Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.  Fodd bynnag, roedd y Cynghorydd D.M. Cundy wedi gofyn am ganiatâd i ofyn cwestiwn mewn perthynas ag eitem rhif 5 ar yr agenda, yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 11.1.

 

4.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

SYMUD YMLAEN YN SIR GAERFYRDDIN - Y 5 MLYNEDD NESAF. pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd fod y Bwrdd Gweithredol wedi paratoi cynllun a oedd yn amlinellu ei gynigion o ran symud Sir Gaerfyrddin yn ei blaen dros y pum mlynedd nesaf.  Roedd y cynllun yn amlinellu dyheadau'r Bwrdd Gweithredol ac yn nodi nifer o brosiectau a rhaglenni allweddol y byddai'n ymdrechu i'w cyflawni yn ystod cyfnod y weinyddiaeth bresennol. 

 

Roedd y cynllun yn ceisio gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol yn y sir yn barhaus, gan sicrhau bod trigolion, cymunedau, sefydliadau a busnesau yn cael eu cefnogi a'u galluogi i ddatblygu a ffynnu. 

 

Bydd Strategaeth Gorfforaethol y cyngor, sy'n cael ei datblygu yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn cynnwys prif brosiectau a rhaglenni y cynllun hwn.  Bydd adroddiadau ac argymhellion manwl ynghylch prosiectau a rhaglenni penodol yn cael eu cyflwyno drwy broses ddemocrataidd y cyngor dros y pum mlynedd nesaf er mwyn symud ymlaen â'r ymrwymiadau hyn.

 

Cyfeiriwyd at dudalen 21 a'r ffaith y dylai'r is-bennawd nodi Diwylliant a Hamdden ac y dylai pwynt 63 ar yr un dudalen gael ei newid i gynnwys cyfeiriad at ddatblygu Oriel Myrddin.  Hefyd, cyfeiriwyd at dudalen 10 a gofynnwyd am gael cynnwys y gair “felly” ar ôl y flwyddyn 2019.

 

Dywedodd y Cynghorydd D.M. Cundy, yn unol â RhGC 11.1, ei fod yn credu bod y ddogfen hon a'r gyfres o ddyheadau yn eithriadol o bwysig i'r holl gyngor, ond er ei bod yn eang iawn, bod diffyg manylion a'i bod yn amlwg yn “sgerbwd” a fydd yn cynnal corff sylweddol o waith.  Gan mai dyma'r achos, gofynnodd a fyddai'n bosibl i Aelodau'r Bwrdd Gweithredol a'u timau roi cyflwyniadau, ar amserau a bennir ymlaen llaw, i'r Cyngor Llawn, er mwyn rhoi ychydig mwy o gig ar yr asgwrn o ran manylion ynghylch yr hyn sydd i'w gyflawni, fel y gall y Cynghorwyr fod yn rhan o'r broses weithredu o ran sut a phryd y bydd y dyheadau hyn yn cael eu gwireddu ar gyfer eu cymunedau.

 

Esboniodd yr Arweinydd fod yr ateb i'w gael yng nghrynodeb gweithredol yr adroddiad.  Mae'r Bwrdd Gweithredol wedi amlinellu ei gynigion o ran symud Sir Gaerfyrddin yn ei blaen dros y pum mlynedd nesaf.  Mae'n gipolwg ar ble rydym ni'n dymuno bod ymhen pum mlynedd.  Mae'r strategaeth gorfforaethol yn ategu hyn, er mwyn sicrhau bod modd cyflawni'r nodau hynny.  Ychwanegodd ei bod yn bosibl na fydd y cynllun yn gweithio wrth inni symud ymlaen, ond bydd y nodau yn aros yr un peth.  Mae'n rhaid i'r cynllun fod yn hyblyg gan y bydd pethau'n newid wrth inni symud ymlaen, ac efallai y bydd yn rhaid ailflaenoriaethu rhai prosiectau.  Mae'n rhaid cael hyblygrwydd.  Esboniodd fod cyllido yn broblem hefyd a chan fod y gyllideb ar gyfer teithio llesol wedi'i thorri'n sylweddol, bydd yn fwy anodd.  Mae'n parhau i fod yn uchelgais a bydd yn rhaid i'r cynllun newid a chael ei roi yng nghyd-destun y cyllid a fydd ar gael. Gan nad oeddem yn gwybod am y cyllid, roedd yn anodd pennu cynlluniau ar y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI Fod YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

8.

CAM 2 FFORDD GYSWYLLT ECONOMAIDD CROSS HANDS.

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 7 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).

 

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar y rhesymau pam roedd angen Gorchymyn Prynu Gorfodol i gaffael darnau o dir i adeiladu Cam 2 Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Datganiad o Resymau ar gyfer llunio Gorchymyn Prynu Gorfodol Cyngor Sir Caerfyrddin (Cam 2 Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands) 2017 i gaffael tir ar gyfer adeiladu Cam 2 Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands yn cael ei gymeradwyo.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau