Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | |
---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L.M. Stephens.
|
||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
||
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y Dogfennau ychwanegol: |
||
18FED TACHWEDD 2019; PDF 421 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2019 yn gofnod cywir.
|
||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2019 yn gofnod cywir.
|
||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
||
SYLFAEN TRETH Y CYNGOR - 2020-21 PDF 679 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad ynghylch Sylfaen y Dreth Gyngor 2020-21. Atgoffwyd ei bod yn ofynnol i'r Cyngor benderfynu, yn flynyddol, ar Sylfaen y Dreth Gyngor a Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer pob cymuned yn ei ardal, at ddibenion cyfrifo lefel y Dreth Gyngor am y flwyddyn ariannol oedd i ddod a bod y gwaith cyfrifo blynyddol wedi cael ei ddirprwyo i'r Bwrdd Gweithredol, o dan ddarpariaethau Adran 84 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2004.
Roedd cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y Cyngor Sir am 2020-21 wedi'i nodi yn Nhabl 1a ac wedi'i grynhoi yn Nhabl 1b, a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad. Roedd y cyfrifiad yng nghyswllt Cynghorau Tref a Chymuned unigol ar gyfer 2020-21 wedi'i grynhoi yn Nhabl 2 a'r manylion yn Atodiad A, a oedd hefyd wedi'u hatodi i'r adroddiad. O ran Atodiad 'A', cynghorwyd y Bwrdd y dylai'r ffigurau yn y llinell 'Cyf. F/G - Cymhareb â Band D' yn nhabl pob cyngor tref/cymuned fod yr un fath â'r rhai a gynhwyswyd yn y tabl ar gyfer Tref Rhydaman. Nid effeithiwyd ar y ffigurau cyffredinol a restrwyd.
Nododd y Bwrdd fod adroddiad y Sylfaen Dreth yn darparu cyfrifiadau ar gyfer yr Awdurdod cyfan, yn ogystal â manylion ar gyfer pob ardal cyngor tref a chyngor cymuned at ddibenion eu praesept, ac y cyfrifwyd mai Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-2021 oedd £74,006.63.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
6.1. bod y cyfrifiadau o ran pennu Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad A o'r adroddiad, yn cael eu cymeradwyo;
6.2. bod Sylfaen y Dreth Gyngor o £74,006.63, fel y manylwyd arni yn nhablau 1a ac 1b o'r adroddiad, yn cael ei chymeradwyo yng nghyswllt ardal y Cyngor Sir;
6.3. bod y sylfeini treth perthnasol yng nghyswllt y Cynghorau Cymuned a Thref unigol, fel y manylwyd arnynt yn nhabl 2 o'r adroddiad, yn cael eu cadarnhau.
|
||
PARC RHANBARTHOL Y CYMOEDD - CYFRANOGIAD A CHYTUNDEB CYFREITHIOL PDF 670 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad ar oblygiadau penderfyniad y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnwys Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth yn ardal Tasglu'r Cymoedd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys Cymoedd De Cymru, a oedd wedi'i sefydlu yn 2017. Nododd adroddiad diweddaru'r tasglu a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru y byddai'r tasglu yn parhau i weithio i gyflawni'r holl gamau gweithredu a gynhwyswyd yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni’. Byddai ei ymdrechion yn canolbwyntio'n benodol ar 6 phrif flaenoriaeth. Un ohonynt oedd datblygu Parc Rhanbarthol y Cymoedd erbyn 2021 gyda'r nod o fanteisio i'r eithaf ar botensial cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol treftadaeth naturiol a diwylliannol y cymoedd. Yn hyn o beth, roedd cytundeb cyfreithiol ar gyfer prosiect Parc Rhanbarthol y Cymoedd, sydd wedi'i atodi i'r adroddiad, wedi cael ei ddrafftio i bob awdurdod lleol a oedd yn cymryd rhan ei lofnodi. Roedd y ddogfen yn gytundeb ar y cyd rhwng y partïon, gan gynnwys rhwymedigaethau, ac felly roedd angen cymeradwyaeth y Bwrdd Gweithredol i awdurdodi Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith i lofnodi'r ddogfen.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
7.1 cymeradwyo cyfranogiad y Cyngor Sir ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd; 7.2 cymeradwyo'r cytundeb cyfreithiol sydd wedi'i atodi i'r adroddiad ac awdurdodi Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith i lofnodi'r ddogfen; 7.3 cymeradwyo cynrychiolaeth gan Arweinydd y Cyngor ar Fwrdd Parc Rhanbarthol y Cymoedd.
|
||
UNRHYW FATER ARALL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o ran materion brys.
|
||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
||
LLAIN 1 PARC ADWERTHU TROSTRE, LLANELLI Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 9 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd yn y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth a fyddai, o'i datgelu, yn rhoi'r awdurdod o dan anfantais faterol mewn unrhyw drafodaethau dilynol a gallai gael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.
|
||
GOGLEDD STRYD Y FARCHNAD, LLANELLI Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 9 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd yn y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth a fyddai, o'i datgelu, yn rhoi'r awdurdod o dan anfantais faterol mewn unrhyw drafodaethau dilynol gyda thrydydd partïon a gallai gael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus. Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad yn manylu ar yr opsiynau a drafodwyd gyda thenant Altalia, 2/2a Stryd Stepney, Llanelli i hwyluso'r gwaith o ailddatblygu adeiladau yng Ngogledd Stryd y Farchnad fel prosiect strategol o dan y rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn ildio prydles bresennol yn Altalia, 2/2a Stryd Stepney, Llanelli, ar y telerau a gytunwyd.
|