Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd P. M. Hughes.
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I NEWID NATUR Y DARPARIAETH YN YSGOL RHYS PRICHARD PDF 478 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â chofnod 9 ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi 2019, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch y sylwadau a ddaeth i law mewn perthynas â'r Hysbysiad Statudol i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol Rhys Pritchard i gyfrwng Cymraeg. Yr oedd yr Hysbysiad Statudol yn caniatáu 29 o ddiwrnodau i wrthwynebwyr anfon eu gwrthwynebiadau'n ysgrifenedig at y Cyngor, a daeth y cyfnod hwnnw i ben ar 22 Hydref 2019.
Nododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad gwrthwynebu a oedd yn crynhoi'r ddau sylw a ddaeth i law a oedd yn gwrthwynebu'r cynnig ac yn cynnwys ymatebion yr Awdurdod Lleol i'r naill sylw a'r llall.
Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod y cynnig i newid natur darpariaeth Ysgol Rhys Prichard i Gyfrwng Cymraeg yn cefnogi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a'i weledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin ddwyieithog. Nod yr Awdurdod oedd sicrhau twf sylweddol mewn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i gynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy’n dod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac sydd â’r gallu i ddefnyddio’u hieithoedd yn hyderus gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
5.1 fod y sylwadau a gafwyd mewn perthynas â'r Hysbysiad Statudol yn cael eu nodi; 5.2 ARGYMELL I'R CYNGOR fod y cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol Rhys Prichard i Gyfrwng Cymraeg, fel y nodwyd yn yr Hysbysad Statudol, yn cael ei weithredu.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â chofnod 8 ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi 2019, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch y sylwadau a ddaeth i law mewn perthynas â'r Hysbysiad Statudol i newid natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel o fod yn ddwy ffrwd i fod yn gyfrwng Cymraeg. Yr oedd yr Hysbysiadau Statudol yn caniatáu 29 o ddiwrnodau i wrthwynebwyr anfon eu gwrthwynebiadau'n ysgrifenedig at y Cyngor, a daeth y cyfnod hwnnw i ben ar 22 Hydref 2019. Roedd yr adroddiad gwrthwynebu yn crynhoi'r sylwadau a ddaeth i law yn gwrthwynebu'r cynnig ac yn cynnwys ymatebion yr Awdurdod Lleol i'r holl sylwadau.
Nododd y Bwrdd fod 2 wrthwynebiad wedi dod i law ar gyfer Ysgol Y Ddwylan, 1 gwrthwynebiad i Ysgol Llys Hywel ac ni ddaethai unrhyw wrthwynebiad i law ar gyfer Ysgol Griffith Jones ac Ysgol Llangynnwr.
Esboniodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod y cynnig i newid natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel o fod yn ddwy ffrwd i Gyfrwng Cymraeg yn cefnogi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a'i weledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin ddwyieithog.
Ychwanegodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod gan yr Awdurdod Lleol gyfrifoldeb i ddarparu'r addysg a'r cyfleoedd gorau posibl i'w gymunedau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
6.1 fod y sylwadau a gafwyd mewn perthynas â'r Hysbysiad Statudol yn cael eu nodi; 6.2 ARGYMELL I'R CYNGOR fod y cynnig i newid natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel o fod yn ddwy ffrwd i Gyfrwng Cymraeg fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol, yn cael ei weithredu o 1 Medi 2020.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau rheoli'r trysorlys o 1 Ebrill 2018 hyd at 30 Mehefin 2018. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau brys.
|