Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

E. Dole

9 – Y diweddaraf am drosglwyddo asedau, sef Parciau, Lleoedd Chwarae, a Mannau Amwynder

Aelod o Gyngor Cymuned Llannon

G. Davies

9 – Y diweddaraf am drosglwyddo asedau, sef Parciau, Lleoedd Chwarae, a Mannau Amwynder

Aelod o Gyngor Cymuned Cwarter Bach

P.M. Hughes

13 – Cynllun Cyflawni Gwasanaethau 2017/18 - Gwasanaethau Diogelu'r Amgylchedd

Mae'n berchen ar fusnesau y bydd y Cynllun Cyflawni yn effeithio arnynt

 

 

 

 

 

 

3.

COFNODION:-

Dogfennau ychwanegol:

3.1

8FED IONAWR 2018 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2018, gan eu bod yn gywir.

 

3.2

22AIN IONAWR 2018 pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2018, gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

ADRODDIAD YNGYLCH RHEOLI’R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2017 I RHAGFYR 31AIN 2017 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2017/18 (a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 6 Chwefror, 2017 – gweler Cofnod 9), cafodd y Bwrdd Gweithredol y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gweithgareddau o ran Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod o 1 Ebrill 2017 hyd at 31 Rhagfyr 2017.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - CYNNIG I GYNYDDU NIFER Y LLEOEDD YN YSGOL GYMUNEDOL GORSLAS O 110 I 210 pdf eicon PDF 495 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â chofnod 6 o'i gyfarfod ar 23 Hydref 2017, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad am ganlyniad yr ymgynghori ffurfiol a fu'n digwydd rhwng 6 Tachwedd ac 17 Rhagfyr 2017 ar y cynigion i gynyddu nifer lleoedd Ysgol Gynradd Gymunedol Gorslas o 110 i 210 ar 1 Medi 2019, pryd y bwriedir y bydd adeilad newydd yr ysgol wedi cael ei adeiladu. Os caiff hyn ei fabwysiadu bydd yr ysgol newydd yn darparu ar gyfer y galw am addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a hefyd yn darparu lle ar gyfer meithrinfa â 30 o leoedd a chyfleusterau dysgu ac addysgu sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol fod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant wedi cael cyfle i roi sylwadau ar yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 25 Ionawr 2018, lle'r oedd wedi penderfynu “cymeradwyo i'r Bwrdd Gweithredol fod Hysbysiad Statudol yn cael ei gyhoeddi i weithredu'r cynnig i gynyddu nifer lleoedd Ysgol Gynradd Gymunedol Gorslas o 110 i 210”.

 

Petai'r Bwrdd Gweithredol yn cytuno i gyhoeddi Hysbysiad Statudol, nodwyd mai'r bwriad oedd gwneud hynny yr wythnos sy'n dechrau ar 5 Mawrth 2018.  Wedi hynny, byddai adroddiad sy'n crynhoi'r gwrthwynebiadau a gafwyd gan randdeiliaid yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant, i'r Bwrdd Gweithredol ac, yn y pen draw, i'r Cyngor i wneud penderfyniad yn ei gylch.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

7.1

dderbyn y sylwadau a gafwyd ac ymatebion yr Awdurdod Lleol yn dilyn y broses ymgynghori.

7.2

bod Hysbysiad Statudol i weithredu'r cynnig yn cael ei gyhoeddi.

 

 

8.

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I DDARPARU DARPARIAETH FEITHRIN YN YSGOL PARC Y TYWYN DRWY GYNYDDU YR YSTOD OEDRAN O 4-11 I 3-11 pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â chofnod 7 o'i gyfarfod ar 23 Hydref 2017, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad am ganlyniad yr ymgynghori ffurfiol a fu'n digwydd rhwng 6 Tachwedd ac 17 Rhagfyr 2017 ar y cynigion i safoni darpariaeth addysg feithrin yr awdurdod lleol yn ardaloedd Porth Tywyn a Phen-bre. Os gweithredir y cynnig byddai'r ystod oedran yn Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn yn ymestyn o 4-11 i 3-11 i adlewyrchu'r ddarpariaeth 3-11 yn y ddwy ysgol cyfrwng Saesneg sy'n rhannu'r un dalgylch â hi.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol fod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant wedi cael cyfle i roi sylwadau ar yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 25 Ionawr 2018, lle'r oedd wedi penderfynu “cymeradwyo i'r Bwrdd Gweithredol fod Hysbysiad Statudol yn cael ei gyhoeddi i weithredu'r cynnig i ddarparu darpariaeth feithrin yn Ysgol Parc y Tywyn trwy gynyddu ei hystod oedran o 4-11 i 3-11”.

 

Petai'r Bwrdd Gweithredol yn cytuno i gyhoeddi Hysbysiad Statudol, nodwyd mai'r bwriad oedd gwneud hynny yr wythnos sy'n dechrau ar 5 Mawrth 2018. Wedi hynny, byddai adroddiad sy'n crynhoi'r gwrthwynebiadau a gafwyd gan randdeiliaid yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant, i'r Bwrdd Gweithredol ac, yn y pen draw, i'r Cyngor i wneud penderfyniad yn ei gylch.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

8.1

dderbyn y sylwadau a gafwyd ac ymatebion yr Awdurdod Lleol yn dilyn y broses ymgynghori.

8.2

bod Hysbysiad Statudol i weithredu'r cynnig yn cael ei gyhoeddi.

 

 

9.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM DROSGLWYDDO ASEDAU CYMUNEDOL PARCIAU, LLEOEDD CHWARAE A LLECYNNAU AMWYNDER pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr E. Dole a G. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Yn unol â chofnod 10 o'i gyfarfod ar 26 Mehefin 2017, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad diweddaru am drosglwyddo asedau, sef Parciau, Lleoedd Chwarae, a Mannau Amwynder yn Sir Gaerfyrddin. Nodwyd bod Atodiad A i'r adroddiad yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran trosglwyddiadau a oedd wedi'u cwblhau (sef 51% o'r asedau dan sylw) a'r rheiny a oedd wrthi'n cael eu trosglwyddo (sef 35% o'r asedau dan sylw). Roedd Atodiad 2 yn nodi uchafbwyntiau ymgynghoriad pellach a wnaed gydag amrywiol randdeiliaid ar ddyfodol 23 o asedau lle nad oedd Mynegiannau o Ddiddordeb wedi dod i law erbyn Mehefin 2017. Nodwyd bod mynegiannau o ddiddordeb wedi dod i law ar ôl y dyddiad hwnnw ar gyfer saith o'r asedau hynny a oedd yn y broses o gael eu trosglwyddo ar hyn o bryd. Felly, roedd 16 o asedau na chafwyd mynegiannau o ddiddordeb ar eu cyfer. 

 

Cyfeiriwyd at Atodiad 2 a rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol am y defnydd a wneir o Le Chwarae Traeth Llansteffan gan yr ymwelwyr niferus sy'n dod i Lansteffan. Gwnaed cais i ohirio penderfyniad ynghylch y lle chwarae hwn am y tro a gofyn i'r Pennaeth Hamdden ymchwilio i gyfleoedd grant a gweld pa mor ymarferol yw hi i'r Cyngor gadw ei gyfrifoldeb dros y maes chwarae.

 

Cyfeiriwyd ymhellach at Atodiad 2 a gofynnodd y Bwrdd Gweithredol am i'r gwaith o ystyried Lle Chwarae Maesawelon, Dryslwyn gael ei ohirio am y tro fel bod modd ystyried ymhellach yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer ei ddyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

9.1

Nodi statws presennol yr amrywiol drosglwyddiadau i Gynghorau Tref a Chymuned a sefydliadau eraill.

9.2

Cymeradwyo'r argymhellion ar gyfer dyfodol y 23 o asedau a nodir yn Atodiad 2 i'r adroddiad a fu’n destun ymgynghori pellach. Ond, gohirio ystyried Lle Chwarae Traeth Llansteffan a Lle Chwarae Maesawelon.

 

 

10.

TREFNIADAU RHANBARTHOL AR GYFER CRONFEYDD AR Y CYD AC INTEGREIDDIO GWASANAETHAU pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad i'w ystyried ynghylch y gwaith a wneir o dan fantell Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar Drefniadau Llywodraethu Rhanbarthol, Integreiddio Gwasanaethau a Chronfeydd ar y Cyd.  Nodwyd ei bod yn ofynnol, o dan y Ddeddf, i'r holl awdurdodau lleol sefydlu a chynnal trefniadau ar gyfer cronfeydd ar y cyd mewn perthynas â'r canlynol:-

 

-        arfer eu swyddogaethau o ran cartrefi gofal i oedolion (erbyn 6 Ebrill 2018);

-        arfer eu swyddogaethau o ran cymorth i deuluoedd;

-        swyddogaethau penodedig a arferir ar y cyd mewn ymateb i Asesiadau o'r Boblogaeth, lle ystyrir bod trefniadau o'r fath yn briodol.

 

Yn unol â'r gofynion uchod, nodwyd bod Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, a sefydlwyd o dan Ran 9 o'r Ddeddf, wedi rhoi blaenoriaeth i drefnu cronfeydd ar y cyd ar gyfer cartrefi gofal pobl h?n erbyn y terfyn amser statudol, ac roedd y dull hwnnw'n gyson â llefydd eraill yng Nghymru.

 

Hefyd roedd yr adroddiad yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gwaith a wneir ynghylch Cronfeydd ar y cyd ar gyfer lleoliadau i oedolion mewn cartrefi gofal, Cronfeydd ar y cyd ar gyfer Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd ac adolygu'r posibilrwydd o gyflwyno Storfa Offer Cymunedol Integredig ar raddfa ranbarthol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo eu hadroddiadau ar gyllid ar y cyd a gofynnwyd iddo erbyn hyn ystyried cymeradwyo argymhellion yr adroddiad, mewn egwyddor, i'r ymagwedd ranbarthol at gronfeydd ar y cyd ar gyfer cartrefi gofal, y cronfeydd ar y cyd ar gyfer Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd ac adolygu Storfeydd Offer Cymunedol.

 

Yn unol â Rheol 11.1 o Weithdrefn y Cyngor, mynegodd y Cynghorydd D. Cundy bryder ynghylch y trefniadau arfaethedig ar gyfer cyllid ar y cyd, sefydlu rhith-gyllideb a'r angen am ddulliau craffu a rheoli cadarn. Am mai'r bwriad oedd y byddai'r cronfeydd ar y cyd ar waith o 2019-2020 ymlaen, mynegodd y farn nad oedd dyddiad gweithredu pendant, yn ôl pob golwg, ac y byddai'n rhaid i'r Cyngor barhau i ddarparu ei wasanaethau gofal o ddydd i ddydd drwy gyllid o'r cyllidebau a glustnodwyd. Gofynnodd, felly, “A ellir rhoi sicrwydd bod y trefniadau presennol o ran y cyllid a ddyrennir i'r ddarpariaeth Cartrefi Gofal yn Sir Gaerfyrddin, ac yn enwedig yn Llanelli, sy'n filiynau lawer o bunnau, wedi'u neilltuo'n benodol ac nad ydynt yn rhan o'r cronfeydd ar y cyd yn rhanbarthol?”.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y byddai'r gronfa ar y cyd yn ystod 2018/19 yn gweithredu fel trefniant unigol, yr adroddir yn ei gylch, ar gyfer lleoliadau oedolion h?n a gomisiynir yn allanol.  Yr uchelgais ar gyfer 2019-20 a thu hwnt oedd y byddai'r ddarpariaeth ‘fewnol’ yn cael ei thynnu i mewn i gylch gwaith y cronfeydd ar y cyd. Byddai hynny'n gofyn am sefydlu costau refeniw priodol ar gyfer lleoliadau mewnol unigol. Ar hyn o bryd nid oedd cynlluniau i ystyried cyfalaf yn y gronfa ar y cyd. Ar y sail honno,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

11.

GOSTYNGIADAU'R DRETH GYNGOR I'R SAWL SY'N GADAEL GOFAL pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 10 Ionawr 2018, wedi mabwysiadu Rhybudd o Gynnig y “dylai pawb sy'n gadael gofal gael eu heithrio rhag y dreth gyngor hyd at 21 oed (gyda'r dewis o gynyddu'r oedran i 25 mewn amgylchiadau eithriadol)”. Yn unol â'r penderfyniad hwnnw, ystyriodd y Bwrdd adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am y cynigion o dan Adran 13A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1992 (a gyflwynwyd yn 2004) i eithrio pobl sy'n gadael gofal rhag talu'r Dreth Gyngor (ar ôl unrhyw ostyngiadau), heb fod angen prawf modd.

 

Pe bai'r adroddiad yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor, rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol y byddai'r polisi arfaethedig yn darparu'r tri chategori canlynol o gymorth:

 

·       Pan fyddai person sy'n gadael gofal yn gyfrifol yn bersonol am dalu'r Dreth Gyngor, naill ai'n gyfan gwbl neu ar y cyd â pherson arall (er enghraifft, fel cyd-denant neu'n byw gyda phartner), byddai'r cyfrifoldeb am dalu'r Dreth Gyngor, ar ôl unrhyw ostyngiadau, yn cael ei hepgor yn llawn gan adael dim i'w dalu;

·       Pan na fyddai person sy'n gadael gofal yn gyfrifol yn bersonol am dalu'r Dreth Gyngor ond, pe na bai'n byw yno, y byddai'r person sy'n byw gydag ef neu hi yn gymwys am ostyngiad unig breswylydd o 25%.  Mewn sefyllfaoedd o'r fath byddai'r person sy'n gadael gofal yn cael ei eithrio wrth gyfrif nifer y preswylwyr a byddai gostyngiad dewisol o 25% yn cael ei weithredu i sicrhau nad yw'r person sy'n gyfrifol am y dreth o dan anfantais.

·       Pan fydd y cynnig yn ymwneud â sefyllfa lle'r oedd person sy'n gadael gofal wedi cael gofal blaenorol rhywle arall ac wedi symud i Sir Gaerfyrddin, a'i fod yn gyfrifol yn bersonol am dalu'r dreth gyngor i'r cyngor hwn. Lle byddai achosion o'r fath yn dod i sylw'r Adran Dreth Gyngor, cynigiwyd y byddai statws y person sy'n gadael gofal yn cael ei wirio gan dîm rhianta corfforaethol y Cyngor. Wedyn byddai argymhelliad o ran unrhyw ostyngiad i'r person hwnnw yn cael ei baratoi a'i gyflwyno i'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd Gweithredol fod y Rhybudd o Gynnig i'r Cyngor yn cyfeirio at ymestyn yr eithriad i'r rhai o dan 25 oed sy'n gadael gofal a hynny mewn amgylchiadau eithriadol. Ond cynigiwyd hefyd, o ystyried y niferoedd isel iawn sy’n gysylltiedig, fod y polisi'n cael ei weithredu yn achos pob un hyd at 25 oed sy'n gadael gofal ac sy'n dal i ymwneud â'r tîm rhianta corfforaethol. Gellid talu am y gost yn gyffredinol drwy'r lwfans sy'n rhan o'r cyfrifiadau ar gyfer pennu Sylfaen y Dreth Gyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL BOD Y CYNGOR YN MABWYSIADU POLISI sy'n eithrio'r rhai sy'n gadael gofal, o 18 hyd at 25 oed, rhag talu'r Dreth Gyngor.

 

12.

PANELAU YMGYNGHOROL Y BWRDD GWEITHREDOL pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad am y gyfansoddiad rhai o'i fyrddau ymgynghorol yn dilyn newidiadau diweddar i gyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor cyfan.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

12.1

Bod y newidiadau canlynol o ran Cynrychiolaeth y Gr?p Annibynnol ar y Panel Ymgynghorol yn cael eu cymeradwyo:

Bod y Cynghorydd Sue Allen yn cymryd lle'r Cynghorydd Andrew James  ar y Gweithgor Cefn Gwlad;

Bod y Cynghorydd Edward Thomas yn cymryd lle'r Cynghorydd Andrew James ar Fforwm y Gymraeg mewn Addysg

12.2

Nodi bod y ffigurau ar gyfer cydbwysedd gwleidyddol y Fforwm Addysg - Derbyn Disgyblion wedi newid ac y byddai'n rhaid i'r Gr?p Llafur ildio un sedd (ynghyd â sedd dirprwy) i Gr?p Plaid Cymru:  h.y:

 

Roedd y Gr?p Llafur wedi ildio'r seddi a oedd yn cael eu dal gan y Cynghorydd Louvain Roberts a Fozia Akhtar (dirprwy) ac roedd Plaid Cymru wedi enwebu'r Cynghorydd David Thomas, sef aelod dirprwyol ar y pryd, i lenwi'r sedd ychwanegol a'r Cynghorwyr Emlyn Schiavone a Susan Phillips fel y ddau ddirprwy ychwanegol.

 

 

13.

CYNLLUN CYFLAWNI GWASANAETH 2017/18 - ADRAN DIOGELU'R AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(SYLWER: Gan iddo ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd P.M Hughes y cyfarfod tra oedd y Bwrdd Gweithredol yn ei thrafod)

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cynllun Cyflawni Gwasanaeth 2017/18 Adain Diogelu'r Amgylchedd a luniwyd yn unol â gofynion yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar awdurdodau lleol i lunio Cynllun Cyflawni Gwasanaeth blynyddol yn y ffurf a nodir yn y Cytundebau Fframwaith perthnasol. Roedd y Cynllun yn amlinellu nodau ac amcanion gwasanaeth y Cyngor gan gynnwys dolenni cyswllt i'r amcanion a'r cynlluniau corfforaethol a diffiniad o'i seilwaith a'i strwythur economaidd a threfniadaethol. Hefyd roedd yn amlinellu cylch gwaith a gofynion Gwasanaethau Diogelu'r Amgylchedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Cyflawni Gwasanaeth 2017/18 Adran Diogelu'r Amgylchedd.

 

15.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI Fod YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

16.

HWB RHYDAMAN

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 15 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig a geir yn yr adroddiad. Gallai hynny danseilio'r Cyngor mewn trafodaethau dilynol a chael effaith wael ar y pwrs cyhoeddus.

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion i sefydlu Gwasanaeth Hwb newydd yng Nghanol Tref Rhydaman gan gopïo'r hyn a ddarperir ar hyn o bryd yng Nghanol Tref Llanelli.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo bod adeilad yng nghanol tref Rhydaman yn cael ei brynu a'i ddatblygu i ddarparu gwasanaeth Hwb newydd yn y dref, a dyrannu'r adnoddau cyfalaf a refeniw sydd eu hangen.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau