Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 21ain Hydref, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd C.A. Campbell.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Mr Jon Cooper a Mr Hugh Watkins o swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn).

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

E. Dole

Rhif 6 - Y Gronfa Cyllid a Dargedir a Chronfa'r Degwm.

Mae'r Cynghorydd Dole yn Weinidog rhan-amser Capel Annibynnol Caersalem

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 23AIN MEDI, 2019 pdf eicon PDF 448 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 23 Medi, 2019 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANT CANLYNOL: CRONFA'R DEGWM pdf eicon PDF 287 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn yr eitem hon, nid oedd yr Arweinydd yn bresennol yn y cyfarfod tra oedd y cais dan sylw]

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais am gymorth gan Gronfa'r Degwm. Roedd y cais, a fyddai fel arfer yn cael ei benderfynu fel rhan o gyfarfod Penderfyniadau Aelodau'r Bwrdd Gweithredol ar gyfer yr Arweinydd, wedi'i gyfeirio at y Bwrdd Gweithredol gan fod y Cynghorydd E. Dole, wedi datgan buddiant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Ymgeisydd                                                                            Dyfarniad

Capel Annibynnol Caersalem                                                 £2,319.00

 

Ar ôl i'r eitem uchod ddod i ben, dychwelodd y Cynghorydd E. Dole i'r cyfarfod ac ailgychwyn ei rôl fel Cadeirydd.

 

 

7.

ARDAL TY-ISA/HEOL YR ORSAF: AMLINELLU EIN HUCHELGAIS HIRDYMOR A'N CAMAU YN Y TYMOR BYR pdf eicon PDF 916 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar yr uchelgais hirdymor ar gyfer ardal T?-isa/Heol yr Orsaf, gan dynnu sylw at y gwaith a wnaed hyd yn hyn, y cynllun gweithredu tymor byr, a'r trefniadau llywodraethu gofynnol er mwyn i'r rhaglen gamu ymlaen.

 

Pwysleisiodd y Bwrdd Gweithredol bwysigrwydd y prosiect hwn gan y byddai'n ysgogi newid cadarnhaol yn y gymuned a oedd wedi bod yn rhagweithiol wrth ddiffinio'r gofynion.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

7.2

Cadarnhau'r uchelgais hirdymor ar gyfer ardal T?-isa/Heol yr Orsaf.

7.3

Nodi'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn.

7.4

Cadarnhau'r camau cyntaf er mwyn i swyddogion ddechrau ar y rhaglen newid, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

7.5

Sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn ar waith i yrru'r rhaglen newid yn ei blaen.

 

8.

DEISEB YNGHYLCH CAIS I ADFER Y TOILEDAU YN HARBWR Y DWYRAIN, PORTH TYWYN pdf eicon PDF 688 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i ddeiseb a ddaeth i law ynghylch y ddarpariaeth doiledau yn Harbwr Porth Tywyn. Yn ei gyfarfod ar 10 Gorffennaf 2019 (gweler cofnod 8), derbyniodd y Cyngor ddeiseb i adfer y toiledau ar ochr ddwyreiniol yr harbwr, Porth Tywyn. Gan fod y mater a godwyd yn y ddeiseb yn swyddogaeth weithredol, cyfeiriodd y Cyngor y ddeiseb at y Bwrdd Gweithredol i'w hystyried. Roedd yr adroddiad yn rhoi ymateb drafft i'r Bwrdd Gweithredol ei ystyried.

 

Gofynnwyd i'r swyddogion ystyried gwella'r arwyddion fel eu bod yn fwy ystyriol o bobl â dementia.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo’r ymateb i'r ddeiseb fel y nodwyd yn yr adroddiad.  

9.

ARDAL GWELLA BUSNES (AGB) CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 634 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ynghylch Ardal Gwella Busnes (AGB) Caerfyrddin. Ym mis Mawrth 2017, ymgynghorwyd â 190 o fusnesau yng Nghaerfyrddin ynghylch canol y dref a'r rhagolygon ar gyfer AGB. Cafwyd ail gyfle i gynnig sylwadau a gwneud awgrymiadau drwy sesiwn galw heibio ym mis Tachwedd 2017. Ceisiodd yr ymgynghoriadau weld a fyddai busnesau'n cefnogi cyflwyno AGB ac roedd yr ymateb yn gadarnhaol dros ben. 

 

Drwy ei hardoll, byddai AGB Caerfyrddin yn cynhyrchu incwm o tua £165,000 y flwyddyn, neu £847,000 dros gyfnod y pum mlynedd (chwyddiant o 2% y flwyddyn) i'w fuddsoddi mewn prosiectau a gwasanaethau er budd busnesau yng Nghaerfyrddin. Byddai'r AGB yn canolbwyntio ar bedwar maes gweithgarwch gan gynnwys gwneud busnesau'n fwy proffidiol, gwella proffil y dref, gwella'r profiad parcio a golwg y dref.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

9.1       Cefnogi 'Cwmni AGB Caerfyrddin' er mwyn ei alluogi i gynnal pleidlais ffurfiol ynghylch a fyddai busnesau ardrethol y dref yn dymuno gweithredu Ardal Gwella Busnes (AGB) Caerfyrddin am gyfnod cychwynnol o 5 mlynedd neu beidio.

9.2       Cytuno ar ei safbwynt o ran rhoi cefnogaeth i egwyddor yr AGB a phleidleisio o ran ei 15 eiddo ardrethol yr effeithir arnynt o fewn y parth AGB (amcangyfrif o gost flynyddol yr ardoll yw £20,061 ynghyd â chwyddiant o 2% y flwyddyn).

9.3       Cytuno ar yr egwyddor o ymgymryd â chasglu ardoll yr AGB fel y nodwyd yn y Cytundeb Gweithredol ar ran Cwmni AGB Caerfyrddin, heb unrhyw gost i'r AGB am y cyfnod cyntaf o 5 mlynedd.

9.4       Cymeradwyo'r Datganiad o Wasanaethau Sylfaenol ar gyfer Cwmni'r AGB.

9.5       Enwebu cynrychiolydd aelodau i fod ar Fwrdd Cwmni'r AGB.

9.6       Cytuno i reoli, heb unrhyw gost, broses bleidleisio yr AGB ar ran Cwmni AGB Caerfyrddin.

10.

LLYTHYR BLYNYDDOL YR OMBWDSMON 2018/19 CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 420 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2018/19. Roedd taflen ffeithiau a data ynghlwm wrth y llythyr, sy'n cynorthwyo'r Awdurdod i adolygu perfformiad.

 

Nodwyd y bu cynnydd o ran nifer y cwynion a gafwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghylch awdurdodau lleol yn genedlaethol a bod nifer y cwynion a gafwyd gan yr Ombwdsmon ynghylch Sir Gaerfyrddin wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf o 25 i 49. Ni chyflwynwyd unrhyw adroddiadau yn erbyn Sir Gaerfyrddin, ac yn gyffredinol roedd perfformiad yn cymharu'n ffafriol â'r canlyniadau addasedig.

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi pwerau newydd i Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus a fydd yn arwain at broesau yn y dyfodol sy'n llai beichus.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2018-19.

11.

CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY (CGHT) SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 655 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i Gynllun Gwella Hawliau Tramwy Sir Gaerfyrddin 2019 - 2029.

 

O dan Adran 60 (3) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, disgwylir i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru fod yn destun adolygiad statudol o'i CGHT presennol cyn pen 10 mlynedd ar ôl ei gyhoeddi.

Cyhoeddwyd CGHT Sir Gaerfyrddin 2007-2017 yn 2008 ac felly roedd yn ofynnol ei adolygu yn unol â'r rhwymedigaeth statudol. 

 

Diolchwyd i'r tîm bach sy'n cyfrannu cymaint at y gwaith o gynnal a chadw'r Hawliau Tramwy a gofynnwyd am roi ystyriaeth i gynyddu maint y tîm hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR gymeradwyo mabwysiadu a chyhoeddi'r ddogfen bolisi hawliau tramwy cyhoeddus 10 mlynedd - CGHT Sir Gaerfyrddin 2019-2029.

12.

YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU FFRAMWAITH DATBLYGU CENEDLAETHOL 2020-2040 pdf eicon PDF 556 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC). Roedd yr adroddiad yn nodi'r strategaeth ar gyfer ymdrin â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy'r system gynllunio, gan gynnwys cynnal a datblygu economi fywiog, datgarboneiddio, datblygu ecosystemau cydnerth a gwella iechyd a llesiant ein cymunedau.

 

Nodwyd mai'r prif fater sy'n peri pryder i Sir Gaerfyrddin yw'r diffyg pwyslais ar gymunedau ac economïau gwledig. Byddai llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi sylw i'r pryderon hyn ac yn cynnwys argymhellion ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

12.1    Nodi cynnwys yr ymgynghoriad.

12.2    Cymeradwyo'r ymatebion i'r ymgynghoriad a nodwyd yn yr adroddiad i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

13.

FERSIWN ADNEUOL DRAFFT O GYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018 - 2033 pdf eicon PDF 420 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i fersiwn adneuol drafft o Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033. Lluniwyd yr adroddiad hwn yn dilyn penderfyniad y Cyngor Sir ar 10 Ionawr 2018 i ddechrau'n ffurfiol ar y gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) diwygiedig (newydd), ac ar ôl cael cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru o'r Cytundeb Cyflawni ar 28 Mehefin 2018, gan gynnwys yr amserlen ar gyfer paratoi'r cynllun.

 

Roedd yr adroddiad yn disgrifio'r fersiwn adneuol drafft o'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig drwy nodi gweledigaeth y Cyngor o ran defnydd y tir, amcanion strategol a gofynion twf strategol ar gyfer y Sir hyd at 2033 ynghyd â set o bolisïau a darpariaethau cynhwysfawr a manwl - gan gynnwys dyraniadau penodol i safle (sy'n cynnwys tai a chyflogaeth yn ogystal ag ystyriaethau amgylcheddol ac ystyriaethau gofodol eraill).

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

13.1    Ystyried a chymeradwyo cynnwys y Fersiwn Adneuol Drafft o Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2018 - 2033 (a dogfennau atodol) at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.

13.2    Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol ansylweddol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Fersiwn Drafft o'r Strategaeth a Ffefrir.

13.3    Cymeradwyo'r Fersiwn Drafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol ynghylch Moryd Byrri ac Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr at ddibenion ymgynghori yr un pryd â'r CDLl Adneuo.

 

14.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys i'w hystyried.

 

15.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

THE REPORTS RELATING TO THE FOLLOWING ITEMS ARE NOT FOR PUBLICATION AS THEY CONTAIN EXEMPT INFORMATION AS DEFINED IN PARAGRAPH 14 OF PART 4 OF SCHEDULE 12A TO THE LOCAL GOVERNMENT ACT 1972 AS AMENDED BY THE LOCAL GOVERNMENT (ACCESS TO INFORMATION) (VARIATION) (WALES) ORDER 2007. IF, FOLLOWING THE APPLICATION OF THE PUBLIC INTEREST TEST, THE BOARD RESOLVES PURSUANT TO THE ACT TO CONSIDER THESE ITEMS IN PRIVATE, THE PUBLIC WILL BE EXCLUDED FROM THE MEETING DURING SUCH CONSIDERATION.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

16.

PENTREF LLESIANT A GWYDDOR BYWYD LLANELLI

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 15 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r wybodaeth ariannol yn ymwneud â gwasanaethau dylunio cam 3 RIBA a fydd yn cael eu darparu. Er y byddai'r budd i'r cyhoedd fel rheol yn ffafrio tryloywder a diffuantrwydd, mae'r budd i'r cyhoedd o gadw cyfrinachedd yn drech yn yr achos hwn er mwyn diogelu buddiannau masnachol y darparwr yn y farchnad ehangach, ynghyd â buddiannau'r Awdurdod at ddibenion ceisio rhagor o wasanaethau dylunio.

 

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli er mwyn symud datblygiad y Pentref Llesiant yn ei flaen gan gynnwys manylu ar y dyluniad, comisiynu a'r broses i sicrhau cyllid, gyda'r nod o sicrhau bod parth un y Pentref yn cael ei ddarparu'n amserol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

16.1    Cymeradwyo comisiynu parhaus o ARUP ar ail ran gwaith dylunio Cam 3 RIBA, fel y manylwyd arno yn yr adroddiad, drwy gyllid gan y Gronfa Wrth Gefn bresennol a glustnodwyd ar gyfer y Fargen Ddinesig.

16.2    Cymeradwyo'r strategaeth adeiladu a chaffael arfaethedig ar gyfer y Pentref sy'n nodi llwybr caffael a ffefrir a rhaglen ar gyfer adeiladu parth 1.

16.2    Cydnabod yr ymagwedd tuag at y marchnadoedd ariannol a wnaed dan arweinyddiaeth weithredol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol.

16.4    Cymeradwyo'r Achos Busnes presennol (fel y'i atodir yn Atodiad 16.4) a rhoi awdurdod dirprwyedig i Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, drwy ymgynghori â'r Arweinydd, i gwblhau unrhyw ddiwygiadau pellach i'r Achos Busnes hwn (gan gynnwys cadarnhau partneriaid) a'i gyflwyno'n ffurfiol i Gyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe i'w gymeradwyo er mwyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

16.5    Cymeradwyo'r trafodaethau sy'n parhau gyda'r Partneriaid Addysg Uwch gyda'r bwriad o gytuno ar statws partneriaeth ffurfiol.

16.6    Cymeradwyo allbwn cychwynnol yr ymarfer o ran brand.