Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P.M. Hughes.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

G. Davies

10.           14 – Penodi Llywodraethwr Awdurdod Lleol

Ef yw Cadeirydd y llywodraethwyr yn Ysgol Brynaman

 

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 4YDD MAWRTH, 2019. pdf eicon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2019 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN YR AELODAU.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN Y CYHOEDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR. pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2018, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £398k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £2,342k ar lefel adrannol.  Roedd y pwysau mwyaf sylweddol yn y Gwasanaethau Addysg a Phlant. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOLfod yr adroddiad ynghylch monitro'r gyllideb yn cael ei dderbyn.

 

 

7.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2018-19. pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ynghylch gwariant y Rhaglen Gyfalaf yn erbyn cyllideb 2018/19, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2018.

 

Nodwyd bod y rhaglen gyfalaf yn dangos gwariant net o £52,455k o gymharu â chyllideb net weithredol o £54,105 gan roi amrywiant o £-1,650k.

 

Roedd y gyllideb net wedi'i hailbroffilio gyda £0.692m yn rhagor o 2018/19 yn cael ei osod yn y blynyddoedd sydd i ddod er mwyn ystyried y wybodaeth a ddiweddarwyd yn y proffil gwariant a chafodd y llithriad yn y gyllideb o 2017/18 ei gynnwys hefyd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad monitro'r gyllideb a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen gyfalaf, fel y manylir yn Atodiad A a B, yn cael ei dderbyn.

 

 

 

 

8.

PRYNU GWYLIAU YCHWANEGOL. pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae'r awdurdod yn gwbl ymroddedig i gefnogi ei weithwyr a hybu eu hiechyd a'u llesiant.  Lluniwyd y Polisi Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol i gyd-fynd â'r ystod o bolisïau cefnogol a buddion sydd ar gael i weithwyr, drwy ganiatáu i unigolion wneud cais i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol.

 

Byddai'r polisi yn helpu gweithwyr i gydbwyso gwaith a bywyd cartref drwy ddarparu mwy o hyblygrwydd o ran cynllunio amser i ffwrdd o'r gwaith a gallai gyfrannu at ostwng lefelau absenoldeb salwch yn unol â'r hyn a welwyd gan Awdurdodau Lleol eraill sydd wedi rhoi polisi o'r fath ar waith.

 

Mae'n bosibl nad yw polisïau presennol megis rhannu swydd, gweithio rhan-amser a darpariaethau absenoldeb di-dâl yn briodol ar gyfer rhai aelodau o staff, felly, gallai'r opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol fod yn opsiwn mwy addas.  Nid yw'r polisi yn disodli na chyfyngu ar ddisgresiwn y rheolwr llinell i ganiatáu absenoldeb di-dâl yn unol â'r Polisi Amser o'r Gwaith.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL cymeradwyo Polisi Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol a chyflwyno cynllun i Brynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol.

 

 

 

9.

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT - YNNI GWYNT AC YNNI'R HAUL A CHANLLAW DYLUNIO PRIFFYRDD - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion am ddwy ddogfen yn ymwneud â'r Canllawiau Cynllunio Atodol a gafodd eu paratoi i gefnogi ac ymhelaethu ar bolisïau a darpariaethau Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin.

 

Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol drafft o ran Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul yn darparu canllawiau manylach er mwyn hwyluso'r gwaith o ddatblygu cynlluniau ynni adnewyddadwy, gan ganolbwyntio'n benodol ar ynni'r gwynt ac ynni'r haul. Roedd y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft yn darparu canllawiau cyffredinol ar gyfer ceisiadau ynni solar a gwynt ar y tir ar faterion megis ceisiadau cyn ymgeisio, Asesiad Effaith Amgylcheddol, Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, cysylltiad grid, ynni cymunedol, manteision cymunedol, tir amaethyddol, ystyriaethau ecolegol, lliniaru a gwella.  Cyhoeddwyd y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod y cyfnod rhwng 23 Awst a 5 Hydref 2018. Cafwyd chwech ymateb, ac mae'r manylion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol y Canllaw Dylunio Priffyrdd yn disodli'r Canllaw Dylunio Priffyrdd presennol, sy'n dyddio yn ôl i 1997, ac ers hynny bu llawer o newidiadau pwysig i bolisïau lleol a chenedlaethol yn ogystal â thempledi dylunio newydd.  Mae'r Canllaw Dylunio Priffyrdd newydd yn sicrhau bod y canllawiau'n gywir ac yn gyfredol o ran canllawiau cyfreithiol a pholisïau cyfredol.  Mae hefyd yn sicrhau bod datblygwyr neu'r rheiny sydd â diddordeb yn gwybod am y disgwyliadau o ran dylunio seilwaith priffyrdd ar gyfer datblygu yn y sir.  Bydd paratoi a mabwysiadu canllawiau megis y Canllawiau Cynllunio Atodol yn helpu datblygwyr, dylunwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i ddeall y gofynion priffyrdd ar gyfer datblygiadau newydd a bydd yn helpu i benderfynu ar gynigion wrth iddynt ddod i law.  Nod y Canllaw Dylunio Priffyrdd yw annog datblygwyr i greu dyluniadau priffyrdd a fyddai'n cynnwys cymeriad nodedig yn yr amgylchedd adeiledig a'r dirwedd, wrth ddefnyddio safonau dylunio a fyddai'n sicrhau darpariaeth ddiogel a chynaliadwy ar gyfer yr holl ddefnyddwyr. Y bwriad yw i'r canllaw fod yn ddogfen gyfeirio allweddol wrth benderfynu ar ymatebion priffyrdd i ymgynghoriadau cynllunio. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

9.1 bod yr ymatebion i'r ymarfer ymgynghori yn cael eu nodi a bod y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul yn cael eu cymeradwyo a'u mabwysiadu,yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad;

 

9.2 bod Canllawiau Cynllunio Atodol y Canllaw Dylunio Priffyrdd yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol am gyfnod o chwe wythnos;

 

9.3      bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Cynllunio gywiro gwallau argraffu, gwallau cartograffig neu wallau gramadegol a gwneud diwygiadau er mwyn gwella'r cywirdeb a gwneud yr ystyr yn gliriach.

 

10.

POLISI DIOGELU DATA. pdf eicon PDF 199 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol bod y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) wedi dod i rym ym mis Mai 2018, ynghyd â'r Ddeddf Amddiffyn Data newydd a ddaeth i rym yn y DU, gan ddisodli darpariaethau'r Ddeddf Diogelu Data 1998 blaenorol.

 

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn atal prosesu data sensitif a phersonol a data am gollfarnau troseddol, oni bai y bodlonir meini prawf penodol.

 

Mae'r Ddeddf Diogelu Data yn cynnwys darpariaethau atodol sy'n cynnig eithriadau o'r cyfyngiadau hyn yn y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.  Fodd bynnag, er mwyn dibynnu ar y darpariaethau hyn a phrosesu'r math personol hwn o wybodaeth, mae'r Ddeddf Diogelu Data yn nodi bod yn rhaid i'r Cyngor gael dogfen bolisi briodol sy'n esbonio'r canlynol:-

 

·       Sut y mae'r Cyngor yn cydymffurfio â'r chwe egwyddor o ran diogelu data; a

·       Pholisïau'r Cyngor o ran cadw a dileu data personol

sy'n cael eu prosesu o dan yr amodau hyn.

 

Mae'r Polisi Diogelu Data yn rhoi sylw i'r gofynion ychwanegol hyn ac er mwyn cydymffurfio â'r gofynion hyn,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Diogelu Data.

 

11.

POLISI RHEOLI COFNODION. pdf eicon PDF 181 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol am y gofyniad i gael polisi clir a chadarn ar waith ynghylch rheoli cofnodion y Cyngor, er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol a safonau.  Mae'r Polisi Rheoli Cofnodion yn nodi'r rheolau a'r cyfrifoldebau ar gyfer rheoli cofnodion, mewn unrhyw fformat, a'u storio mewn unrhyw gyfrwng yn y Cyngor.  Mae'r polisi hefyd yn ceisio sicrhau bod holl weithwyr Cyngor yn deall yr hyn y mae'n rhaid ei wneud i ddiogelu a rheoli cofnodion yn effeithiol, effeithlon ac economaidd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Rheoli Cofnodion.

 

12.

CYNNIG GOLEUADAU LED GAN GYNGHORAU CYMUNED. pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae tua 20,000 o unedau goleuadau stryd ar hyd ein priffyrdd yn Sir Gaerfyrddin sy'n eiddo i'r Tîm Goleuadau Cyhoeddus yng Nghyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, y tîm yma sydd hefyd yn cynnal a chadw'r goleuadau.  Ceir ymhellach 4900 o oleuadau cymunedol yn ardaloedd Cynghorau Tref a Chymuned sydd ym mherchnogaeth y cynghorau.  Mae'r goleuadau cymunedol hyn yn cael eu cynnal o dan gytundeb gan y Tîm Goleuadau Cyhoeddus lle mae'r Cynghorau Tref a Chymuned yn talu'n flynyddol am y gost o'u defnyddio a'u cynnal a chadw.

 

Mae'r Tîm Goleuadau Cyhoeddus wedi bod yn uwchraddio ein hunedau goleuadau stryd o lampau sodiwm i unedau goleuadau LED.  Cafodd y rhaglen drawsnewid hon ei chyflwyno i ddarparu arbedion effeithlonrwydd gan fod goleuadau LED yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn darparu gwell perfformiad gyda golau mwy gwyn.  Rhagwelir hefyd y bydd angen llai o gynnal a chadw yn y dyfodol.

 

O blith y 4900 o oleuadau cymunedol, mae 4357 o lampau sodiwm ac nid yw'r rhain yn cynnwys yr unedau LED sy'n effeithlon o ran ynni. Mae un cyflenwr o lampau sodiwm ac mae wedi rhoi gwybod y bydd yn rhoi'r gorau i dderbyn archebion ar ôl mis Gorffennaf 2019. Felly bywyd cyfyngedig sydd gan lampau sodiwm a bydd yn rhaid i Gynghorau Tref a Chymuned osod goleuadau LED yn lle'r 4357 yn y blynyddoedd sydd i ddod.

 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin mewn sefyllfa i arwain prosiect ar hyn yn seiliedig ar ein rhaglen adnewyddu goleuadau stryd. Bydd hyn yn cyfrannu tuag at fod yn Sir sy'n fwy effeithlon o ran ynni, bydd yn gwella ansawdd goleuadau cymunedol ac yn helpu Cynghorau Tref a Chymuned a fyddai fel arall mewn sefyllfa anodd. Felly, cynigiwyd bod y Cyngor Sir yn gweithredu fel deiliad y gyllideb i gyflwyno'r rhaglen gyda chytundeb y Cynghorau Tref a Chymuned y byddent yn talu'r costau yn ôl dros gyfnod o 8 mlynedd drwy gyfrwng eu praeseptau eu hunain. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo’r prosiect Goleuadau LED y Cynghorau Cymuned.

 

13.

LLYTHYR BLYNYDDOL 2017/18 CYNGOR SIR GAR - OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU. pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2017/18.  Roedd taflen ffeithiau a data ynghlwm wrth y llythyr, sy'n cynorthwyo'r Awdurdod i adolygu perfformiad.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith ei fod yn adroddiad cadarnhaol ac roedd yn braf nodi bod nifer y cwynion a dderbyniwyd gan yr Ombwdsmon ynghylch Sir Gaerfyrddin wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o 43%, sef o 44 i 25.  Roedd y cwynion ynghylch Cynllunio a Rheoli Adeiladu hefyd wedi gostwng yn sylweddol o 16 i 6.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2017-18.

 

14.

PENODI LLYWODRAETHWR A.LL. pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd G. Davies y Siambr cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd, yn unol â pholisi penodi'r Awdurdod Lleol ar gyfer Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol, lle mae swyddi gwag Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn bodoli neu ar fin codi, gwahoddir enwebiadau gan Gadeirydd y Corff Llywodraethu, y Pennaeth a'r Aelod Etholedig lleol.   Yn dilyn hynny, mae'r holl enwebiadau yn cael eu hystyried gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant, sydd yn y pendraw yn penodi.

 

Y Cynghorydd Glynog Davies yw'r Aelod Etholedig lleol ac ef hefyd yw Cadeirydd presennol y Llywodraethwyr yn Ysgol Brynaman.  Ni fyddai felly'n briodol i'r Cynghorydd Davies ystyried yr enwebiad ar gyfer swydd wag ar gyfer Llywodraethwr Awdurdod Lleol yn Ysgol Brynaman, yn ei rôl fel Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ar gyfer Addysg a Phlant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ailbenodi Mr M. Morgans i Gorff Llywodraethu Ysgol Brynaman. 

 

15.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau