Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 7fed Medi, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch 0330 336 4321 cyfrin-gôd' 64344981# Am daliadau galwad cysylltwch â'ch darparwr gwasanaeth. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 27AIN GORFFENNAF, 2020 pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol oedd wedi ei gynnal ar 27 Gorffennaf, 2020, gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

CYNLLUN DIGARTREFEDD TROSIANNOL pdf eicon PDF 288 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol fod Llywodraeth Cymru, yn dilyn achosion o Covid-19, wedi ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod tai lleol yng Nghymru, waeth beth fo hanes blaenorol y cleient, ddarparu llety dros dro ac ailgartrefu'r holl bobl sengl sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref, gan gynnwys y rhai sy'n gadael y carchar. Roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod y byddai'r gofyniad yn rhoi pwysau sylweddol ar adnoddau awdurdodau lleol ac roedd wedi darparu cronfa galedi gwerth £10m i ddechrau helpu i ddiwallu'r pwysau hynny (a oedd yn dod i ben ym mis Gorffennaf). Roedd y Cyngor wedi hawlio tua £80k y mis o'r gronfa. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi nodi y byddai £20m ychwanegol (cymysgedd o gyllid refeniw a chyfalaf) ar gael i awdurdodau lleol a byddent yn cael eu gwahodd i gyflwyno ceisiadau i'r gronfa i'w helpu gyda hyn ac i lunio cynlluniau pontio ar gyfer mynd i'r afael â digartrefedd. Roedd y cais yn cynnwys llunio cynlluniau cynaliadwy i wella'r ddarpariaeth o ran llety dros dro a chymorth i alluogi'r rhai a oedd yn ddigartref i gael llety parhaol.

 

Yn unol â'r gofyniad uchod, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cynllun Pontio - Digartrefedd arfaethedig yr awdurdod a oedd yn cynnwys: 

 

·       Amlinelliad o effaith COVID-19 ar y ddarpariaeth o ran digartrefedd yn enwedig o ran pobl sengl;

·       Amlinelliad o’r cynlluniau i gefnogi ac ailgartrefu pobl ddigartref dros y 12 mis nesaf ac i'r dyfodol;

·       Cais a luniwyd i Lywodraeth Cymru am arian i helpu awdurdodau lleol i wneud y cynlluniau a'r newidiadau sydd eu hangen.

 

Yn deillio o'r uchod, dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol bod aelod o staff yn Ysgol y Dderwen wedi cael prawf positif am Covid-19 a bod y protocolau Profi, Olrhain a Diogelu wedi'u rhoi ar waith a'u bod yn gweithio'n dda. Roedd y Pennaeth wedi ysgrifennu at holl rieni’r plant yn yr ysgol yn dweud ei fod yn gweithio gyda'r Awdurdod Lleol ar reoli'r sefyllfa gan eu hatgoffa o symptomau Covid-19, beth i'w wneud os byddent yn amau bod ganddynt y symptomau gan gynnwys hunanynysu a chysylltu â Llesiant Delta.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol fod y systemau a'r protocolau a oedd ar waith yn gweithio i ddiogelu staff yr ysgol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

6.1

Nodi'r modd roedd y Cyngor wedi rheoli'r galw ar wasanaethau digartrefedd o ganlyniad i Covid-19;

6.2

Bod y camau gweithredu a amlinellir yn yr adroddiad yn cael eu cymeradwyo a bod y cynllun pontio a fydd yn llywio'r cais i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadarnhau.

 

 

7.

CALENDR HYRWYDDO CYDRADDOLDEB A’R PROTOCOL BANERI A GOLEUO pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar y bwriad o gyflwyno Calendr Hyrwyddo Cydraddoldeb, ynghyd â chalendr posibl ar gyfer 2020/21. Nod y calendr oedd darparu diwrnodau safonol ac awdurdodedig allweddol i ddathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth gan roi llwyfan ar gyfer cyfathrebu mewnol ac allanol ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Nodwyd bod cael calendr pwrpasol o ddiwrnodau dynodedig / dathlu yn gyfle i hyrwyddo cydraddoldeb a meithrin cysylltiadau da rhwng grwpiau gwarchodedig ac osgoi'r angen i ystyried gwahanol geisiadau unigol am gymorth a allai arwain at ddiffyg cynrychiolaeth o'r grwpiau gwarchodedig, gan na fyddai gan yr holl nodweddion gwarchodedig symbolau/fflagiau i'w harddangos. Pe bai'n cael ei fabwysiadu, byddai'r protocol yn cael ei adolygu'n barhaus, o leiaf unwaith y flwyddyn, mewn trafodaeth ag Aelod Gweithredol y Bwrdd dros Gydraddoldeb a byddai Arweinydd y Cyngor yn cytuno ar unrhyw ychwanegiadau i'r calendr, mewn ymgynghoriad â holl arweinwyr y grwpiau.

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol hefyd yn ystyried protocol diwygiedig ar gyfer Baneri a Goleuo Adeiladau i adlewyrchu gofynion y Calendr Hyrwyddo Cydraddoldeb (yn amodol ar gymeradwyaeth y Calendr). Roedd y protocol yn amlinellu'r trefniadau ar gyfer dyddiadau dynodedig ar gyfer chwifio baneri (fel y nodwyd gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon), dyddiadau chwifio baneri y cytunwyd arnynt yn lleol a'r broses ar gyfer gofyn am ddyddiadau/digwyddiadau ychwanegol ar gyfer chwifio baneri neu oleuo Adeiladau'r Cyngor.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol, er eglurder, pe bai sefydliad yn dathlu digwyddiad dros gyfnod, er enghraifft un mis, dim ond ar ddechrau'r digwyddiad y byddai baneri/goleuo Adeiladau Sirol yn digwydd e.e. y diwrnod cyntaf neu dros y penwythnos ond nid ar gyfer cyfnod cyfan y digwyddiad. Yn ogystal, byddai angen rhoi gwybod i ymgeiswyr sy'n gofyn am oleuo adeiladau'r cyngor yn ystod misoedd yr haf ynghylch pa mor drawiadol fyddai hyn yn ystod cyfnod pan fo golau dydd yn parhau'n hirach a’r nos yn fyrrach. Cytunodd y Bwrdd Gweithredol y byddai geiriad y protocol yn cael ei newid i adlewyrchu'r pwyntiau uchod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL AR Y CANLYNOL:

7.1

Cytuno ar y Calendr Hyrwyddo Cydraddoldeb safonol ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin am y flwyddyn;

7.2

Cytuno ar y sianeli cyfathrebu a hyrwyddo allweddol yn y calendr;

7.3

Cytuno ar y Protocol Baneri a Goleuo Adeiladau diwygiedig

 

8.

CYFLWYNO GORCHYMYN DIOGELU MANNAU AGORED CYHOEDDUS - GORCHYMYN CYNGOR SIR CAERFYRDDIN (YFED ALCOHOL YNG NGHANOL TREF LLANELLI) 2020 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion i gyflwyno Gorchymyn Cyngor Sir Caerfyrddin, Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (Yfed Alcohol yng nghanol Tref Llanelli) 2020.  Pe bai'n cael ei fabwysiadu, byddai'r Gorchymyn yn rhoi pwerau ychwanegol i swyddogion yr heddlu, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a phobl eraill y rhoddwyd awdurdod iddynt gan y Cyngor, pan fyddent o'r farn bod unigolyn yn yfed, neu wedi bod yn yfed, alcohol o fewn yr ardal ddynodedig yng nghanol y dref.

 

Er y byddai'r Gorchymyn yn gwahardd yfed alcohol ar y tir yr oedd yn berthnasol iddo, nodwyd na fyddai'n drosedd yfed alcohol yn yr ardal ddynodedig. Fodd bynnag, byddai'n drosedd i fethu â chydymffurfio â chais a wneir gan yr heddlu, neu bobl awdurdodedig eraill, i roi'r gorau i yfed alcohol neu ildio alcohol heb esgus rhesymol. Byddai methu â chydymffurfio â'r cais hwnnw gyfystyr â thorri'r Gorchymyn a byddai unigolion naill ai'n cael Hysbysiad Cosb Benodedig o hyd at £100 neu'n cael eu harestio a gallai hyn arwain at ddirwy o hyd at £500.

 

Nodwyd ymhellach na fyddai'r Gorchymyn yn gymwys i nifer o fannau cyhoeddus lle yr awdurdodir gwerthu ac yfed alcohol o dan ddeddfwriaeth arall er enghraifft mewn clybiau a safleoedd trwyddedig. Byddai'r Gorchymyn yn parhau am gyfnod o dair blynedd ac yn cael ei adolygu'n rheolaidd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

8.1

Bod cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i fynd i'r afael â throseddau, anhrefn a niwsans sy'n gysylltiedig ag alcohol yn yr ardal a nodir yn Llanelli yn cael ei gymeradwyo;

8.2

Bod y swm sy'n daladwy pan fyddai Hysbysiad Cosb Benodedig yn cael ei roi yn £100;

8.3

Bod adolygiad o ffin y Gorchymyn yn cael ei gynnal o fewn chwe mis

 

 

9.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o ran materion brys.

 

10.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.

FFORDD GYSWLLT ECONOMAIDD CROSS HANDS GORCHYMYN PRYNU GORFODOL

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 10 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y budd i'r cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn tanseilio safbwynt y Cyngor mewn unrhyw drafodaethau dilynol.

 

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol ei fod yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2016, wedi cymeradwyo mewn egwyddor, i ddefnyddio pwerau prynu gorfodol gan y Cyngor i gaffael tir sy'n angenrheidiol ar gyfer adeiladu Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands. Yn dilyn y penderfyniad hwnnw, bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn ceisio defnyddio'r pwerau hynny i gaffael tir ar gyfer y ffordd gyswllt hon

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo  "GORCHYMYN PRYNU GORFODOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN (FFORDD GYSWLLT ECONOMAIDD CROSS HANDS) 2020" , fel y nodir yn yr adroddiad.

 

12.

FFORDD GYSWLLT ECONOMAIDD CROSS HANDS GORCHYMYN MÂN FFYRDD

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 10 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Mae'r prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na budd y cyhoedd gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ariannol fanwl ynghyd â rhesymau am Orchymyn posibl a fydd yn cael ei wneud gan y Cyngor. Er y byddai budd y cyhoedd yn cefnogi ymagwedd agored a thryloyw fel arfer, roedd hynny'n llai pwysig na budd y cyhoedd o ran cynnal cyfrinachedd masnachol a chyfrinachedd cyn gweithredu unrhyw hysbysiadau / gorchmynion a allai osod y Cyngor o dan anfantais fasnachol mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thirfeddianwyr gan olygu colled ariannol posibl o ran cyllid cyhoeddus.

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar wneud Gorchymyn Mân Ffyrdd Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands mewn perthynas ag adeiladu'r Ffordd Gyswllt.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo gwneud "GORCHYMYN MÂN FFYRDD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN (FFORDD GYSWLLT ECONOMAIDD CROSS HANDSD) 2020", fel y nodir yn yr adroddiad.