Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Linda Davies Evans - yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai a Mr Jake Morgan - y Cyfarwyddwr Cymunedau.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorydd/Cynghorwyr

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd Cefin Campbell

6 - Polisi Codi Tâl Mynediad i Gefn Gwlad – Celfi Llwybrau Cyhoeddus

Mae llwybr troed cyhoeddus yn mynd drwy dir y mae'n berchen arno.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 2AIL TACHWEDD, 2020 pdf eicon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd, 2020 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

POLISI CODI TÂL MYNEDIAD I GEFN GWLAD - CELFI LLWYBR CYHOEDDUS pdf eicon PDF 374 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion polisi codi tâl a ddatblygwyd gan y gwasanaeth Mynediad i Gefn Gwlad i gyflwyno dull o adennill cyfran o'r gwariant presennol sydd ynghlwm wrth gyflenwi a gosod celfi llwybrau cyhoeddus ar ran tirfeddianwyr.

 

Nododd yr adroddiad fod Adran 146 o Ddeddf Priffyrdd 1980 yn ei gwneud yn ofynnol i'r tirfeddiannwr gynnal a chadw unrhyw gamfa neu gât ar draws llwybr troed, llwybr ceffylau, neu gilffordd gyfyngedig.

 

Nododd y Bwrdd fod y polisi arfaethedig wedi'i ystyried yn ofalus i gyflwyno lefel briodol a theg o adennill costau ar gyfer cyflenwi a gosod celfi gan yr Awdurdod yn ogystal â ffurfioli consesiynau mewn rhai amgylchiadau.  Roedd y polisi hefyd yn darparu cyfres glir o reolau ar gyfer darparu celfi a fyddai'n rhoi gwybod i dirfeddianwyr am eu cyfrifoldebau statudol ac yn cynorthwyo staff Mynediad i Gefn Gwlad i gynnig cymorth cyson, teg a rhesymol i dirfeddiannwr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo mabwysiadu Polisi Codi Tâl ar gyfer cyflenwi a gosod celfi llwybrau cyhoeddus ar draws y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.

 

 

7.

EGLWYS GYMUNEDOL TYWI – BOWLIO XCEL pdf eicon PDF 354 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnig cefnogi cais a gyflwynwyd gan Ganolfan Bowlio Xcel a changhennau elusennol Eglwys Gymunedol Tywi i'w galluogi i barhau i ddarparu'r gwasanaethau a ddarperir i drigolion Sir Gaerfyrddin ac ardaloedd cyfagos.  Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Bwrdd Gweithredol i sicrhau bod ymrwymiad cyllid ar gael fel grant, er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ariannol tymor hwy Bowlio Xcel a phrosiectau cysylltiedig.

 

Cydnabu'r Bwrdd fod Bowlio Xcel a phrosiectau cysylltiedig yn darparu prosiectau hanfodol gan gynnwys Banc Bwyd, Siop Gymunedol ac Ailgylchu Celfi a'i bod wedi gweithio gyda mwy na 50 o asiantaethau atgyfeirio gweithredol yng Nghaerfyrddin a'r cyffiniau, gan gynnwys y Cyngor, i ddiwallu anghenion teuluoedd difreintiedig. 

 

Cydnabu'r Bwrdd y byddai pandemig Covid-19 a'r cyfyngiadau symud cysylltiedig wedi cael effaith sylweddol ar lawer o brosiectau eraill ac awgrymodd y byddai'n ddoeth llunio meini prawf i baratoi ar gyfer ceisiadau am gymorth yn y dyfodol.

 

 

 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL GYMERADWYO:

 

7.1 ymrwymo swm o £50,000 i Eglwys Gymunedol Tywi i gefnogi Bowlio Xcel a phrosiectau cysylltiedig gan ganiatáu iddynt barhau i fasnachu.  Byddai hyn yn cael ei ariannu o gronfeydd wrth gefn adrannol.  Byddai'r cyllid yn cael ei roi fel grant i'w dynnu yn ôl y gofyn;

7.2 pe bai angen arian ychwanegol ar Eglwys Gymunedol Tywi i gefnogi ei gweithrediad parhaus, byddai cynyddu ei benthyciad presennol hyd at £50,000 yn cael ei ganiatáu.

 

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 442 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Awst 2020, o ran 2020/2021.  Roedd y sefyllfa gyllidebol yn cydnabod y pwysau ychwanegol sylweddol a roddwyd ar yr Awdurdod wrth ymateb i bandemig Covid-19. 

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £3,971k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £4,971k ar lefel adrannol.   Nododd y Bwrdd Gweithredol fod y sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen yn deillio o gyfuniad o gostau ychwanegol na ellid eu hadennill o ganlyniad i weithgarwch Covid-19, incwm a ildiwyd o ran gwasanaethau a oedd wedi cau yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ac a oedd yn parhau i gael llai o refeniw, na chaiff ei ad-dalu'n llawn o bosibl gan Lywodraeth Cymru, a chynigion arbedion arfaethedig nad ydynt wedi'u cyflawni oherwydd y pandemig.

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod yr Awdurdod yn cyflwyno hawliad caledi misol i Lywodraeth Cymru am wariant Covid-19 ychwanegol.  Roedd y rhan fwyaf o'r costau'n cael eu had-dalu, er bod rhai yn cael eu hystyried yn anghymwys, yn benodol mewn cysylltiad â phenderfyniadau lleol.

Yng ngoleuni'r gorwariant sylweddol a ragwelwyd ar lefel adrannol, gofynnwyd i Brif Swyddogion a Phenaethiaid Gwasanaeth adolygu'r opsiynau a oedd ar gael iddynt yn feirniadol i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau yr oedd Covid-19 wedi'u rhoi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod.

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod Llywodraeth Cymru wrthi'n ymateb ar hyn o bryd i fynd i'r afael â'r materion sy'n codi yn y sectorau hamdden, diwylliant a theatr.

Diolchodd y Bwrdd Gweithredol yn ddiffuant i staff adran y Gwasanaethau Corfforaethol am addasu i'r ffordd newydd o weithio drwy'r pandemig a'u holl waith caled wrth baratoi cyllid a rheoli gwariant y Cyngor.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

8.1     Derbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol.

8.2       Bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'r opsiynau sydd ar gael iddynt yn feirniadol i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau y mae Covid-19 wedi'u rhoi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod.

9.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2020-21 pdf eicon PDF 387 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf ar gyfer rhaglen gyfalaf 2020/21 fel yr oedd ar 31 Awst, 2020, ac yn nodi cyfres o drosglwyddiadau y gofynnwyd i'r Bwrdd Gweithredol eu cymeradwyo. 

 

Yn adrannol, dywedwyd y rhagwelwyd gwariant net o £63,428k o gymharu â chyllideb net weithredol o £114,264k gan roi -£50,836k o amrywiant.

 

Tynnodd yr adroddiad sylw at y cynlluniau ychwanegol canlynol, a oedd wedi cael cyllid uniongyrchol, i'r Rhaglen Gyfalaf:-

 

­   Tai Preifat;

­   Dechrau'n Deg;

­   Amgueddfa'r Sir;

­   Dwyrain Cross Hands – Llain 3 a

­   Re-fit Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1     Derbyn adroddiad diweddaru'r rhaglen gyfalaf.

9.2     Cymeradwyo'r trosglwyddiadau y manylir arnynt yn yr adroddiad.

 

 

10.

UNRHYW FATER ARALL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau o ran materion brys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau