Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Tremlett.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 17EG RHAGFYR 2018. pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2018, gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL A DEDDF (CYMRU) LLES 2014 - POLISI A DIWYGIADAU GWEITHDREFN I GODI TÂL AM WASANAETHAU I OEDOLION. pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod yr eitem hon wedi ei thynnu oddi ar yr agenda.

 

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR. pdf eicon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r gyllideb fel yr oedd ar 30 Hydref 2018.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant o £1,255k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £2,760k gan yr adrannau.  Roedd y pwysau mwyaf sylweddol yn yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant, ac mae angen i'r Adran roi sylw beirniadol i'r sefyllfa a ragwelir ar hyn o bryd.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch y ffaith nad yw'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cyfrannu'n llawn at y cytundebau teiran ar gyfer lleoliadau yn Uned Breswyl y Garreg Lwyd ac ystyriwyd y byddai angen atgoffa'r Bwrdd am ei gyfrifoldeb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad monitro'r gyllideb yn cael ei dderbyn.

 

8.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2018-19. pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am wariant y Rhaglen Gyfalaf yn erbyn cyllideb 2018/19, fel yr oedd ar 31 Hydref 2018.

 

Nodwyd y rhagwelwyd gwariant net o £52,244k o gymharu â chyllideb net weithredol o £43,878k gan roi £-1,634k o amrywiant.

 

Roedd y gyllideb net wedi'i hailbroffilio gan £1.887 miliwn pellach o 2018/19 i'r blynyddoedd sydd i ddod er mwyn ystyried y wybodaeth a ddiweddarwyd yn y proffil gwariant a chafodd y llithriad yn y gyllideb o 2017/18 ei gynnwys hefyd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad monitro'r gyllideb a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen gyfalaf, fel y manylir yn Atodiad A a B, yn cael ei dderbyn.

 

9.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The Chair reported that there were no items of urgent business.

 

10.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD.

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

11.

CYMORTH ARIANNOL I YMDDIRIEDOLAETH ADFYWIO TREFTADAETH SIR GAR/ BLAS LLANELLY.

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 10 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

[Nodyn – Nid oedd C Moore, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, yn bresennol yn y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.]

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar yr achos dros gymorth ariannol parhaus ar gyfer prosiect Ymddiriedolaeth Adfywio Treftadaeth Sir Gaerfyrddin/Plas Llanelly.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r argymhelliad o becyn cymorth ar gyfer Ymddiriedolaeth Adfywio Treftadaeth Sir Gaerfyrddin/Plas Llanelly o hyd at £60k y flwyddyn am y 2 flynedd nesaf yn amodol ar adolygiad o'r rhagolygon ariannol cyn blwyddyn 2.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau