Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 23ain Medi, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd E. Dole y byddai'n ymadael â'r Gadair ac yn gadael y cyfarfod ar gyfer eitem 23 – Cronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin - gan ei fod fel arfer yn fater y byddai wedi ystyried o fewn ei bortffolio ei hun yng nghyfarfod Penderfyniadau'r Bwrdd Gweithredol ar gyfer yr Arweinydd. Gan fod y cais dan sylw wedi'i gyflwyno gan gwmni sy'n eiddo i'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, roedd y Cynghorydd Dole wedi'i gyfeirio at y Bwrdd Gweithredol i benderfynu ar y cais er nad oedd ganddo unrhyw ddiddordeb penodol yn y mater.

 

3.

COFNODION - 29 GORFFENNAF 2019 pdf eicon PDF 340 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2019 gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD:

Dogfennau ychwanegol:

5.1

CWESTIWN GAN MR NEIL LEWIS I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD O'R BWRDD - CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG:-

“Mae Strategaeth ‘Carbon Sero-net’ y Cyngor yn gam tuag at ateb yr Argyfwng Hinsawdd o bersbectif yr Awdurdod Lleol. Hoffwn ddeall erbyn hyn, beth sydd nawr yn ffurfio’r strategaeth derfynol, gan gynnwys y camau sydd yn cael ei wneud i sicrhau bod y Strategaeth yn cael ei amgyffred a’i weithredu ar draws adrannau mewnol y cyngor yn gyntaf; ac yn ail, y camau ehangach sydd wedi ei baratoi i’w gyfathrebu i bartneriaid y cyngor, busnesau lleol a dinasyddion Sir Gâr. Mae cyfathrebu, addysg a dealltwriaeth yn hanfodol i sicrhau fod y Strategaeth yn cael ei weithredu ac yn llwyddiannus.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae'r strategaeth 'di-garbon net' y Cyngor yn gam tuag at ateb argyfwng yr hinsawdd o safbwynt Awdurdod Lleol, hoffem ddeall y camau sy'n ffurfio'r strategaeth hon, gan gynnwys pa gamau sy'n cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn ddealladwy ac yn cael ei gweithredu ar draws adrannau mewnol y Cyngor yn gyntaf, ac yna pa gamau pellach sydd ar y gweill i gyfathrebu â phartneriaid y Cyngor, busnesau lleol a phobl Sir Gaerfyrddin. Mae cyfathrebu, addysg a dealltwriaeth yn hanfodol i sicrhau bod y strategaeth yn cael ei gweithredu ac yn llwyddiannus.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Cefin Campbell, sef yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

 

“Diolch yn fawr i chi Neil am eich cwestiwn. Mae'n bleser gennyf roi ymateb eithaf cyflawn i chi. Fel y gwyddoch, yr ydym wedi ymrwymo, fel Cyngor, i fod yn ddi-garbon net erbyn 2030 ac ar ôl i'r Rhybudd o Gynnig hwnnw gael ei basio'n unfrydol gan y Cyngor aethom ati i drafod â swyddogion yn y Cyngor yngl?n â'r ffordd ymlaen a chynhaliwyd cyfarfod ar y 30 Gorffennaf gyda phenaethiaid adrannau mewnol y Cyngor a bu'n gyfarfod cadarnhaol iawn. Rwy'n credu bod tua 12-15 o bobl yn cynrychioli gwahanol adrannau o'r Cyngor o gwmpas y bwrdd a'r hyn oedd yn syndod i mi oedd cymaint yr ydym eisoes yn ei wneud – mae gen i restr yma, ond ni fyddaf yn sôn am bob un ohonynt, ond mae yna ychydig o bethau oedd yn syndod mawr i mi. Er enghraifft, rydym eisoes yn buddsoddi £2m mewn 200 o gynhyrchion ynni a thrwy'r rhaglen honno byddwn yn lleihau'r allyriadau carbon o 4.1000 tunnell, felly rydym eisoes yn gwneud hynny. Rydym yn rhan o'r Cynllun Re:fit a ddarperir gan Lywodraeth Cymru er mwyn i bob t? a th? newydd yr ydym yn eu hadnewyddu, rydym yn ystyried ffyrdd o arbed ynni mewn adeiladau nad ydynt yn rhai domestig yn cynnwys ysgolion a chanolfannau hamdden a chartrefi gofal ac ati. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gael y safon T? Ynni Goddefol. Fel y gwyddoch, mae'n edrych ar arbed ynni ym maes tai. Rydym wedi newid 20,000 o oleuadau stryd i rai LED. Rydym wedi cael gwared ar blastig untro yn y cyngor sir ac rydym hefyd yn gweithredu'n ddi-bapur yn swyddogol ers mis diwethaf ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu 26 o fannau gwefru ceir trydan ledled y sir ac ati. Felly mae hyn yn dangos ein bod eisoes yn gwneud llawer ond mae mwy i'w wneud wrth gwrs.  Felly, ddydd Iau yma, 26 Medi, byddaf yn cadeirio ail gyfarfod y penaethiaid adrannau ac mae mwy wedi ymrwymo i ddod ac mae swyddogion eisoes wedi paratoi cynllun gweithredu, fersiwn ddrafft, a byddwn yn trafod hynny ac rydym wedi gwahodd Stephen Cirell o APSE – ac i rai ohonoch nad ydych yn gwybod pwy yw APSE – nhw yw'r GymdeithasRhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ac maent wedi cyhoeddi strategaeth o'r enw 'Datganiadau Argyfwng Hinsawdd Awdurdodau Lleol: ystyriaethau strategol ac ymarferol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.1

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 554 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2018/19 a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR bod Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2018/19 yn cael ei gymeradwyo.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH PERFFORMIAD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2018/19 pdf eicon PDF 321 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2018/19. Yn yr adroddiad, rhoddwyd trosolwg gan Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd ag asesiad ar y dyfodol a'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2019/20. 

 

Mynegodd yr Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Addysg a Phlant eu gwerthfawrogiad i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a'i staff am eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol y byddai'r adroddiad yn cael ei brawfddarllen a'i ddiwygio ymhellach, yn amodol ar ei gymeradwyo, cyn ei gyflwyno i'r Cyngor ym mis Hydref 2019. Ar ôl hynny, byddai'n cael ei gyhoeddi'n ffurfiol a byddai Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Llywodraeth Cymru yn cwblhau eu dadansoddiad a'u hadolygiad o'r adroddiad, a bydd llythyr blynyddol AGC yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar ddiwedd mis Tachwedd/dechrau mis Rhagfyr 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR bod y fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin 2018/19 yn cael ei gymeradwyo.

 

8.

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I NEWID NATUR Y DARPARIAETH YN YSGOL Y DDWYLAN, YSGOL GRIFFITH JONES, YSGOL LLANGYNNWR AC YSGOL LLYS HYWEL pdf eicon PDF 492 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol felly, yn unol â chofnod 7 o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai 2019 yn ystyried adroddiad ar ganlyniad yr Ymgynghoriad Statudol yr ymgymerwyd ag ef ar y cynigion i newid natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel i gyfrwng y Gymraeg gyda'r dewis o gyfrwng iaith yn cael ei gyflwyno yng Nghyfnod Allweddol 2, o 1 Medi 2019.

Nodwyd bod y cynnig wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Medi 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1 nodi'r sylwadau a gafwyd a chymeradwyo ymatebion yr Awdurdod Lleol yn dilyn y broses ymgynghori;

 

8.2 awdurdodi cyhoeddi hysbysiad statudol i weithredu'r cynnig i newid natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Ddwylan, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Llangynnwr ac Ysgol Llys Hywel i gyfrwng y Gymraeg gyda'r dewis o gyfrwng iaith yn cael ei gyflwyno yng Nghyfnod Allweddol 2, o 1 Medi 2020.

 

9.

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I NEWID NATUR Y DARPARIAETH YN YSGOL RHYS PRICHARD pdf eicon PDF 460 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â chofnod 6 ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai 2019, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch canlyniad yr Ymgynghoriad Statudol a gynhaliwyd ynghylch cynigion i newid y ddarpariaeth yn Ysgol Rhys Pritchard i gyfrwng y Gymraeg o 1 Ionawr 2020.  Nodwyd bod y cynnig wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Medi 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

9.1 nodi'r sylwadau a gafwyd a chymeradwyo ymatebion yr Awdurdod Lleol yn dilyn y broses ymgynghori;

 

9.2 awdurdodi cyhoeddi hysbysiad statudol iweithredu'r cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol Rhys Pritchard i gyfrwng y Gymraeg o 1 Ionawr 2020.

 

10.

Y PWYLLGOR CRAFFU - GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD GRWP GORCHWYL A GORFFEN - ADRODDIAD TERFYNOL DRAFFT 2018/19: ADOLYGIAD O EFFAITH UNIGRWYDD YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 419 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol ei ystyried gan Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor hwnne ar gyfer 2018/19 sef 'Adolygiad o effaith unigrwydd yn Sir Gaerfyrddin',  a'r pedwar argymhelliad canlynol y manylwyd arnynt a gafodd eu llunio gan y Gr?p yn dilyn ystyried ystod o dystiolaeth dros gyfres o gyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng mis Mehefin 2018 a mis Ebrill 2019:

 

·         Cymryd agwedd strategol at unigrwydd;

·         Mynd i'r afael ag unigrwydd fel blaenoriaeth bwysig a rennir;

·         Canolbwyntio ar adeiladu a chefnogi asedau cymunedol;

·         Mynd i'r afael yn uniongyrchol â rhwystrau o ran cysylltu.

 

Diolchwyd i'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen a'r swyddogion a gynorthwyodd gyda'r gwaith rhagorol a wnaed.

Atgoffwyd y Bwrdd y tynnwyd sylw at faterion unigrwydd ac arwahanrwydd hefyd yng nghanfyddiadau Gr?p Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin, sef cofnod 6 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2019, lle'r oedd diffyg trafnidiaeth, cyhoeddus a phreifat, hefyd yn cael ei ystyried yn ffactor a oedd yn cyfrannu at hyn. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad a'r argymhellion i'w hystyried ymhellach.

 

11.

YMDDIRIEDOLAETH ORIEL MYRDDIN pdf eicon PDF 470 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion am y broses ar gyfer penodi Ymddiriedolwyr Annibynnol i Ymddiriedolaeth Oriel Myrddin a gofyn am gadarnhad ynghylch penodi pedwar ymddiriedolwr annibynnol. Gofynnwyd hefyd am awdurdodiad i benodiadau yn y dyfodol gael eu dirprwyo i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

11.1 bod Neil Confrey, Louise Morgan, Sally Moss a Nigel Roberts yn cael eu penodi yn Ymddiriedolwyr Annibynnol i Oriel Myrddin am dymor o bedair blynedd [cais Mr Roberts i gael ei gadarnhau yng nghyfarfod nesaf yr Ymddiriedolaeth] er mwyn i'r Ymddiriedolaeth gydymffurfio â'i ddyletswyddau rheoleiddiol a chyfreithiol o dan amodau'r cynllun elusennol;

 

11.2 er mwyn hwyluso'r gwaith o benodi ymddiriedolwyr annibynnol yn y dyfodol dylid rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, er mwyn bwrw ymlaen â phenodiadau ar argymhelliad Bwrdd yr Ymddiriedolwyr.

 

12.

CYFLEUSTER CHANGING PLACES, LLANELLI pdf eicon PDF 621 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad yn manylu ar 8 opsiwn, ynghyd â'r amcangyfrif o'r costau, ar gyfer darparu cyfleusterau toiled arbenigol, a elwir yn gyfleuster Changing Places, yn Llanelli a fyddai'n diwallu anghenion pawb ag anableddau, boed yn anableddau dysgu dwys a lluosog neu anabledd corfforol arall, yn sgil ceisiadau cynyddol am gyfleuster o'r fath. Ystyriwyd mai'r opsiwn a ffefrir oedd ail wneud ac ymestyn y toiled anabl presennol ar y llawr gwaelod yn Theatr y Ffwrnes oherwydd ei leoliad canolog, oriau agor hir a'r trefniadau rheoli presennol. Roedd cyfleusterau tebyg ar gael eisoes yng Nghaerfyrddin, Rhydaman, Cydweli a Pharc Gwledig Pen-bre.

 

Wrth gynnig yr argymhellion, cynigiodd Aelod y Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd y dylid gofyn i swyddogion hefyd ystyried ariannu'r opsiwn a ffefrir fel rhan o flaenoriaethau'r Rhaglen Gyfalaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

12.1 gymeradwyo'r opsiwn a ffefrir ar gyfer y cyfleuster Changing Places yn Theatr y Ffwrnes a gofyn i swyddogion ystyried ariannu'r opsiwn a ffefrir fel rhan o flaenoriaethu'r rhaglen gyfalaf;

12.2  ychwanegu canllawiau pellach ynghylch Cyfleusterau Changing Places i'r Strategaeth Toiledau Lleol a gymeradwywyd yn ddiweddar er mwyn annog darpariaeth bellach ledled y Sir.

 

13.

POLISI A GWEITHDREFN DISGYBLU ENGHREIFFTIOL AR GYFER YSGOLION pdf eicon PDF 319 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Polisi a Gweithdrefn Disgyblu Enghreifftiol ar gyfer Ysgolion sydd wedi cael eu datblygu a'u diweddaru i helpu ac annog pob gweithiwr i gyrraedd a chynnal safonau ymddygiad derbyniol ac esbonio’n glir i bawb dan sylw y weithdrefn y dylid ei dilyn gan yr Ysgol a’r Corff Llywodraethol hwn er mwyn mynd i’r afael â phryderon am ymddygiad unigolyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo mabwysiadu Polisi a Gweithdrefn Disgyblu Enghreifftiol diweddaraf y Cyngor ar gyfer Ysgolion.

 

14.

POLISI A GWEITHDREFN ANGHYDFOD TORFOL (ENGHREIFFTIOL) AR GYFER YSGOLION pdf eicon PDF 317 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Polisi a Gweithdrefn Anghydfod Torfol (enghreifftiol) sydd wedi cael eu ddatblygu a'u diweddaru er mwyn darparu modd i'r undebau llafur a'r ysgol geisio datrys unrhyw anghydfodau a allai godi yng nghyswllt grwpiau o weithwyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo mabwysiadu Polisi a Gweithdrefn Anghydfod Torfol (Enghreifftiol) diweddaraf y Cyngor ar gyfer Ysgolion.

 

15.

ADRODDIAD Y RHAGLEN BAROD AM WAITH 2019-21 pdf eicon PDF 273 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gynigion i ymestyn y rhaglen Barod am Waith am 2 flynedd arall ar gost i £762,088. Byddai'r cyllid ar gyfer y rhaglen hon yn gymysgedd o gyllidebau presennol a chyfraniad o gronfeydd wrth gefn. Roedd y rhaglen, sydd wedi bod ar waith am bron i 8 mlynedd, wedi bod yn llwyddiant o flwyddyn i flwyddyn, gyda dros 69% o brentisiaid a Hyfforddeion Graddedig yr Awdurdod naill ai'n sicrhau cyflogaeth barhaol neu waith y tu allan i'r Awdurdod.

Wrth gynnig yr argymhellion, awgrymodd y Dirprwy Arweinydd y dylid diwygio'r ail argymhelliad/pwynt bwled yn yr adroddiad i ddarllen fel a ganlyn

 

‘Cytuno i gyllido'r rhaglen hon ar y sail ganlynol dros y 2 flynedd nesaf:

·         Cyllidebau adrannol presennol i gyllido 10 o'r Graddedigion a 50% o'r Prentisiaid a benodir (£604,255 dros 2 flynedd)'

 

Ychwanegodd y dylai'r frawddeg gyntaf yn yr adran Goblygiadau Ariannol ddarllen fel a ganlyn 'Bydd y cynnig i ymestyn y rhaglen Barod am Waith yn costio tua £1m dros y 2 flynedd nesaf’.

 

Nodwyd y gellid gwneud mwy gydag ysgolion i dynnu sylw at y math o swyddi a'r gyrfaoedd sydd ar gael gyda'r Awdurdod a phwysleisio'r manteision o fod yn ddwyieithog.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

15.1 gytuno ar y cynnig i ymestyn y Rhaglen Barod am Waith sy'n cynnwys 15 o Hyfforddeion Graddedig a 10 o Brentisiaid;

Cytuno i gyllido'r rhaglen hon ar y sail ganlynol dros y 15.2 flynedd nesaf:

·                    Cyllidebau adrannol presennol i gyllido 10 o'r Graddedigion a 50% o'r Prentisiaid a benodir (£604,255.00 dros 2 flynedd);

·                     Cyllid presennol ar waith o'r cynllun presennol £86,242;

·                     Defnyddio cronfeydd wrth gefn adrannol a chronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi £320,000;

15.3 mapio, drwy gynllunio'r gweithlu, anghenion sgiliau nawr ac yn y dyfodol, a nodi meysydd lle bydd galw am recriwtio yn y dyfodol a dyrannu adnoddau i gefnogi'r cyfleoedd hyn;

15.4 gweithio'n agos gyda chynlluniau gweithlu'r adrannau i hwyluso datblygiad aml-lefel ymysg gweithwyr presennol drwy gael y cyllid gan Lywodraeth Cymru;

15.5 parhau i ddatblygu pobl i sicrhau bod ein gweithlu yn fedrus iawn ac yn cael ei gefnogi drwy yrfa gynnar y gweithwyr yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, gan wneud y gorau o ffrydiau ariannu posibl;

15.6 gweithredu strategaeth recriwtio gynhwysfawr i gynnwys ymgyrch farchnata a chyfryngau cymdeithasol;

15.7 sicrhau cynaliadwyedd y prosiect drwy gefnogi cyllid ar gyfer swydd Cydgysylltydd Dysgu Seiliedig ar Waith;

15.8 ystyried cyfleoedd ehangu rhanbarthol gyda'r bwriad o gynnig y Rhaglen Barod am Waith i awdurdodau lleol cyfagos, gan leihau costau a darparu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu.

 

16.

CYTUNDEB DIWYGIEDIG CYD-BWYLLGOR BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE pdf eicon PDF 471 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gadarnhad o'r gwelliannau i gytundeb Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn dilyn canlyniadau adolygiadau gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a'r rhanbarth ei hun a dderbyniwyd gan y Cyd-bwyllgor ym mis Mawrth 2019. Roedd yr adolygiadau wedi cynnwys argymhellion a oedd yn gofyn am ddiwygiadau i'r Cytundeb Cyd-bwyllgor gwreiddiol a gymeradwywyd ym mis Gorffennaf 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

16.1 gymeradwyo'r newidiadau i'r Cytundeb Cyd-bwyllgor fel y'u nodir yn Atodiad 1 a 2 o'r adroddiad

16.2 awdurdodi'r Prif Swyddog Cyfreithiol ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe i wneud gweithred o amrywiad er mwyn gweithredu'r newidiadau i'r Cytundeb Cyd-bwyllgor.

 

17.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 459 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2019, o ran 2019/2020.

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £3,702k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £5,172k ar lefel adrannol. Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant o £172k i ddiwedd y flwyddyn.

 

Yn sgil y rhagolwg presennol o orwariant sylweddol posibl ar lefel adrannol, roedd yr adroddiad yn argymell y dylai Prif Swyddogion a Phenaethiaid Gwasanaeth barhau i adolygu eu sefyllfa gyllidebol yn feirniadol a gweithredu camau lliniaru priodol i ddarparu eu gwasanaethau o fewn y cyllidebau a ddyrannwyd iddynt fel mater o frys.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

17.1bod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw yn cael ei dderbyn;

17.2  bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu eu sefyllfaoedd cyllidebol yn feirniadol ac yn cymryd y camau priodol ac angenrheidiol i ddarparu eu gwasanaethau yn unol â'r cyllidebau a ddyrannwyd iddynt fel mater o frys.

 

18.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2019-20 pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran sefyllfa derfynol y gyllideb ar gyfer rhaglen gyfalaf 2019/20 ar y 30 Mehefin, 2018.

Yn adrannol rhagwelwyd gwariant net o £65,495k o gymharu â chyllideb net weithredol o £65,359k gan roi £136k o amrywiant. Roedd y gyllideb net wedi'i hailbroffilio gan £29.1 miliwn o 2019/20 i'r blynyddoedd sydd i ddod er mwyn ystyried y wybodaeth a ddiweddarwyd yn y proffil gwariant. At hynny, roedd llithriant y gyllideb o 2018/19 hefyd wedi'i gynnwys o fewn y ffigurau a atodwyd i'r adroddiad.

Yn ogystal, nododd y Bwrdd Gweithredol fod ymarfer ailbroffilio o ran y Gyllideb Addysg a Gwariant Cyfalaf yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i adlewyrchu cynnydd y cynlluniau o fewn y rhaglen gyfalaf 5 mlynedd sy'n rhan o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y rhaglen gyfalaf.

 

19.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2019 I MEHEFIN 30AIN 2019 pdf eicon PDF 252 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau rheoli'r trysorlys o 1 Ebrill, 2019 hyd at 30 Mehefin, 2019.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

20.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2018/19 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 700 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Adroddiad Monitro Blynyddol 2018/19 - Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, a baratowyd yn unol â darpariaethau Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Leol 2005, ac roedd angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref, 2019.

Nodwyd bod yr adroddiad yn cael ystyried gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 3 Hydref, 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

20.1

 

 

 

20.2

Cael a derbyn cynnwys y pedwerydd Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, y mae angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2019;

bod y canfyddiadau a'r dystiolaeth a gynhwysir yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol hwn yn cael eu hystyried fel rhan o'r gwaith o baratoi CDLl diwygiedig 2018-2033;

20.3

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb yr Adroddiad Monitro Blynyddol.

 

21.

UNRHYW FATER ARALL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o ran materion brys.

 

22.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

23.

CRONFA BUSNES SIR GAERFYRDDIN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Noder: gadawodd yr Arweinydd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon a daeth y Dirprwy Arweinydd i'r Gadair]

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 22 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad uchod o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn, yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn achosi niwed i'r busnesau y cyfeiriwyd atynt drwy ddatgelu gwybodaeth fasnachol sensitif iawn, gan danseilio'u safle yn y farchnad ac o bosibl rhoi swyddi mewn perygl ac achosi niwed i'r economi leol.

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais am gymorth gan Gronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin. Blaenoriaeth y gronfa oedd cefnogi'r gwaith o greu swyddi a busnesau newydd yn y Sir. Roedd y cais, a fyddai'n cael ei benderfynu fel rhan o gyfarfod Penderfyniadau Aelodau'r Bwrdd Gweithredol ar gyfer yr Arweinydd, wedi'i gyfeirio at y Bwrdd Gweithredol gan fod yr ymgeisydd yn gwmni a oedd yn eiddo i'r Cynghorydd Sir Aled Vaughan Owen a oedd hefyd yn aelod o gr?p Plaid Cymru.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa Tyfu Busnes Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

Ymgeisydd                                                                                Grant

Ynni Da                                                                                      £2,487.00