Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224030
Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch 0330 336 4321 cyfrin-gôd' 07632343# Am daliadau galwad cysylltwch â'ch darparwr gwasanaeth.
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 7 Medi, 2020 yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||||||
PENODI UWCH-GRWNER DROS DRO AWDURDODAETH SIR BENFRO A SIR GAERFYRDDIN PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar y cynnig i benodi Mr Paul Bennett fel yr Uwch-grwner dros dro ar gyfer awdurdodaeth Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn dilyn ymddiswyddiad Mr Mark Layton ar 31 Mai, 2020.
Nodwyd bod gan y ddau Gyngor, ar y cyd â'r Prif Grwner a'r Arglwydd Ganghellor/y Weinyddiaeth Gyfiawnder, rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod gan yr awdurdodaeth drefniadau gwasanaeth crwner effeithiol ar waith gydag adnoddau digonol.
Fodd bynnag, wrth benodi dros dro, o dan Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009, roedd y Prif Grwner ac Adran yr Arglwydd Ganghellor/y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddau Gyngor ystyried yn gyntaf a ddylid cyfuno'r awdurdodaeth ag ardal Crwner arall cyn penodi Uwch-grwner parhaol.
Ni fyddai caniatâd i benodi Uwch-grwner parhaol yn cael ei roi hyd nes bod y mater o gyfuno ardaloedd crwneriaid yn cael ystyriaeth lawn, gan arwain at yr angen am benodiad dros dro.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL: 6.1 Cymeradwyo penodi Mr Paul Bennett fel Uwch-grwner dros dro ar 1 Mehefin 2020 ar gyfer awdurdodaeth Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. 6.2 Awdurdodi'r camau angenrheidiol sy'n ofynnol i fynd i'r afael â chyfuno Ardal Crwner Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin ag Ardal Crwner arall yn ôl yr angen ac yn unol â chyfarwyddiadau'r Prif Grwner, yr Arglwydd Ganghellor/y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
|
|||||||||||||
EFFAITH CYFYNGIADAU SYMUD COVID-19 AR ANSAWDD AER YN SIR GAERFYRDDIN PDF 101 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Noder: Gan fod y Cynghorydd P. Hughes-Griffiths wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, nid oedd wedi cymryd rhan yn y broses o ystyried y mater a phenderfynu arno].
Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar effaith cyfyngiadau symud Covid-19 ar ansawdd aer yn Sir Gaerfyrddin.
Arweiniodd y cyfyngiadau symud at ostyngiad sylweddol yn nifer y cerbydau ar y ffyrdd a gwelliant yn ansawdd yr aer.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
7.1 Ymrwymo i beidio ag annog siwrneiau nad ydynt yn hanfodol o dan y trefniadau ‘normal newydd’ trwy ehangu ar bolisïau presennol sy’n ymwneud â gweithio gartref a gweithio ystwyth, pan ellir gwneud y gwaith yn effeithiol naill ai gartref neu mewn swyddfa agosach a mwy cyfleus. 7.2 Annog staff i ystyried defnyddio technegau digidol nad ydynt yn gysylltiedig â theithio fel yr opsiwn cyntaf a ffefrir (lle bo hynny'n bosibl) at ddibenion cyfarfodydd a hyfforddiant.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR PDF 99 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2020, o ran 2020/2021. Roedd y sefyllfa gyllidebol yn cydnabod y pwysau ychwanegol sylweddol a roddwyd ar yr Awdurdod wrth ymateb i bandemig Covid-19.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £7,400k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £8,000k ar lefel adrannol.
Tynnwyd sylw’r Bwrdd Gweithredol at y ffaith nad oedd y rhagolwg yn cynnwys unrhyw lwfans ar gyfer gostyngiad yng nghasgliad y Dreth Gyngor ac roedd hyn yn cael ei fonitro’n agos gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol.
Cadarnhaodd yr adroddiad fod yr Awdurdod yn cyflwyno hawliad caledi misol i Lywodraeth Cymru am wariant Covid-19 ychwanegol. Roedd y rhan fwyaf o'r costau'n cael eu had-dalu, er bod rhai yn cael eu hystyried yn anghymwys ac nid oedd yn glir pa mor hir y byddai'r dull cyllido yn parhau. Yng ngoleuni'r gorwariant sylweddol a ragwelwyd ar lefel adrannol, gofynnwyd i Brif Swyddogion a Phenaethiaid Gwasanaeth adolygu'r opsiynau a oedd ar gael iddynt yn feirniadol i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau yr oedd Covid-19 wedi'i roi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL: 8.1 Derbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol. 8.2 Bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'r opsiynau sydd ar gael iddynt yn feirniadol i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau y mae Covid-19 wedi'i roi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod.
|
|||||||||||||
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2020-21 PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran sefyllfa'r gyllideb ar gyfer rhaglen gyfalaf 2020/21 ar 30 Mehefin, 2020.
Yn adrannol rhagwelwyd gwariant net o £69,816k o gymharu â chyllideb net weithredol o £114,079k gan roi £44,263k o amrywiant.
Roedd y gyllideb net yn cynnwys rhaglen wreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol, a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 3 Mawrth, llithriad o 2019/20, prosiectau newydd a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ar 29 Mehefin 2020 a chyllidebau yn ymwneud ag ysbytai maes sy'n ymateb i Covid-19.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
9.1 Derbyn adroddiad diweddaru'r rhaglen gyfalaf. 9.2 Cymeradwyo'r trosglwyddiadau y manylir arnynt yn yr adroddiad.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2019-2020 PDF 109 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fel rhan o ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ar gyfer Rheoli'r Trysorlys, rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth ar gyfer 2019-20.
Mabwysiadodd y Cyngor Bolisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r rhaglen gyfalaf bum mlynedd ar gyfer 2019-20 ar 20 Chwefror 2019. Rhestrodd yr adroddiad blynyddol y gweithgareddau a gynhaliwyd yn 2019-20.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR dderbyn yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a'r Dangosyddion Darbodaeth ar gyfer 2019/20.
|
|||||||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|
|||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|||||||||||||
PENTRE AWEL Cofnodion: Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Mae'r adroddiad yn cynnwys manylion am bartneriaid academaidd posibl nad ydynt hyd yma wedi llofnodi memoranda cyd-ddealltwriaeth gyda'r Awdurdod. Er y byddai'r budd i'r cyhoedd fel rheol yn ffafrio tryloywder a diffuantrwydd, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn yr achos hwn hyd nes i'r memoranda cyd-ddealltwriaeth gael ei lofnodi yn drech na hynny.
Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ynghylch Pentre Awel mewn perthynas â chyflwyno achos busnes y Fargen Ddinesig, cytundebau â phartneriaid academaidd a datblygu dyluniad cam 1.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:
|
|||||||||||||
RHAGLEN MODERNEIDDIO YSGOLION PARTNERIAETH ADDYSG GYMRAEG MODEL BUDDSODDI CYDFUDDIANOL YSGOLION 21AIN GANRIF - CYTUNDEB PARTNERU STRATEGOL Cofnodion: Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 ac 16 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Er y byddai'r prawf budd i'r cyhoedd fel rheol yn ffafrio tryloywder a diffuantrwydd, roedd y budd i'r cyhoedd o gadw cyfrinachedd yn drech yn yr achos hwn (i) er mwyn diogelu buddiannau masnachol y cynigydd / cwmni a ffefrir; (ii) er mwyn amddiffyn buddiannau’r Awdurdod a’r Cyfranogwyr eraill mewn cysylltiad â’r cyngor cyfreithiol a roddwyd iddynt mewn cysylltiad â’r dogfennau hyn.
Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ynghylch Partneriaeth Addysg Ysgolion yr 21ain Ganrif Model Buddsoddi Cydfuddiannol - Cytundeb Partneriaethau Strategol.
Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol, gyda chytundeb Cadeiryddion y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant a'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau, o dan Erthygl 6.7 o'r Cyfansoddiad, bod y cyfnod galw wedi'i hepgor. Roedd hyn er mwyn galluogi'r Awdurdod i fodloni'r dyddiad cau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|