Agenda a Chofnodion

(cyllideb), Cabinet - Dydd Llun, 4ydd Chwefror, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Jenkins  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

H.A.L. Evans

8 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2019/20 tan 2021/22 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2019/20

Ei chwaer yw Prif Weithredwr cymdeithas tai leol

H.A.L. Evans

11 – Cartrefi Croeso Cyfyngedig – Gofyniad Ariannu

Ei chwaer yw Prif Weithredwr cymdeithas tai leol

Wendy Walters - Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi

11 – Cartrefi Croeso Cyfyngedig – Gofyniad Ariannu

Cyfarwyddwr Cartrefi Croeso

Jake Morgan - Cyfarwyddwr Cymunedau

11 – Cartrefi Croeso Cyfyngedig – Gofyniad Ariannu

Cyfarwyddwr Cartrefi Croeso

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 21AIN IONAWR 2019 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2019 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2019/20 - 2021/22 pdf eicon PDF 181 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ynghylch Cyllideb Refeniw 2019/2020 ac yn darparu'r ffigurau mynegiannol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2020/2021 a 2021/2022. Hefyd roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb gan roi diweddariad ynghylch dilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau amlinelliad i'r Bwrdd o nifer o ffactorau sy'n dylanwadu ar y gyllideb, gan gynnwys y setliad terfynol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar 19 Rhagfyr 2018 a oedd yn darparu cyllid ychwanegol o gymharu â'r setliad dros dro a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2018. O ganlyniad i'r cyllid ychwanegol hwnnw, bu'n bosibl ailedrych ar rai o gynigion cychwynnol y gyllideb ac ystyried opsiynau pellach gan gynnwys rhoi ystyriaeth i'r cynnig diweddaraf o godiad cyflog a chefnogi gwasanaethau oedd yn cael eu harwain gan y galw ac a wynebai bwysau parhaus am ddarparu gwasanaethau, megis Gofal Cymdeithasol. Er bod y setliad terfynol ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn ffigur ychydig yn well na'r setliad dros dro, roedd yn parhau i fod yn gyllideb heriol iawn ac yn gyfystyr â lleihad mewn cyllid mewn termau go iawn o ystyried chwyddiant a symudiadau eraill mewn prisiau. Ymhellach, ar gyfer blwyddyn yn unig yr oedd Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu ffigurau ar lefel Awdurdod, a oedd yn cyfyngu ar y gallu i ragweld yn y tymor canolig o fewn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Yn benodol, roedd rhaid i'r Awdurdod fod yn ymwybodol o Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant Llywodraeth San Steffan a oedd i'w gynnal yn 2019.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod manylion llawn y setliad wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ond mai'r pwyntiau mwyaf trawiadol oedd bod cynnydd o 0.2% wedi bod yn y cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol ar sail Cymru gyfan, gyda Sir Gaerfyrddin yn cael setliad arian gwastad ar sail tebyg am debyg o gymharu â 2018-19. Tra bod y setliad terfynol yn darparu £1.557m ychwanegol i'r Awdurdod o gymharu â'r setliad dros dro, roedd hefyd yn dod â chyfrifoldebau ychwanegol gan gynnwys newidiadau yn y cynllun rhyddhad ardrethi a chyllid i dalu am gymhwyster ychwanegol am brydau ysgol am ddim.

 

Cynghorwyd y Bwrdd Gweithredol hefyd, tra bod mwyafrif y grantiau penodol wedi'u cynnal ar werth niwtral yn ariannol, fod yr awdurdod, fel oedd yn nodweddiadol ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn dal i aros am gadarnhad am rai grantiau arwyddocaol a fyddai'n cefnogi cynllun y gyllideb yn benodol, gyda golwg ar wastraff ac ar gyllid chweched dosbarth. Yr hyn nad oedd yn nodweddiadol, fodd bynnag, oedd lefel yr ansicrwydd ynghylch cyllido pensiynau athrawon. Er mai'r arwyddion anffurfiol oedd y byddai'r cyllid yn cael ei gyflawni'n llawn, yn yr un modd ag y bwriadwyd yn Lloegr, roedd yr ansicrwydd ynghylch talu yng Nghymru yn peri risg arwyddocaol gyda golwg ar gyllideb 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wedi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2019/20 - 2023/24 pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf am Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2019/20 hyd at 2023/2024. Roedd yr adroddiad yn cymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen gyfalaf.

 

Nododd y Bwrdd mai £104.708m oedd gwariant gros arfaethedig y rhaglen gyfalaf am 2019/20. Y bwriad oedd i'r Cyngor Sir gyllido £59.109m o'r rhaglen drwy ddefnyddio benthyciadau, derbyniadau cyfalaf, arian wrth gefn a'r grant cyfalaf cyffredinol a bod y £45.599m oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol. Dywedwyd wrth y Bwrdd y rhagwelid y byddai'r rhaglen gyfalaf yn cael ei chyllido'n llawn dros y cyfnod o bum mlynedd o 2019/20 drwodd i 2023/24.

 

Hysbysodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y Bwrdd y byddai'r rhaglen dreigl bum mlynedd yn gwireddu buddsoddiad o bron £261m i gyd (amcangyfrifwyd y byddai cyllid y Cyngor Sir yn £133m a £128m o gyllid allanol). Fodd bynnag, yn yr un modd â'r setliad refeniw, nid oedd yr awdurdod wedi cael unrhyw ragamcanion oddi wrth Lywodraeth Cymru gyda golwg ar gyllid cyfalaf cyffredinol y tu hwnt i 2019/10. O ganlyniad, roedd y rhaglen yn seiliedig ar fod benthyca â chymorth, a grant cyffredinol, y blynyddoedd i ddod ar yr un lefel ag y byddent yn 2019/20. Fodd bynnag, roedd grant cyfalaf ychwanegol at ddibenion cyffredinol wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o dair blynedd o 2018/19 i 2020/21 a oedd yn dod i ryw £6.6m, a oedd wedi'i gynnwys o fewn y rhaglen cyfalaf 5 mlynedd.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol fod nifer o gynlluniau ychwanegol newydd wedi'u cynnwys fel rhan o'r rhaglen, er enghraifft:

·        Yr Adran Cymunedau - roedd yna gyllid newydd ar gyfer Canolfan Hamdden Dyffryn Aman ynghyd â pharhau i gefnogi tai'r sector preifat yn 2023/24 ar gyfer Grant Cyfleusterau i'r Anabl

·        Adran yr Amgylchedd - parhau i gefnogi gwelliannau priffyrdd, cynnal a chadw pontydd a chynlluniau diogelwch ffyrdd i mewn i 2023/24 a hefyd Llwybr Dyffryn Tywi yn 2019/20. Yn ogystal, o ganlyniad i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, gwnaed cynnydd o £1.5m ychwanegol y flwyddyn am dair blynedd i'r gwariant a glustnodwyd ar gyfer adnewyddu ffyrdd.

·        Roedd y Rhaglen Moderneiddio Addysg wedi cael ei diwygio ar gyfer blynyddoedd 2019/20 i 2023/24, ac roedd cyllidebau wedi'u hail-broffilio a rhai cynlluniau newydd wedi'u cyflwyno gan gynnwys Ysgolion Cymraeg Cydweli, yr Hendy, Llandeilo a'r ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwy ffrwd yn Rhydaman. Bu hyn yn bosibl o ganlyniad i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn ddiweddar ei bod yn cymeradwyo rhaglen Band B y Cyngor a fyddai'n rhedeg tan 2024, a'r prif newid oedd cynyddu'r gyfradd ymyrryd o 50% i 65% ar gyfer ysgolion ac o 50% i 75% ar gyfer ysgolion arbennig. Roedd y cynnydd hwnnw wedi rhoi cyfle i'r awdurdod ddarparu rhagor o ysgolion o fewn y rhaglen Band B gwerth £129.5m.

·        Mae cyllidebau Adfywio a'r Prif Weithredwr bellach yn cynnwys cynlluniau'r Fargen Ddinesig, gan gynnwys y Pentref Llesiant a'r Egin. Roedd Canolfan Hamdden arfaethedig Llanelli a'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI 2019/20 - 2020/21 A LEFELAU RHENTI TAI 2021/22 - REFENIW A CHYFALAF pdf eicon PDF 181 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach).

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau a oedd yn dod ynghyd â'r cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2019/20 i 2021/22. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr 2018, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith wedi'i wneud), wedi darparu'r buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wedi parhau i fuddsoddi yn Ymrwymiad i Dai Fforddiadwy'r Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod y buddsoddiad cyfalaf o £231m yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin, a bod cyllideb bellach wedi'i datblygu i sicrhau bod y cyllid priodol yn cael ei ddyrannu er mwyn cynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy yn achos yr holl eiddo wrth edrych tua'r dyfodol. Rhagwelid y byddai tua £45m yn cael ei wario yn cynnal a chadw'r stoc a'i huwchraddio dros y tair blynedd nesaf. Roedd y gyllideb hefyd yn darparu £44m o gyllid dros y tair blynedd nesaf i gefnogi Rhaglen Tai Fforddiadwy'r Cyngor, a fyddai'n hwyluso cynnydd yng nghyflenwad y tai fforddiadwy ar hyd a lled y Sir drwy wahanol atebion gan gynnwys y rhaglen adeiladu tai newydd a'r cynllun prynu'n ôl. Byddai'r Cyngor hefyd yn ymgymryd â'r rhaglen adeiladu tai newydd drwy gyfrwng ei raglen gyfalaf ei hun a thrwy'r Cwmni Tai newydd - Cartrefi Croeso.

 

O ran pennu Rhenti Tai, atgoffwyd y Bwrdd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru o'r blaen, a olygai i bob pwrpas bod unrhyw gynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan ganllawiau Llywodraeth Cymru a bod hyn yn dosbarthu rhenti i denantiaid y sector cymdeithasol mewn modd tecach.

Daeth y polisi hwn i ben yn 2018/19 a chyflwynwyd polisi interim am flwyddyn ar gyfer 2019/20, gan ragweld y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno polisi newydd i'w weithredu yn 2020/21. Roedd y polisi interim hwnnw'n caniatáu i awdurdodau lleol o fewn eu band rhent targed gynyddu rhent yn ôl CPI yn unig. Gan fod Sir Gaerfyrddin ar y pryd o fewn y band rhent targed o ychydig, argymhelliad yr adroddiad cyfredol oedd cynnydd o 2.4% ar draws pob eiddo.

 

Fodd bynnag, ar 30 Ionawr 2019, roedd Llywodraeth Cymru wedi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) CYNLLUN BUSNES 2019–22 pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The Executive Board considered the Carmarthenshire Homes Standard Plus (CHS+) Business Plan 2019-2022 plan the purpose of which was to:

 

·       explain the vision and detail of maintaining and improving the Carmarthenshire Homes Standard Plus over the next three years, and what it means for tenants;

·       outline how we can deliver transformational change and investment, and set even more ambitious affordable homes targets for the future;

·       confirm the financial profile, based on current assumptions, for the delivery of the CHS+ over the next three years; and

·       produce a business plan for the annual application to Welsh Government for Major Repairs Allowance (MRA) for 2019/20, equating to £6.1m.

The Executive Board Member for Housing advised that if the report and its recommendations were to be adopted, it would result in some £45m being spent over the next three years to maintain tenant homes. It would also allow the submission of an application to the Welsh Government for a £6.1 million Major Repair Allowance for 2019/20. The Executive Board Member outlined a plan for 2019 to include –

 

-        £1million for building work on existing estates

-        £2 million to bring empty council houses back to use as soon as possible and to the CHS+ standard

-        £1.5 million to improve communal areas in Shelter Schemes

-        £0.25 million for improvements in relation to fire safety

UNANIMOUSLY RESOLVED TO RECOMMEND TO COUNCIL THAT:-

 

9.1

the ambitious vision of the CHS+ and the financial and delivery programme over the next three years be confirmed;

9.2

the submission of the plan to Welsh Government be confirmed.

 

10.

POLISI RHEOLI’R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2019-2020 pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor, yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, wedi cytuno i gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys, a hefyd i gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Yn ogystal, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Yn unol â'r gofynion uchod, rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i Bolisi a Strategaeth y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20 cyn eu rhoi gerbron y Cyngor yn ffurfiol ar gyfer eu mabwysiadu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

10.1

bod Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2019-20 a'r argymhellion a nodwyd ynddynt yn cael eu cymeradwyo,

10.2

bod Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Dangosyddion Darbodaeth, y Datganiad ynghylch y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw a'r argymhellion yn cael eu cymeradwyo.

 

11.

CARTREFI CROESO CYFYNGEDIG GOFYNIAD CYLLIDO pdf eicon PDF 294 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER:

1.     Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach;

2.     Gan iddynt yn gynharach ddatgan buddiannau yn yr eitem hon, gadawodd Mrs W. Walters (Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi) a Mr J. Morgan (Cyfarwyddwr Cymunedau) y cyfarfod tra oedd y Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr eitem.

 

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol ei fod, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mehefin, wedi cytuno ar drefniadau ariannol ar gyfer Cartrefi Croeso Cyfyngedig er mwyn cynnal ei gostau o ran gweithredu a datblygu'r cynllun, ar y sail a nodwyd yn yr adroddiad. Yn dilyn yr adroddiad hwnnw, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnig sicrhau cyfleuster cyllido cyfunol priodol er mwyn caniatáu i Cartrefi Croeso Cyfyngedig ddechrau datblygu dau gynllun a bodloni'r trefniadau cyllido parhaus o ran costau gweithredu a chostau datblygu cynlluniau yn y dyfodol, yn ogystal â darparu ychydig wrth gefn i ddechrau cynlluniau yn y dyfodol sy'n cael eu nodi'n gynlluniau hyfyw.

 

Cyfeiriwyd at y trefniadau dirprwyo y dylid eu gwneud ar gyfer y Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol ac roedd cefnogaeth i'r farn y dylid newid paragraffau 5[d] a 5[f] yr adroddiad fel eu bod yn dweud y dylid dirprwyo gan ymgynghori â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR BOD Y CYLLID CANLYNOL YN CAEL EI ROI I CARTREFI CROESO CYFYNGEDIG:-

 

11.1

Cyfleuster cyllido - uchafswm o £6m

11.2

Hyd y trefniant - 5 mlynedd. Roedd hyn yn seiliedig ar ddefnyddio'r benthyciad ar gyfer datblygiadau'r cynllun a'i ad-dalu o fewn amserlenni'r cynllun busnes

11.3

Llog o 1.6% yn uwch na'r gyfradd a bennwyd gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus gan adlewyrchu'r diogelwch rhannol a fydd ar gael i'r Cyngor o'r tir/gwaith cyn ei werthu

11.4

Cyfleuster cyllido i'w weithredu fel trefniant gorddrafft - arian i'w ddefnyddio pan fo angen yn unig a bydd y balans yn gostwng wrth i arian ddod i law

11.5

Mae cymeradwyo rhyddhau cyllid (hyd at y terfyn) i'w ddirprwyo i'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, gan ymgynghori â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, a bydd y cyfleuster i'w weinyddu fel a ganlyn:-

a)     Rhyddhau'r cyllid adeiladu dim ond ar ôl i'r tendrau gael eu dychwelyd, ar ôl cadarnhau ac asesu bod y cynllun yn dal i fod yn un hyfyw, ac ar ôl rhoi'r trefniadau contractiol ar waith,

b)     Rhoi Cytundeb Datblygu ar waith ar gyfer gwerthu'r tai cymdeithasol i'r Awdurdod;

c)     Costau Gweithredu: trefniadau benthyciad o oddeutu £280k y flwyddyn hyd nes y bydd y cwmni'n hyfyw heb yr elfen honno o gymorth;

d)     Costau Datblygu Prosiectau. Bydd yr uchafswm gwreiddiol a ddyrannwyd o £750k yn ddigon, ac at ddiben monitro a rheoli costau datblygu prosiectau bydd adroddiadau chwarterol manwl yn cael eu cyflwyno i'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gan ymgynghori â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau;

e)     Adeiladu'r cynllun yn y dyfodol. Cymeradwyo cyllid mewn egwyddor [heb fod yn fwy nag uchafswm y cyfleuster] ar ôl cwblhau arfarniadau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.

12.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.