Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Jenkins 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P. Hughes.
|
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2019 gan eu bod yn gywir.
|
|||||||
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||
ADEILADU MWY O DAI CYNGOR - EIN HUCHELGAIS A'N CYNLLUN GWEITHREDU PDF 745 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi cynllun i ddarparu dros 900 o dai Cyngor newydd dros y 10 mlynedd nesaf. Roedd yr adroddiad yn amlinellu pryd a ble y byddai'r tai newydd yn cael eu hadeiladu, yr adnoddau sydd ar gael a'r modelau darparu a fydd yn cael eu defnyddio. Roedd yn amlinellu hefyd sut y byddai'r cynllun yn cefnogi blaenoriaethau adfywio ledled y Sir. Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd y byddai'r cynllun yn darparu'r cynnydd mwyaf yn nifer y tai Cyngor ers y 1970au ac yn dychwelyd ein stoc tai i'r lefelau a welwyd ddiwethaf yn y 1990au. Ariennir y cynllun gan fuddsoddiad £53 miliwn gan y Cyfrif Refeniw Tai a chyllid grant allanol. Bydd y cynllun yn gwella iechyd a llesiant preswylwyr Sir Gaerfyrddin yn sylweddol, yn gwella'r economi leol a chreu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer pobl leol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR
6.1. ail-gadarnhau'r egwyddorion cyflawni allweddol ar gyfer rhaglen adeiladu tai newydd y Cyngor, a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'n Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy llwyddiannus; 6.2. cytuno ar yr ystod o fodelau darparu a fydd yn cael eu defnyddio i adeiladu dros 900 o dai Cyngor newydd, gan ein galluogi i gynnig amrywiaeth o ddewisiadau tai mewn gwahanol ardaloedd o'r Sir; 6.3. cadarnhau y bydd y tai Cyngor newydd yn cael eu darparu drwy ddefnyddio'r ardaloedd gweithredu tai fforddiadwy sy'n rhan o'r Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy; 6.4. cytuno ar strwythur y bandiau blaenoriaeth a ddefnyddir i bennu pryd bydd y safleoedd adeiladu newydd yn cael eu datblygu; 6.5. cadarnhau'r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer symud datblygiadau o Gam B a Cham C i Gam A; 6.6. cytuno ar y rhaglen gyflawni am y tair blynedd gyntaf ar gyfer adeiladu tai Cyngor newydd yn y Sir, gan fuddsoddi dros £53m a darparu dros 300 o dai Cyngor newydd.
|
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL STRATEGAETH TRAWSNEWID DIGIDOL A STRATEGAETH TECHNOLEG DDIGIDOL 2019 PDF 338 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'rBwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Blynyddol Strategaeth Trawsnewid Digidol a Strategaeth Technoleg Digidol 2019.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad Blynyddol Strategaeth Trawsnewid Digidol a Strategaeth Technoleg Ddigidol 2019.
|
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YR IAITH GYMRAEG 2018-19 PDF 317 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol ynghylch yr Iaith Gymraeg a nodwyd ei fod yn ofyniad statudol adrodd ar sut y mae'r Cyngor yn gweithredu safonau'r Gymraeg. Cynhaliwyd archwiliad a nododd gynnydd amlwg yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar lefel tri, pedwar a phump. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad blynyddol o ran yr Iaith Gymraeg a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn ystod 2018-19
|
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2018-19 PDF 327 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'rAelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Blynyddol 2018-19 ynghylch y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, a nodwyd bod cyfrifoldeb statudol ar y Cyngor i lunio'r adroddiad hwn yn unol â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud mewn perthynas ag anabledd, lle mae partneriaethau wedi'u meithrin â gwasanaethau lleol. Nodwyd bod yr Awdurdod yn gweithio'n agos gyda Stonewall Cymru i gryfhau ei waith monitro yn y meysydd perthnasol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2018-19. |
|||||||
CYNLLUN TÂL AC ABSENOLDEB - BABANOD CYNAMSEROL A BABANOD SYDD YN YR YSBYTY PDF 445 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'rBwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynllun arfaethedig ynghylch Tâl ac Absenoldeb - Babanod Cynamserol a Babanod sydd yn yr Ysbyty, a oedd â'r nod o gefnogi gweithwyr yn ystod amser anodd a heriol iawn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r Cynllun Tâl ac Absenoldeb - Babanod Cynamserol a Babanod sydd yn yr Ysbyty. |
|||||||
TIR A DDELIR MEWN YMDDIRIEDOLAETH GAN GYNGOR SIR GAERFYRDDIN PDF 507 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu cynnig i ddirprwyo cyfrifoldeb am dir a gedwir mewn ymddiriedolaeth gan yr Awdurdod i Banel Annibynnol. Roedd y darn o dir ger Ysgol Pen-bre a nodwyd yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg ei fod yn addas i'w ddatblygu. Fodd bynnag, roedd gwrthdaro o ran buddiannau gan fod y tir dan sylw'n cael ei gadw mewn ymddiriedolaeth gan yr Awdurdod ac er mwyn datrys y sefyllfa, byddai'r cyfrifoldeb yn cael ei ddirprwyo i Banel Annibynnol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
11.1 Fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gapasiti fel ymddiriedolwyr, yn dirprwyo ei gyfrifoldebau drwy ganiatáu i swyddogion sefydlu Panel Annibynnol i gynghori'r Bwrdd Gweithredol mewn perthynas â'r ymddiriedolaeth hon ac unrhyw ymddiriedolaeth arall; 11.2 Bod aelodau'r Panel Annibynnol yn cael tâl ar raddfeydd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer aelodau cyfetholedig; 11.3 Bod y Bwrdd Gweithredol, wrth ddirprwyo ei bwerau, yn cytuno i'r Panel Annibynnol gynnal ei ymchwiliadau ei hun mewn perthynas â'r ymddiriedolaeth sy'n berchen ar y tir y mae'r adroddiad hwn yn berthnasol iddo; 11.4 Bod y Panel Annibynnol yn adrodd am ei argymhellion ar ddiwedd ei ymchwiliadau wrth y Bwrdd Gweithredol; 11.5 Bod y Bwrdd Gweithredol, er budd pennaf yr ymddiriedolaeth, yn penderfynu a ddylid derbyn neu wrthod yr argymhellion mewn unrhyw adroddiad o'r fath a gyflwynwyd gan y Panel Annibynnol.
|
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2018-2019 PDF 154 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Blynyddol 2018/19 ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth, a oedd wedi'i lunio er mwyn cydymffurfio â Chôd Ymarfer CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys yn y Sector Cyhoeddus.
PENDERFYNWYD YN YNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn derbyn Adroddiad Blynyddol 2018/19 ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth.
|
|||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR PDF 487 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn nodi'r sefyllfa ariannol ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2018/19.
Dangosodd y ffigurau alldro terfynol fod yna danwariant ar lefel adrannol a oedd yn dod i amrywiant o £1.3 miliwn ar gyfer y flwyddyn, yn ogystal â gorwariant yn yr Adran Cymunedau (£549k) a'r Adran Addysg a Phlant (£747k).
Roedd y prif amrywiannau andwyol ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant yn ymwneud ag ymddeoliadau cynnar gwirfoddol mewn ysgolion a chostau dileu swyddi, darpariaeth ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig, Addysg Heblaw yn yr Ysgol a'r Gwasanaeth Cerdd. Yn yr Adran Cymunedau roedd yr amrywiannau sylweddol yn ymwneud â gofal preswyl a gofal cartref a chymorth i bobl h?n a phobl ag anableddau corfforol.
Nodwyd bod tanwariant bach o £43k yn y Refeniw Tai.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad monitro'r gyllideb.
|
|||||||
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2018-19 PDF 274 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa derfynol y gyllideb ar gyfer rhaglen gyfalaf 2018/19 ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd y rhaglen gyfalaf yn dangos amrywiant o -£8.056 miliwn a fyddai'n cael ei ailbroffilio yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod yn y rhaglen.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y rhaglen gyfalaf.
|
|||||||
Y RHAGOLYGON O RAN CYLLIDEB REFENIW 2020/21 TAN 2022/23 PDF 434 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion ynghylch y rhagolwg ariannol presennol a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y model ariannol ar gyfer y tair blynedd ariannol nesaf. Yn yr adroddiad amlinellwyd y cynigion o ran paratoi'r gyllideb am y cyfnod tair blynedd 2020/21 hyd at 2022/23.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
15.1 dderbyn y rhagolwg cyllidebol cychwynnol; 15.2 cymeradwyo'r dull arfaethedig o glustnodi'r arbedion angenrheidiol; 15.3 cymeradwyo'r dull arfaethedig o ymgynghori ynghylch y gyllideb.
|
|||||||
ADRODDIAD LLIFOGYDD ADRAN 19 STORM CALLUM PDF 467 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn gwerthuso'r llifogydd yn sgil Storm Callum. Roedd yr adroddiad yn cydymffurfio â gofyniad statudol ar Sir Gaerfyrddin fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol.
Diolchodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd i'r holl swyddogion a gymerodd ran am eu gwaith caled mewn ymateb i Storm Callum.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
16.1 cytuno ar y 55 o argymhellion/camau gweithredu a nodir yn yr adroddiad o ganlyniad i'r ymchwiliadau a gynhaliwyd fel y'u nodwyd yn nogfen Camau Gweithredu A19, a'u cymeradwyo;
16.2 bod yr Arweinydd yn mynd at CNC drwy'r BGC i ofyn iddynt fynychu cyfarfod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Awdurdod am eu hargymhellion perthnasol yn yr adroddiad;
16.3 bod yr Arweinydd yn ysgrifennu at Leslie Griffiths AC gan nodi siom yr Awdurdod dros ymateb CNC.
|
|||||||
CYNLLUN RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD PDF 742 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'rBwrdd Gweithredol yn ystyried y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno ar y cynllun a'i dderbyn fel dogfen weithio strategol at ddibenion rheoli llifogydd a blaenoriaethu mewn perthynas ag asedau y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn berchen arnynt neu'n eu rheoli.
|
|||||||
CYFYNGIAD AR WASTRAFF GWEDDILLIOL O YMYL Y FFORDD PDF 442 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu'r mesurau sy'n ofynnol er mwyn cyrraedd targed ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru, sef 64%. Os na chyrhaeddir y targed gallai'r Awdurdod wynebu dirwyon o £164,000 ar gyfer pob 1% sy'n is na'r targed. Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd y byddai pob dirwy 1% yn cyfateb i gost 3.5 o athrawon neu 6.6 o weithwyr gofal cartref. Roedd cynlluniau peilot a chynlluniau addysgol pellach hefyd ar waith er mwyn helpu i gyrraedd y targed.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
18.1 fabwysiadu a chymeradwyo'r Polisi Gweddilliol Cyfyngedig · cyfyngiad o 3 sach gweddilliol/bag du wrth ymyl y ffordd · trafod a didoli sachau gweddilliol/bagiau du mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref 18.2 adolygu'r polisi ymhen 12 mis.
|
|||||||
STRATEGAETH TOILEDAU LLEOL PDF 483 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'rBwrdd Gweithredol yn ystyried y Strategaeth Toiledau Lleol a'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth Toiledau Lleol ddrafft. Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at gyfleusterau Changing Places a oedd â'r nod o gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer pobl ag anabledd/anableddau y mae angen cyfleusterau toiled wedi'u haddasu arnynt a nodwyd bod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i gynyddu nifer y cyfleusterau hyn sydd ar gael.
Nododd y Bwrdd Gweithredol y cais gan Bwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a’r Amgylchedd, y dylai cynrychiolydd o'r pwyllgor fynychu'r Gr?p Strategaeth Toiledau. Fodd bynnag, dywedodd y Bwrdd y dylai'r Gr?p Strategaeth Toiledau barhau i fod yn gr?p a arweinir gan swyddogion. Dylid cyflwyno diweddariadau gan y gr?p i Bwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a’r Amgylchedd yn ôl yr angen.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth Toiledau Lleol Cyngor Sir Caerfyrddin. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd P. Hughes Griffiths wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y bwriad i drosglwyddo cyfrifoldebau rheoli a chynnal a chadw tir fel ardal hamdden yn dilyn cwblhau cynllun hamdden Gwlyptiroedd/y Morfa.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu i Dir Pori y Gofeb, Rhandiroedd a Gwlyptiroedd Heol Picton, Caerfyrddin gael eu prydlesu am 99 mlynedd i Gyngor Tref Caerfyrddin ar rent hedyn pupur.
|
|||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys i'w hystyried.
|