Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L.M. Stephens.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

COFNODION - 5 HYDREF, 2020 pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2020, gan eu bod yn gywir.

 

4.

PROSIECT SEILWAITH DIGIDOL, BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE pdf eicon PDF 387 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i'r Achos Busnes arfaethedig, a'r buddsoddiad dilynol, ar gyfer Prosiect Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yr oedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn Awdurdod arweiniol dynodedig ar ei gyfer. Byddai'r Prosiect yn darparu'r seilwaith sylfaenol hanfodol sydd ei angen i gefnogi ac ategu Strategaeth Ddigidol ehangach y rhanbarth ac yn helpu i sicrhau bod gan y rhanbarth Seilwaith Digidol sydd wedi'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol a fydd yn darparu'r sylfeini trawsnewidiol ar gyfer ymyriadau'r Fargen Ddinesig a thwf rhanbarthol ehangach.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

4.1 Cymeradwyo’r Achos Busnes arfaethedig a'r buddsoddiad dilynol mewn Seilwaith Digidol ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

 

4.2 Rhoi pwerau dirprwyedig i Uwch-berchennog Cyfrifol y prosiect wneud mân newidiadau i'r achos busnes yn ôl yr angen er mwyn cael cymeradwyaeth ar lefel llywodraeth leol, ranbarthol a chenedlaethol.

 

5.

CAIS I'R GRONFA DATBLYGU pdf eicon PDF 446 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar gais a gyflwynwyd gan yr Adran Cymunedau i Gronfa Ddatblygu'r Cyngor am gymorth ariannol o £75,465 i wella seilwaith parcio ar draws Parc Arfordirol y Mileniwm a Pharc Gwledig Pen-bre.

 

Rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y Gronfa Ddatblygu a oedd yn nodi fod y swm o £235k ar gael ar unwaith i'w ddyrannu ar gyfer cynlluniau newydd. Byddai'r swm hwn yn codi i £1.5m yn 2021/22 a £1.68m yn 2022/23 pan fyddai ad-daliadau wedi cael eu gwneud i'r gronfa yn y dyfodol.  Roedd y gwerthoedd hyn yn dibynnu ar werthu safle Grillo yn 2021/22 i ad-dalu'r Gronfa Ddatblygu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

5.1 gymeradwyo cyllid o £75,465 i wella seilwaith parcio ar draws Parc Arfordirol y Mileniwm a Pharc Gwledig Pen-bre, gan greu mwy o incwm;

5.2  bod yr ad-daliad am y cynllun uchod yn para dros gyfnod o bedair blynedd;

5.3  bod y taliadau'n dechrau yn 2021/22.

 

6.

GARDD FOTANEG GENEDLAETHOL CYMRU pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 11 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2017, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar gais gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ynghyd ag adolygiad cynnydd Cynllun Busnes Pum Mlynedd, ar gyfer model ad-dalu benthyciad tymor hwy ac estyniad digonol ar y benthyciad presennol a’r cytundebau prydles a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020 i ganiatáu iddi godi arian a datblygu cynllun ariannol cynaliadwy yn y tymor hir.   Nodwyd y byddai'r dull o ymestyn y benthyciad yn gofyn am gysylltiad manylach â Llywodraeth Cymru er mwyn i Lywodraeth Cymru, y Cyngor a'r Ardd Fotaneg wneud penderfyniad o ran cael hyd i ateb cynaliadwy i ad-dalu'r benthyciad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

6.1       y dylid estyn benthyciad di-log yr Awdurdod i'r Ardd am 18 mis arall rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Medi 2021;

6.2       caniatáu i'r Ardd barhau i feddiannu tri o'r pedwar ffermdy ar sail tenantiaeth am 18 mis ychwanegol hyd at 30 Medi 2021.

 

7.

EFFAITH COVID-19 AR SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 503 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dosbarthwyd adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol a oedd yn rhoi sylw i Asesiad o'r Effaith ar y gymuned yn sgil y pandemig Covid-19 ac ymateb y Cyngor yn ystod y chwe mis diwethaf. Bernid y byddai angen i unigolion a chymunedau adfer yn sgil y pedair effaith gysylltiedig ganlynol:

·       Cymunedau;

·       Economi;

·       Seilwaith a'r Amgylchedd;

·       Iechyd a Llesiant.

Byddai natur yr effeithiau, ac a fydd angen cymryd camau, ac ar ba lefel, yn dibynnu i raddau helaeth ar natur, graddfa a difrifoldeb yr argyfwng ei hun. Dylai'r asesiad hwn lywio'r broses o ailosod ac ailflaenoriaethu adnoddau a gwasanaethau. Diolchwyd hefyd i swyddogion am eglurder yr adroddiad.

Talodd yr aelodau deyrnged i'r ffordd eithriadol yr oedd staff yr awdurdod a phartneriaid allanol, gan gynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a staff addysgu, wedi ymateb i'r pandemig a chyfeiriodd yr Arweinydd at yr ymateb a'r ysbryd cymunedol rhyfeddol ledled Sir Gaerfyrddin.

Cyfeiriwyd at y cynnydd mewn siopa ar-lein a'r diddordeb mewn eiddo gwledig ac ystyriwyd bod y rhain yn feysydd y byddai angen i'r Cyngor edrych yn fanwl arnynt o ran yr effeithiau ar fusnesau lleol a dadleoli cymunedol posibl.

Nodwyd y byddai'r Panel ynghylch Trechu Tlodi yn cynnal cyfarfod brys yn y dyddiau nesaf i ystyried effaith y pandemig ar y rhai mwyaf agored i niwed a dan anfantais yn Sir Gaerfyrddin, a oedd yn destun pryder.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a bod y goblygiadau tymor byr, tymor canolig a thymor hir yn cael eu nodi.

 

 

8.

RHYBUDD GYNNIG A GYFEIRIWYD O'R CYNGOR (8FED GORFFENNAF 2020) LLINELL RHEILFFORDD DYFFRYN AMAN pdf eicon PDF 462 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth, yng nghyd-destun ehangach polisi cenedlaethol, polisi trafnidiaeth rhanbarthol a datblygiadau cyfredol, i'r Rhybudd o Gynnig yn ymwneud â Rheilffordd Dyffryn Aman a dderbyniodd cefnogaeth gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 8 Gorffennaf 2020.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

8.1 gadarnhau cefnogaeth i ddatblygu system reilffordd fodern i deithwyr ar gyfer Sir Gaerfyrddin;

8.2 cadarnhau bod Dyffryn Aman wedi'i gynnwys yn y rhestr o gynlluniau a gyflwynwyd i'w cynnwys yn y gwaith Metro ehangach;

8.3 gofyn am adroddiad diweddaru ynghylch y cynnydd o ran prosiect Metro a ffrydiau gwaith a llywodraethu. 

 

9.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o ran materion brys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau