Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION - 26 CHWEFROR, 2018 pdf eicon PDF 269 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 26 Chwefror, 2018 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

CYNLLUN LLESIANT SIR GÂR: Y SIR GÂR A GAREM pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol 'Gynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin: Y Sir Gâr a Garem 2018-2023' a gafodd ei ddatblygu gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gyda'r bwriad o'i gyhoeddi erbyn mis Mai 2018, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn aelod statudol o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin (ynghyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru) a cyn y gellid cyhoeddi'r Cynllun roedd yn rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan aelodau statudol y Bwrdd.

 

Diolchwyd Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Mr. Barry Liles, a'r swyddogion am y gwaith roeddent wedi ei wneud wrth lunio'r Cynllun.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod 'Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin – Y Sir Gâr a Garem – 2018–2023' yn cael ei gymeradwyo.

7.

POLISÏAU DIWYGIEDIG TRIN GWYBODAETH BERSONOL A RIPORTIO AC YMATEB I ACHOSION O DORRI RHEOLAU pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad yn manylu ar ddiwygiadau i'r Polisïau Trin Gwybodaeth Bersonol a Riportio ac Ymateb i Achosion o Dorri Rheolau  yng ngoleuni'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol newydd a fyddai'n dod i rym ar draws yr Undeb Ewropeaidd a'r DU o 25 Mai, 2018, gan gymryd lle darpariaethau Deddf Diogelu Data gyfredol 1998.   

 

Yn unol â Rheol 11.1 o Weithdrefn y Cyngor, holodd y Cynghorydd D. Cundy sut byddai'r Awdurdod, o gofio y byddai llawer o systemau yn cael eu newid i  fanteisio ar dechnoleg 'Cwmwl', yn sicrhau bod ei systemau yn gwarantu diogeledd data personol, ond ar yr un pryd yn caniatáu i'r adrannau perthnasol, ar draws y disgyblaethau, gael mynediad digonol i'r cofnodion hyn er mwyn cwblhau gwaith a gwella gwasanaethau?

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol - Dirprwy Arweinydd - na fyddai'r un adran yn gallu mudo systemau na data i dechnoleg Cwmwl cyn cysylltu â'r Gwasanaethau TGCh yn gyntaf. Wedyn byddai'r Gwasanaethau TGCh yn rhoi arweiniad i adrannau ac yn hwyluso'r cwmpasu, y caffael a'r mudo i unrhyw wasanaethau Cwmwl. Byddai darparwyr gwirio yn sicrhau bod yr holl gamau cydymffurfio ac ardystio perthnasol wedi'u cymryd, yn cynnwys y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, ac yn mynnu bod cytundebau prosesu data gyda Sir Gaerfyrddin yn cael eu llofnodi. Byddai'r Gwasanaethau TGCh hefyd yn tywys adrannau i'r meysydd gwasanaeth mewnol perthnasol er mwyn sicrhau bod darparwyr Cwmwl yn cydymffurfio ar faterion megis Safonau'r Gymraeg a rheoliadau Caffael. Ar gyfer gwasanaethau a seilwaith canolog sy'n mudo i wasanaethau Cwmwl, unwaith eto byddai TGCh yn cyflawni'r uchod i gyd. Byddai mynediad i systemau a data Cwmwl yn cael ei hwyluso drwy gysylltedd diogel,  wedi'i amgryptio o ddyfeisiau, rhwydweithiau a chyfrifon a reolir yn ganolog.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r polisïau diwygiedig.

 

8.

POLISI GORFODI CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 6 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 26 Mehefin 2017, rhoddwyd ystyriaeth i ddogfen Polisi Gorfodi Corfforaethol ddiwygiedig, a oedd yn  cynnwys newidiadau i adlewyrchu'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori. Roedd y newidiadau wedi eu cymeradwyo drwy'r Gr?p Gorfodi Amlddisgyblaethol Corfforaethol, a, phe byddent yn cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol, byddent yn dod i rym ar 1 Ebrill 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r Polisi Gorfodi Corfforaethol diwygiedig o 1 Ebrill 2018.

 

 

9.

ASESIAD O ANGHENION LLETY SIPSIWN A THEITHWYR AR GYFER SIR GAERFYRDDIN (2016) pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a amlygai ganlyniadau'r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr ar gyfer Sir Gaerfyrddin (2016), gyda'r bwriad o sicrhau bod sylw'n cael ei roi i'r anghenion a nodwyd ar gyfer y dyfodol, a hynny gyda'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr, a bod unrhyw gynlluniau yn rhai addas. Roedd yn ofynnol i'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru gyhoeddi'r asesiad ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, ac roedd un Sir Gaerfyrddin wedi cael ei gymeradwyo ar 28 Mawrth 2017. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

9.1  cyhoeddi'r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr ar gyfer

Sir Gaerfyrddin ar wefan y Cyngor;

9.2  cadarnhau y bydd y Cyngor yn gweithio gyda'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr yn y Sir i ddatblygu cynlluniau i ddiwallu unrhyw anghenion a nodwyd ar gyfer y dyfodol.

 

10.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa'r gyllideb fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2017. Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai tanwariant diwedd blwyddyn o £479k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £1,348k ar lefel adrannol. Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant o £162k i ddiwedd y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

10.1    derbyn yr adroddiad monitro ynghylch y gyllideb.

10.2     bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu

 eu sefyllfaoedd cyllidebol yn feirniadol ac yn cymryd camau priodol.

 

11.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2017-18 pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ynghylch gwariant y rhaglen gyfalaf yn erbyn cyllideb 2017/18 fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2017. Byddai'r arian llithriad yn y flwyddyn o £-4,120k yn cael ei gynnwys yn rhaglen y blynyddoedd i ddod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod adroddiad monitro'r gyllideb a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen gyfalaf, fel y manylir yn Atodiad A a B, yn cael ei dderbyn.

 

12.

DEISEB A GYFLWYNWYD GAN GRWP CYMUNEDAU CYNHALIOL GLANYMOR & TYISHA PARTHED CHOOSELIFE pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 5 o gyfarfod y Cyngor ar 10 Ionawr 2018, rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a nodai'r llinell amser hyd at gyflwyno'r ddeiseb, a oedd yn gofyn am i Elusen Chooselife gael ei had-leoli i adeilad addas nad oedd gerllaw'r ysgol newydd i fabanod a phlant bach, Ysgol Pen Rhos, yn Heol Copperworks, Llanelli. Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ymatebion a gafwyd gan Chooselife a Heddlu Dyfed-Powys, manylion Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a'r camau oedd gan yr ysgol ar waith, a chanlyniad y Cyfarfod Cyhoeddus ar 19  Ionawr 2018. Roedd disgyblion ysgolion Copperworks a Maes-llyn i fod i symud i adeilad newydd Ysgol Pen Rhos ar ôl gwyliau'r Pasg h.y. 9 Ebrill, 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, er mwyn sicrhau diogelwch y plant, gymeradwyo'r argymhellion canlynol a nodwyd yn yr adroddiad:

 

12.1    Bydd yr Awdurdod Lleol  yn asesu natur y llwybr roedd y plant yn ei gerdded ar hyd Heol Copperworks. Os na fydd y llwybr yn ddiogel i gerdded ar hyd-ddo, bydd yr awdurdod lleol yn ei wneud yn ddiogel;

12.2 Bydd yr ysgol yn rhoi system ar waith i wirio ffin yr ysgol a'r tiroedd, bob dydd, i sicrhau bod popeth fel y mae i fod;

12.3    Bydd yr ysgol yn monitro'r achosion yn ystod tymor yr haf ac yn rhoi gwybod i'r Adran Addysg am unrhyw bryderon.

 

13.

CYTUNDEBAU RHANBARTHOL - CRONFEYDD AR Y CYD pdf eicon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol Gytundeb Partneriaeth a nodai delerau'r cytundebau cyfreithiol ar gyfer cronfeydd ar y cyd mewn perthynas â lleoliadau cartref gofal i oedolion. Roedd Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gosod rheidrwydd ar gynghorau a byrddau iechyd lleol i sefydlu a chynnal cronfeydd ar y cyd, wedi'u tanategu gan gytundebau cyfreithiol. Byddai'r cytundeb rhanbarthol ar gyfer cronfeydd ar y cyd i leoliadau cartref gofal yn dod i rym ar 1 Ebrill 2018, ac yn darparu ar gyfer cyllideb ranbarthol 'rithwir' ar gyfer lleoliadau cartref gofal i bobl h?n (tymor hir), lle nad oedd arian yn cael ei drosglwyddo rhwng sefydliadau am y flwyddyn ariannol gyntaf.

 

Yn unol â Rheol 11.1 o Weithdrefn y Cyngor, cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy at Atodlen 2 o'r Cytundeb arfaethedig, a oedd yn nodi 'Rhagdybiaethau'r Gyllideb ar gyfer Cyfraniad Ariannol' dangosol y partneriaid. Dywedodd ei bod fel petai'n dangos y byddai 'cronfa o tua £45 miliwn, yr oedd Ceredigion yn darparu £6,232,000 ohono, Penfro yn darparu £12,141,000, Hywel Dda £13,177,000 a Sir Gaerfyrddin oedd y cyfrannwr mwyaf sef £17,449,000' a gofynnodd pam mai Sir Gaerfyrddin oedd y cyfrannwr mwyaf?

 

Dywedodd Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd fod y ffigurau'n gywir ac mai ffigurau 'alldro' oedd y symiau, a oedd yn golygu eu bod yn adlewyrchu'r hyn roedd disgwyl i bob parti ei dalu am leoliadau cartref gofal perthnasol. Roedd y ffigurau'n uwch ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin o gymharu â Cheredigion neu Benfro, ac roedd hyn yn ddisgwyliedig o ystyried y poblogaethau cymharol a'r nifer defnyddwyr cysylltiedig. Cyfeiriodd at y ffaith bod swm uwch o wariant gan Sir Gaerfyrddin na'r Bwrdd Iechyd gan fod y math o leoliad a gynigir yn wahanol ac felly nid oedd modd cymharu'r ffigurau. Roedd y Bwrdd Iechyd yn darparu nifer fach o leoliadau Gofal Iechyd Parhaus (am gost gyfartalog cymharol uchel), ac elfen Gofal Nyrsio a Ariennir lleoliadau nyrsio. Mewn cyferbyniad, roedd y Cyngor yn talu costau preswyl (yr oedd nifer uwch ohonynt) lleoliadau, yn unol â goblygiadau statudol. Ychwanegodd fod yn rhaid cydnabod bod y ffigurau'n cynrychioli gwariant pob sefydliad ac na fyddai 'traws-gymorthdalu' (arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio i dalu am wasanaeth mewn sir arall) yn digwydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y cytundeb cyfreithiol oedd yn ofynnol i sefydlu trefniadau rhanbarthol ar gyfer cronfeydd ar y cyd i leoliadau cartref gofal yn cael eu cymeradwyo.

 

 

14.

CYNLLUN ARDAL GORLLEWIN CYMRU 2018-2023 pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol Gynllun Ardal Gorllewin Cymru 2018-2023, a oedd wedi ei baratoi yn unol â gofynion statudol Adran 14A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a'r Canllawiau Statudol cysylltiedig. Roedd y Cynllun wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i'r Asesiad Poblogaeth a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2017 ac roedd ystod o bartneriaid rhanbarthol o bob sector wedi cyfrannu'n uniongyrchol at ei ddrafftio. Roedd yn ddatganiad cyhoeddus clir o fwriad strategol gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru ynghylch y modd roedd gofal a chymorth yn newid yn barhaus yng Ngorllewin Cymru.

 

Yn unol â Rheol 11.1 o Weithdrefn y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd D. Cundy, er ei fod yn sylweddoli taw cynllun oedd hwn, fod llawer o'r adroddiad yn cyfeirio at y Cynllun Gweithredu â dolenni cysylltiedig nad oeddent wedi eu cynnwys, a gofynnodd a oedd rheswm dros hyn a phryd byddai'r dolenni hyn ar gael i'w defnyddio?

 

Dywedodd y Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol fod terfynau amser o ran riportio wedi golygu nad oedd modd cynnwys yr holl ddolenni i gynlluniau gweithredu eraill yn y Cynllun drafft, ond byddai'r holl ddolenni oedd ar gael yn cael eu cynnwys cyn ei gyhoeddi. Lle nad oedd dolenni ar gael, er enghraifft mewn achosion lle roedd cynlluniau gweithredu manwl yn dal i gael eu datblygu, byddai'r rhain yn cael eu hychwanegu'n ddiweddarach ac ar gael drwy'r porth data ar-lein.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Ardal Gorllewin Cymru ar gyfer 2018-2023.

 

15.

PRISIAU PRYDAU YSGOL 2018/19 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i gynnig i gadw pris pryd ysgol yn £2.50 ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19. Roedd hyn yn dilyn pryderon a godwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant fod angen mynd i'r afael â'r gostyngiad yn y nifer oedd yn cael prydau ysgol, yn dilyn codi prisiau 4 gwaith yn olynol, sydd wedi peri i brisiau prydau ysgol yn Sir Gaerfyrddin fod ymhlith y mwyaf costus yng Nghymru. Awgrymwyd hefyd fod angen cynnal ymgyrch i annog rhagor i ddewis cael prydau ysgol. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gadw'r pris presennol am bryd ysgol, sef £2.50, ym mlwyddyn ariannol 2018/19.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau