Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 14eg Mai, 2018 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd E. Dole.

 

3.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

 

4.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

5.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion eraill.

 

6.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD.

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI Fod YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

7.

CYNLLUN BUSNES LLESIANT DELTA WELLBEING LTD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 6 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad yr oedd cynllun busnes manwl 2018/19 wedi’i atodi iddo ar gyfer y Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol, sef Llesiant Delta Wellbeing Ltd.  Roedd y cynllun busnes wedi'i baratoi fel yr oedd yn ofynnol yn sgil penderfyniadau'r Bwrdd Gweithredol ar 22 Ionawr 2018 a'r Cyngor Llawn yn dilyn hynny ar 14 Chwefror 2018. 

 

Nododd y Bwrdd fod cynllun busnes 2018/19 wedi'i gymeradwyo gan Gr?p Llywodraethu Llesiant Delta Wellbeing a bod angen i'r Bwrdd Gweithredol gymeradwyo'r cynllun a gyflwynwyd er mwyn i Llesiant Delta Wellbeing ddechrau masnachu o 1 Mehefin 2018. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1      Cymeradwyo Cynllun Busnes manwl Llesiant Delta Wellbeing Ltd yn unol â gofynion y cyngor llawn ar 14 Chwefror 2018, ac yn benodol:

7.2      Adennill costau sefydlu'r Cwmni drwy drefnu benthyciad rhwng y Cyngor Sir a'r Cwmni ar gyfradd log fasnachol. Bydd y gwerth yn cael ei bennu yng nghynllun busnes manwl y Cwmni a bydd y Bwrdd Gweithredol yn cytuno arno.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.