Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. 

 

Roedd Arweinydd y Cyngor wedi atgoffa pawb a oedd yn bresennol fod y cyfnod cyn yr etholiad yn dechrau o heddiw ymlaen.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y

Dogfennau ychwanegol:

3.1

22 CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 467 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2021 yn gofnod cywir.

 

 

3.2

1 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 316 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2021 yn gofnod cywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

6.

POLISI CWYNION CORFFORAETHOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 455 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y rhesymau dros y gofyniad i ddatblygu polisi cwynion corfforaethol newydd, a fyddai, pe bai'n cael ei gymeradwyo, yn disodli'r weithdrefn gwynion a chanmoliaeth bresennol.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r Awdurdod Safonau Cwynion ar 30 Medi 2020 wedi lansio Polisi Pryderon a Chwynion Enghreifftiol newydd yn ffurfiol a bod Awdurdodau Lleol wedi cael 6 mis i weithredu Polisi newydd a chyflwyno dogfen wedi'i diweddaru i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Er nad oedd y polisi enghreifftiol yn gwyro'n sylweddol oddi wrth Weithdrefn Cwynion a Chanmoliaeth bresennol y Cyngor a'r prosesau o ran ymdrin â chwynion, roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y newidiadau allweddol.

 

Yn ogystal, roedd trefniadau i fynd i'r afael â'r newidiadau allweddol yn cael eu datblygu a byddai adroddiadau ar gwynion yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau rheoli perfformiad chwarterol o fis Ebrill 2021 ymlaen.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod y Polisi Cwynion newydd yn cael ei gymeradwyo ac yn disodli'r Weithdrefn Cwynion a Chanmoliaeth flaenorol.

 

 

7.

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018/23 - DIWEDDARIAD EBRILL 2021 pdf eicon PDF 446 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am yr addasiadau a wnaed i’r Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 a'r Amcanion Llesiant a fabwysiadwyd ym mis Mehefin 2018.  Gwnaed yr addasiadau i adlewyrchu'r blaenoriaethau sy'n datblygu, effaith Pandemig Covid-19, Brexit a newid yn yr hinsawdd.

 

Yn sail i'r Strategaeth Gorfforaethol, dywedwyd y byddai cynlluniau busnes yr Adrannau a'r Gwasanaethau yn cael eu halinio i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth Gorfforaethol a'r Amcanion Llesiant. Byddai camau gweithredu a thargedau allweddol yn cael eu nodi gyda'r ddarpariaeth yn cael ei monitro bob chwarter.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL EI FOD YN CAEL EI ARGYMELL I’R CYNGOR bod y Strategaeth Gorfforaethol a'r Amcanion Llesiant a fabwysiadwyd ym mis Mehefin 2018 yn cael eu haddasu, fel yr adroddwyd, i adlewyrchu blaenoriaethau sy'n datblygu ac effaith y pandemig Covid-19, Brexit a newid yn yr hinsawdd.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2019-20 pdf eicon PDF 235 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd Gweithredol Adroddiad Blynyddol 2019-20 ar gyfer y Cynllun Cydraddoldeb Strategol.  Roedd yr adroddiad yn rhoi cyfle i'r Bwrdd adolygu, monitro ac edrych yn ôl ar y gweithgarwch parhaus sy'n gysylltiedig â bodloni dyletswyddau cyffredinol a phenodol Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn ogystal, roedd yr adroddiad blynyddol yn cynnwys gwybodaeth mewn perthynas â chyflogaeth, hyfforddiant a thâl.

 

Nododd y Bwrdd fod Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol yn nodi sut y mae cyrff cyhoeddus yn ystyried anghenion grwpiau â 'nodweddion gwarchodedig', fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, er mwyn sicrhau bod pob unigolyn yn cael triniaeth gyfiawn a chyfartal o ran darparu gwasanaethau a llunio strategaethau/polisïau.

 

Dywedwyd bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol wedi'i ddiwygio drwy gydol 2020 ar ôl gweithio mewn partneriaeth â'r Awdurdodau Lleol ar draws ardal Dyfed Powys, y ddau Fwrdd Iechyd, Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, i gynnal ymarfer ymgysylltu ac ymgynghori manwl.

 

Nodwyd bod Calendr Hybu Amrywiaeth a Chydraddoldeb a'r Protocol Baneri a Goleuo wedi cael eu datblygu. Cydnabuwyd er bod hwn yn ddull gwych o godi ymwybyddiaeth, roedd yr un mor bwysig i barhau i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy gydol y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2019-20.

 

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YR IAITH GYMRAEG 2019-20 pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd Gweithredol, yn unol â threfniadau monitro Comisiynydd y Gymraeg, yr Adroddiad Blynyddol ar y Gymraeg a oedd yn amlinellu'r gwaith gweithredu yn 2019-20.  Canolbwyntiodd yr adroddiad ar y bedwaredd flwyddyn o weithredu Safonau'r Gymraeg.

 

Darparodd yr adroddiad wybodaeth ystadegol fanwl mewn perthynas â gweithredoedd y Strategaeth, a oedd yn cynnwys archwiliad o sgiliau Iaith Gymraeg y gweithlu a data mewn perthynas â recriwtio.

 

Nododd aelodau'r Bwrdd yn ystod 2019/20 fod ysgogiad newydd wedi'i roi i weithredu'r safonau o fewn y Cyngor, oherwydd bod cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar waith mewnol yn ogystal ag adeiladu ar bartneriaethau gyda sefydliadau eraill er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg ar draws Sir Gaerfyrddin.  Cydnabuwyd bod cynnydd o 43% o staff wedi ymgymryd â Chyfle Dysgu a Datblygu i ddysgu neu wella eu Cymraeg yn ystod 2019/20.

 

Adroddwyd bod y Cyngor wedi ennill categori 'Cyflogwr y Flwyddyn' yng Ngwobrau Dysgu Cymraeg 2020, anrhydedd a oedd yn dangos ymrwymiad y Cyngor i'r Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad blynyddol o ran yr Iaith Gymraeg a chydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg yn ystod 2019-2020.

 

 

10.

PARTERIAETH GWELLA YSGOLION YN Y DYFODOL pdf eicon PDF 338 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am drefniadau rhanbarthol i wella ysgolion.

 

Oherwydd oedi wrth ddatblygu a sefydlu model partneriaeth newydd ar gyfer y gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol (ERW), roedd yr adroddiad yn gofyn i'r Bwrdd Gweithredol ohirio tynnu'n ôl o ERW rhwng 31 Mawrth 2021 a 31 Awst 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

10.1 nodi, ers cyflwyno'r hysbysiad i dynnu'n ôl o ERW, nad yw'r gwaith o ran ôl troed a model newydd ar gyfer gwella ysgolion rhanbarthol wedi'i ddatblygu i raddau sy'n galluogi trosglwyddiad didrafferth i fodel newydd erbyn 31 Mawrth 2021.

 

10.2 nodi ei bod yn debygol y bydd angen gwneud newidiadau cyfreithiol i drefniadau llywodraethu unrhyw fodel newydd ar gyfer gwella ysgolion, ac na fydd hynny wedi digwydd erbyn 31 Mawrth 2021.

 

10.3 cytuno i dynnu'n ôl yr hysbysiad i dynnu'n ôl, ac aros yn ERW tan 31 Awst 2021 neu hyd nes y bydd trefniadau newydd ar waith.

 

10.4 dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant ac i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol fod yn rhan o unrhyw Weithred o Amrywiad sy'n angenrheidiol i sicrhau unrhyw newid i'r trefniadau tynnu'n ôl neu unrhyw newidiadau angenrheidiol eraill a gymeradwywyd gan y Cyd-bwyllgor.

 

 

11.

CYNLLUN CARBON SERO-NET - ADRODDIAD DIWEDDARU pdf eicon PDF 908 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad diweddaru ar y Cynllun Carbon Sero-net a ddatblygwyd yn dilyn cymeradwyo'r Cynllun Carbon Sero-net ar 12 Chwefror 2020.  Datblygwyd y diweddariad i'r Cynllun Carbon Sero-net yn unol â Gweithred NZC-28 o'r Cynllun sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi adroddiadau perfformiad blynyddol ar y cynnydd tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero-net net erbyn 2030. 

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl yn yr adrannau canlynol:

 

  • Crynodeb Lefel Uchel gan gynnwys Cynnydd yn erbyn Camau
  • COVID-19 a Newid yn yr Hinsawdd
  • Diweddariad ar y Cynnydd
  • Camau yn y Dyfodol
  • Ymateb Ehangach i'r Argyfwng Hinsawdd (Atodiad 1)

 

Yn ogystal â'r adroddiad, nododd y Bwrdd yn ei gyfarfod ar y 5 Mawrth 2021, bod y Pwyllgor Craffu - Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd wedi penderfynu ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cymru i gyfleu ei bryder ynghylch capasiti cyfyngedig y rhwydwaith dosbarthu trydan lleol ac i ofyn i Lywodraeth Cymru weithio gydag Awdurdodau Lleol, ac eraill, i ddatblygu cynllun clir i fynd i'r afael â'r mater hwn. Yn ogystal, yn ei lythyr roedd yn mynegi siom nad oedd y Canllawiau Adrodd ar Garbon Cymru wedi'u cyhoeddi hyd yma.

 

Roedd y Bwrdd, ar ôl ystyried cais y Pwyllgor Craffu - Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd i'r Bwrdd Gweithredol ysgrifennu llythyr ar wahân at Lywodraeth Cymru i adleisio a chefnogi sylwadau'r Pwyllgor, yn cydnabod pwysigrwydd hyn er mwyn gallu bwrw ymlaen a pharhau i weithio tuag at ddod yn sefydliad Carbon Sero-net erbyn 2030, wedi cytuno i’r cais.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

11.1 bod y Cynllun Carbon Sero-net - Adroddiad Diweddaru yn cael ei gymeradwyo;

 

11.2 bod llythyr yn cael ei ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i adleisio'r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2021;

 

11.3 bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Swyddogion wneud addasiadau teipio neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Cynllun Carbon Sero-net - Adroddiad Diweddaru.

 

 

12.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 249 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020, o ran 2020/2021. Roedd y sefyllfa gyllidebol yn cydnabod y pwysau ychwanegol sylweddol a roddwyd ar yr Awdurdod wrth ymateb i bandemig Covid-19 a’r gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai tanwariant diwedd blwyddyn o £1,325k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai tanwariant o £232k ar lefel adrannol. 

 

Er bod adroddiadau yn gynharach yn y flwyddyn wedi dangos gorwariant sylweddol oherwydd effaith Covid-19, nododd y Bwrdd Gweithredol fod y sefyllfa a ragwelir ar hyn o bryd wedi gwella'n sylweddol, gyda'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â Covid-19 a'r incwm a gollwyd yn cael eu had-dalu'n bennaf o gynllun caledi Llywodraeth Cymru.

 

Nodwyd ymhellach, er y nodir bod y sefyllfa gyffredinol yn llawer mwy ffafriol nag a adroddwyd yn flaenorol, bod rhai adrannau'n dal i ddangos pwysau sylweddol. Yn benodol, roedd adrannau Cymunedau a'r Amgylchedd yn dal i nodi gorwariant o tua £500K yr un. Roedd adrannau'n dal i gael eu herio gan y pwysau a'r ymateb sy'n ofynnol i Covid-19 ac roedd disgwyl i’r sefyllfa ddigynsail hon barhau i'r flwyddyn ariannol nesaf.

Dangosir yn Atodiad A i'r adroddiad y sylwadau ar yr amrywiannau penodol yn y gyllideb lle nodwyd tybiaethau

 

Nododd Aelodau'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn nodi bod casglu'r Dreth Gyngor yn parhau i fod yn faes sy'n peri pryder sylweddol. Fodd bynnag, mewn ymateb i ymholiad o ran taliadau'r Dreth Gyngor yn y dyfodol, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y byddai'n unrhyw Dreth Gyngor nad oedd wedi cael ei thalu eleni yn cael ei hadennill y flwyddyn nesaf lle bynnag y bo modd.  Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod hwn yn faes heriol a bod y gohiriadau sylweddol a wnaed yn gynnar yn y flwyddyn ariannol ar ddechrau'r pandemig yn cael eu rheoli a'u casglu ar hyn o bryd ac y byddai talwyr y Dreth Gyngor a oedd yn ei chael yn anodd talu mewn sefyllfa i wneud cais am Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, eglurodd fod y timau hynny'n cydweithio'n agos i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu lle bynnag y bo modd.

 

Gwelodd Sir Gaerfyrddin ostyngiad sylweddol mewn taliadau yn ystod y chwarter cyntaf, a oedd yn annhebygol o wella'n llwyr yn ystod y flwyddyn, fodd bynnag i ddechrau byddai'r broses o gasglu'r ddyled hon yn parhau i'r flwyddyn nesaf, ond rhagwelir y bydd elfennau o hyn yn ddrwgddyled a byddai angen ei ddileu. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu rhywfaint o arian i gefnogi Awdurdodau Lleol mewn perthynas â'r mater hwn.

 

Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn meintioli rhagfynegiad o danwariant o £2,937k ar gyfer 2020/21.  Roedd rhestr o'r prif amrywiannau ynghlwm wrth yr adroddiad, sef Atodiad B

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

12.1 bod yr Adroddiad Monitro'r Gyllideb yn cael ei dderbyn, a bod ystyriaeth yn cael ei roi i'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol.

12.2  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12.

13.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2020-21 pdf eicon PDF 382 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran sefyllfa derfynol y gyllideb ar gyfer rhaglen gyfalaf 2020/21 ar 31 Rhagfyr, 2020.

 

Nododd Aelodau'r Bwrdd Gweithredol fod £38m o'r amrywiant o -£63,153k a adroddwyd yn adroddiad monitro cyfalaf mis Hydref wedi'i gynnwys yng nghyllidebau'r blynyddoedd i ddod fel rhan o raglen gyfalaf pum mlynedd 2021/22 i 2025/26.  Roedd cyllidebau wedi'u diwygio i adlewyrchu'r llithriad hwn i'r blynyddoedd i ddod ac fe'i cyflwynwyd hefyd yn yr adroddiad hwn.

 

Roedd Atodiad A oedd wedi'i atodi i'r adroddiad yn rhagweld gwariant net o £44,717k o gymharu â chyllideb net weithredol o £76,284k gan roi
 -£31,567k o amrywiant. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod yr amrywiant sylweddol a ragwelir ar hyn o bryd yn parhau i gael ei briodoli i raddau helaeth i'r cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â phandemig Covid-19.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar Gynlluniau ychwanegol i'r Rhaglen Gyfalaf a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Bwrdd Gweithredol.

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried y prif amrywiannau a nodwyd ym mhob adran a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad yn Atodiad B.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

13.1 bod adroddiad diweddaru'r rhaglen gyfalaf yn cael ei dderbyn;

13.2 bod y prosiectau ychwanegol y manylir arnynt yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo.

 

 

14.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Manteisiodd Arweinydd y Cyngor ar y cyfle i godi ymwybyddiaeth mai yfory oedd y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod [dydd Mawrth, 23 Mawrth 2021] a fyddai'n cael ei nodi drwy oleuo Neuadd y Sir er mwyn myfyrio a chofio am y  rhai a oedd wedi colli eu bywydau yn ystod y pandemig.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd, ar ôl derbyn cais i ystyried adroddiad brys ar 'Brynu Tai Fforddiadwy Byw â Chymorth', ei fod wedi cytuno i'w gynnwys ar agenda heddiw gan fod angen penderfyniad gan y Bwrdd Gweithredol i roi camau ar waith i ddenu arian grant cyn y dyddiad cau, sef 31/3/2021.  Byddai'r adroddiad yn unol â pharagraff 14 o ran 4 o'r atodlen i 12(A) Deddf Llywodraeth Leol 1972 yn cael ei ystyried yn breifat.

 

 

15.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

16.

PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU "GALW I MEWN" PENDERFYNIAD GWEITHREDOL - TIR YM MHENPRYS, LLANELLI

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 15 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai cael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried  adroddiad yn gofyn am ystyried penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau yn ei gyfarfod ar 8 Mawrth 2021; sef cyfeirio Penderfyniad Gweithredol a wnaed gan y Bwrdd Gweithredol ar Dir ym Mhenprys Llanelli yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol gan roi sylw penodol i Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol a'r goblygiadau i Amlosgfa Llanelli.

 

Roedd Aelodau'r Bwrdd Gweithredol, ar ôl ail-ystyried y penderfyniad a wnaed ar 8 Chwefror 2022 wedi 

 

PENDERFYNU'N UNFRYDOL i gynnal y penderfyniad a chymeradwyo dirprwyo'r awdurdod hwnnw i'r Pennaeth Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, i drafod telerau ac ymrwymo i gytundeb opsiwn gyda'r tirfeddiannwr cyfagos ymMhenprys, Llanelli.”

 

 

17.

CYMORTH ARIANNOL AR GYFER CHRT / LLANELLY HOUSE

Cofnodion:

Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 15 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Roedd y prawf budd cyhoeddus mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na diddordeb y cyhoedd mewn datgelu'r wybodaeth ynddo gan fod adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ariannol sensitif yn ymwneud â'r Ymddiriedolaeth a'r prosiect.  Er y byddai'r budd i'r cyhoedd fel rheol yn ffafrio tryloywder a diffuantrwydd, roedd y budd i'r cyhoedd o gadw cyfrinachedd yn drech yn yr achos hwn, oherwydd yr angen i ddiogelu cynaliadwyedd y prosiect.

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar sefyllfa ariannol bresennol Plas Llanelly, gan nodi pwysigrwydd Plas Llanelly i adfywiad Canol Tref Llanelli. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL cymeradwyo pecyn cymorth fel y nodir yn yr adroddiad am 2 flynedd arall.

 

 

18.

PRYNU TAI FFORDDIADWY BYW Â CHYMORTH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 15 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai cael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am ganiatâd i brynu cartrefi fforddiadwy a fyddai'n sicrhau pedwar ar bymtheg o unedau llety i unigolion ag anableddau dysgu neu anableddau iechyd meddwl y mae angen cymorth arnynt.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

18.1 cytuno bod y pum eiddo fel y nodir yn yr adroddiad yn cael eu prynu fel rhan o'r rhaglen tai fforddiadwy sy'n prynu cartrefi yn y sector preifat, ar delerau fel y nodir yn yr adroddiad.

 

18.2 cytuno bod y cyllid ar gyfer ariannu'r caffael hwn yn deillio o raglen Cronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru 2020/21 a rhaglen gyfalaf HRA 2020/21, ar delerau fel y nodir yn yr adroddiad.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau