Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch 0330 336 4321 cyfrin-gôd' 07632343# Am daliadau galwad cysylltwch â'ch darparwr gwasanaeth.
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 21 Medi 2020 yn gofnod cywir. |
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2019/20 PDF 105 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Blynyddol Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2019/20 a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nodwyd bod yn rhaid cyhoeddi'r adroddiad erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn i gydymffurfio â'r Mesur.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2019/20 yn cael ei gymeradwyo. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol, yn unol â phenderfyniad y Cyngor ar 3 Mawrth 2020, yn ystyried adroddiad diweddaru ar weithgareddau rheoli'r trysorlys a'r dangosyddion darbodus ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Mehefin 2020. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|||||||
CYTUNDEB CYD-BWYLLGOR BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE PDF 124 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i benderfyniad Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddiwygio Cymal 7 o Atodlen 12 o Gytundeb y Cyd-bwyllgor mewn perthynas â threfniadau Cworwm y Cyd-bwyllgor Craffu a oedd yn ymwneud â dileu Cymal 7.1 a'i ddisodli gyda'r canlynol:
“Ni fydd y Cworwm ar gyfer cyfarfodydd yn llai na 6 aelod, a rhaid iddo gynnwys o leiaf 1 aelod o bob un o'r 4 Awdurdod. Ni chaniateir i'r Cyd-bwyllgor Craffu fynd ati i graffu ar fater sy'n ymwneud â phrosiect os nad yw’r aelod sy'n cynrychioli'r Cyngor sy'n ymwneud â'r prosiect hwnnw yn bresennol yn y cyfarfod”
Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol, cyn y gall unrhyw welliant i Gytundeb y Cyd-bwyllgor ddod i rym, byddai angen iddo gael ei ystyried yn y lle cyntaf gan y Cyd-bwyllgor ac yna ei osod gerbron pob un o'r 4 awdurdod lleol i'w ystyried a'i fabwysiadu. Yn unol â'r cytundeb hwnnw, roedd y Cyd-bwyllgor wedi ystyried y gwelliant ar 9 Gorffennaf 2020 ac roedd bellach yn cael ei gyflwyno i bob un o'r 4 awdurdod i'w cadarnhau PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR: 6.1 gymeradwyo penderfyniad Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe i’r gwelliant o ran trefniadau cworwm y Cyd-bwyllgor Craffu, fel y nodir yn yr adroddiad. 6.2 awdurdodi'r Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith i wneud gweithred o amrywiad er mwyn gweithredu'r newidiadau i Gytundeb y Cyd-bwyllgor. |
|||||||
FERSIWN ADNEUOL DRAFFT O GYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018 - 2033 PDF 142 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar y Cytundeb Cyflawni diwygiedig a diweddariad o ran Covid-19 mewn perthynas â mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033.
Atgoffwyd y Bwrdd fod y Cyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2019 wedi cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus 6 wythnos (a gafodd ei ymestyn i 8 wythnos) ar y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuol 2018-2033 ynghyd â'i ddogfennau ategol (Asesu Rheoliadau Cynefinoedd ac Arfarniad Cynaliadwyedd) a dau Ganllaw Cynllunio Atodol drafft. Atgoffwyd y Bwrdd hefyd fod ymgynghoriad 3 wythnos ychwanegol wedi'i gynnal mewn ymateb i effaith y cyfyngiadau symud. Roedd yr adroddiad cyfredol yn cynnwys effaith Covid 19 ar yr ymgynghoriad hwnnw a’r gwaith oedd yn mynd rhagddo o ran paratoi'r CDLl diwygiedig. Roedd hefyd yn ystyried goblygiadau'r achosion o coronafeirws ar yr amserlen ar gyfer mabwysiadu'r CDLl a'r cynnig i ddiwygio'r Cytundeb Cyflawni (a'i amserlen a’r Cynllun Cynnwys y Gymuned) cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gytuno.
Tynnwyd sylw'r Bwrdd Gweithredol at yr argymhelliad yn yr adroddiad i ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gofyn am ddiwygio'r ddeddfwriaeth ynghylch darpariaethau’r ‘dyddiad terfynol’ ar gyfer y CDLl presennol. Dywedwyd bod gohebiaeth wedi dod i law gan y Gweinidog yn cadarnhau na fyddai'r darpariaethau hynny'n gymwys i Awdurdodau Lleol yr oedd eu cynlluniau ar waith erbyn 4 Ionawr 2016. Gan fod CDLl y Cyngor wedi'i fabwysiadu yn 2014, ni fyddai'r ddeddfwriaeth yn berthnasol, a byddai'n parhau i fod yn sail ar gyfer gwneud penderfyniadau nes iddo gael ei ddisodli gan y CDLl Diwygiedig. O ganlyniad, gellid tynnu yn ôl yr argymhelliad yn yr adroddiad i ysgrifennu at y Gweinidog.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:
|
|||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o ran materion brys. |