Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L.M. Stephens.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y pdf eicon PDF 332 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2019, gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

6.

STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2020/21 I 2022/23. pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i'r adroddiad a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar y Strategaeth Cyllideb Refeniw ar gyfer 2020/21 a'r ddwy flynedd ariannol ganlynol. Roedd yr adroddiad yn darparu manylion y broses gyllidebu, setliad amodol cyfredol Llywodraeth Cymru ac amserlen y setliad terfynol. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi'r pwysau o ran dilysu a'r gyllideb y mae angen i'r Aelodau eu hystyried wrth bennu cyllideb refeniw y flwyddyn nesaf.  Byddai'r adroddiad yn sail i'r broses ymgynghori ar y gyllideb a fyddai'n cael ei chynnal yn ystod Ionawr a Chwefror 2020.

 

Nododd yr adroddiad fod Sir Gaerfyrddin wedi cael cynnydd o 4.4% yng ngrant Llywodraeth Cymru (£11.5m) gan fynd â'n Cyllid Allanol Cyfun i £274.159m ar gyfer 2020/21. Roedd y cynnydd hwn yn dilyn rhai trosglwyddiadau i'r cyllid ar gyfer Pensiynau a Chyflogau Athrawon, a oedd yn cael eu hariannu'n rhannol yn unig o fewn y setliad ac yn cyfrif am tua £5.7m o'r cynnydd cyffredinol mewn cyllid.

 

Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, nodwyd mai dim ond datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru dros y misoedd i ddod wrth i'r gyllideb gael ei datblygu ymhellach, ymgysylltu ag aelodau'r cyngor, cynnal ymgynghoriad cyhoeddus a derbyn y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi a bod strategaeth y gyllideb 2020/21 hyd 2022/23  yn cael ei chymeradwyo fel sylfaen i ymgynghori, a bod ymgais benodol yn cael ei gwneud i gael sylwadau gan ymgyngoreion ynghylch y cynigion effeithlonrwydd y manylwyd arnynt yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

 

 

7.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau brys i'w hystyried.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau