Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 30ain Tachwedd, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd/Swyddog

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Cynghorydd Emlyn Dole

13 - Cronfa Arloesi Arfor

Mae'r Cynghorydd A. Vaughan Owen (ymgeisydd) yn aelod o'r un blaid wleidyddol.

Cynghorydd Glynog Davies

15 - Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio 2018-2021

Mae'n Gyfarwyddwr cwmni sydd wedi'i leoli yn nhref Llanelli. 

Jake Morgan

9 - Amrywio Cytundeb Cyfreithiol y Consortia Rhanbarthol (ERW)

Mae ei wraig yn gweithio i ERW.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 16EG TACHWEDD, 2020 pdf eicon PDF 297 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2020 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

RHAGOLWG CYLLIDEB REFENIW 2021/22 i 2023/24 pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar ragolygon y gyllideb refeniw a oedd yn nodi'r rhagolygon ariannol presennol a'r model ariannol diweddaraf ar gyfer y tair blynedd ariannol nesaf. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r cynigion o ran paratoi'r gyllideb am y tair blynedd nesaf.

 

Er bod yr Awdurdod wedi derbyn cynnydd o £14m yn ei setliad gan Lywodraeth Cymru, nodwyd bod angen cynnydd o 4.89% yn y dreth gyngor a gostyngiadau yn y gyllideb o £5.1m i fantoli'r gyllideb.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol na fyddai Llywodraeth Cymru yn cadarnhau data'r setliad dros dro tan 22 Rhagfyr.  Byddai ymgynghoriadau'n dechrau ym mis Ionawr, fodd bynnag, oherwydd y setliad hwyr byddai amserlen y gyllideb yn cael ei chywasgu hyd yn oed yn fwy nag arfer.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

6.1  Derbyn rhagolygon cychwynnol y gyllideb ac ystyried lefel y cynnydd yn y Dreth Gyngor a lefel arbedion effeithlonrwydd ysgolion y mae’n ystyried yn briodol ar gyfer datblygu'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig;

6.2  Cymeradwyo'r dull arfaethedig o glustnodi'r arbedion angenrheidiol;

6.3 cymeradwyo'r dull arfaethedig o ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

7.

LLYTHYR BLYNYDDOL YR OMBWDSMON 2019/20 pdf eicon PDF 370 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019/20.  Roedd taflen ffeithiau a data ynghlwm wrth y llythyr, sy'n cynorthwyo'r Awdurdod i adolygu perfformiad.

 

Nodwyd y bu gostyngiad o 2.4% yn nifer y cwynion a gafwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch awdurdodau lleol yn genedlaethol a bod nifer y cwynion a gafwyd gan yr Ombwdsmon ynghylch Sir Gaerfyrddin wedi gostwng yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o 49 i 42.  Nodwyd bod y rhan fwyaf yn ymwneud â'r cyfnod cyn i Covid gynyddu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2019-20.

 

8.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2020 I MEDI 30AIN 2020 pdf eicon PDF 219 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad diweddaru ar weithgareddau rheoli'r trysorlys a'r dangosyddion darbodus ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Medi 2020.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn mabwysiadu Adroddiad Canol Blwyddyn ynghylch y Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys o 1 Ebrill 2020 i 30 Medi 2020.

 

9.

AMRYWIO CYTUNDEB CYFREITHIOL Y CONSORTIA RHANBARTHOL (ERW) pdf eicon PDF 413 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd Jake Morgan wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod]

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar Amrywio'r Cytundeb Cyfreithiol er mwyn gallu darparu gwasanaethau dros dro i ysgolion Castell-nedd Port Talbot, galluogi'r Awdurdodau oedd yn weddill i dynnu'n ôl a diddymu ERW.

 

Nodwyd bod Castell-nedd Port Talbot wedi gadael ERW ar 31 Mawrth, 2020; Roedd Cyngor Ceredigion ac Abertawe hefyd wedi rhoi rhybudd eu bod yn gadael.  Nid oedd Powys na Chyngor Sir Penfro wedi rhoi rhybudd eto.  Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin i fod i adael ERW ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Y cynnig presennol oedd y dylid diddymu ERW ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21 ond gallai'r llinell amser hon newid yn dibynnu ar y cytundebau a fyddai'n dod i law. Y dyddiad gweithredu amgen a awgrymwyd oedd 31 Awst 2021.

 

Roedd y Bwrdd yn cydnabod bod model presennol ERW yn ddiffygiol a gofynnodd i'r broses o newid i'r model newydd gael ei chynnal cyn gynted â phosibl a hefyd adlewyrchu gweledigaeth dysgu ddwyieithog Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

9.1 cytuno ar y newidiadau i Gytundeb Cyfreithiol ERW er mwyn hwyluso'r gwaith o ddarparu gwasanaethau y cytunwyd arnynt i ysgolion Castell-nedd Port Talbot yn ystod 2020/21 fel y nodir yn yr adroddiad.

9.2 cytuno bod newidiadau'n cael eu gwneud i'r Cytundeb Cyfreithiol   fel y nodir yn yr adroddiad.

9.3 dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr Addysg i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r Cytundeb Cyfreithiol (mewn ymgynghoriad â phartneriaid eraill ERW) ac i ymrwymo i unrhyw ddogfennau sy'n angenrheidiol i weithredu unrhyw un o'r argymhellion yn yr adroddiad ac i ddiogelu buddiannau'r Cyngor.

 

10.

GORCHYMYN DATBLYGU LLEOL - DWYRAIN CROSS HANDS pdf eicon PDF 517 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno Gorchymyn Datblygu Lleol yn Nwyrain Cross Hands.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi bod Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands yn lleoliad cyflogaeth rhanbarthol o bwys yn Sir Gaerfyrddin ac yn rhan bwysig o Barth Twf Cross Hands. Gan ddarparu 19 erw o dir y gellir ei ddatblygu, byddai datblygiad ar y raddfa hon yn creu tua 1,000 o swyddi newydd. Mae'r galw am leoliadau diwydiannol a busnes yn Cross Hands a'r Sir yn uchel gyda chyfraddau defnydd ym mhortffolio diwydiannol y Cyngor yn gyson dros 90%.

 

Nodwyd bod Gorchymyn Datblygu Lleol yn rhoi cyfle i Awdurdod Cynllunio Lleol symleiddio'r broses gynllunio drwy ddileu'r angen i ddatblygwyr/ymgeiswyr gyflwyno cais cynllunio i'r Awdurdod ac i gyflwyno cynigion datblygu fel cais am Orchymyn Datblygu Lleol, gan ganiatáu i awdurdod weithredu'n rhagweithiol mewn ymateb i amgylchiadau lleol penodol yn ei ardal ddaearyddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod y Gorchymyn Datblygu Lleol arfaethedig yn cael ei ystyried drwy'r broses adrodd ddemocrataidd.

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o ran materion brys.

 

12.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

13.

CRONFA ARLOESI ARFOR

Cofnodion:

[SYLWER:  Noder: gadawodd yr Arweinydd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon a daeth y Dirprwy Arweinydd i'r Gadair. Ystyriwyd yr eitem fel yr eitem olaf ar yr agenda] 

 

Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad uchod o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r person a'r busnes a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol. 

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais am gymorth gan Gronfa Arloesi Arfor. Blaenoriaeth y gronfa oedd cefnogi twf busnes mewn ardaloedd â chyfran uchel o siaradwyr Cymraeg a chreu mwy o swyddi â chyflog gwell i gadw pobl leol yn yr ardaloedd hynny.

 

Roedd y cais, a fyddai fel arfer yn cael ei benderfynu fel rhan o gyfarfod Penderfyniadau Aelodau'r Bwrdd Gweithredol ar gyfer yr Arweinydd, wedi'i gyfeirio at y Bwrdd Gweithredol gan fod y cais wedi'i gyflwyno gan gwmni a oedd yn eiddo i'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen a oedd hefyd yn aelod o gr?p Plaid Cymru.  Roedd y Cynghorydd Dole wedi cyfeirio’r cais at y Bwrdd Gweithredol i benderfynu arno er nad oedd ganddo ddiddordeb penodol yn y mater.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Arloesi Arfor gan Ynni Da am gyfanswm o £1,535.04, yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad.

 

14.

MENTRAU ADFYWIO CROSS HANDS

Cofnodion:

Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd cyhoeddus mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na budd y cyhoedd gan y byddai datgelu cynnwys yr adroddiad yn gwanhau sefyllfa'r awdurdod mewn unrhyw ymarfer tendro dilynol ac o bosibl yn arwain at fwy o gost i gyllid cyhoeddus nag a fyddai fel arall.

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mentrau adfywio parhaus yn Cross Hands gan gynnwys cymeradwyo'r estyniad i'r cytundeb Cyd-fenter presennol (rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru) hyd at 31 Mawrth 2024.  Hefyd, cymeradwyo'r gwaith o ddatblygu a darparu datblygiad cyflogaeth defnydd cymysghunan-adeiladol ar Lain 3 Safle Cyflogaeth Dwyrain Cross Hands. 

 

Er cywirdeb, nodwyd, yn adran ymgynghori'r adroddiad, y dylid nodi yr ymgynghorwyd â'r Cynghorydd A. Vaughan-Owen ac nid y Cynghorydd A. Scourfield.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

14.1 Ymestyn cytundeb presennol Cyd-fenter Cross Hands hyd at 31 Mawrth 2024 (2 flynedd o fis Mawrth 2022).

14.2 Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol  i ddatblygu'r gwaith ogyflawni prosiect Llain 3 drwy bob cam datblygu/gweithredu hyd at ei gwblhau fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Gan gynnwys awdurdod i fwrw ymlaen â'r prosiect heb neu gyda chyfraniad y Ganolfan Adeiladu Gweithredol, yn amodol ar drafodaethau cyfreithiol parhaus gyda'r Ganolfan Adeiladu Gweithredol a'u cynrychiolwyr cyfreithiol.

14.30 Bod y Pennaeth Adfywio, drwy ymgynghori â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, yn cael awdurdod dirprwyedig i werthu lleiniau o fewn Cyd-fenter Cross Hands yn unol â'r strategaeth werthu ac mewn cytundeb â Llywodraeth Cymru fel partner y gyd-fenter.

 

15.

RHAGLEN TARGEDU BUDDSODDIAD MEWN ADFYWIO 2018-2021

Cofnodion:

[Sylwer: Ar ôl datgan diddordeb yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Glynog Davies y cyfarfod yn ystod trafodaethau ynghylch canol tref Llanelli / Adeiladau'r Goron]

 

Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad yn nodi'r sefyllfa bresennol a'r cynnydd o ran y Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

15.1 cefnogi'r cynigion ar gyfer prosiectau blwyddyn 4 o ran darparu'n rhanbarthol y Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio (2021-2022).

15.2 Cymeradwyo bod tîm y prosiect yn datblygu'r ceisiadau gydag ymgeiswyr trydydd parti ar brosiectau Adeiladau'r Goron a'r Linc.