Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd E. Dole (yn absennol yn sgil mater arall yn gysylltiedig â gwaith y Cyngor).

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

G. Davies

10.         12 – Penodi Llywodraethwr Awdurdod Lleol

Personol

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 6ED IONAWR 2020 pdf eicon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2020, gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

CANOLFAN IECHYD A LLESIANT GYMUNEDOL CROSS HANDS pdf eicon PDF 548 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion i'r awdurdod brynu 50% o fuddiant ei Gyd-bartneriaid o ran 3 erw o dir ar hen safle West Tip yn Cross Hands i'w werthu wedyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn darparu Canolfan Iechyd a Llesiant Cymunedol (fel y manylir yn y cynllun yn Atodiad 2 yr adroddiad). Petai'n cael ei gymeradwyo, roedd y gost o gaffael yn £315k gyda'r swm dilynol o ran gwerthu tir i'r Bwrdd Iechyd, gan gynnwys llog presennol y Cyngor o 50%, yn £630k.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol y byddai gwerthu'r tir i'r Bwrdd Iechyd yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i achos busnes amlinellol, a llawn, y Bwrdd Iechyd ar gyfer cael cymorth ariannol i ddarparu'r Ganolfan arfaethedig ynghyd â'r caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig. Er y nodwyd y byddai rhywfaint o risg i'r Cyngor wrth symud ymlaen â'r broses o gaffael y tir ar y sail uchod, nodwyd bod y risg wedi'i lliniaru o ran yr amod cynllunio gan fod y tir yn rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer y defnydd arfaethedig, a phe na bai'r cynllun arfaethedig yn mynd yn ei flaen, er bod hynny'n annhebygol, byddai'r Cyngor yn gallu defnyddio'r tir at ddefnydd arall, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau at y datganiad uchod ynghylch y Bwrdd Iechyd yn ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig a dywedodd, yn dilyn dosbarthu'r agenda ar gyfer y cyfarfod, fod caniatâd cynllunio amlinellol wedi'i ganiatáu.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cynghorydd D. Jones, un o aelodau lleol y ward, wedi cysylltu â hi cyn cychwyn y cyfarfod, ac er ei bod yn cefnogi'r cynllun, roedd wedi gofyn i gael siarad â swyddogion i gael mwy o wybodaeth am y cynnig. Cadarnhaodd y byddai'r trefniadau hynny'n cael eu gwneud.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod y Cyngor yn cytuno i brynu buddiant ei Bartner Menter o 50% yn y tir uchod ar hen safle West Tip yn Cross Hands am £315,000 a bod swyddogion yn cael eu hawdurdodi i symud ymlaen ar yr un pryd i werthu'r tir cyfan i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

 

7.

PROTOCOL AR GYFER Y WASG A'R CYFRYNGAU pdf eicon PDF 540 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion i ddiweddaru a chryfhau Protocol presennol y Cyngor ar gyfer y Wasg a'r Cyfryngau, a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Mehefin 2015. Roedd y protocol newydd, pe bai'n cael ei fabwysiadu, yn adlewyrchu'r newidiadau ym maes y cyfryngau a byddai'n cynorthwyo'r Tîm Marchnata a Chyfryngau i reoli'r cysylltiadau a'r berthynas â'r wasg a'r cyfryngau ar ran y Cyngor, gan ddarparu ar yr un pryd ganllawiau i'r holl staff a'r aelodau. Byddai hefyd yn cynorthwyo'r Cyngor i ddarparu gwybodaeth, hyrwyddo ei wasanaethau a datblygu ei ddelwedd fel sefydliad agored a thryloyw sy'n atebol i'r gymuned leol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid mabwysiadu'r  Protocol y Wasg a'r Cyfryngau.

 

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 598 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2019, o ran 2019/2020, o ran blwyddyn ariannol 2019/2020.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £3,512k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £5,035k ar lefel adrannol. Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant o £33k i ddiwedd y flwyddyn.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol mai un o'r cyllidebau gyda gorwariant mawr, sef swm o £3m, oedd Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion a bod Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Corfforaethol ac Addysg a Phlant, ynghyd â swyddogion eraill, yn gweithio'n agos gyda Phenaethiaid a Llywodraethwyr yr ysgolion yr effeithir arnynt i gyflwyno mesurau i fynd i'r afael â'u diffygion.

 

Yn sgil y rhagolwg presennol o orwariant sylweddol posibl ar lefel adrannol, roedd yr adroddiad yn argymell y dylai Prif Swyddogion a Phenaethiaid Gwasanaeth barhau i adolygu eu sefyllfa gyllidebol yn feirniadol a gweithredu camau lliniaru priodol i ddarparu eu gwasanaethau o fewn y cyllidebau a ddyrannwyd iddynt fel mater o frys.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

8.1    bod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw yn cael ei dderbyn;

8.2    bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn parhau i adolygu eu sefyllfaoedd cyllidebol yn feirniadol ac yn cymryd y camau priodol ac angenrheidiol i ddarparu eu gwasanaethau yn unol â'r cyllidebau a ddyrannwyd iddynt fel mater o frys.

 

 

9.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2019-20 pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb ar gyfer rhaglen gyfalaf 2019/20 ar y 31Hydref, 2019.

 

Yn adrannol rhagwelwyd gwariant net o £63,753k o gymharu â chyllideb net weithredol o £64,304k gan roi £551k o amrywiant. Roedd y gyllideb net wedi'i hailbroffilio o £4.848 miliwn 2019/20 i'r blynyddoedd sydd i ddod er mwyn ystyried y wybodaeth a ddiweddarwyd yn y proffil gwariant. At hynny, roedd llithriant y gyllideb o 2018/19 hefyd wedi'i gynnwys o fewn y ffigurau a atodwyd i'r adroddiad.

 

Yn ogystal, nododd y Bwrdd Gweithredol fod ymarfer ailbroffilio o ran y Gyllideb Addysg a Gwariant Cyfalaf yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i adlewyrchu cynnydd y cynlluniau o fewn y rhaglen gyfalaf 5 mlynedd sy'n rhan o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y rhaglen gyfalaf.

 

 

 

10.

YSTYRIED GWRTHWYNEBIADAU I ORCHYMYN CYDGYFNERTHU SIR GAERFYRDDIN (MANNAU PARCIO ODDI AR Y STRYD) (AMRYWIOL FEYSYDD PARCIO, SIR GAERFYRDDIN) (AMRYWIAD RHIF 4) pdf eicon PDF 288 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol bod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd mewn Cyfarfod Penderfyniadau a gynhaliwyd ar 10 Mai 2019 wedi ystyried cynigion ar gyfer cyflwyno'r Gorchymyn Parcio uchod. Yn y cyfarfod hwnnw, penderfynwyd cymeradwyo rhan o'r Gorchymyn mewn perthynas â'r meysydd parcio oddi ar y stryd yng Ngogledd Parc Myrddin, Caerfyrddin, Cofrestrwyr Parc Myrddin, Caerfyrddin, Selwyn Samuel, Llanelli a Rhes Dafen, Llanelli a bod y cynigion mewn perthynas â'r meysydd parcio canlynol yn destun ystyriaeth bellach:

 

a) Harbwr Porth Tywyn

b) Coetir, Porth Tywyn

c) Y Draethlin, Porth Tywyn

d) Meysydd G?yl, Llanelli

f) Rotary Way, tu allan i Barc Gwledig Pen-bre

g) Coetir Mynydd Mawr, Y Tymbl

h) Coetir Mynydd Mawr, Cefneithin

c) Doc y Gogledd, Llanelli

d) Parc D?r y Sandy, Llanelli

f) Llyn Llech Owain

g) Pentywyn

h) Y Bynea

 

Yn hynny o beth bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried canlyniad yr ymgynghoriadau ar y cynigion ar gyfer y meysydd parcio uchod a'r gwrthwynebiadau a ddaeth i law ynghyd ag argymhellion y swyddogion mewn ymateb i'r gwrthwynebiadau hynny, fel y manylir yn yr Adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

10.1

Bod y meysydd parcio y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3.4.1 (Maes Parcio'r Draethlin, Porth Tywyn), 3.7.1 (Maes Parcio Coetir Mynydd Mawr, y Tymbl) a 3.8.1 (Maes Parcio Coetir, Cefneithin) yr adroddiad yn cael eu dileu o'r Gorchymyn Parcio Oddi ar y Stryd arfaethedig a bod y sefyllfaoedd yn y meysydd parcio hyn yn cael ei fonitro; 

10.2

ac eithrio'r meysydd parcio y cyfeirir atynt ym mharagraffau 3.4.1, 3.7.1 a 3.8.1 yng nghrynodeb yr adroddiad, bod y cynigion fel y'u disgrifir yn y Gorchymyn Drafft y manylir arno yn Atodiad 1 mewn perthynas â'r meysydd parcio sy'n weddill a nodir ym mharagraffau 1 (i) a (ii) o'r Crynodeb o'r Adroddiad, yn cael eu gweithredu.

 

 

11.

GWASANAETH TALU A THEITHIO AR FWS YSGOL pdf eicon PDF 483 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad diweddaru ar Wasanaeth Talu a Theithio ar Fws Ysgol y Cyngor ac effaith y newid yn neddfwriaeth y llywodraeth ar ddarpariaeth cludiant bysiau ysgol y Cyngor, gan gynnwys ei bolisi seddi gwag. Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at y tri argymhelliad yn yr adroddiad a oedd yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd eu hystyried, a chynigiwyd y dylid gwella argymhellion 1 a 3 i ddarllen fel a ganlyn:

 

1)    Gwelliant i Bolisi Seddi Gwag yr Awdurdod i hepgor y tâl blynyddol cyfredol o £50, o 1 Medi, 2019 ymlaen.

3)    Sefydlu Panel Ymgynghorol i'r Bwrdd Gweithredol sy'n cynnwys 6 aelod, ar sail drawsbleidiol, ynghyd ag Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, i edrych ar yr holl faterion sy'n ymwneud â Chludiant o'r Cartref i'r Ysgol er mwyn adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol

 

Cyfeiriwyd at raglen newyddion ddiweddar pan ddywedodd Lee Waters A.C. fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dehongli deddfwriaeth y Llywodraeth yn wahanol i awdurdodau lleol eraill a cheisiwyd eglurhad ar gywirdeb y datganiad hwnnw. Cadarnhaodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd nad oedd yr Awdurdod wedi dehongli'r ddeddfwriaeth yn wahanol i unrhyw awdurdod lleol arall.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy, yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 11, at yr effaith yr oedd y newid mewn deddfwriaeth yn ei chael ar tua 500 o ddisgyblion yn Sir Gaerfyrddin a gofynnodd "A fyddai'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn cytuno â mi y dylai'r adolygiad y cyfeirir ato fel argymhelliad yn yr adroddiad ddechrau ar unwaith gan ymgynghori a'r holl gynghorwyr a gweithio gyda'n gilydd, yn cefnogi rhieni ym mha bynnag ward i gael effaith ar unwaith a sicrhau ein bod yn dileu'r llwybrau anniogel ac yn helpu i ddarparu cludiant addas a diogel yn ogystal ag edrych i’r dyfodol o’r newydd o ran darparu cludiant mewnol i'n holl blant”

 

Mewn ymateb, atgoffwyd y Bwrdd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd am hanes y sefyllfa bresennol o ran y gwasanaeth talu a theithio ar fws ysgol, a oedd wedi codi o ganlyniad i benderfyniad yr Adran Drafnidiaeth i ddileu'r eithriad llawn o ran cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a’r Rheoliadau Mynediad i Gerbydau'r Gwasanaeth Cyhoeddus ar gyfer cerbydau cludiant ysgol, a'r ymdrechion sydd ar waith yn genedlaethol ac yn lleol i Lywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth i adfer yr eithriad yn llawn. Cyfeiriodd hefyd at ei gwelliant i'r adroddiad yn gofyn am sefydlu panel ymgynghori i'r Bwrdd Gweithredol i edrych ar yr holl faterion sy'n ymwneud â Chludiant o'r Cartref i'r Ysgol a fyddai'n adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, pe bai'r drafodaeth barhaus rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru yn methu ag arwain at ailgyflwyno'r eithriad llawn presennol o ran cydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd/Rheoliadau Mynediad i Gerbydau'r Gwasanaeth Cyhoeddus ar wasanaethau cludiant i'r ysgol, bod y Cyngor yn cymeradwyo'r mesurau canlynol:-

 

1.    Gwella Polisi Seddi Gwag yr Awdurdod i hepgor y tâl blynyddol cyfredol o£50, o 1 Medi 2019;

2.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.

12.

PENODI LLYWODRAETHWR ALL pdf eicon PDF 369 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd G. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach]

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd, yn unol â pholisi penodi'r Awdurdod Lleol ar gyfer Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol, lle mae swyddi gwag Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn bodoli neu ar fin codi, gwahoddir enwebiadau gan Gadeirydd y Corff Llywodraethu, y Pennaeth a'r Aelod Etholedig lleol.  Yn dilyn hynny, mae'r holl enwebiadau yn cael eu hystyried gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant, sydd yn y pendraw yn penodi.

 

Dywedwyd bod enwebiadau wedi dod i law yn ddiweddar ar gyfer swyddi gwag yn Ysgol Brynaman a gan mai'r Cynghorydd Glynog Davies, sef yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant, oedd un o'r enwebiadau a dderbyniwyd, ac yntau yn Aelod Etholedig lleol ac yn Gadeirydd presennol Llywodraethwyr Ysgol Brynaman, ni fyddai'n briodol iddo ystyried yr enwebiadau hynny. Yn unol â hynny, byddai angen i'r Bwrdd Gweithredol benderfynu ar yr enwebiadau a ddaeth i law. Nodwyd hefyd y cyfeirir yn yr adroddiad at Mr Pedrick, sef un o'r enwebeion, fel cynghorydd cymuned, roedd  hyn yn anghywir gan mai Clerc Tref oedd ef.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, er mwyn bodloni'r rhwymedigaethau statudol i lenwi swyddi gwag ar Gyrff Llywodraethu Ysgolion, bod y Cynghorydd Sir Glynog Davies a Mr A Pedrick yn cael eu penodi'n llywodraethwyr yn Ysgol Brynaman.

 

13.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau