Chadw yn gostwng 1/24 y mis o 1 Ebrill 2017, hyd at y dyddiad trosglwyddo.

 

11.

PANELAU YMGYNGHOROL Y BWRDD GWEITHREDOL pdf eicon PDF 399 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnwys manylion am y panelau ymgynghorol a sefydlwyd gan y weinyddiaeth flaenorol i adrodd ar faterion amrywiol a gwahoddwyd y Bwrdd i adolygu diben, swyddogaethau ac aelodaeth y panelau ac i benderfynu ar ba rai yr oedd am ei gadw ac unrhyw baneli newydd yr oedd yn dymuno eu sefydlu. Gofynnwyd i'r Bwrdd hefyd a oedd am ychwanegu'r Gweithgor Cefn Gwlad, cofnod 10.1 cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 2 Mai 2017, at ei restr o Banelau Ymgynghorol ac i ystyried aelodaeth ohono.

 

Dywedodd y Cadeirydd er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth benodi aelodau i fod yn rhan o'r panelau ymgynghorol y gofynnwyd am enwebiadau gan Arweinwyr y grwpiau gwleidyddol, er roedd yn parhau i ddisgwyl am rai ohonynt.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D. Cundy ynghylch a fyddai'n bosibl sefydlu 'Gweithgor Trefol' i gyd-fynd â'r 'Gweithgor Cefn Gwlad' arfaethedig a'r cysylltiadau â'r Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod yr olaf yn cynnwys Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd a bod grwpiau gorchwyl eisoes wedi'i sefydlu i ymchwilio i anghenion economaidd a chymdeithasol tair prif ardal drefol sef Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin. Byddai pob un o'r grwpiau hyn yn bwydo i'r Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

11.1 bod y panelau ymgynghorol a sefydlwyd gan y weinyddiaeth flaenorol yn cael eu cadw a bod y Gweithgor Cefn Gwlad yn cael ei sefydlu yn cynnwys yr aelodaeth fel y nodir yn yr adroddiad a gylchredwyd;

 

11.2 bod arweinwyr y grwpiau yn cyflwyno eu henwebiadau ar gyfer aelodaeth Panelau Ymgynghorol y Bwrdd Gweithredol i'r Prif Weithredwr gyda'r nod o'u cymeradwyo yn ystod y cyfarfod nesaf.

 

12.

CYNRYCHIOLAETH AR GYRFF ALLANOL pdf eicon PDF 460 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'r Bwrdd Gweithredol, o ganlyniad i'r etholiadau llywodraeth leol ddiwethaf,  restr o Gyrff Allanol er mwyn penderfynu a ddylai'r Cyngor benodi /parhau i benodi ar y cyrff hynny. Cyflawnwyd adolygiad cychwynnol o'r rhestr o gyrff allanol i ganfod statws cyfredol y sefydliadau presennol ac i gyflwyno rhestr gyfredol er mwyn penodi.

 

Dywedodd y Cadeirydd, yn yr un modd â'r Panelau Ymgynghorol yng nghofnod 11 uchod, er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth benodi aelodau i'r Cyrff Allanol gofynnwyd am enwebiadau gan Arweinwyr y grwpiau gwleidyddol er roedd yn parhau i ddisgwyl am rai ohonynt.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

12.1 gofyn i Arweinwyr y Grwpiau gyflwyno eu henwebiadau  ar gyfer cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol i'r Prif Weithredwr gyda golwg ar gymeradwyo'r rhain yn y cyfarfod nesaf;

 

12.2 ei fod yn ofynnol i'r aelodau a benodir i wasanaethu ar gyrff allanol yn adrodd yn ôl ar gyfarfodydd y cyrff hynny a sefydlu dull priodol i hwyluso hyn.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau