Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

E. Dole

8 - Gostyngiad yn y Dreth Gyngor ar gyfer Tai Gwag Tymor Hir 

Llety gwyliau ym mherchnogaeth y teulu.

Gadawodd y Prif Weithredwr a'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith y cyfarfod yn ystod y broses o ystyried a phenderfynu ar Eitem 8 ar yr agenda sef Gostyngiad yn y Dreth Gyngor ar gyfer Tai Gwag Tymor Hir.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 21 HYDREF 2019 pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2019 yn gofnod cywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBUDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

5.1

CWESTIWN GAN MR DAVID THORPE I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“Yn dilyn datganiad Argyfwng Hinsawdd y Cyngor ar ddechrau'r flwyddyn, a chyhoeddiad arfaethedig y Strategaeth Di-garbon Net, a fyddai Cyngor Sir Caerfyrddin, fel rhan o'r mentrau hyn, ymchwilio i fabwysiadu'r 'Fframwaith Un Blaned' - fframwaith i arwain y Cyngor wrth weithredu yn unol â'r egwyddor ein bod yn defnyddio adnoddau o fewn terfynau'r blaned. Fel dull cyfrifyddu, mae'n nodi manteision a chostau cymdeithasol, amgylcheddol ac ariannol yr holl benderfyniadau cynllunio a chaffael (fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol).Gallai'r fframwaith hwn hefyd gael ei weithredu gan aelodau eraill y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn iddo fod yn fwy cost-effeithiol ac i sicrhau mwy o fanteision.  Mae olion traed ecolegol yn dangos petai pawb yn y byd yn cael yr un effeithiau â phoblogaeth Cymru, byddai angen tair planed arnom i'n cynnal ni, a gall mabwysiadu'r 'Fframwaith Un Blaned' ddechrau lleddfu'r broblem sylfaenol hon sy'n gyrru'r argyfyngau hinsawdd a difodi a chreu dyfodol gwell, mwy diogel i ni yma yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe."

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Yn dilyn datganiad Argyfwng Hinsawdd y Cyngor ar ddechrau'r flwyddyn, a chyhoeddiad arfaethedig y Strategaeth Di-garbon Net, a fyddai Cyngor Sir Caerfyrddin, fel rhan o'r mentrau hyn, ymchwilio i fabwysiadu'r 'Fframwaith Un Blaned' - fframwaith i arwain y Cyngor wrth weithredu yn unol â'r egwyddor ein bod yn defnyddio adnoddau o fewn terfynau'r blaned. Fel dull cyfrifyddu, mae'n nodi manteision a chostau cymdeithasol, amgylcheddol ac ariannol yr holl benderfyniadau cynllunio a chaffael (fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol). Gallai'r fframwaith hwn hefyd gael ei weithredu gan aelodau eraill y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn iddo fod yn fwy cost-effeithiol ac i sicrhau mwy o fanteision. Mae olion traed ecolegol yn dangos petai pawb yn y byd yn cael yr un effeithiau â phoblogaeth Cymru, byddai angen tair planed arnom i'n cynnal ni, a gall mabwysiadu'r 'Fframwaith Un Blaned' ddechrau lleddfu'r broblem sylfaenol hon sy'n gyrru'r argyfyngau hinsawdd a difodi a chreu dyfodol gwell, mwy diogel i ni yma yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

Bydd y Cyngor yn ystyried y 'Fframwaith un Blaned', ochr yn ochr ag unrhyw fframweithiau eraill posibl a byddwn yn gwneud hynny mewn ymgynghoriad â chydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, sef yr hyn yr ydym yn ei wneud gan fod cynifer ohonynt yn gwneud yr un peth â ni ac wedi datgan argyfwng hinsawdd. Felly, mi fyddwn.

Cwestiwn atodol gan Mr David Thorpe:-

 

A hoffech drefnu cyfarfod â mi i drafod hyn ymhellach?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

Rwy'n fodlon cael cyfarfod ond rwy'n ymwybodol eich bod eisoes wedi cael cyfarfod gyda'm cydweithwyr a swyddogion a chredaf mai'r cyfarfod hwnnw oedd y man cychwyn. Rwy'n ymwybodol eich bod yn y cyfarfod hwnnw wedi rhoi cyflwyniad ar y 'fframwaith un blaned' a'u bod wedi ymateb i hwnnw ac maent wedi bod mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru ynghylch hyn ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb.  Ymateb y Llywodraeth yw nad yw'n awyddus i edrych ar un fath o offer ond yn hytrach bydd yn gofyn am ymatebion gwahanol gan wahanol awdurdodau o ran pa Fframwaith y maent yn ei ddefnyddio a byddwn yn defnyddio'r ymateb hwnnw o ran yr uchelgais gyffredinol sydd ganddo. 

Rwy'n gwbl barod i gael cyfarfod â chi Mr Thorpe, ond nid wyf yn si?r i ba bwrpas byddai hynny wrth ystyried bod cyfarfod eisoes wedi'i gynnal gyda swyddogion, ond wrth gwrs os hoffech ddod i gyfarfod, mae croeso i chi ddod i mewn a gallwn drefnu cyfarfod, diolch.

 

At ddibenion eglurhad, ar gais Mr Thorpe, roedd Arweinydd y Cyngor wedi nodi y byddai'r Cyngor yn ystyried mabwysiadu'r fframwaith.

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL - DIOGELU pdf eicon PDF 392 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd ynghlwm wrth yr Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu a oedd yn rhoi trosolwg o amcanion a chyflawniadau Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion Canolbarth a Gorllewin Cymru. 

 

Roedd yr adroddiad yn cydnabod bod nifer o brosiectau Bwrdd sylweddol wedi'u sefydlu yn ystod 2018/19, a oedd yn gofyn am fewnbwn sylweddol gan weithwyr proffesiynol diogelu amlasiantaeth pwrpasol ar draws rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.   Roedd y byrddau wedi symud ymlaen i agenda ar y cyd o Ddiogelu Pobl o bob oed  yn unol ag ysbryd ac ethos Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  

 

Roedd y gwaith integredig ar y cyd rhwng Byrddau CYSUR a CWMPAS ar lefel Weithredol ac Is-grwp rhanbarthol bellach wedi'i gynnwys yn llawn yn strwythurau’r Byrddau.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys y cynnydd a wnaed yn erbyn y deilliannau a bennwyd gan y Byrddau ym mis Mawrth, 2018 ac roedd yn rhan o'r Cynllun Strategol Blynyddol ar y cyd.

 

Nodwyd bod y prosiectau pwrpasol wedi llwyddo i osod y sylfeini ar gyfer darparu gwasanaethau diogelu ac arfer proffesiynol yn ystod y tair i bum mlynedd nesaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Diogelu Blynyddol.

 

 

7.

POLISI NEWYDD O RAN RECRIWTIO A DETHOL pdf eicon PDF 521 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch y Polisi Recriwtio a Dethol newydd. Roedd y Polisi a oedd ynghlwm i'r adroddiad wedi cael ei ail-ysgrifennu o ganlyniad i'r adolygiad recriwtio a oedd yn cynnwys adolygiad recriwtio ar raddfa eang, mewn ymgynghoriad â nifer o reolwyr recriwtio, a oedd yn adlewyrchu deddfwriaeth gyflogaeth gyfredol ac arferion gorau.

 

Roedd y polisi newydd yn cynnwys adborth o'r gynhadledd i Reolwyr Pobl mewn perthynas â'r broses recriwtio a dethol ac argymhellion yr adolygiad TIC. 

 

Pwysleisiwyd y byddai pob penodiad allanol yn parhau i fod yn destun i gwblhau cyfnod prawf boddhaol o 6 mis neu yn ôl yr hyn a ganiateir yn y contract cyflogaeth. Yn ystod y cyfnod prawf byddai'r agweddau ar waith a chynnydd personol yn cael eu monitro i gynnwys y lefel angenrheidiol o ran sgiliau'r Iaith Gymraeg.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) yn ogystal â'r cyfnod prawf, byddai cytundebau dysgu yn cael eu datblygu, er mwyn canolbwyntio ar ofynion.  At hynny, dywedwyd wrth Aelodau'r Bwrdd bod cyfarfod wedi'i drefnu ym mis Rhagfyr i ail-werthuso Strategaeth y Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid cymeradwyo a gweithredu'r Polisi Recriwtio a Dethol newydd ledled y Cyngor.

 

 

 

8.

GOSTYNGIAD YN Y DRETH GYNGOR AM EIDDO GWAG TYMOR HIR pdf eicon PDF 261 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

[NODER:

      i.        Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd E.Dole y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.

    ii.        Gadawodd y Prif Weithredwr a'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith y cyfarfod yn ystod ystyried yr eitem a phenderfynu arni.

   iii.        Yn absenoldeb yr Arweinydd, cymerodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Mair Stephens, le'r Cadeirydd ar gyfer yr eitem hon.]

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn argymell diwygio pwerau disgresiwn yr awdurdod er mwyn cael gwared ar y gostyngiad a ddyfernir o ran eiddo gwag tymor hir a chodi'r swm llawn o ran y Dreth Gyngor o 2020/21.

 

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cynnig newid dyraniad y Grant Cynnal Refeniw er mwyn cynnal y gostyngiad o 50% yn y Dreth Gyngor ar eiddo gwag tymor hir a fyddai'n debygol o effeithio ar lefel y Grant Cynnal Refeniw.

 

Nododd y Bwrdd y sefyllfa bresennol o ran anheddau gwag, manteision y cynnig a'r effaith ariannol fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i awgrym a godwyd ynghylch dadansoddiadau pellach i nodi pa eiddo yr effeithir arnynt, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud ac y byddai mentrau rhagweithiol yn cael eu defnyddio.

 

Sicrhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol y Bwrdd y byddai'r perchenogion eiddo hynny yr oedd y newidiadau yn effeithio arnynt yn cael eu hysbysu fel mater o drefn drwy system y Dreth Gyngor.  Yn ogystal, gan fod hwn yn sefyllfa ariannol niwtral i'r Cyngor Sir oherwydd y byddai'n codi o'r Grant Cynnal Refeniw, byddai'n golygu cynnydd yn y sylfaen drethi ar gyfer yr Heddlu a'r Cynghorau Tref a Chymuned, a hyn fyddai'n arwain at incwm ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid mabwysiadu'r argymhelliad ar gyfer dileu'r gostyngiad o 50% ar eiddo gwag tymor hir a bod y Dreth Gyngor lawn yn berthnasol ar eiddo dosbarth C o 1 Ebrill 2020.

 

 

9.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2019-20 pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ynghylch gwariant y Rhaglen Gyfalaf yn erbyn cyllideb 2019/20, fel yr oedd ar 31 Awst 2019.

 

Nodwyd bod y rhaglen gyfalaf yn dangos gwariant net rhagweladwy o £63,854 o gymharu â chyllideb net weithredol o £63,349 gan roi amrywiant o £505k.

 

Roedd y gyllideb net wedi'i hailbroffilio o £2,379 miliwn o 2019/20 i'r blynyddoedd sydd i ddod er mwyn ystyried y wybodaeth a ddiweddarwyd yn y proffil gwariant a chafodd y llithriad yn y gyllideb o 2018/19 ei gynnwys hefyd.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol fod ymarfer ailbroffilio o ran y Gyllideb Addysg a Gwasanaethau Plant yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i adlewyrchu cynnydd y cynlluniau o fewn y rhaglen gyfalaf 5 mlynedd sy'n rhan o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad monitro'r gyllideb a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen gyfalaf, fel y manylir yn Atodiad A a B, yn cael ei dderbyn.

 

 

10.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 464 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa'r gyllideb fel yr oedd ar 31 Awst 2019 o ran 2019/20.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £3,831k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £5,560k ar lefel adrannol.

 

Nododd y Bwrdd fod y pwysau mwyaf sylweddol o fewn Addysg a Gwasanaethau Plant, a rhagwelir gorwariant net o £1,059k ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant yn cydnabod y pwysau presennol a dywedodd fod trafodaethau difrifol yn cael eu cynnal yn y sector addysg a'u bod yn gweithio'n agos gyda phenaethiaid.

 

Roedd y Cyfrif Refeniw Tai a oedd ynghlwm i'r adroddiad yn Atodiad B yn rhagweld y byddai tanwariant o £32K ar gyfer 2019/20.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad ynghylch monitro'r gyllideb yn cael ei dderbyn.

 

 

11.

AILDDATBLYGU'R HEN FARCHNAD NWYDDAU, LLANDEILO pdf eicon PDF 474 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dilyn adroddiad blaenorol a gafodd ei ystyried gan y Bwrdd Gweithredol ym mis Tachwedd 2018 lle y nodwyd y byddai angen rhoi ystyriaeth bellach i neilltuo £2m o gyllid cyfalaf ychwanegol i alluogi i'r prosiect fynd yn ei flaen.

 

Nododd y Bwrdd fod cais y Cyngor am gyllid o raglen Llywodraeth Cymru sef Adeiladu ar gyfer y Dyfodol wedi bod yn llwyddiannus a derbyniwyd llythyr cymeradwyaeth mewn egwyddor am gyllid £1.4m. 

 

Dywedwyd pe byddai'r Cyngor yn ymrwymo i ddarparu digon o arian cyfatebol fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad, rhagwelwyd y byddai'r prosiect hwn yn arwain at y canlynol:

 

·       Creu oddeutu 45 o swyddi newydd

·       Cymorth i 17 o Fusnesau Bach a Chanolig drwy greu lle busnes o'r radd flaenaf gan ddarparu canolfan i gwmnïau lleol ddatblygu

·       Adnewyddu adeilad nodedig

·       Rhagwelir y bydd y prosiect yn sbardun a fyddai'n arwain at fusnesau newydd yn gweithredu yn y dref farchnad, yn creu cyfleoedd cyflogaeth ychwanegol ac yn denu rhagor o ymwelwyr.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys costau prosiect a phecyn cyllido diwygiedig ac roedd yn awgrymu bod y Cyngor yn cytuno i ymrwymo swm o gyllid cyfalaf cyfatebol ychwanegol uwchlaw'r swm a gymeradwywyd yn wreiddiol gan y Bwrdd Gweithredol (fel y manylwyd arno yn yr adroddiad) i alluogi'r prosiect o ran ailddatblygu'r hen farchnad nwyddau i symud yn ei flaen a derbyn y cyllid allanol a ymrwymwyd i'r prosiect gan brosiect 'Adeiladu ar gyfer y Dyfodol' ar y cyd rhwng Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru’. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn argymell y dylai'r Cyngor gytuno i gaffael ardal ychwanegol o dir ar gyfer gofynion parcio'r adeilad, roedd y telerau a nodir yn y penawdau telerau drafft o ran gofynion y maes parcio ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Er mwyn darparu eglurder, esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol y byddai'r £991,008 a oedd yn weddill yn cael ei ddefnyddio fel rhan o'r gwaith o ail-flaenoriaethu ac ailadeiladu'r rhaglen gyfalaf gyfan yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

11.1 darparu arian cyfatebol ychwanegol fel y manylir yn yr adroddiad er mwyn gallu darparu'r cynllun ailddatblygu cynhwysfawr arfaethedig;

11.2 sicrhau bod y tir ychwanegol yn cael ei gaffael yn ôl y telerau a nodir yn y penawdau telerau drafft o ran gofynion parcio'r adeilad.

 

 

12.

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I AD-DREFNU YSGOL HEOL GOFFA I SAFLE NEWYDD A CYNYDDU CAPASITI O 75 I 120 pdf eicon PDF 446 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a dogfen ymgynghori a oedd yn cynnig adleoli ysgol Heol Goffa i safle newydd a chynyddu ei chapasiti o 75 i 120.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu bod Ysgol Heol Goffa yn ysgol arbennig sydd ar hyn o bryd yn Llanelli ac mae'n cael ei chynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Ar hyn o bryd, mae'r ysgol yn darparu ar gyfer 75 o ddisgyblion rhwng 3-19 oed sydd ag anawsterau dysgu difrifol neu anawsterau dysgu dwys a lluosog. Mae gan bob disgybl Ddatganiad Anghenion Addysgol Arbennig neu Gynllun Datblygu Unigol.

 

Ar hyn o bryd, nododd y Bwrdd fod mwy o ddisgyblion yn Ysgol Heol Goffa na'r lleoedd sydd ar gael ac mae'r duedd hon yn debygol o barhau a/neu gynyddu yn y dyfodol agos. Yn ogystal mae'r galw sylweddol am leoedd yn rhoi pwysau sylweddol ar yr Awdurdod Lleol i ddod o hyd i leoliadau i ddisgyblion.

 

Byddai'r cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynigion yn dechrau ar 13 Ionawr 2020 ac yn dod i ben ar 23 Chwefror 2020.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

12.1  bod y cynnig uchod a amlinellir yn yr adroddiad a'r ddogfen ymgynghori sydd ynghlwm yn cael eu cymeradwyo;

12.2.  bod swyddogion yn cychwyn ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y cynnig yn ystod tymor y gwanwyn;

12.3  bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori.

 

 

13.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys i'w hystyried.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau