Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch y rhif ar yr agenda. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P.M. Hughes.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION - 1 MEHEFIN 2020 pdf eicon PDF 74 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 1 Mehefin 2020 gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN YR AELODAU

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

 

6.

EFFAITH ECONOMAIDD COVID-19 AC ADFER pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn darparu asesiad o'r effaith yr oedd Covid-19 yn ei chael ar fusnesau yn Sir Gaerfyrddin ac yn nodi'r hyn a oedd yn bwysig iddynt yn y tymor byr, tymor canolig a thymor hir, fel y gallai'r Awdurdod roi'r cymorth y mae arnynt ei angen fwyaf yn y dyfodol.

 

Fel llwyfan i ddatblygu a chyflawni Cynllun Adfer Economaidd y Sir, sefydlwyd gr?p mewnol ar gyfer adfer Busnes, yr Economi a'r Gymuned i gydlynu'r gwaith o ddatblygu a darparu. Roedd y gr?p hwnnw wedi nodi nifer o gamau gweithredu drafft posibl a chynigion i'w hystyried ymhellach. Er mwyn symud ymlaen, roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ceisio defnyddio cyngor economaidd allanol i helpu i ddod â'r wybodaeth hon ynghyd a llunio cynllun ar gyfer prosiectau a thasgau'r dyfodol er mwyn darparu'r gefnogaeth gywir i fusnesau a chymunedau lleol. Byddai gr?p cynghori cyffredinol, sy'n cynnwys arweinwyr diwydiant allweddol yn y sector preifat, yn cael ei sefydlu i helpu i ddatblygu a mireinio'r cynllun drafft ac i roi arweiniad drwy'r argyfwng presennol. Byddai'r gr?p yn pennu'r weledigaeth a'r cyfeiriad ar gyfer adfer.

Croesawodd yr Aelodau'r strategaeth a nodwyd yn yr adroddiad a soniwyd am y cyfraniad pwysig y byddai caffael lleol a phrynu lleol yn ei wneud tuag at adfer economi Sir Gaerfyrddin mewn ardaloedd gwledig ac yn y prif drefi. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r strategaeth adfer ddrafft arfaethedig.

 

7.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2020-21 pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi manylion am ychwanegiadau i'r rhaglen gyfalaf a oedd wedi sicrhau cyllid allanol ers cymeradwyo rhaglen 2020/21 – 2024/25 ar 3 Mawrth 2020.

Dywedwyd wrth y Bwrdd fod yr Awdurdod, ers cyhoeddi'r agenda, wedi derbyn grant ychwanegol o £1.732m gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mesurau trafnidiaeth cynaliadwy lleol mewn ymateb iCovid-19. Diben y grant oedd cynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni gwaith i sicrhau bod mesurau cadw pellter cymdeithasol yn parhau. Mae'r pecyn o gynlluniau'n cynnwys y canlynol:

Mynediad i ysgolion;

Ailddyrannu gofod ar y ffyrdd;

Trafnidiaeth Gyhoeddus;

Cadw pellter cymdeithasol ym mannau cyhoeddus;

Parcio;

Mân waith;

Seilwaith Addas i Feicwyr;

Mesurau teithio llesol mewn trefi gwledig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad diweddaru'r rhaglen gyfalaf a chymeradwyo'r newidiadau, gan gynnwys derbyn y grant ychwanegol a nodwyd uchod.

 

8.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys, ond manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i'r holl staff am eu hymdrechion parhaus i helpu i ymdrin â materion sy'n codi o'r argyfwng presennol a chynnal gwasanaethau rheng flaen.

Cyfeiriodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant at y ffaith bod rhai ysgolion wedi ailagor yn gynharach yn y dydd, er mewn capasiti cyfyngedig oherwydd mesurau cadw pellter cymdeithasol, a thalodd deyrnged i'r holl swyddogion, penaethiaid, staff ysgol a chyrff llywodraethu a oedd wedi gweithio'n galed i wneud hyn yn bosibl. Mynegodd y gobaith y byddai canllawiau manwl yn dod i law yn fuan gan Lywodraeth Cymru yngl?n â'r trefniadau ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf ym mis Medi.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau