Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 19EG HYDREF 2020 pdf eicon PDF 334 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 19 Hydref, 2020 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

6.

GORCHMYNION DATBLYGU LLEOL CANOL TREF CAERFYRDDIN A CHANOL TREF RHYDAMAN pdf eicon PDF 596 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion i gyflwyno Gorchmynion Datblygu Lleol ar gyfer Canol Tref Caerfyrddin a Chanol Tref Rhydaman. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y rôl bosibl y gallai Gorchmynion Datblygu Lleol ei chwarae fel rhan o gynigion adfywio ehangach yng nghyd-destun Canol y Dref, yn enwedig o ran Caerfyrddin a Rhydaman wrth gefnogi'r Fenter Lleoedd Llewyrchus a sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll effeithiau economaidd COVID-19. Roedd y cynigion hefyd yn rhoi sylw dyledus i Gynllun Adfer Corfforaethol y Cyngor a Chanllawiau Cynllunio Llywodraeth Cymru – 'Adeiladu Lleoedd Gwell’.

 

Nodwyd bod Gorchymyn Datblygu Lleol yn rhoi cyfle i Awdurdod Cynllunio Lleol symleiddio'r broses gynllunio drwy ddileu'r angen i ddatblygwyr/ymgeiswyr gyflwyno cais cynllunio i'r Awdurdod ac i gyflwyno cynigion datblygu fel cais am Orchymyn Datblygu Lleol, gan ganiatáu i awdurdod weithredu'n rhagweithiol mewn ymateb i amgylchiadau lleol penodol yn ei ardal ddaearyddol.

 

Cyfeiriwyd at y cynnig i gynnwys rhan isaf Heol Awst, Caerfyrddin yn rhan o'r Gorchymyn Datblygu Lleol ar gyfer Canol Tref Caerfyrddin. Mynegwyd barn y dylid cynnwys y stryd honno yn ei chyfanrwydd yn y cynnig drafft a bod argymhelliad i'r perwyl hwnnw'n cael ei wneud i'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

6.1

Bod cwmpas y Gorchymyn Datblygu Lleol arfaethedig yn cael ei gymeradwyo i'w ystyried drwy gyfrwng y broses adrodd ddemocrataidd;

6.2

Bod y Gorchmynion Datblygu Lleol yn cael eu paratoi ar gyfer y trefi perthnasol gan gynnwys cynnal ymgynghoriadau ffurfiol fel y bo'n briodol ac adrodd ymhellach ar eu cwmpas, eu cynnwys a'u graddau daearyddol arfaethedig;

6.3

Cymeradwyo cyhoeddi'r Gorchymyn Datblygu Lleol terfynol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o 6 wythnos o leiaf;

6.4

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion baratoi tystiolaeth i gefnogi'r Gorchymyn Datblygu Lleol;

6.5

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud mân newidiadau golygyddol a ffeithiol;

6.6

Diwygio'r cynllun ar gyfer Gorchymyn Datblygu Lleol Canol Tref Caerfyrddin i gynnwys Heol Awst, Caerfyrddin yn ei chyfanrwydd.

 

 

7.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o ran materion brys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau