Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Media
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
COFNODION:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2018, gan eu bod yn gywir.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2018, gan eu bod yn gywir.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2017/18 (a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 6 Chwefror, 2017 – gweler Cofnod 9), cafodd y Bwrdd Gweithredol y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gweithgareddau o ran Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod o 1 Ebrill 2017 hyd at 31 Rhagfyr 2017.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn unol â chofnod 6 o'i gyfarfod ar 23 Hydref 2017, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad am ganlyniad yr ymgynghori ffurfiol a fu'n digwydd rhwng 6 Tachwedd ac 17 Rhagfyr 2017 ar y cynigion i gynyddu nifer lleoedd Ysgol Gynradd Gymunedol Gorslas o 110 i 210 ar 1 Medi 2019, pryd y bwriedir y bydd adeilad newydd yr ysgol wedi cael ei adeiladu. Os caiff hyn ei fabwysiadu bydd yr ysgol newydd yn darparu ar gyfer y galw am addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a hefyd yn darparu lle ar gyfer meithrinfa â 30 o leoedd a chyfleusterau dysgu ac addysgu sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol fod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant wedi cael cyfle i roi sylwadau ar yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 25 Ionawr 2018, lle'r oedd wedi penderfynu “cymeradwyo i'r Bwrdd Gweithredol fod Hysbysiad Statudol yn cael ei gyhoeddi i weithredu'r cynnig i gynyddu nifer lleoedd Ysgol Gynradd Gymunedol Gorslas o 110 i 210”.
Petai'r Bwrdd Gweithredol yn cytuno i gyhoeddi Hysbysiad Statudol, nodwyd mai'r bwriad oedd gwneud hynny yr wythnos sy'n dechrau ar 5 Mawrth 2018. Wedi hynny, byddai adroddiad sy'n crynhoi'r gwrthwynebiadau a gafwyd gan randdeiliaid yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant, i'r Bwrdd Gweithredol ac, yn y pen draw, i'r Cyngor i wneud penderfyniad yn ei gylch.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn unol â chofnod 7 o'i gyfarfod ar 23 Hydref 2017, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad am ganlyniad yr ymgynghori ffurfiol a fu'n digwydd rhwng 6 Tachwedd ac 17 Rhagfyr 2017 ar y cynigion i safoni darpariaeth addysg feithrin yr awdurdod lleol yn ardaloedd Porth Tywyn a Phen-bre. Os gweithredir y cynnig byddai'r ystod oedran yn Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn yn ymestyn o 4-11 i 3-11 i adlewyrchu'r ddarpariaeth 3-11 yn y ddwy ysgol cyfrwng Saesneg sy'n rhannu'r un dalgylch â hi.
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol fod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant wedi cael cyfle i roi sylwadau ar yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 25 Ionawr 2018, lle'r oedd wedi penderfynu “cymeradwyo i'r Bwrdd Gweithredol fod Hysbysiad Statudol yn cael ei gyhoeddi i weithredu'r cynnig i ddarparu darpariaeth feithrin yn Ysgol Parc y Tywyn trwy gynyddu ei hystod oedran o 4-11 i 3-11”.
Petai'r Bwrdd Gweithredol yn cytuno i gyhoeddi Hysbysiad Statudol, nodwyd mai'r bwriad oedd gwneud hynny yr wythnos sy'n dechrau ar 5 Mawrth 2018. Wedi hynny, byddai adroddiad sy'n crynhoi'r gwrthwynebiadau a gafwyd gan randdeiliaid yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant, i'r Bwrdd Gweithredol ac, yn y pen draw, i'r Cyngor i wneud penderfyniad yn ei gylch.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorwyr E. Dole a G. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)
Yn unol â chofnod 10 o'i gyfarfod ar 26 Mehefin 2017, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad diweddaru am drosglwyddo asedau, sef Parciau, Lleoedd Chwarae, a Mannau Amwynder yn Sir Gaerfyrddin. Nodwyd bod Atodiad A i'r adroddiad yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran trosglwyddiadau a oedd wedi'u cwblhau (sef 51% o'r asedau dan sylw) a'r rheiny a oedd wrthi'n cael eu trosglwyddo (sef 35% o'r asedau dan sylw). Roedd Atodiad 2 yn nodi uchafbwyntiau ymgynghoriad pellach a wnaed gydag amrywiol randdeiliaid ar ddyfodol 23 o asedau lle nad oedd Mynegiannau o Ddiddordeb wedi dod i law erbyn Mehefin 2017. Nodwyd bod mynegiannau o ddiddordeb wedi dod i law ar ôl y dyddiad hwnnw ar gyfer saith o'r asedau hynny a oedd yn y broses o gael eu trosglwyddo ar hyn o bryd. Felly, roedd 16 o asedau na chafwyd mynegiannau o ddiddordeb ar eu cyfer.
Cyfeiriwyd at Atodiad 2 a rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol am y defnydd a wneir o Le Chwarae Traeth Llansteffan gan yr ymwelwyr niferus sy'n dod i Lansteffan. Gwnaed cais i ohirio penderfyniad ynghylch y lle chwarae hwn am y tro a gofyn i'r Pennaeth Hamdden ymchwilio i gyfleoedd grant a gweld pa mor ymarferol yw hi i'r Cyngor gadw ei gyfrifoldeb dros y maes chwarae.
Cyfeiriwyd ymhellach at Atodiad 2 a gofynnodd y Bwrdd Gweithredol am i'r gwaith o ystyried Lle Chwarae Maesawelon, Dryslwyn gael ei ohirio am y tro fel bod modd ystyried ymhellach yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer ei ddyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||||||
TREFNIADAU RHANBARTHOL AR GYFER CRONFEYDD AR Y CYD AC INTEGREIDDIO GWASANAETHAU PDF 162 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad i'w ystyried ynghylch y gwaith a wneir o dan fantell Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar Drefniadau Llywodraethu Rhanbarthol, Integreiddio Gwasanaethau a Chronfeydd ar y Cyd. Nodwyd ei bod yn ofynnol, o dan y Ddeddf, i'r holl awdurdodau lleol sefydlu a chynnal trefniadau ar gyfer cronfeydd ar y cyd mewn perthynas â'r canlynol:-
- arfer eu swyddogaethau o ran cartrefi gofal i oedolion (erbyn 6 Ebrill 2018); - arfer eu swyddogaethau o ran cymorth i deuluoedd; - swyddogaethau penodedig a arferir ar y cyd mewn ymateb i Asesiadau o'r Boblogaeth, lle ystyrir bod trefniadau o'r fath yn briodol.
Yn unol â'r gofynion uchod, nodwyd bod Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, a sefydlwyd o dan Ran 9 o'r Ddeddf, wedi rhoi blaenoriaeth i drefnu cronfeydd ar y cyd ar gyfer cartrefi gofal pobl h?n erbyn y terfyn amser statudol, ac roedd y dull hwnnw'n gyson â llefydd eraill yng Nghymru.
Hefyd roedd yr adroddiad yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gwaith a wneir ynghylch Cronfeydd ar y cyd ar gyfer lleoliadau i oedolion mewn cartrefi gofal, Cronfeydd ar y cyd ar gyfer Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd ac adolygu'r posibilrwydd o gyflwyno Storfa Offer Cymunedol Integredig ar raddfa ranbarthol.
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo eu hadroddiadau ar gyllid ar y cyd a gofynnwyd iddo erbyn hyn ystyried cymeradwyo argymhellion yr adroddiad, mewn egwyddor, i'r ymagwedd ranbarthol at gronfeydd ar y cyd ar gyfer cartrefi gofal, y cronfeydd ar y cyd ar gyfer Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd ac adolygu Storfeydd Offer Cymunedol.
Yn unol â Rheol 11.1 o Weithdrefn y Cyngor, mynegodd y Cynghorydd D. Cundy bryder ynghylch y trefniadau arfaethedig ar gyfer cyllid ar y cyd, sefydlu rhith-gyllideb a'r angen am ddulliau craffu a rheoli cadarn. Am mai'r bwriad oedd y byddai'r cronfeydd ar y cyd ar waith o 2019-2020 ymlaen, mynegodd y farn nad oedd dyddiad gweithredu pendant, yn ôl pob golwg, ac y byddai'n rhaid i'r Cyngor barhau i ddarparu ei wasanaethau gofal o ddydd i ddydd drwy gyllid o'r cyllidebau a glustnodwyd. Gofynnodd, felly, “A ellir rhoi sicrwydd bod y trefniadau presennol o ran y cyllid a ddyrennir i'r ddarpariaeth Cartrefi Gofal yn Sir Gaerfyrddin, ac yn enwedig yn Llanelli, sy'n filiynau lawer o bunnau, wedi'u neilltuo'n benodol ac nad ydynt yn rhan o'r cronfeydd ar y cyd yn rhanbarthol?”.
Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y byddai'r gronfa ar y cyd yn ystod 2018/19 yn gweithredu fel trefniant unigol, yr adroddir yn ei gylch, ar gyfer lleoliadau oedolion h?n a gomisiynir yn allanol. Yr uchelgais ar gyfer 2019-20 a thu hwnt oedd y byddai'r ddarpariaeth ‘fewnol’ yn cael ei thynnu i mewn i gylch gwaith y cronfeydd ar y cyd. Byddai hynny'n gofyn am sefydlu costau refeniw priodol ar gyfer lleoliadau mewnol unigol. Ar hyn o bryd nid oedd cynlluniau i ystyried cyfalaf yn y gronfa ar y cyd. Ar y sail honno, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10. |
|||||||||||||
GOSTYNGIADAU'R DRETH GYNGOR I'R SAWL SY'N GADAEL GOFAL PDF 202 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 10 Ionawr 2018, wedi mabwysiadu Rhybudd o Gynnig y “dylai pawb sy'n gadael gofal gael eu heithrio rhag y dreth gyngor hyd at 21 oed (gyda'r dewis o gynyddu'r oedran i 25 mewn amgylchiadau eithriadol)”. Yn unol â'r penderfyniad hwnnw, ystyriodd y Bwrdd adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am y cynigion o dan Adran 13A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1992 (a gyflwynwyd yn 2004) i eithrio pobl sy'n gadael gofal rhag talu'r Dreth Gyngor (ar ôl unrhyw ostyngiadau), heb fod angen prawf modd.
Pe bai'r adroddiad yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor, rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol y byddai'r polisi arfaethedig yn darparu'r tri chategori canlynol o gymorth:
· Pan fyddai person sy'n gadael gofal yn gyfrifol yn bersonol am dalu'r Dreth Gyngor, naill ai'n gyfan gwbl neu ar y cyd â pherson arall (er enghraifft, fel cyd-denant neu'n byw gyda phartner), byddai'r cyfrifoldeb am dalu'r Dreth Gyngor, ar ôl unrhyw ostyngiadau, yn cael ei hepgor yn llawn gan adael dim i'w dalu; · Pan na fyddai person sy'n gadael gofal yn gyfrifol yn bersonol am dalu'r Dreth Gyngor ond, pe na bai'n byw yno, y byddai'r person sy'n byw gydag ef neu hi yn gymwys am ostyngiad unig breswylydd o 25%. Mewn sefyllfaoedd o'r fath byddai'r person sy'n gadael gofal yn cael ei eithrio wrth gyfrif nifer y preswylwyr a byddai gostyngiad dewisol o 25% yn cael ei weithredu i sicrhau nad yw'r person sy'n gyfrifol am y dreth o dan anfantais. · Pan fydd y cynnig yn ymwneud â sefyllfa lle'r oedd person sy'n gadael gofal wedi cael gofal blaenorol rhywle arall ac wedi symud i Sir Gaerfyrddin, a'i fod yn gyfrifol yn bersonol am dalu'r dreth gyngor i'r cyngor hwn. Lle byddai achosion o'r fath yn dod i sylw'r Adran Dreth Gyngor, cynigiwyd y byddai statws y person sy'n gadael gofal yn cael ei wirio gan dîm rhianta corfforaethol y Cyngor. Wedyn byddai argymhelliad o ran unrhyw ostyngiad i'r person hwnnw yn cael ei baratoi a'i gyflwyno i'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau.
Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol fod y Rhybudd o Gynnig i'r Cyngor yn cyfeirio at ymestyn yr eithriad i'r rhai o dan 25 oed sy'n gadael gofal a hynny mewn amgylchiadau eithriadol. Ond cynigiwyd hefyd, o ystyried y niferoedd isel iawn sy’n gysylltiedig, fod y polisi'n cael ei weithredu yn achos pob un hyd at 25 oed sy'n gadael gofal ac sy'n dal i ymwneud â'r tîm rhianta corfforaethol. Gellid talu am y gost yn gyffredinol drwy'r lwfans sy'n rhan o'r cyfrifiadau ar gyfer pennu Sylfaen y Dreth Gyngor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL BOD Y CYNGOR YN MABWYSIADU POLISI sy'n eithrio'r rhai sy'n gadael gofal, o 18 hyd at 25 oed, rhag talu'r Dreth Gyngor.
|
|||||||||||||
PANELAU YMGYNGHOROL Y BWRDD GWEITHREDOL PDF 132 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad am y gyfansoddiad rhai o'i fyrddau ymgynghorol yn dilyn newidiadau diweddar i gyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor cyfan.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||||||||||
CYNLLUN CYFLAWNI GWASANAETH 2017/18 - ADRAN DIOGELU'R AMGYLCHEDD PDF 127 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (SYLWER: Gan iddo ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd P.M Hughes y cyfarfod tra oedd y Bwrdd Gweithredol yn ei thrafod)
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cynllun Cyflawni Gwasanaeth 2017/18 Adain Diogelu'r Amgylchedd a luniwyd yn unol â gofynion yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar awdurdodau lleol i lunio Cynllun Cyflawni Gwasanaeth blynyddol yn y ffurf a nodir yn y Cytundebau Fframwaith perthnasol. Roedd y Cynllun yn amlinellu nodau ac amcanion gwasanaeth y Cyngor gan gynnwys dolenni cyswllt i'r amcanion a'r cynlluniau corfforaethol a diffiniad o'i seilwaith a'i strwythur economaidd a threfniadaethol. Hefyd roedd yn amlinellu cylch gwaith a gofynion Gwasanaethau Diogelu'r Amgylchedd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Cyflawni Gwasanaeth 2017/18 Adran Diogelu'r Amgylchedd.
|
|||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI Fod YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|||||||||||||
HWB RHYDAMAN Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 15 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig a geir yn yr adroddiad. Gallai hynny danseilio'r Cyngor mewn trafodaethau dilynol a chael effaith wael ar y pwrs cyhoeddus.
Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion i sefydlu Gwasanaeth Hwb newydd yng Nghanol Tref Rhydaman gan gopïo'r hyn a ddarperir ar hyn o bryd yng Nghanol Tref Llanelli.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo bod adeilad yng nghanol tref Rhydaman yn cael ei brynu a'i ddatblygu i ddarparu gwasanaeth Hwb newydd yn y dref, a dyrannu'r adnoddau cyfalaf a refeniw sydd eu hangen.
|
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
- Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
- Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Diogelu Corfforaethol
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
- Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
- Strategaeth Trawsnewid Digidol
- Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
- Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2025
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg (1)
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Trechu Tlodi 2023
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Safonau’r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol y Gymraeg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
- Adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth