Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch 0330 336 4321 cyfrin-gôd' 565 283 67 # Am daliadau galwad cysylltwch â'ch darparwr gwasanaeth.
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNODION - 16 MAWRTH 2020 PDF 192 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2020, gan eu bod yn gywir, yn amodol ar newid o ran camlythreniad yn y fersiwn Saesneg ar benderfyniad 9.3 [Cartrefi yn Orsafoedd P?er].
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN Y CYHOEDD Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|
PENDERFYNIADAU BRYS A WNAED GAN SWYDDOGION HYD YN HYN ERS PANDEMIG Y CORONAFEIRWS PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd yr Arweinydd, wrth gyflwyno'r eitem hon ac ar ran y Bwrdd Gweithredol, wedi talu teyrnged i'r holl staff am y gwaith yr oeddent wedi'i wneud, yn aml y tu hwnt i'w dyletswyddau, i sicrhau bod gwasanaethau'r Awdurdod, ar y cyfan, wedi gallu gweithredu mor effeithlon ac mor normal â phosibl o dan yr amgylchiadau presennol.
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar benderfyniadau brys a wnaed gan Swyddogion hyd yn hyn yn ystod pandemig presennol y coronafeirws ac yn dilyn gohirio y rhan fwyaf o'r cyfarfodydd democrataidd er diogelwch. O dan y Cynllun Dirprwyo i swyddogion yng Nghyfansoddiad yr Awdurdod, "rhoddir y penderfyniad ar unrhyw fater brys yn y meysydd sydd dan ofal y Cyngor, y Bwrdd Gweithredol neu unrhyw Bwyllgor i'r Prif Weithredwr a'r holl Gyfarwyddwyr lle mae’n anymarferol galw cyfarfod o’r cyrff hynny i ystyried y mater.” Roedd cyfarfodydd wedi'u gohirio oherwydd ffactorau megis y cyfyngiadau symud, gofynion cadw pellter cymdeithasol a nifer yr Aelodau'n sy'n hunanynysu. Dywedwyd wrth y Bwrdd, ers llunio'r adroddiad bod trefniadau bellach ar y gweill i ddychwelyd at y prosesau penderfynu democrataidd ffurfiol ac y byddai cyfarfodydd yn cael eu hailgychwyn, er yn rhannol ar sail presenoldeb o bell.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r penderfyniadau brys a wnaed gan y swyddogion.
|
|
ADRODDIAD CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL PDF 85 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn adlewyrchu sefyllfa'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn ystod yr Argyfwng Cenedlaethol a achoswyd gan Covid-19 a'r camau a gymerwyd. Nid oedd yr adroddiad yn cynnwys yr holl feysydd gweithgarwch gan y byddai'r rhain yn cael eu cynnwys yn adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddiweddarach yn y flwyddyn neu drwy unrhyw nodiadau cyngor pellach yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i'w nodi. Ar y cyfan ystyriwyd bod ymateb y Cyngor wedi bod yn effeithiol o ran cynnal gwasanaethau gofal cymdeithasol mewn amgylchiadau eithriadol o anodd. Roedd y gefnogaeth ariannol sylweddol a gafwyd a'r gefnogaeth a'r ymyrraeth uniongyrchol gan Arweinydd y Cyngor, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd a'r Prif Weithredwr wedi cyfrannu at gynnal a chadw y rhan fwyaf o'r ddarpariaeth graidd i safon dda er gwaethaf wynebu heriau digynsail. Roedd effaith y feirws ar breswylwyr mewn cartrefi gofal yn parhau i fod yn bryder difrifol a pharhaus yn Sir Gaerfyrddin fel yr oedd ar draws rhan helaeth o Gymru. Pwysleisiwyd drwy gydol yr argyfwng hwn bod meddyliau pawb gyda'r preswylwyr, y staff gofal a'r teuluoedd hynny y mae'r feirws hwn wedi cael effaith mor drasig arnynt. Talwyd teyrnged gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd i'r gwaith sy'n cael ei wneud gan staff yn y sector gofal cymdeithasol ac iechyd o dan yr amgylchiadau presennol. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i nodi'r sefyllfa y manylwyd arni yn yr adroddiad a chadarnhau'r camau a gymerwyd.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o ran materion brys.
|