Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd C.A. Campbell.
|
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||
SAFONAU LLYFRGELLOEDD CYHOEDDUS CYMRU 2017-2020 PDF 128 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad ynghylch Asesiad Blynyddol Gwasanaethau Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin 2017/18, a luniwyd yn unol â gofynion Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, a osododd ddyletswydd statudol ar yr holl Awdurdodau Llyfrgelloedd Cyhoeddus i 'ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithiol' ac ar Weinidogion Cymru i 'oruchwylio a hyrwyddo'r gwaith o wella' gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru.
Yn unol â'r gofynion hyn, roedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau ei hasesiad o Wasanaeth Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2017/18.
Roedd yn braf gweld bod Sir Gaerfyrddin yn bodloni pob un o'r 12 o hawliau craidd yn llawn, ac o'r deg dangosydd ansawdd oedd â thargedau, roedd Sir Gaerfyrddin wedi cyflawni naw yn llawn ac un yn rhannol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|||||||
RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I NEWID NATUR Y DDARPARIAETH YN YSGOL RHYS PRITCHARD PDF 184 KB Dogfennau ychwanegol: |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd gynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel.
Er mwyn gwireddu'r weledigaeth ar gyfer Sir Gâr ddwyieithog, fel y nodwyd yng Nghynlluniau Strategol Llywodraeth Cymru a Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin, bydd angen i'r Awdurdod sicrhau twf sylweddol mewn addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cynyddu nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Er mwyn gallu cynyddu'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, un o amcanion yr Awdurdod yw cynorthwyo ein hysgolion dwy ffrwd a thrawsnewidiol i ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Cynigwyd felly, i newid natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel i gyfrwng y Gymraeg gyda'r dewis o gyfrwng iaith yn cael ei gyflwyno yng Nghyfnod Allweddol 2, o 1 Medi 2020 ymlaen.
Bydd y cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynnig yn dechrau ar 20 Mai 2019 ac yn dod i ben ar 30 Mehefin 2019.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
7.1 bod y cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel, fel y manylir arno yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo; 7.2. bod swyddogion yn cychwyn ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y cynnig yn ystod tymor yr haf 2019; 7.3. bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol i'w ystyried ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori statudol.
|
|||||||
BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE PDF 162 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd adroddiad yn rhoi manylion am ganfyddiadau a goblygiadau'r adolygiadau diweddar a gynhaliwyd mewn perthynas â Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Ym mis Rhagfyr 2018 cyhoeddodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru y byddai adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal ynghylch Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Yn ogystal, penderfynodd Cyd-bwyllgor Bae Abertawe, yn ei gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2018, y byddai adolygiad mewnol i drefniadau llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe hefyd yn cael ei gynnal ochr yn ochr ag Adolygiad Annibynnol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Cytunwyd y byddai Cyngor Sir Penfro yn arwain yr Adolygiad Mewnol, ac yn cael ei gefnogi gan Uwch-archwilydd a enwebwyd o Gynghorau Sir Caerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Roedd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi ystyried a derbyn yn ffurfiol ganfyddiadau adolygiadau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a'r Cyd-bwyllgor Mewnol yn ei gyfarfod ar 26 Mawrth, 2019. Roedd Bwrdd y Rhaglen wedi cael y dasg o ddatblygu cynllun gweithredu i symud yr argymhellion yn eu blaenau ac adrodd yn ôl i'r Cyd-bwyllgor nesaf a oedd i'w gynnal ar 28 Mai 2019.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
8.1 bod Adolygiad Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac Adolygiad Cyd-bwyllgor Bae Abertawe yn cael eu derbyn; 8.2 parhau i adolygu cynnydd mewn perthynas â Bargen Ddinesig Bae Abertawe; 8.3 dirprwyo i'r Arweinydd, ar y cyd â'r Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151, yr awdurdod i gytuno ar newidiadau, lle ystyrir bo hynny'n briodol, i Gytundeb y Cyd-bwyllgor yn unol ag argymhellion yr adolygiadau. Ni fyddai'r newidiadau yn berthnasol i unrhyw newid perthnasol i rwymedigaethau cyfreithiol ac ariannol y Cyngor o dan Gytundeb y Cyd-bwyllgor, oherwydd caiff materion o'r fath eu cadw i'r aelodau benderfynu yn eu cylch.
|
|||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|
|||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|||||||
GWAREDU TIR Â RISGIAU CYSYLLTIEDIG - EITHRIEDIG
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat, gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd byddai datgelu cynnwys yr adroddiad hwn yn gwanhau sefyllfa'r Awdurdod mewn trafodaethau â darpar brynwyr ac o bosibl yn arwain at lai o dderbyniadau cyfalaf i gyllid cyhoeddus nag a fyddai'n digwydd fel arall. Felly roedd budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu cynnwys yr adroddiad.
[NODER: Roedd y Cynghorydd E. Dole wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar y cynigion oedd wedi dod i law am safleoedd diangen sydd â risgiau posibl a chostau cynnal a chadw uchel sy'n gysylltiedig â defnyddiau blaenorol a phresennol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y 9 safle a nodwyd yn cael eu gwerthu yn unol â'r argymhellion fel y manylir yn yr adroddiad.
|
|||||||
TIR DATBLYGU, TROSTRE, LLANELLI - EITHRIEDIG Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd byddai datgelu cynnwys yr adroddiad hwn yn anfantais faterol i'r Awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydyddpartïon, a gallai cael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus. Felly roedd budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu cynnwys yr adroddiad.
Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad yn manylu ar gynigion a oedd wedi dod i law am 3 llain o dir datblygu yn Nhrostre.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
12.1 bod llain 1 yn cael ei waredu yn unol ag opsiwn D, fel y manylir arno yn yr adroddiad; 12.2 parhau i farchnata lleiniau 2 a 3.
|