Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at benodiadau Mark Drakeford AC fel Prif Weinidog Cymru a Julie James AC fel y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gofynnodd a fyddai'r Bwrdd Gweithredol yn awdurdodi iddo ysgrifennu ar ran yr Awdurdod i'w llongyfarch ar gael eu penodi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y bydd Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Mark Drakeford AC a Julie James AC i'w llongyfarch ar eu penodiadau fel Prif Weinidog Cymru a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn y drefn honno.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y

Dogfennau ychwanegol:

3.1

19EG TACHWEDD, 2018 pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd, 2018 yn gofnod cywir.

3.2

3YDD RHAGFYR, 2018 pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2018 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

4.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS I'R CYNGHORYDD CEFIN CAMPBELL, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A MATERION GWLEDIG

“Ar 30 Tachwedd, cyhoeddwyd y bydd Morris Travel yn tynnu'n ôl o nifer o lwybrau bysiau yng ngogledd y sir. Bydd hyn yn cael effaith ddifrifol ar drigolion oedrannus yn ein cymunedau gwledig. Pa gynlluniau sydd ar waith gan y sir i gynorthwyo yn hyn o beth?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Ar 30 Tachwedd, cyhoeddwyd y bydd Morris Travel yn tynnu'n ôl o nifer o lwybrau bysiau yng ngogledd y sir. Bydd hyn yn cael effaith ddifrifol ar drigolion oedrannus yn ein cymunedau gwledig. Pa gynlluniau sydd ar waith gan y sir i gynorthwyo yn hyn o beth?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Cefin Campbell, sef yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig:-

 

“Rwy'n rhannu eich pryderon oherwydd rwyf hefyd wedi cael nifer o alwadau ffôn gan drigolion fy ward yr effeithir arnynt gan y llwybrau a fydd yn cael eu tynnu'n ôl. Mae cymunedau gwledig yn wynebu'r anawsterau hyn gan nad yw'r llwybrau bysiau'r un mor broffidiol i'r cwmnïau bysiau mewn ardaloedd gwledig. Mae adain drafnidiaeth y Cyngor yn gofyn am dendrau ar hyn o bryd a bydd y ceisiadau tendr yn dod i law yr wythnos hon ac maent wedi bod yn marchnata hyn i gwmnïau bysiau eraill o ran darparu'r llwybrau hyn, felly cawn weld beth ddaw yr wythnos hon. Ond wrth gwrs, rydym yn ymwybodol o'r angen i ddarparu ar gyfer pobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig ac mae llawer o bobl oedrannus, am wahanol resymau, yn dibynnu ar fysiau i'w cludo i'r siopau yn ogystal â'r meddyg teulu lleol a'r ysbytai lleol ac ati. Mae hefyd yn rhywbeth y mae'r Gweithgor Materion Gwledig wedi treulio llawer o amser yn ei ystyried yn ystod y deunaw mis diwethaf, ac rydym wedi ystyried cynlluniau amrywiol ar gyfer y dyfodol, gan ragweld y pwysau ar weithredwyr presennol. Mae'r cynllun Bwc a Bus yn llwyddiannus mewn rhai rhannau o'r sir, ac efallai y bydd yn bosibl i ymestyn y ddarpariaeth honno ar draws gogledd y Sir. Mae Ceir Cefn Gwlad ar waith ac mae hefyd gr?p cymunedol gwirfoddol o'r enw 'Dolen Teifi' sy'n cynnal cynllun gwirfoddol mewn rhai rhannau o orllewin Cymru. Felly, rydym yn ystyried y model hwn, a hyd yn oed modelau megis cwmni cydweithredol cymunedol i ddarparu gwasanaethau / gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig, gwasanaethau gwirfoddol ac efallai y byddwn yn gweithio gydag 'Ynni Sir Gâr' i ddefnyddio eu ceir trydan neu hyd yn oed uwchraddio i gerbyd cludo criw er mwyn cludo pobl o fan i fan. Yn amlwg, mae angen mireinio'r logisteg, fodd bynnag yn sicr mae'n rhywbeth yr ydym yn ei ystyried ac yn ymwybodol ohono. Felly, cawn weld beth ddaw o'r broses dendro yr wythnos hon, ond yn y dyfodol bydd angen i ni ymestyn y ddarpariaeth hefyd i'r rhan fwyaf o gymunedau gwledig y Sir. Rwy'n rhannu eich pryderon ac roedd yn siomedig i glywed bod y cwmni yn tynnu'n ôl o nifer o lwybrau, ond rydym yn ceisio gwneud  cymaint ag y gallwn i barhau i ddarparu gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd gwledig".

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

STRATEGAETH DDIGARTREFEDD RANBARTHOL pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 17 y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 4 Mehefin, 2018, pan oedd y Bwrdd Gweithredol wedi cymeradwyo dull i'w fabwysiadu dan y Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol, cafodd y Bwrdd ddogfen strategaeth derfynol i'w hystyried a oedd yn nodi'r themâu a'r blaenoriaethau allweddol ynghylch sut y byddai Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys yn atal digartrefedd dros y blynyddoedd nesaf. Nodwyd mai nod y strategaeth oedd sicrhau bod digon o ddewisiadau a chyfleoedd ar gael ar gyfer pobl leol i gael mynediad at dai fforddiadwy neu dai cymdeithasol i'w galluogi i aros yn y gymuned o'u dewis.

 

Cyfeiriodd y Bwrdd Gweithredol, wrth gymeradwyo nod yr adroddiad, at y term 'Digartrefedd' ac i'r cydsyniad bod pobl sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref yn rhai sydd heb do uwch eu pennau a'u bod yn 'cysgu ar y strydoedd'. Nodwyd bod nifer o wahanol raddau o ddigartrefedd sydd, er enghraifft, yn cynnwys pobl sy'n cysgu ar y stryd, pobl sy'n cael hysbysiad i adael eu heiddo gan eu landlord, neu sy'n byw mewn eiddo gorlawn. O ystyried hynny, roedd consensws y gellid ystyried nodi terminoleg arall yn lle digartrefedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1

ARGYMELL I'R CYNGOR gymeradwyo'r Strategaeth Digartrefedd Ranbarthol.

6.2

Rhoi ystyriaeth i nodi terminoleg arall yn lle digartrefedd

 

7.

YMRWYMIAD COURTAULD 2025 pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn cynnig i'r Cyngor Sir ymuno ag Ymrwymiad Courtauld 2025, sef cytundeb gwirfoddol deng mlynedd i leihau gwastraff bwyd o 20% erbyn 2025 gan ddod â'r sefydliadau ar draws y system fwyd ynghyd i sicrhau bod cynhyrchu a defnyddio yn fwy cynaliadwy. Nodwyd er na fyddai ymuno â'r Ymrwymiad yn golygu unrhyw oblygiadau ariannol i'r Awdurdod, byddai'n rhoi cyfle i ymgyrchu a chael deunydd arall i gryfhau nodau ac amcanion presennol y Cyngor o ran annog pobl i ailgylchu gwastraff bwyd anochel a chyrraedd targedau statudol:-

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymuno ag Ymrwymiad Courtauld 2025 fel arwydd o'i strategaeth bresennol i leihau gwastraff bwyd.

8.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD 2019/20-2023/24 pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn bwrw golwg gychwynnol ar y rhaglen gyfalaf 5 mlynedd o 2019/20 i 2023/24, a fyddai'n sail i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb gyda'r aelodau a phartïon perthnasol eraill.  Byddai'r adborth o'r broses ymgynghori hon, ynghyd â chanlyniad y setliad terfynol, yn cyfrannu at yr adroddiad terfynol ynghylch y gyllideb a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w ystyried ym mis Chwefror, 2019.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod yr adroddiad yn dilyn cymeradwyo'r rhaglen gyfalaf ym mis Chwefror 2018 a bod y cynigion a nodwyd ynddo wedi datblygu'r rhaglen am flwyddyn ychwanegol a bod addasiadau'n ofynnol yn sgil newidiadau o ran cyllid ac o ran gofynion gwasanaethau.

 

Roedd y prif feysydd newid wedi'u hamlinellu yn Adran 5 yr adroddiad a oedd yn cynnwys buddsoddiad parhaus yn 2023/24 yn y Grant Cyfleusterau i'r Anabl, Cynnal a Chadw Priffyrdd a Phontydd, Diogelwch Ffyrdd, cynnal a chadw cyfalaf (adeiladau), prosiectau strategaeth trawsnewid a chynlluniau ysgolion Band B. Yn ogystal, roedd yr Is-adran Priffyrdd wedi sicrhau cyllid am ddwy flynedd, drwy Grant Adnewyddu Ffyrdd ar gyfer 2019/20 a 2020/21.

 

Roedd y Rhaglen Moderneiddio Addysg hefyd wedi newid ar gyfer blynyddoedd 2019/20 i 2023/24, ac roedd cyllidebau wedi cael eu hail-broffilio a rhai cynlluniau newydd wedi cael eu cyflwyno yn cynnwys Ysgolion Cydweli, Hendy, Llandeilo ac ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion dwy ffrwd yn Rhydaman. Roedd hyn gan fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar ei bod yn cymeradwyo rhaglen Band B a fyddai'n para tan 2024, yn sgil newid y gyfradd ymyrryd yn sylweddol o 50% i 65% ar gyfer ysgolion yn gyffredinol ac o 50% i 75% ar gyfer ysgolion arbennig. Roedd hynny'n rhoi cyfle i'r awdurdod ddarparu rhagor o ysgolion o fewn y rhaglen Band B sydd gwerth £129.5 miliwn, y mae'n ariannu £70m ohono.

 

Nodwyd bod hyn hefyd yn cynnwys cynlluniau'r Fargen Ddinesig ar gyfer y Pentref Llesiant a'r Egin. Nodwyd hefyd bod Ardal Llanelli a Chanolfan Hamdden Llanelli yn elfennau allweddol o'r Pentref Llesiant.

 

Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y rhaglen yn cynnwys benthyca, a hynny gyda chymorth a heb gymorth, derbyniadau cyfalaf, grantiau cyfalaf a chyfraniadau cyfalaf. Os byddai'r rhaglen yn cael ei mabwysiadu, byddai'n cynnig gwariant wedi'i gyllido'n llawn o oddeutu £260m dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys £128 o gyllid allanol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi a chymeradwyo, at ddibenion ymgynghori, y rhaglen gyfalaf arfaethedig.

9.

SYLFAEN TRETH Y CYNGOR - 2019-20 pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad ynghylch Sylfaen y Dreth Gyngor 2019-20. Atgoffwyd ei bod yn ofynnol i'r Cyngor benderfynu, yn flynyddol, ar Sylfaen y Dreth Gyngor a Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer pob cymuned yn ei ardal, at ddibenion cyfrifo lefel y Dreth Gyngor am y flwyddyn ariannol oedd i ddod a bod y gwaith cyfrifo blynyddol wedi cael ei ddirprwyo i'r Bwrdd Gweithredol, o dan ddarpariaethau Adran 84 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2004.

 

Roedd cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y Cyngor Sir am 2019-20 wedi'i nodi yn Nhabl 1a ac wedi'i grynhoi yn Nhabl 1b, a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad.  Roedd y cyfrifiad yng nghyswllt Cynghorau Tref a Chymuned unigol ar gyfer 2019-20 wedi'i grynhoi yn Nhabl 2 a'r manylion yn Atodiad A, a oedd hefyd wedi'u hatodi i'r adroddiad. 

 

Nododd y Bwrdd fod adroddiad y Sylfaen Dreth yn darparu cyfrifiadau ar gyfer yr Awdurdod cyfan, yn ogystal â manylion ar gyfer pob ardal cyngor tref a chyngor cymuned at ddibenion eu praesept, ac mai Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-2020 oedd £72,440.46.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

10.1. bod y cyfrifiadau o ran pennu Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad A o'r adroddiad, yn cael eu cymeradwyo;

 

10.2. bod Sylfaen y Dreth Gyngor o 72,440.46, fel y manylwyd arni yn Nhablau 1a ac 1b o'r adroddiad, yn cael ei chymeradwyo yng nghyswllt ardal y Cyngor Sir;

 

10.3.  bod y sylfeini treth perthnasol yng nghyswllt y Cynghorau Cymuned a Thref unigol, fel y manylwyd arnynt yn nhabl 2 o'r adroddiad, yn cael eu cadarnhau

 

10.

ADRODDIAD RHEOLI’R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH CANOL BLWYDDYN EBRILL 1AF 2018 I MEDI 30AIN 2018 pdf eicon PDF 199 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2018/19 (a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 21 Chwefror, 2018 - gweler Cofnod 10), derbyniodd y Bwrdd Gweithredol y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gweithgareddau Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod o 1 Ebrill 2018 hyd at 30 Medi 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR FOD yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

11.

CODIAD CYFLOG NJC 2019 - CYNIGION AR GYFER GWEITHREDU'R GOLOFN GYFLOGAU NEWYDD Y CYTUNWYD ARNI'N GENEDLAETHOL AR 1 EBRILL 2019. pdf eicon PDF 316 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth o adroddiad ynghylch codiad cyflog NJC - Cyflwyno Colofn Cyflogau newydd - 1 Ebrill 2019, a oedd yn gryno yn cynnwys:-

 

·        Colofn cyflogau newydd gyda phwyntiau tâl newydd, 1 i 22, a 2% o bwyntiau cynyddrannol hyd at bwynt 42, a fydd yn disodli'r golofn cyflogau bresennol;

·        Pwynt sylfaenol newydd o £9.00 yr awr;

·        5 pwynt newydd, nid oes dim yn cyfateb ar hyn o bryd;

·        Cynnydd o 2% o leiaf

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd yr amcangyfrifwyd mai cyfanswm y gost i gyllideb 2019/20 yn sgil cyflwyno'r codiad cyflog oedd £5m, gan gynnwys cyfraniadau pensiwn ac Yswiriant Gwladol. Fodd bynnag, ar ôl i hyn gael ei ychwanegu at godiadau cyflog NJC, Soulbury ac Athrawon, ac wrth ystyried y swyddi a ariannwyd gan grantiau gwerth £28m, y gost i gyllideb net y Cyngor 2019/20 oedd £6.2m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r ymagwedd argymelledig a amlinellwyd yn yr adroddiad ar gyfer ymgynghoriad parhaus ag undebau llafur, y Panel Ymgynghorol ynghylch Tâl a'r Bwrdd Gweithredol

 

 

12.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fusnes brys.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau